Adgofion Andronicus/Robat y Go'

Y Wesle Ola Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

'Steddfod Fawr Llangollen

ROBAT Y GO', NEU HEULWEN A CHYMYLAU.

HEULWEN.

GOF oedd tad Robat Jones, gof oedd ei daid, a gof ei hen daid—ac mae lle i gredu fod y gofaint dewr hyn yn ddisgynyddion uniongyrchol o'r hen of cywrain Tubal Cain. Saif gefail Robat Jones ar groesffordd yn un o ardaloedd poblogaidd Arfon. Mae un lôn yn rhedeg i chwarel sydd yn rhoddi gwaith i filoedd o ddewr feib y creigiau. Mae lôn arall yn myned a chwi i dref enwog Caernarfon. Mae'r drydedd yn myned a chwi i bentref poblogaidd, a'r olaf yn cyfeirio tua'r môr. Rhwng y pedair ffordd hon gallwch feddwl fod gryn dramwy heibio efail Robat Jones, a phrin byth bydd neb yn pasio heb droi i mewn i gael ymgom gyda gwr poblogaidd yr eingion. Y mae gan Robat Jones air siriol i'w ddyweyd wrth bawb, a pherchir ef yn mhell ac yn agos, gan hen ac ieuanc, gwreng a bonedd.

Y mae traddodiad yn yr ardal fod Shon Robat, hen daid Robat Jones, yn ymladdwr mawr, ac wedi cymeryd rhan lled flaenllaw yn erledigaeth y Methodus yn ei ddydd a'i dymhor, a'i fod yn un o'r rhai a gymerasant ran yn erlid Howel Harris pan ar ymweliad âg ardaloedd Sir Gaernarfon. Ond cafodd ei fab, Robat Shon, droedigaeth wrth wrando Lewis Evan yn pregethu, ac aeth i'r seiat, a llawer gwaith y bu Robat Jones yn myn’d i'r seiat ganol 'rwsnos yn llaw ei daid, pan yr oedd ei dad yn rhy brysur yn pedoli ceffylau blaenoriaid y capel. Noson brysur iawn yn yr efail bob amser ydoedd, ac ydyw eto, noson y seiat. Mae gwr Tyddynygwair yn flaenor yn Nghapel ———— ac wrth gychwyn i'r capel try i'r stabl, a dywed wrth y gweision,—

Hwdiwch, fechgyn, os oes rhywbeth i fyn'd i'r efail cerwch a fo wrth fyn'd i'r seiat, a dudwch wrth Robat y galwch chi am dano wrth ddyfod yn ol."

Gan fod meistriaid amryw o'r ffermydd mwyaf yn yr ardal hon, fel yn mhob ardal arall, yn perthyn i'r sêt fawr, bydd gryn dipyn o jobs yn yr efail noson seiat. Mae y ffarmwrs mwya' bob amser yn perthyn ir sêt fawr, os byddant yn perthyn i'r capel o gwbl. Mae hyn yn hen arferiad yn yr ardaloedd hyn. Nid am fod mwy yn mhen y ffarmwr mawr, ond y mae yn lle neis i'r pregethwyr aros. Y mae ffarm Mr. W., pen blaenor y capel o ba un y mae Robat y Go' yn aelod ffyddlon a chyson (mor gyson ag y gall fyn'd a gwneyd cyfiawnder â mân jobses y blaenoriaid), yn filldir a haner o'r capel, ac yn aml iawn bydd Mr. W. yn troi i'r efail ar ei ffordd i'r seiat neu y cyfarfodydd gweddi, ac yn deud,—

"Hwdiwch, Robat, mae tair o bedole y gaseg yma yn ysgwyd; gyrwch un o'r hogia i stabl y capel i'w nhol tra y bydda i yn y capel. 'Rydech chi yn rhy brysur, Robat, i ddwad i'r seiat, miwn."

"Yr ydw i yn o brysur, Mr. W., fel y bydda i bob amser noson capel, ond y mae gen ine enaid, ond y gwaethaf ydyw mae gen i wyth o safnau eisieu eu llenwi, a rhaid i ni beidio digio neb. Be' ydi y pwnc sydd genoch chi heno, Mr. W.?"

"Cyfiawnder ydi testyn yr ymdrafodaeth heno, Robat, a fi sydd wedi fy mhenodi i'w agor. Cofiwch yru i nol y gaseg, a galwaf yma wrth ddyfod adref."

