Adgofion Andronicus/Ned Ffowc y Blaenor

Edward Jones o'r Wenallt Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Adgofion am y Bala

NED FFOWC Y BLAENOR.

CODI BLAENORIAID.

TYDI o ddim ods yn y byd i bwy enwad yr ydw i yn perthyn, nac i ba gapel y byddwn ni yn myn'd fel teulu, ond digon ydi d'eud mai yn ardal Nantlle y mae. Mae gan bob enwad eu dull eu hunain o godi blaenoriaid. Dydi y Methodus, a'r Sentars, a'r Wesla, a'r Baptis, ddim i gyd yr un fath, ac y mae pob un o honynt yn meddwl mai y nhw sydd yn iawn. 'Does gan yr Eglwys yr un blaenor: y person a'r clochydd ydi pobpeth; y person sydd yn dewis y clochydd, a rhyw fistar tir, sydd yn byw yn ddigon pell, ambell dro sydd yn dewis y person. Y mae eglwys y plwy yn perthyn i'r stâd, ac eneidia'r plwyfolion hefyd, fel y mae y ffermydd, y coed, a'r game. Treio rhoi tipyn o ola i chi tua'r Nant yma ydw i.

Noson bwysig mewn capel ydi noson codi blaenoriaid. Pan eir i son am ethol swyddogion mewn capel, welsoch chi erioed fath gynhwrf fydd yn y gwersyll: pawb yn edrach ar eu gilydd, a phawb eisio gwybod sut y mae pawb yn edrach. Bydd calon llawer un yn curo yn erbyn ei sena nes y gallwch eu clywed fel drum Salfation Army, Caernarfon. Welsoch chi 'rioed fel y bydd y dynion y bydd eu llygaid ar y clustogau esmwyth yn altro eu gwedd: mae eu gwyneba yn wên i gyd, o glust i glust. Mae rhai dynion na fydda nhw ddim wedi cymeryd mwy o sylw o honoch na phe buasech yn farw er's blwyddyn. O! fel mae eu gwyneba wedi cael chwildroad. "Sut yr ydach chi heddyw, Mistar So and So? Ydi Mistras So and So a'r plant reit iach?"

Mawr y cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle ar lawer wedi cael myn'd i'r sêt fawr. Cyn hyny byddant fel ryw fodau rhesymol eraill, gyda gwên hawddgar ar eu gwynebau; ond arhoswch dipyn, gadewch i'r brawd gael eistedd ar glustogau esmwyth agosaf i'r pwlpud, a theimlo pwysau swyddogaeth ar ei ysgwyddau, a dyna fo yn y fan yn cael "gwedd—newidiad," ond cofier mai eithriadau ydyw y rhai hyn ac nid y rheol.

Yr ydw i yn methu dallt athrawiaeth y cyfnewidiad yma. Os ydyw dyn wedi cael swydd mewn eglwys, pa'm raid iddo dynu gwyneb hir, ac edrych mor ddifrifol a phe b'ai yn sefyll wrth fedd ei nain? Yn lle edrych yn ddifrifol ac yn wyneb—drist, dylai fod yn siriol a gwyneb—lawen; oblegid braint ydyw cael bod yn swyddog yn eglwys Dduw.

Wel, daeth y noson fawr o'r diwedd. Yr oeddwn yn gwybod fod tipyn o si wedi bod y byddai Ned Ffowc yn un o'r etholedigion, er na wyddwn i yn y byd am un cymhwyster neillduol oedd yn perthyn i mi, heblaw y byddwn yn cael tipyn o hwyl wrth holi'r ysgol. 'Roeddwn hefyd yn Nazaread o'r groth, ac yr oedd hyny yn llawer. Wel, ar ol i mi fyn'd adre o'r chwarel, yr oedd y tê yn barod, a Sara a'r plant wedi gwisgo am danynt yn drefnus yn eu dillad capel. Yr oedd Sara wedi d'eud wrth y plant druain fod rhywbeth mawr iawn yn myn'd i gymeryd lle yn y seiat, a bod rhaid iddynt fod yn blant da, ac yn reit ddistaw pan ddown i adra o'r chwarel. Dyna lle yr oedd y pethau bach mor ddistaw a llygod, ac yn edrach mor ddigalon a phe baswn i yn myn'd o flaen y stusiaid am ladd sgwarnog.

