Achau Wiliam Fychan, Siambrlen Hen
gan Rhys Goch Eryri
- Dwyn bonedd dan ei bennwn,
- Wiliam iôr waywlym a wn,
- Hwyl uniawn o'i ddawn a'i dda,
- Hyder oedd, hud ar Adda.
- Ac fal hyn, myn Duw gwyn gwir,
- Da iach ryw, y dechreuir:
- Wiliam yw, barddlyw beirddlawr,
- Fab Gwilym didawl mawl mawr,
- Fab Gruffudd, llew gwaywrudd llym,
- Gwaladr Gwyndyd fab Gwilym,
- Fab Gruffudd, tŵr cythrudd caith,
- Dewrgyrch, fab Gwilym deirgwaith,
- Fab Heilin roddwin rwyddwalch,
- Fab Tudur benadur balch,
- Fab Ednyfed, lwyddged law,
- Fychan, gwnaeth i Eingl feichiaw,
- Fab Cynfrig yn lle trigawdd,
- Fab Ierwerth, Duw nerth dy nawdd!
- Fab Hwfa benn' o'r byd,
- Hoywfaeth, fab Gwgan hefyd,
- Fab Uchdrud glew edryd glân,
- Fab iawn uthr, fab Eneithian,
- Fab Cadrod, mae'r rhod yn rhydd,
- Cylch ei faner Calchfynydd,
- Fab Lleiddawd bragawd briwgaer,
- Fab Marchudd cledd awchrudd claer,
- Fab doeth, fab caredig dâl,
- Fab diofnog, fab Dyfnwal,
- Fab Ednyfed ddawnged dda,
- Fab Cain oedd, fab Cunedda,
- Fab Edyrn, fab Padarn fyw
- Peisrudd, eryr hapusryw,
- Fab difrad gariad geirioel,
- Diau fab Cenau fab Coel,
- Fab Tegfan, frwydr Gamlan gynt,
- Fab da hy, fab Dyheuwynt,
- Fab greddf aeth, iarllaeth orlludd,
- Fab Mael, un afael a Nudd,
- Fab Brân, fab Tegyd, bryd bro,
- Fab ugain cyrch, fab Iago,
- Fab Câr, caredig, fab cu,
- Fab Cain, fab Gwrgain garwgur,
- Fab Doli, ail Ddewi ddis,
- Fab Gwrddoli, gerdd ddilis,
- Fab Dwfn, fab Gorddwfn gerddawr,
- Fab Awryd am wryd mawr,
- Fab Afallach iach uchel,
- Fab Afled, naws ced nis cêl,
- Llwm ei grwst, fab llym ei graidd,
- Fab hafog brwydr fab Hyfaidd,
- Fab Grwst ryd greulyd ei ron,
- Fab cur aeth, fab Careithion,
- Fab Maedd mawr hyd yn awr nawn,
- Fab Antonus hynt uniawn,
- Fab Rhiwallon dawn dymyr,
- Fab Rhagaw ferch loywserch lŷr,
- Fab Bleiddud, un sud a Sieb,
- Fab Brutus, a'n pair ateb
- Ar briffordd orau briffwnt,
- Ysgwyd hir i esgid hwnt,
- Fab Brutus, fab Silfus hen,
- Fab Eneias yn nien,
- Ysgithr lwybrsaig draig a drig,
- Ysgwydwyn is y goedwig,
- Fab Ancieses, a'n llesai,
- Fab Capis, tegwch mis Mai,
- Fab Asaracus a fu,
- Fab Troes, fyntumiwr Iesu,
- Fab Ericonus a farn,
- Bôr ceidwad, bu ŵr cadarn,
- Fab Dardanus credusair,
- Fab Siwbiter cryfder crair,
- Fab Satwrn croyw ymswn cryf,
- Fab Solas beirdd, fab Selyf,
- Fab Sebreinus, gweddus gân,
- Fab syw ieithydd, fab Sythan,
- Fab Siaffeth difeth dyfiad,
- Fab Noe hen, deg lawen dad,
- Fab Lameth, bu bregethwr,
- Fab Mathusalem, gen gŵr,
- Murmur drum uwch marmor draidd,
- Fab Enog, bu fabanaidd,
- Fab Seth difeth diofer,
- Fab Addaf, Duw Naf fy Nêr!