Y Carw
gan Dafydd ap Gwilym
- Tydi’r caerwrch ffwrch ffoawdr,
- Rhediad wybren, lwydwen lawdr,
- Dwg hyn o lythr talmythrgoeth
- Er Duw nef ar dy din noeth.
- Cyflymaf wyd cofl lemain,
- Negesawl cywyddawl cain.
- Rho Duw, iwrch rhaid yw erchi
- Peth o lateieth I ri.
- Grugwal goruwch y greigwen,
- Gweirwellt a bawr gorwyllt ben.
- Talofyn gwych teuluaidd,
- Llamwr allt, llym yw ei raidd,
- Llama megis bonllymoen
- I’r rhiw, teg ei ffriw a’i ffroen.
- Fy ngwas gwych, ni’th fradychir,
- Ni’th ladd cŵn, hardd farwn hir.
- Nod fawlgamp, n’ad i filgi
- Yn ôl tes d’oddiwes di.
- Nac ofna di saeth lifaid,
- Na ch yn ôl chai naid.
- Gochel Bali ci coesgoch,
- Adlais hued a gredir
- O dôn’ yn d’ôl Dywyn dir.
- Ymochel rhag dy weled,
- Dros fryn i lwyn rhedyn rhed.
- Neidia goris hen adwy
- I’r maes ac nac aro mwy.
- Fy llatai wyd anwdael,
- A’m bardd at Ddyddgu hardd hael.
- Dwg dithau, deg ei duthiad,
- Y daith hon i dŷ ei thad.
- Dos er llid, dewiswr lludd,
- Dwall afael dull Ofydd.
- Dabre’r nos gerllaw’r ffosydd,
- Dan frif y goedwig a’i gwŷdd,
- A chusan yn, ni’m sym seth,
- Dyddgu liw gwynblu geinbleth
- Cyrch yno’r caeriwrch hynod;
- Carwn, dymunwn fy mod.
- Ni’th fling llaw; bydd iach lawen
- Nid â dy bais am Sais hen,
- Na’th gyrn, f’annwyl, na’th garnau,
- Na’th gig ni chaiff Eiddig au.
- Duw i’th gadw, y doeth geidwad,
- A braich Cynfelyn rhag brad.
- Minnau wnaf, o byddaf ben,
- Dy groesi, bryd egroesen.