Wel, i'r capel a ni bob un ond y babi a'r hogan hyna i edrych ar i ol o:—y plant yn cerdded o'n blaen a Sara yn closio ataf ac yn d'eud, Treia dy ore feddianu dy hunan, Ned bach." 'Roedd yn seiat fawr, fel y bydd bob amser pan y bydd rhywbeth ar droed; ac yn enwedig os bydd rhyw olwg am dipyn o row. Eisteddai pedwar gŵr diarth yn y sêt fawr, wedi dyfod gymeryd llais yr eglwys. Dechreuodd un trwy weddi, ac yna traethodd y tri arall dipyn ar y pwysigrwydd o ddewis dynion mwya' cymwys, a gobeithient y cawsai yr eglwys arweiniad oddi uchod.

ETHOL PEDWAR.

O'r diwedd fe syrthiodd y coelbren ar bedwar, ac yn eu plith yr oedd Ned Ffowc druan. Yr oedd Sara wedi myn'd yn grynedig iawn er's meityn, ac yr oedd yn treio fy nghadw ina rhag myn'd yn swp. Yr oedd y botel smel yn gwneyd gwasanaeth gwerthfawr, ac oni bai am hyny, mae arnaf ofn mai yn ngwaelod y sêt y buasai gwraig fy mynwes pan glywodd hi Edward Ffowc yn cael ei enwi. Gofynodd un o'r ymwelwyr am air gan yr etholedigion, a chan mai fy enw i oedd yr olaf cefais amser i hel fy meddyliau at eu gilydd. Dywedodd fy nhri cyd-etholedig agos yr un peth, sef fod y peth wedi dyfod mor annisgwyliadwy atynt, a bod y cyfrifoldeb mor fawr a phwysig, fel nad oeddynt yn teimlo yn barod i ymgymeryd â'r swydd heb gael digon o amser i ystyried y mater yn ddifrifol. (Gwarchod pawb a'r tri wrthi er's talm yn paratoi ar gyfer y peth).

"Wel, Edward Ffowc, oes genoch chi rywbeth garech chi ddweyd?" meddai yr hynaf o'r ymwelwyr, gyda golwg siriol a phatriarchaidd arno, nes peri i mi gael nerth i ddweyd fy meddwl yn bwyllog. Gwasgodd Sara fy nhroed er mwyn rhoddi nerth i mi. Codais ar fy nhraed, a threiais ddweyd goreu gallwn, nad oeddwn i ddim am ddweyd yr un peth a'm tri brawd; ond y buaswn i wedi fy siomi yn fawr pe b'aswn heb gael fy newis; fod genyf awydd mawr gwneyd rhywbeth dros grefydd, ac os oedd bod yn swyddog yn yr eglwys o ryw fantais i hyny, y gwnawn fy ngoreu, yn ol y goleuni oeddwn wedi ei gael.

"Mae yn wir dda genyf eich clywed yn siarad mor blaen, Edward Ffowc,' meddai yr hen weinidog. "Mae gormod o lawer o hen rodres efo peth fel hyn, a llawer o ragrith hefyd." Yna aeth i weddi.

GARTREF.

Yr oedd Sara a'r plant wedi cyrhaedd adref o'm blaen; ac wedi i mi fyn'd i'r ty, dyna lle yr oeddynt yn eistedd fel delwau wrth y tân, a Sara yn edrych yn syn a difrifol. Gwelais y sefyllfa yn y fan. Yr oedd y plant yn meddwl fod rhyw gyfnewidiad mawr i ddyfod ar y teulu; fod dyddiau y sach—lian a lludw, a'r ymprydio wedi dechreu ar ein haelwyd lawen. 'Doedd dim golwg am damaid o swper. Yr oedd y tegell ar y tân yn canu, fel y dywedodd Mr. Spurgeon,—fel "angel du ansyrthiedig. Yr oedd yr ochr cig moch uwch ben y ty yn disgwyl cael gwneyd croesaw i'r blaenor newydd, y gath yn mewian, ac yn rhwbio ei chroen sidanaidd yn fy nghoesau, ond y wraig a'r plant fel pe wedi eu syfrdanu. Pam? Dim ond eu bod yn deall oddiwrth draddodiadau na ddylai blaenor fod â gwên ar ei wefusau.

