Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXI.—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGWAHANOL RANAU GWYNEDD

Taith gyntaf Howell Harris i Sir Drefaldwyn—Llythyr pigog offeiriad Llandinam—Trefaldwyn yn cael yr un breintiau a'r Deheudir—Erlid yn y sir —Rhwystro John Elias i bregethu yn Llanidloes—Y seiat Fethodistaidd gyntaf yn Meirionydd—Lowri Williams yn ymsefydlu yn Mhandy—y—ddwyryd, ac yn dwyn yr efengyl i'r wlad—Tystiolaeth Lowri Williams, Benar Isaf, am yr amseroedd—Erlid enbyd yn Nolgellau—Y Methodistiaid yn eni yn Sessiwn y Bala—Dechreuad Methodistiaeth yn Lleyn—David Jenkins yn Lleyn Seiat Brynengan—Erlid y Methodistiaid yn Lleyn—Pressio Morgan Griffith—Cychwyniad Methodistiaeth yn Arfon—William Harry yn Llanberis —Yr achos yn cychwyn yn Siroedd Dinbych a Fflint—Pregethu yn Adwy'r Clawdd—Syr W. W. Wynne yn erlid—Methiant yr erlidwyr yn Nhrefriw—Capel Tanyfron—Edward Parry—Beddargraff Hugh Hughes, Coed—y—brain—Methodistiaeth yn gafaelu yn araf yn Môn—Richard William Dafydd yn cael ei amddiffyn gan ddau foneddwr—Richard Thomas, cynghorwr Methodistaidd cyntaf Mon.—Erlid yn Môn, a'r amaethwyr yn cael eu troi o'u tyddynnod oblegyd eu crefydd—Eto yr achos yn llwyddo.

XXII. JOHN EVANS, Y BALA

Ei rieni yn ddynion dychlynaidd, ond heb fod yn grefyddol—John Evans yn dysgu darllen yn ieuanc, ac yn cael blas ar ranau hanesiol y Beibl—Yn troi allan yn llanc gwyllt—Yn ammharod i gymeryd ei lw—Yn symud i'r Bala— Yn ymuno a'r Methodistiaid—Yn myned i Gymdeithasfa Trecastell, a bugail yn ei gyfarwyddo —Yn dechreu pregethu—Yn bregethwr syml a sylweddol— Yn mynychu Cymdeithasfaoedd Dê a Gogledd—Humphrey Edward—William Evans, Fedwarian—Evan Moses—Sion Moses—Adwaen ein gilydd yn y nefoedd—Nifer o ffraeth ddywediadau John Evans—Ei graffder yn y seiat— Cael oes hir—Yn cymeryd rhan yn yr ordeiniad cyntaf—Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.

XXIII. ROBERT ROBERTS, CLYNOG

Rhieni Robert Roberts—Yn tyfu yn fachgen gwyllt—Yn cael ei argyhoeddi dan Jones, Llangan—Dyfnder ei ofid—Yn cyfranogi yn helaeth o'r adfywiad— Ei afiechyd—Yn dechreu pregethu—Yn dyfod yn boblogaidd ar unwaith— Nerthoedd yn cydfyned a'i weinidogaeth—Desgrifiad Dewi Wyn o Eifion o hono—Desgrifiad Eben Fardd—Desgrifiad Dr. Thomas—Difyniadau o'i bregethau—Ei farwolaeth.

XXIV. ROBERT JONES, RHOSLAN, A ROBERT DAFYDD, BRYNENGAN

Maboed Robert Jones—Yn ddarllenwr mawr, ond yn ddigrefydd—Ei droedigaeth—Ei awyddfryd am lesoli ei gydwladwyr—Cerdded ar ei draed i ymweled a Madam Bevan—Hithau yn ei benodi yn ysgolfeistr—Cadw ysgol yn Nghapel Curig—Dechreu pregethu—Cadw ysgol yn Rhuddlan—Ffair Rhuddlan—Erlid Robert Jones—Ceisio pregethu yn Dyserth—Symud i Frynsiencyn, yn Môn—Cael ei yru oddiyno gan yr offeiriad—Cadw ysgol mewn amryw leoedd yn Eifionydd—Ei fedr i drin plant—Ymsefydlu yn Rhoslan—Cael ei yru ymaith oblegyd derbyn pregethu i'w dy—Symud i Ty—bwlcyn—Efe y cyntaf i bregethu yn Meddgelert, Abergynolwyn, a Dyffryn Ardudwy—Gwaredigaethau hynod—Ei lafur mawr gyda'r efengyl—Ei lafur llenyddol—Ei lythyr at y Cyfarfod Misol—Ei farwolaeth a'i angladd—Robert Dafydd yn cael ei eni ger Beddgelert — Yn tyfu yn anwybodus ac yn ddigrefydd —Ei argyhoeddiad—Ei ymdrech i glywed pregethu—Yn symud i Frynengan, ac yn dechreu pregethu—Ei nodwedd fel pregethwr—Rhai odfaeon hynod a gafodd—Ei gymhwysder arbenig at gadw seiat—Yn ddysgyblwr llym, eto yn dyner a doeth—Ei awyddfryd am weled diwygiad arall cyn marw—Yr Arglwydd yn gwrando ei weddi—Diwygiad —Ei ddywediadau—Yn marw yn dawel yn ei gadair.

XXV. JOHN ROBERTS, LLANGWM

Robert Thomas, tad John a Robert Roberts, yn ddyn meddw, ac yn ymladdwr—Ei droedigaeth, a'i ymuniad a'r Methodistiaid—John Roberts yn llanc nodedig o gyflym—Ei fawr awydd am addysg—Pregeth Dafydd Morris, Twrgwyn, yn y Buarthau—John Roberts yn uno a'r seiat, ac yn cadw ysgol—