Hanes Alexander Fawr/Llwyr Orchfygu Byddin Darius

Ei Ymgyrch i Jerusalem Hanes Alexander Fawr

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Ei Ymgyrch i India

LLWYR ORCHFYGU BYDDIN DARIUS.

Wedi hyny aeth Alexander i chwilio am Darius, yr hwn oedd wedi taer ddeisyf dair gwaith am heddwch; ac yn y daith hon daeth i Samaria, lle dialodd waed Andromachus ei raglaw, yr hwn a laddwyd gan y Samariaid; ond yn awr am hyny lladdodd bawb oedd a llaw yn ei farwolaeth. Deallodd Darius nad oedd heddwch iddo heb roddi i fyny ei deyrnas i Alexander; gan hyny casglodd Darius fyddin yn Babilon o un cant ar ddeg o filoedd, gan feddwl ymladd y frwydr yn nghylch y fan lle safodd Ninife. Cyfarfyddodd Alexander ef wrth Caugamela, ac ymwersyllodd y ddwy fyddln yn ngolwg y naill y llall, yn barod i'r frwydr oedd ar gymeryd lle. Un noson yn mis Medi, rywbryd tua dechreuad gwyl y dirgeledigaethau mawrion yn Athen, dygwyddodd i ddiffyg mawr ar y lleuad gymeryd lle; a'r unfed noswaith ar ddeg ar ol y diffyg hwnw, yr oedd holl wŷr Darius dan arfau, ac yntau ei hun yn eu hadolygu wrth oleuni ffaglau. Wrth weled yr holl wastadedd wedi ei orchuddio gan ffaglau y barbariaid, a chlywed twrw a therfysg echrydus y gwersyll, Parmenio, ac amryw o bencadbeniaid Alexander, a ddaethant ato, gan ei gynghori i ymosod ar y gelyn yn nhywyllwch y nos, yn hytrach nag wynebu y fath lu ofnadwy gefn dydd goleu; i'r hyn y rhoddodd Alexander yr atebiad nodedig hwnw, "Ni bydd i mi ladrata buddugoliaeth." Ymgyfarfu y ddwy fyddin bore dranoeth, ac er i'r frwydr fod am beth amser yn amheus, yn y diwedd llwyr orchfygwyd byddin luosog y Persiaid, gyda deng mil a deugain o wŷr, mewn gwlad agored. Gorphenodd y frwydr hon roddi holl lywodraeth Persia i Alexander. Wedi i'r frwydr fyned trosodd, y peth cyntaf a wnaeth oedd aberthu offrymau costfawr i'r duwiau, ac wedi hyny cyflwyno rhoddion gwerthfawr i'w gyfeillion, yn cynwys palasdai, etifeddiaethau, a llywodraethau. Petrusai, un o'i gyfeillion dderbyn ei rodd, am ei bod yn rhy fawr-nad oedd efe yn deilwng o'r fath rodd oruchel; i'r hyn yr atebodd Alexander, "Os ydyw yn rhy fawr i ti ei derbyn, nid yw yn rhy fawr i Alexander ei rhoddi."

LLOSGI PALAS YMERODROL PERSIA.

Aeth Alexander wedi hyn i Persepolis, prif ddinas ymerodraeth Persia lle yr eisteddodd ar y gadair freninol mewn rhwysg ac urddas mawr. Wrth fyned trwy y ddinas, efe a ganfu gerfddelw fawr o Xerxes, yn gorwedd ar lawr, wedi ei thaflu oddiar ei bonsail; ac meddai, gan lefaru megys wrth y ddelw, "A gawn ni dy adael fel yr wyt, o achos y rhyfel a wnaethost ar wlad Groeg, ai ynte dy godi i'th le yn dy ol, er mwyn dy fawrfrydigrwydd a'th rinweddau ereill?" Ond myned yn mlaen a wnaeth, gan ei gadael fel yr oedd. Yma ymroddodd i loddest a meddwdod o lawenydd am ei lwyddiant yn ei ryfeloedd; yma yr oedd y gordderchafon, ac yn eu plith Thias, yr hon a fuasai yn butain gyhoedd yn Athen; dywedodd hon wrth Alexander mai gwych fyddai llosgi Persepolis, i ddïal y Groegiaid ar y Persiaid, yn neillduol am waith Xerxes yn llosgi Athen. Derbyniwyd ei chyngor gyda chanmoliaeth mawr gan Alexander a'i holl gadbeniaid. Gwedi darfod ei llosgi, bu edifar gan Alexander pan sobrodd o'i win. Fel hyn, trwy anogaeth putain feddw, y llosgwyd gan frenin meddw, un o'r palasau godidocaf yn y byd.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH DARIUS.

Gwedi brwydr Gaugamela, ffodd Darius i Media, lle y dylynwyd ef gan Alexander, gwedi ei wleddoedd a nodwyd; ac wrth i Darius ffoi oddi yno syrthiodd i ddwylaw lleiddiaid yn mhlith ei gyfeillion, y rhai a'i harchollasant hyd farwolaeth; ac felly newydd farw y cafwyd ef gan Alexander, yr hwn a alarodd uwch ei ben, ac wedi bwrw ei gochl drosto, gorchymynodd ei berarogli, a'i amdoi â hi, a'i ddwyn at ei fam i Susa, i gael ei gladdu yno âg arwyl freninol, yn nghladdfa breninoedd Persia. Caniatawyd yr holl draul i'w gladdu gan Alexander, allan o'i drysorfa ei hun, ac efe a dderbyniodd ei frawd, Oxathres, i blith ei gyfeillion mynwesol.

Nodiadau golygu