Eisteddais i lawr a daeth Wil bach ataf. Hogyn pert ydi Wil. Eisteddodd ar fy nglin, ac ebai y bychan :

"Tada, chawn i ddim swper heno?"

'Pam, machgen i?"

"Wel, roeddwn i yn meddwl ein bod yn myn'd i ddechre ymprydio heno."

"Taw a dy lol, Wil, da ti," a gwaith munud oedd tori sglisen o'r cig moch; a welsoch chi 'rioed fel yr oedd Sara wrthi yn paratoi! Yr oedd y miwsig ar y badell ffrio, a sŵn y llestri tê yn ei gwneyd hi yn anhebyg iawn i dŷ ympryd.

SARA.

Ni wisgodd erioed esgid well dynes na Sara. Y mae ganddi hi ei gwendidau fel pob gwraig arall, ond rhai hynod o ddibechod ydynt. Dynes dda oedd Sara gwraig Abram; ond yr oedd ganddi lawer mwy o wendidau na Sara gwraig Ned Ffowc. Pan aeth y plant i'w gwelyau, daeth Sara ataf, rhoddodd ei llaw ar fy ysgwydd, ac meddai :

"Ned bach, mae'n dda gan fy nghalon i dy fod di wedi myn'd drwyddi mor dda yn y capel. Yr oedd gwraig y ty nesa' yn deud mai ti siaradodd oreu o'r pedwar, ond wn i ar chwyneb y ddaear un gair ddeudaist ti, yr oeddwn i wedi myn'd yn un swp er's meitin. Ned, mi leiciwn i fod yn bob help i ti, dawn i'n gwybod sut. Mae un peth yn pwyso tipyn ar fy meddwl i, Ned; ond dydw i ddim yn leicio deud wrtha ti chwaith."

"Yma ti, Sara bach, rhaid i ti beidio myn'd fel yna. Os oes gen ti rywbeth ar dy feddwl, allan a fo. Cofia fod gen i rwan ddau hawl i wrando ar dy brofiad di—fel gwr yn gynta, ac wedyn fel blaenor ar dy eglwys di. Allan a fo, Sara bach."

Rhoddodd Sara ei braich am fy ngwddf, a rhoddodd glats o gusan i mi, a dyna y barclod wrth ei llygaid ac mewn tôn wylofus meddai :

'Ned, a raid i mi dynu y tair bluen goch o'r fonat hono brynaist ti i mi wrth ddod adra o Lundain; gan dy fod ti yn flaenor?"

Wyddwn i ddim lle yr oeddwn yn eistedd, ac ni wyddwn i ddim pa un ai chwerthin a'i crïo a wnawn, ond meddwn,

"Na raid, 'neno'r anwyl; raid i ti dynu dim o dy fonat; cei wisgo cyn gystled ag y gwnest erioed—yr unig beth pwysig ydi eu bod nhw wedi talu am danyn nhw. Mae stori am yr hen weinidog enwog Roland Hill, y byddai ei wraig yn bur ffond o wisgo, a gwisgo mwy nag a allai y gŵr fforddio. Yr oedd arni eisiau bonat newydd, ond 'doedd dim pres i dalu am dani. Yr oedd hen gestar drôr yn y ty heb lawer o'i eisiau; gwerthodd Mrs. Hill hono, a phrynodd fonat. Y Sul wed'yn, yr oedd yr hen weinidog wedi dechreu ar y gwasanaeth cyn i Mrs. Hill ddyfod i fewn i'r capel. Y munud y gwelodd hi dyma fo yn gwaeddi, Clear the way, dyma Mrs. Hill yn dwad a'r cestar drôr ar ei phen."

