hen amser. Ond rhaid i Lanilltud gael pennod iddi hi ei hun.
Y mae enwi Ffonmon yn f'atgoffa bod perchnogion y Castell o'r un teulu ag Oliver Cromwell. A glywsoch chwi erioed ddywedyd mai Williams oedd enw iawn Oliver Cromwell, ac mai yn "Oliver Cromwell's Letters and Speeches," gan Thomas Carlyle, y gwelwn y prawf mai gŵr yn hanfod o Forgannwg oedd? Dywedir mai yng nghastell Ffonmon y gwelir y darlun gorau o'r gŵr enwog hwnnw, a diddorol yw cofio bod dynion wedi byw yn y castell hwn er pan adeiladwyd ef yn amser y Normaniaid hyd heddiw. Bu Cromwell ei hun yn prysur ddinistrio cestyll y Fro yn ystod y Rhyfel Cartref.
Yr oedd gan Thomas Carlyle ei hun ryw gysylltiad â'r Fro, gan mai yma yn Llanbleddian, ger y Bontfaen, yr oedd ei gyfaill mynwesol John Stirling yn byw. Ysgrifennodd Carlyle fywgraffiad ei gyfaill a'i gyhoeddi yn 1851. Yr oedd swynyfaredd y Fro wedi hudo Carlyle, fel y gwelir o'r disgrifiad a ganlyn ganddo:—
"Tyner-orffwys Llanbleddian, gyda'i fythynnod gwynion, ei berllan a'i goedydd eraill, ar lethr gorllewinol bryn gwyrddlas. Edrych allan ymhell dros ddolydd gwyrddion a bryniau, fawr a mân, ar wastadedd hyfryd Morgannwg, filltir brin i'r dde o'r Bontfaen, a ffurfia fath o suburb' i'r dref fechan drwsiadus honno. Rhyw ddeng milltir o led, a deg ar hugain neu ddeugain milltir o hyd, yw GWASTADEDD, neu, fe y'i gelwir BRO