Hanes Alexander Fawr/Ei Farwolaeth

Ei Ymgyrch i India Hanes Alexander Fawr

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

EI FARWOLAETH.

Bu Alexander oddeutu blwyddyn yn Babilon, yn niwedd yr hon yr ymroes i feddwdod, drwy yfed ddyddiau a nosweithiau yn ddidòr. Wedi iddo eistedd yn hir mewn cyfarfod o gyfeddach a meddwdod gyda Nearchus, efe a aeth, yn ol ei arfer, i'r bâdd, gyda'r bwriad o fyned i orphwys. Yn y cyfamser daeth Medius ato, gan ei wahodd i gyfeddach arall, ac nis gallai ei omedd ef. Yno efe a yfodd drwy yr holl nos hono, a thrwy y dydd dranoeth, nes y dygwyd arno dwymyn boeth. Ni ddarfu i'r dwymyn ei gymeryd, fel y dywed rhai, wrth yfed y gwpan Herculaidd, yr hon a gynwysai chwe' chwart o'n mesur ni; ac ni chafodd boen sydyn yn ei gefn, fel pe buasai wedi cael ei drywanu â gwaywffon. Pethau yw y rhai hyn a ddyfeisiwyd gan ysgrifenwyr, y rhai a dybient fod yr amgylchiad yn galw am rywbeth rhamantus ac allan o'r ffordd gyffredin. Aristobulus a ddywed iddo yfed dracht o win yn mhoethder y dwymyn, i dori ei syched angerddol, yr hyn a ddyrysodd ei synwyrau, ac iddo farw ar y 30ain o Fehefin, wedi teyrnasu wyth mlynedd ar ymerodraeth Persia, a deuddeng mlynedd a haner ar ol ei dad, yn dair ar ddeg ar hugain oed. Ac felly y dybenwyd holl frwydrau y tywysog mawr a gwagogoneddgar hwn; wedi darostwng o hono yr holl wledydd o fôr Adria hyd o fewn ychydig i'r afon Ganges, yr hyn oedd yn cynwys y rhan fwyaf o'r byd adnabyddus y pryd hyny. Dygwyddodd ei farwolaeth yn y flwyddyn cyn geni Crist, 323.

Ond yn ei ddyddlyfr y mae yr hanes dipyn yn wahanol; fel y canlyn y dywed hwnw. "Ar y deunawfed o fis Daesius (Mehefin,) pan ganfu fod y dwymyn arno, efe a orweddai yn ei faddgell. Dranoeth, wedi iddo ymfaddio, efe a symudodd i'w ystafell ei hun, ac a chwareuodd ddisiau am amryw oriau gyda Medius. Yn yr hwyr efe a ymfaddiodd drachefn, ac wedi aberthu i'r duwiau, efe a swperodd. Yn ystod y nos dychwelodd y dwymyn. Ar yr ugeinfed efe a ymfaddiodd drachefn, ac wedi yr aberth arferol, efe a eisteddodd yn y faddgell, gan ymddifyru trwy wrando ar Nearchus yn adrodd hanes. ei fordaith, a'r pethau mwyaf hynod y sylwasai arnynt ar y môr. Treuliwyd yr unfed ar hugain yr un modd. Cynyddodd y dwymyn, a chafodd noswaith ddrwg iawn. Ar yr eilfed ar hugain yr oedd y dwymyn yn dra thost. Gorchymynodd i'w wely gael ei symud, a'i osod wrth y baddon mawr. Yno efe a ymddiddanodd a'i gadfridogion yn nghylch y gwagleoedd yn y fyddin, a dymunai ar fod iddynt gael eu llenwi â swyddogion profiadol. Ar y pedwerydd ar hugain yr oedd yn llawer gwaeth; er hyny mynodd gael ei gario i gynorthwyo yn yr aberthu. Efe hefyd a roddes orchymyn, fod i brif swyddogion y fyddin aros o'r tu fewn i'r llys, ac fod i'r lleill gadw gwyliadwriaeth drwy y nos o'r tu allan. Ar y pummed ar hugain symudwyd ef i'w balas, ar yr ochr arall i'r afon, lle y cysgodd ychydig, ond nid oedd y dwymyn yn lleihau; a phan ddaeth ei gadfridogion i'r ystafell, yr oedd yn analluog i siarad. Parhaodd felly drwy y dydd dranoeth. Y Macedoniaid, y rhai erbyn hyn a dybient ei fod wedi marw, a ddaethant at byrth y palas mewn cythrwfl ofnadwy, gan fygwth y prif swyddogion yn y fath fodd, fel y bu gorfod iddynt eu gollwng i mewn, a gadael iddynt oll basio heibio ei wely, ond yn anarfog. Ar y seithfed ar hugain, anfonwyd Python a Seleucus i deml Serapis, i ymholi a fyddai yn well iddynt symud Alexander yno, ond hysbyswyd hwy gan yr oracl mai gwell oedd peidio ei symud. Ar yr wythfed ar hugain, yn yr hwyr, efe a fu farw." Y mae y manylion hyn wedi eu dyfynu braidd air am air allan o'i ddyddlyfr.


