Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/492

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddoe, pan ddygodd fy mam iddo ychydig o lymru a gwin, safodd i fynu i ofyn bendith, er yn gwegian gan wendid, ac heb fod yn ddealladwy iawn cyn hyny, a dywedodd y geiriau canlynol mor eglur ag y clywais ef erioed: Anwyl Arglwydd, gaf fi y fraint o neshau o dy flaen unwaith yn ychwaneg, a llefaru wrthyt, a deisyf dy fendith? Beth a ddywedaf? Rhyfedd wyt ti yn mhob peth, tu yma i golledigaeth ac uffern. Dysg i ni ymostwng i dy ewyllys, a dywedyd gyda'r hen Eli, Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' Mae fy mam yn drallodedig iawn, ac yn mhell o fod yn iach; ofnaf na bydd iddi fod yn hir ar ei ol. Yr wyf wedi cynyg gwerthu y capel yn Heol-y-dwr, mewn trefn i dalu ei ddyledion. A oes genych ryw wrthwynebiad? Mae y Methodistiaid wedi cynyg £250 am dano. Bydd yr elw oddiwrth y Beiblau mawr yn ddigon i gyfarfod y draul yn nglyn a'r Beiblau bychain; a bydd £200 arall, feallai, yn ddigon i glirio yr oll. Mae wedi gwneyd ei ewyllys yn ffafr fy mam, wrth gwrs; ac wedi gadael y cwbl iddi hi tra y bydd byw, a'r gweddill, ar ei marwolaeth hi, i fyned i David Humphreys a'i blant. Yr wyf wedi gwylio fy nhad nos a dydd er pan ddaethum adref, ac ni chanfyddais erioed agwedd meddwl mwy nefolaidd. Aethum ar fy ngliniau i weddïo ar fy anwyl Iachawdwr,' meddai un diwrnod, ' ond yr oeddwn mor wan, fel mai prin y gallwn godi oddiar fy ngliniau.' Ddiwrnod neu ddau yn ol ymwelodd offeiriad o'r gymydogaeth ag ef, a'r unig ran ddifrifol oedd cyngor i fy nhad i beidio bod yn isel ei feddwl; neu, fel y dywedai ef (yr offeiriad), peidio gadael i'w galon fyn'd i lawr.' Nis gall fyn'd yn mhell, Syr, canys y mae craig o dani,' oedd ateb cyrhaeddgar ac effeithiol fy nhad. Mae fy mhapyr yn fy ngorfodi i derfynu; bydd fy llythyr nesaf, yr wyf yn ofni, yn dwyn newydd drwg."

EGLWYS A MYNWENT LLANDYFEILOG.
[Lle claddedigaeth Peter Williams.]


Nis gallwn sylwi ond ar un neu ddau o bethau yn y llythyr tra dyddorol hwn. Y "David Humphreys" y cyfeirir ato, oedd mab-yn-nghyfraith Peter Williams, a thad y Parch. David Humphreys, Llandyfeilog. Gallem feddwl, gan mai y Methodistiaid a feddianent gapel Llanlluan, ac i Peter Williams draddodi yno ei bregeth ddiweddaf ar y ddaear, ei fod yn ei amser olaf yn cael ei oddef i bregethu yn rhai o gapelau y Cyfundeb. Nis gwyddom yn hollol pa fodd i gysoni yr