Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/472

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid oeddwn yn Gristion." Gyda yr ergyd hwn dyma noddfa hunan—gyfiawnder Peter Williams yn garnedd; nid oes ganddo loches mwy i ymguddio ynddi. Meddai: "Y geiriau uchod, yn cael eu llefaru gydag awdurdod, a aethant megys saeth at fy nghalon; cefais fy nharo yn y fath fodd, fel yr oeddwn yn crynu trwy bob aelod. Bellach, nid oeddwn yn debyg i mi fy hun; yr oeddwn fel y clai yn llaw y crochenydd." Y pwnc yr awyddai y llanc ei ddeall yn awr oedd, beth oedd bod yn Gristion. Ar y mater yma, ni adawodd y pregethwr ef mewn tywyllwch. "Bod yn Gristion," meddai, "yw derbyn Yspryd Crist.

LACHARN, SIR GAERFYRDDIN
[Golygfa ar y Castell a'r Morfa.]


'Od oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef.' Bod yn Gristion yw bod yn brofiadol o'ch trueni wrth natur; gweled eisiau Iachawdwr; credu fod y dyn Crist Iesu yn Fab Duw, ei fod wedi dyfod i'r byd i achub pechaduriaid, a'i fod yn alluog i gyflawni y gwaith y daeth ef i'r byd i'w wneuthur. Yn mhellach, bod yn Gristion yw adnabod llais Crist, codi ei groes, a'i ganlyn; bod yn un ag ef, yn asgwrn o'i asgwrn, ac yn gnawd o'i gnawd; aros ynddo; bod yn deml iddo; ymddiddan ag ef; adnabod ei ewyllys, a byw i'w glod."

Nis gallwn ddilyn y pregethwr yn hwy, ond cafodd Peter Williams ei achub yn y cyfarfod. Wrth ymadael, canmolai ei gymdeithion y pregethwr; mawr edmygent ei hyawdledd, ei ddifrifwch, a'i ddoniau; "ychydig a wyddent," meddai Peter Williams, "am yr adeilad a gododd efe ynof, neu'r creadur newydd oedd wedi ei ffurfio o'm mewn, a hyn oll mewn yspaid awr." Nid yw yn ymddangos, er hyn, ei fod wedi meddianu rhyddid yr efengyl. Gweinidogaeth Sinai a lanwai ei yspryd; yn nganol y taranau a'r mellt y preswyliai; nid oedd Calfaria eto wedi dyfod i'r golwg yn amlwg, ac nid oedd y mellt wedi diffodd yn y gwaed. Meddai: "Angelion yr uchelderau a ymwelasant â mi; amser fy niwygiad a ddaeth; a'm holl bechodau, mewn meddwl, gair, a gweithred, a ddaethant i'm cof, fel pe buasai llifddorau yn cael eu hagor, a'r llifeiriant yn myned droswyf, nes yr oedd fy enaid yn soddi mewn ofn a dychryn." Yr oedd pob peth wedi newid i'r llanc erbyn hyn. Aeth y llyfrau clasurol, gweithiau yr awdwyr paganaidd, Homer, Horace, Virgil, ac Ovid, yn ddiflas iddo; nis gallai osod ei feddwl arnynt o gwbl. Ceisiai gelu ystâd ei feddwl; ond deallai ei athraw yn dda fod pregeth Whitefield wedi dylanwadu arno; eithr ni ddywedodd air wrtho. Cefnodd ei gyfeill