"Tro digon gwael arno fo, Ned. Ond raid i ti ddim ofni y do i a'r cestar drôr, na dim dodrefn arall ar fy mhen i'r capel. Wyt ti am dynu y goler felfat oddiar dy gôt ucha, Ned, a chribo dy wallt ar dy dalcen, fel yr hen flaenoriaid er's talwm?"

"Na, Sarah bach, mae oes yr hen biwritaniaid wedi myned, ac yr ydw i am fod yn gymaint o swel ag erioed. Yr wyf am goler velvet a 'chiw pi' hefyd."

Llonodd Sara yn fawr wrth hyn, ac ni soniodd air byth am y peth.

DECHREU GWEITHIO.

Ar ol myn'd o dan y corn olew, a dechreu teimlo fy hunan yn sadio tipyn, dechreuais bryderu, pa beth a gawn wneyd fel blaenor. Collais lawer noson o gysgu gan mor bryderus oeddwn. Yr oedd digon yn y sêt fawr eisoes a fedrent siarad mwy na digon, ond yr oeddwn yn teimlo fod eisiau gwneyd rhywbeth heblaw siarad. Yr oedd rhyw lef ddistaw fain o hyd yn dweyd wrthyf fod llawer o bobl na fyddent byth yn twyllu capel nac eglwys dyma fyddai fy ngwaith. Yr oedd un gŵr ar fy meddwl er's llawer dydd, ac yr oeddwn yn teimlo y buasai yn dda genyf pe medrwn ei gael i'r Ysgol Sul. Un o'r dynion mwyaf ffraeth yn yr ardal, dyn a chalon fawr yn curo yn ei fynwes, sef Lewis— —, y gôf, dyna y dyn y rhoddais fy mryd i fyn'd i gael ymddiddan âg ef gyntaf. Ar ol tê ryw nos Lun, ffwrdd a fi ato i'r efail, am y gwyddwn ei fod y noson hono yn gweithio yn hwyr, i orphen rhywbeth pwysig oedd eisiau yn gynar yn y boreu.

Cefais y go' wrthi yn ddygyn yn trwsio darn o un o'r peirianau perthynol i'r chwarel. Pan aethum i fewn i'r efail, edrychodd Lewis i fyny, a gwelwn rhyw wên goeglyd yn myn'd dros ei wyneb. Tynodd ei gap, ac ymgrymodd nes yr oedd ei drwyn bron a tharo yr eingion.

"Helo, Mr. Ffowcs, sut yr ydach chi heno, syr?" meddai'r hen gyfaill.

"Paid a'm galw i yn feistar, Lewis bach; cofia mai Ned Ffowc ydwi fel yr oeddwn tua phymtheng mlynedd ar hugain yn ol, pan oeddem ni yn hogia gyda'n gilydd. Wyt ti yn cofio fel y byddem yn chwareu efo'n gilydd ar lan y llyn isa ar brydnawniau Sadwrn. Llawer 'sgodyn ddaru ni ddal yn te, Lewis. Wyt ti'n cofio, co bach, yr hogia eraill, fydda yn cyd—chwara â ni yn Nghloddfa'r coed, sef Bob Typɔbty, Dafydd Lloyd, Price Griffith, a Morris ———— Wyt ti'n cofio fel y bydda ni ambell noson seiat a chyfarfod gweddi yn myn'd i gyd i'r un sêt, ac yn poeni ysbrydoedd cyfiawn yr hen flaenoriaid anwyl—Edward Wiliam a John Robins."

Erbyn hyn yr oedd y dagra yn powlio i lawr wyneb yr hen ôf, ac yntau yn sychu ei wyneb â chefn ei law nes gadael stripen ddu ar draws ei drwyn.

"Na, paid a'm galw yn Mr. Ffowcs eto, Lewis."

"Wel, yn tydi pawb yn lecio cael eu galw yn fistars ac yn fistresus 'rwan, Ned. Welaist ti y wraig hono oedd yn dy gyfarfod di pan oet ti yn dwad i fyny y lon yna, Mrs. Jones wst ti."

"Pwy Mrs. Jones? Yr oedd hi yn rhy dywyll i mi gwel'd hi yn iawn, ac yr oedd ganddi fêl ar ei gwyneb."

