gan Dafydd ap Gwilym

Oriau hydr yr ehedydd
a dry fry o'i dŷ bob dydd,
borewr byd, berw aur bill,
bardd â'r wybr, borthor Ebrill.
Llef radlon, llywiwr odlau,
llwybr chweg, llafur teg yw'r tau:
llunio cerdd uwchben llwyn cyll,
lledneisgamp llwydion esgyll.
Bryd y sydd gennyd, swydd gu,
a brig iaith, ar bregethu.
Braig dôn o ffynnon y ffydd,
breiniau dwfn gerbron Dofydd.
Fry yr ai, iawnGai angerdd,
ac fry y ceny bob cerdd;
mygr swyn gerllaw magwyr sêr,
maith o chwyldaith uchelder.
Dogn achub, digon uched
y dringaist, neur gefaist ged.
Moled pob mad greadur
ei Greawdr, pefr lywiawdr pur.
Moli Duw mal y dywaid,
mil a'i clyw, hoff yw, na phaid.
Modd awdur serch, mae 'dd ydwyd?
Mwyngroyw y llais mewn grae llwyd.
Cathl lân a diddan yw'r dau,
cethlydd awenydd winau.
Cantor o gapel Celi,
coel fydd teg, celfydd wyd di.
Cyfan fraint, aml gywraint gân,
copa llwyd yw'r cap llydan.
Cyfeiria'r wybr cyfarwydd,
cywyddol, dir gwyndir gw^ydd.
Dyn uwchben a'th argenfydd
dioer pan fo hwyaf y dydd.
Pan ddelych i addoli,
dawn a'th roes Duw Un a Thri:
nid brig pren uwchben y byd
a'th gynnail, mae iaith gennyd,
ond rhadau y deau Dad
a'i firagl aml a'i fwriad.
Dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll,
disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll.
Fy llwyteg edn, yn llatai,
a'm brawd awdurdawd, od ai,
annerch gennyd wiwbryd wedd,
loyw ei dawn, leuad Wynedd.
A chais un o'i chusanau
yman i'w dwyn ym, neu ddau.
Dyfri yr wybrfor dyrys,
dos draw hyd gerallaw ei llys.
Byth, genthi bwyf fi, a fydd,
bâr Eiddig, un boreddydd.
Mae arnad werth cyngherthladd
megys na lefys dy ladd.
Be rhôn a'i geisio, berw hy,
bw i Eiddig, ond byw fyddy.
Mawr yw'r sercl yt o berclwyd,
 bwa a llaw mor bell wyd.
Trawstir sathr, trist yw'r saethydd,
trwstan o'i fawr amcan fydd;
trwch ei lid, tro uwch ei law
tra êl â'i hobel heibiaw.