wng fy hun i gym'ryd fy siawns; a phan ddaw'r hen angeu creulon i fy'nol, 'does gin i ddim gobaith am ddim gwell nag—uffern!"
Wedi rhoi cynghor da i'r druanes, a gorchymyn i wraig y tŷ edrych ar ei hol yn fwy gofalus, a rhoi arian iddi i geisio bwyd cyfaddas, &c, ymadawodd Mrs. Powel.
Wedi cyrhaedd y tŷ yn nghwmni ei gŵr a Llewelyn, aeth dros yr holl hanes, a dywedodd ar ol darfod,—
Oh, pa fodd y gallaf byth olchi ymaith y pechod a gyflawnais? Sut y bu'm i mor ddall a pheidio gweled fy mod yn gwneyd mawr ddrwg, ac yn pechu yn erbyn Duw? Os bydd ir Hollalluog faddeu i mi'r pechod hwn, mi gymeraf well gofal sut i ymddwyn o hyn allan!"
Bu'r llances fyw am ychydig wythnosau wed'yn, mewn canlyniad i fendith y nef ar ofal Mrs. Powel o honi, a'r ymgeledd a wnaeth iddi. Ac mae lle i obeithio—er mai lle go gul hefyd ei bod wedi cael llwyr edifeirwch a maddeuant gan Dduw trwy Grist. Gobeithiwn y goreu.
PENNOD XI.
GWELWYD Llewelyn Parri'n eistedd yn astud, unwaith, eto, yn swyddfa Mr. Powel. Ymroddai o ddifrif at ei ddyledswyddau. Daeth Mr. Powel i feddu mwy o ymddiried ynddo braidd nag o'r blaen—cyn ei gwymp diweddaf. Cynyddai'n rhyfeddol yn ei wybodaeth o'r gyfraith, nes gwneyd ei hun yn ddefnyddiol iawn i'w warcheidwad.
Wedi gorphen ei orchwylion yn y swyddfa, ei unig bleser yn y prydnawn fyddai brysio at Gwen—darllen llyfr bob yn ail pennod â hi—neu eistedd wrth ei hochr tra y chwareuai hi'r piano—neu fyned allan i rodio gyda hi. Yr oedd ef yn bob peth iddi hi, a hithau yn bob peth iddo yntau; a gwnelai'r ddau gwpan dedwyddwch yr hen bobl yn llawnach nag y bu erioed.
Aeth misoedd heibio felly. Rhoddodd y rhan fwyaf o hen gyfeillion Llewelyn Parri i fyny bob gobaith am ei weled yn dychwelyd atynt hwy, er's talm. Yr oedd rhai o honynt yn dra chenfigenus hefyd, ac yn ceisio cynllunio rhyw foddion i'w ddenu i'w rhwyd.
Nid oedd yn awr ond tri mis rhwng ein harwr a dyfod i'w gyflawn oed, pryd y byddai iddo ddyfod i feddiant o gyfoeth nid bychan. Y fath les y gall ef ei wneyd hefo'r cyfoeth hwnw, os bydd iddo fyw'n deilwng o'i fam!—y fath fell-