'R wy'n morio tua chartref Nêr,
← | 'R wy'n morio tua chartref Nêr, gan William Williams, Pantycelyn |
→ |
466[1] Ymdrech a Gweddi'r Cristion.
M.C.
1 'R WY'N morio tua chartref Nêr,
Rhwng tonnau maith 'r wy'n byw;
Yn ddyn heb neges dan y sêr
Ond 'mofyn am ei Dduw.
2 Mae'r gwyntoedd yn fy nghuro'n ôl,
A minnau 'd wyf ond gwan,
O ! cymer, Iesu, fi yn dy gol,
Yn fuan dwg fi i'r lan.
3 A phan fo'n curo f'enaid gwan
Elynion rif y sêr,
Dyrchafa f'ysbryd llesg i'r lan
I fynwes bur fy Nêr.
4 Na bo gwrthwynebiadau'r byd,
Na chroesau o un rhyw,
Yn f'oeri, nac yn sugno 'mryd
Un awr oddi wrth fy Nuw.
—William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 466 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930