"O, Catrin Wil Robin Shon fydde ni yn ei galw hi cyn iddi gael y cant a haner pres rheini ar ol yr hen gyb o ewythr fu farw yn perthyn iddi hi yn y Mericia, ond Misus Jones bob gair yrwan, if you please. A dyna wraig y Twmpath drain, gwraig Benja Twm Wil Catsen, Mrs. Wilias ydi pob peth rwan. Mae yr hogyn hyna wedi cael myn'd yn glarc yn yr offis, ac wyddos ti be ma nhw wedi neud? Y mae nhw wedi newid enw y ty i Thorn Bush House. Grand yn te?

"Wel, Lewis bach, nid dwad yma i drin achos pobl a'u henwa ddaru mi, ond i dreio fy ngore gen't ti ddwad i'r Ysgol Sul."

"O brensiach mawr, Ned; wyt ti wedi dechra blaenora? Mi weli yn fuan dy fod wedi dyfod i'r rong siop. Rwyt ti yn gwybod am dana i, Ned, dim lol wst ti. 'Does gen i fawr iawn o ffydd mewn crefydd rhai pobol fel y mae hi yn cael ei chario yn mlaen ganddyn nhw y dyddia yma. Tipyn o sham ydi eu crefydd nhw yn awr—tipyn o gilt ar haiarn bwrw. Weli di yr hen bedol yna, Ned, 'dawn i yn gyru hona i Birmingham, i gael ei golchi hefo gilt, buasai pawb yn meddwl mai pedol aur fase hi. Wyddost ti y chestar drôr sy gan Dic Shonat, mahogany, medda fo, ond 'dydi o ddim mwy o fahogany nac ydi coes y morthwyl yma. 'Does dim ond haenen dena o ffinâr ar goed ffawydd. Sham i gyd, Ned; ac felly y mae hi efo crefydd llawer o honoch chi. Paid ag edrych mor ffyrnig, Ned, ne mi ddylia i dy fod yn un o honyn nhw, ond 'dwyt ti ddim chwaith."

"Lewis anwyl, mae arna i ofn dy fod di wedi myn'd yn rhy bell i'r Efengyl na gras allu dy achub di."

"Beth, wyt ti'n meddwl mod i yn waeth na'r lleidr ar y groes? Mi gafodd hwnw fyn'd i'r nefoedd yn yr un cerbyd a Iesu o Nazareth, Brenin yr Iuddewon."

"O, Lewis bach, wyddost ti ddim mor dda gen i fase dy wel'd di yn sadio tipyn. Yr wyt ti yn fwy hyddysg na'n haner ni yn y 'Sgrythyr, ac y mae tipyn o'r gilt a'r ffinâr o'th gwmpas ditha hefyd. Yr wyt ti'n teimlo mwy nag wyt ti'n ddangos. 'Dydw i ddim am dy roi di i fyny, mi weddia drosta ti bob nos a bora." Ie, gwna, Ned bach, oblegid llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. 'Does gen i ddim yn erbyn gwir grefydd, 'machgen i, ond yn erbyn y rhai sydd yn proffesu yn anheilwng, er fod raid i mi ddeud fod llawer iawn o bobl wir dda yn mhob enwad, o oes. Mae arna i eisio gweled mwy o grefydd y Samariad trugarog a llai o grefydd y Lefiad annrhugarog. Os oes gen't ti amser mi ddeuda i stori fach i ti ar y pwnc."

"Oes, digon o amser, Lewis; dechra arni."

MARI DAFYDD.

