Tudalen:William Morgan, Pant, Dowlais (Trysorfa y Plant).djvu/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae teithio Cymru ar hyd ac ar led gyda'r Camera i wneyd darluniau ar gyfer y gwaith hwn, wedi bod yn llafur blynydd- oedd iddo.

Pennodwyd ef yn Uwch Gwnstabl Merthyr Tydfil, am 1890, ac ail benodwyd ef am 1891. Yn mis Mawrth, 1894, dyrchafwyd ef i'r fainc ynadol. Ar yr achlysur hwn, gwnaed tysteb iddo o dros gant a deg o bunnoedd. Defnyddiwyd cyfran o'r dysteb i wneyd darluniau costus o Mr. a Mrs. Morgan, a chyfranwyd y gweddill iddo mewn aur.

Unwyd ef mewn glân briodas â Miss Lewis, merch Mr. T. Lewis, contractor, yn 1859, ac y mae Mrs. Morgan mor enwog ag yntau yn ei chylch priodol ei hun. Y mae iddynt dri o blant -dau fab ac un ferch. Mae yr hynaf, Dr. T. L. Morgan, M.B., Edinburgh, yn dal apwyntiad meddygol yn nglofa Mr. D. A. Thomas, A.S., yn y Rhondda; a Cadifor Morgan yn Edinburgh, yn paratoi i'r alwedigaeth Feddygol.

HEN WYLIAU DIRWESTOL CYMRU.

EMN ysgrif ddoniol o eiddo y Parch. David Phillips, Abertawy, a ymddangosodd yn Cronicl Dirwestol Cymru, am Mai, 1892, y mae yn adrodd ei adgofion am "Wyliau a Gorymdeithiau Dirwestol y dyddiau gynt," ac ymhlith pethau eraill ceir yr hanes a ganlyn ganddo :- Dygwyddai rhyw bethau chwareus weithiau, ond hollol ddiniwed, yn y cyfarfodydd cyhoeddus hyn a barai gryn ddifyr- wch ar y pryd, yr hyn hefyd a dröai allan yn hwylusdod i'r cyfarfod ac yn llwyddiant i'r achos Mae yn gofus genym yn awr am ddygwyddiad felly mewn gŵyl ddirwestol yn Hermon, Dowlais, pryd yr oedd amryw o'r enwogion wedi cydgyfarfod, ac yn eu plith y diweddar Barch, Daniel Davies, Abertawy, y pryd hwnw. Yr oedd nifer o honynt ynghyd ar y llwyfan cyfleus & godwyd yno i'r perwyl, a chapel mawr Hermon yn orlawn, ond yr oriel yn gwbl gysegredig i'r corau dirwestol, y rhai a lanwent yr holl le. Yr oedd y canu yn arbenig o swynol, ac felly yn enwedig gan Gôr Rhif 2 Dowlais. Trefn y cyfarfod oedd ryw bwt bach byr a byw o araeth, ac yna canu darn gan un o'r corau, ac felly y naill yn canlyn y llall yn hyd y cyfarfod. Tra yr oedd Cor Rhif 2 yn canu rhyw ddarn dewisedig gyda'r fath feistrolaeth a chwaeth oedd yn nodweddiadol o honynt hwy, treiddiai rhywbeth byw fel gwefr drwy yr holl gynnull- eidfa, a theimlai pawb y swyn. Yna cododd y Parch. Daniel Davies, a dywedodd fod canu ardderchog y corau iddo ef yn swynol iawn; ac yn ol yr hyn a deimlai efe, tybiai ei fod felly i'r holl gynnulleidfa, ac am ddim a wyddom ni, gallai fod y cantorion mor fedrus mewn areithio ag oeddynt mewn canu. Felly, gyda chaniatad y gadair, ei fod ef yn dymuno cynnyg fod un ac arall o aelodau y corau yn anrhegu y cyfarfod âg