Y mae rhai ysgrifenwyr diweddar wedi lled-awgrymu ddarfod i Alexander Fawr farw mewn canlyniad i gael ei wenwyno; ond ymddengys nad oedd neb yn coleddu y fath dybiaeth ar adeg ei farwolaeth. Yn mhen chwe' blynedd ar ol hyny yr ydym yn darllen fod ei fam ef, Olympias, oddiar ryw hysbysrwydd a dderbyniasai, wedi rhoddi lluaws o bobl i farwolaeth, ac wedi gorchymyn fod i weddillion Iolas, yr hwn y tybid a roddodd y gwenwyn iddo, gael eu codi o'r bedd. Pa un bynag am hyny, ymddengys fod y rhan fwyaf oredadwy o haneswyr yn edrych ar hanes y gwenwyno fel chwedl gwrach; ac y mae ganddynt y rheswm cadarn hwn o'u plaid-sef, er fod y corph, o achos yr ymrafaelion a gymerasant le yn mhlith y prif swyddogion dros ddyddiau lawer, wedi bod yn gorwedd heb ei ber-eneinnio mewn lle clòs, nid oedd yn arddangos unrhyw arwyddion o afliwiant, ond arosai o hyd yn iraidd a lliwgar.

Y BROPHWYDOLIAETH AM DANO YN LLYFR DANIEL.

Darlunir Alexander fawr yn mhrophwydoliaeth Daniel vii. 6, dan yr enw Llewpart a phedair aden a phedwar pen. Y mae'r llewpart yn gyflym iawn, ac wrth briodoli i'r fath greadur bedair aden, y golygir ei fod yn gyflymach byth; felly, mewn ychydig amser y darostyngodd Alexander ran fawr o'r byd. Nid yw y llewpart ond creadur bychan, eto yn gryf ac yn greulon fel nad arswyda wynebu y llew; felly Alexander gydag ychydig filwyr ar y dechreu, er hyny bu mor gadarn ag enill y fuddugoliaeth ar Darius, yr hwn o ran ei gadernid a elwir brenin brenhinoedd, Dan. ii. 37. Y mae y pedwar pen yn arwyddo y byddai i frenhiniaeth Alexander gael ei rhanu yn bedair rhan, yr hyn a ddygwyddodd i'w bedwar cadben gwedi ei farwolaeth. Efe hefyd a osodir allan dan y drydydd freniniaeth o bres, yr hon a lywodraetha yr holl ddaear, Dan. ii. 39. Alexander hefyd a osodir allan dan yr enw bwch geifr yn dyfod o'r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â'r ddaear, pen. viii. 5. Y mae gafr yn arwydd gymhwys o'r Macedoniaid, am mai un o'u hen enwau cyntaf ydoedd, pobl y geifr. Arferent gynt arwydd yr afr ar eu banerau. Galwyd y ddinas lle claddwyd llawer o'r Macedoniaid, dinas y geifr; a'r môr gerllaw yn for y geifr. Yr oedd mab Alexander hefyd yn cael ei alw mab y bwch. Yr oedd y Persiaid hefyd yn gwisgo pen hwrdd o aur yn lle coron, ac y mae lluniau o benau hyrddod a dau gorn, un yn uwch na'r llall, i'w gweled ar y colofnau yn mhlith adfeiliau Persepolis. Lle gwelwn mai priodol i frenin Persia oedd yr enw hwrdd deugorn, yn ol esponiad yr angel, Dan. viii. 20; a phriodol hefyd i Alexander oedd yr enw bwch geifr, gan ei fod yn benaeth ar bobl o'r enw. Yr oedd y bwch geifr yn dyfod o'r gorllewin, am fod Macedonia i'r gorllewin o Persia; ac yr oedd yn ei ddyfodiad heb gyffwrdd a'r ddaear, sef yn gyflym, fel pe buasai yn ehedeg yn hytrach na theithio. Ond er mor fawr ei lwyddiant, a chymaint ei arglwyddiaeth, torodd y corn mawr, canys darfu am dano yn ddisymwth; a chododd pedwer o rai hynod yn ei le, sef ei bedwer cadben, y rhai a ranasant ei frenhiniaeth rhyngddynt tua phedwer gwynt y nefoedd, Dan. viii. 4-8. Dyna yr esponiad a ddyry rhai ar y weledigaeth yn llyfr y prophwyd Daniel; ond gan nad ydym ni yn proffesu esponio prophwydoliaeth nac egluro gweledigaethau, namyn cyfleu hanesyddiaeth o flaen ein darllenwyr, nid oes genym ond gadael yr eglurhad cywrain a manylgraff uchod i'w sylw a'u barn ddiduedd; a “bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun."

Nodiadau golygu