"Mewn ardal yn sir Gaernarfon yr oedd gwraig weddw—Mari Dafydd oedd ei henw hi. Yr oedd hi wedi colli ei gwr er's haner blwyddyn, a chwech o blant eisieu eu magu, yr hynaf o honynt ddim ond deuddeg oed. Y nos Sadwrn cyn y 'Dolig yma, yr oedd tri o`r plant yn gorwedd yn sâl o'r frech goch, ac felly yr oedd Mari yn methu myn'd yn mlaen gyda'i gwaith gwnio, trwy yr hyn y byddai yn cael tamed iddi hi a'i phlant. 'Doedd dim tamed o fwyd yn y ty, a hithau yn nos Sadwrn 'Dolig. Rhoddodd ei bonat am ei phen, a rhedodd i dy un o flaenoriaid y capel—gŵr arianog— dyn blaenllaw yn y capel—wel, y fo oedd y pen-blaenor. Cnociodd Mari Dafydd yn wylaidd wrth y drws, a chafodd wel'd Mr. Hwn a Hwn, a dwedodd ei chwyn wrtho, ac meddai yntau,

"Does gen i ddim byd i chi, Mari Dafydd. Yr ydw i yn talu trethi mawr at gynal y tlodion; y peth gora fedrwch chi neud ydi myn'd i'r wyrcws.'

"Fedra i ddim myn'd yno heno, Mr. Hwn a Hwn, a 'does gen i ddim tamad at y fory, a thri o'r plant yn sâl, ne faswn i ddim yn dwad ar ych gofyn chi na neb arall."

Does gen i mo'r help am hyny; fedra i wneud dim i chwi."

Trodd Mari druan tua chartref gyda chalon drom; ond meddyliodd y troai i fewn i dŷ rhyw hen saer oedd yn byw ar y ffordd; aeth a dwedodd ei chŵyn wrth hwnw. 'Doedd hwnw ddim yn perthyn i grefydd mwy na minau. Cafodd ddysglaid o de poeth gan Mrs. Tomos, a thra yr oedd hi wrthi yn yfed y te yr oedd yr hen saer a'r wraig wrthi yn llanw basged efo bwyd iddi fyn'd adre. Dyna i ti, Ned, Samaritan digrefydd. P'run sydd fwya tebyg i fyn'd i'r nefoedd, ai yr hen saer yna neu Mr. Hwn a Hwn? Yr oedd plant Mari Dafydd yn well nos Sul, a thrwy fod cymydoges garedig wedi dyfod i aros efo'r plant aeth i'r capel. Yr oedd yno bregethwr da, a soniai lawer am drugaredd a dyledswydd crefyddwyr at rai oeddynt mewn profedigaethau, helbulon, a thlodi. Yn y seiat, cafodd Mari Dafydd y fraint o glywed Mr. Hwn a Hwn gyda thon wylofus, a dagra heilltion ar ei ruddiau yn adrodd darn or bregeth ac yn annog i haelioni a thynerwch. Dyna i ti, Ned, rhyw betha fel yna fydd yn cledu fy nghalon i. Clywed am rai tua'r capeli yma yn son am diriondeb a thrugaredd, maddeugarwch a phethe fel yna, a dim yn ei actio fo eu hunain. Mewn llawer capel mae nhw yn deud wrtha i fod yno bobl yn cydocheneidio, yn cydorfoleddu, ac yn cydeistedd i fwyta y Sacramenta, ac na wna nhw ddim siarad efo eu gilydd ar y ffordd. Nid dyna wir grefydd. Ond fel y dudes i o'r blaen, Ned, y mae llawer iawn o bobl dda yn perthyn i'r Capeli, a'r Eglwys hefyd o ran hyny. Mae yma lawer yn yr ardal yma yn bregethwyr, yn bersoniaid, ac yn flaenoriaid, dynion ag y buasai yn dda gen i pe daswn i yn debyg iddynt. Rhaid i ti beidio meddwl fod gen i feddwl caled o grefydd, o nag oes; yr ydw i yn parchu crefydd a chrefyddwyr, ond y mae defaid duon yn perthyn i bob corlan; ond un braf ydw i ynte i'w pigo nhw allan.

Wel, ar ol clywed yr hen ôf yn siarad fel hyn, yr oeddwn yn teimlo yn sicr mod i wedi cael pregeth gwerth myn'd i'w gwrando, ac y buasai yn llawer ffitiach yn lle bod Ned Ffowc wedi myn'd at yr hen ôf ffraeth a doniol, pe buasai y gôf wedi myn'd i gynghori tipyn arno ef.



Nodiadau golygu