"Gwnaf siwr, Mr. W. Fydde yn anodd i chwi dalu y tipyn bil hwnw oedd yn diw flwyddyn i Glame diwedda'? Mae y trafaeliwr haiarn yn dwad rownd ddydd Llun, ac y mae arna' i eisieu talu iddo."

"Yn wir, Robat, ydw i ddim wedi cael amser i edrach drosto fo eto. 'Rydw i wedi bod yn brysur ofnadsen efo counts y capel: mae llawer iawn o bobl ar ol efo'r taliadau mis ac arian seti, ac yr ydwi'n myn'd i'w deyd hi yn hallt heno wrth agor y pwnc 'Cyfiawnder".

"Da iawn, Mr. W.; a da chi yn deyd tipyn yn nghil hyny am i'r bobl dalu yn y shiope hefyd, ac i'r cryddion a'r teilwriaid, gwnaech dro bendithiol iawn."

"Diar mi, Robat, yr ydw i yn synu atoch; 'does fyno hyny ddim â'r pwnc mawr ydw i wedi cael fy mhenodi i'w agor heno. Be' sydd fyno 'Cyfiawnder' â shiope, a chryddion, a theilwriaid? 'Tâl dy ddyledion i'r Arglwydd'—dyna ydi y pwnc mawr.'

"Ond sut y medr pobl dalu i'r Arglwydd os na thâl pobl iddynt hwy yn gyntaf?"

"Robat bach, yr ydych chwi yn edrych ar y pwnc mawr o safon rhy isel. Mae arnaf ofn nad ydych chi ddim yn 'studio llawer ar Dduwinyddiaeth: mae'ch meddwl chwi ormod gyda'r pethau sydd isod'—pedolau a phethau felly. Ond rhaid i mi fyn'd. Cofiwch y gaseg, Robat, a rhowch dipyn o ddur ar y pedolau blaen, yr ydw i yn myn'd i'r Cyfarfod Misol 'fory. Mae yno dipyn o allt go serth, ac y mae hi fel da hi am rewi heno."

Aeth Robat y Go' yn mlaen gyda'i waith, a gyrodd i nol caseg Mr. W. Yr oedd wedi meddwl yn sicr cael myn'd i'r capel, ond 'doedd dim chance: yr oedd yn rhaid pedoli caseg y pen blaenor, a gwneyd amrywiol jobsus ereill tra y bydde y bobl yn y capel. Ding dong, ding dong a glywid ar engan y gof, tra yr oedd y pwnc "Cyfiawnder" yn cael ei ymdrin yn y capel, a thra yr oedd Mr. W. yn hedfan uwchlaw amgyffred ei wrandawyr gyda "pethau sydd uchod" yr oedd ei gyd—aelod, Robat y Go', wrthi yn rhoddi pedolau ar garnau ei farch, dan ganu iddo ei hunan,—

"Pechadur wyf, O Arglwydd,
Yn curo wrth dy ddôr,
Erioed mae Dy drugaredd
Diddiwedd yn ystôr."

Aeth y seiat drosodd, ac yn fuan yr oedd llon'd yr efail o bobl, a thoc dyma Mr. W. yno,—

"Ydi y gaseg yn barod, Robat. Gobeithio eich bod chi wedi rhoddi dur—mae hi yn rhewi yn ffast. Cawsoch golled fawr na fasech chi yn dwad i'r seiat. Mi dria i gael amser i edrach dros y bil ar ol dwad o'r Cyfarfod Misol. Nos dda, Robat."

"Sut seiat gawsoch chi, boys?" medde'r Go' wrth yr hogie oeddynt yn disgwyl am eu neges.

"Yr oedd yno ddigon o siarad, peth siwr iawn ydi o," meddai hwsmon Tyddynygwair, "ond dase y dyn yna aeth i ffwrdd ar gefn y gaseg yna 'rwan wedi cau arni hi, fase yn llawer gwell. Son am gyfiawnder, yn wir! Ac eisio i ni, fechgyn y ffarmwrs a hogie'r chwarel, ro'i mwy yn y casgliad mis. 'Does yna yr un mistar cletach na fo yn y plwy' yma—y cyflog isa' i bawb bob amser; ac ydi y bwyd y mae o yn roid i bobl ddim ffit, ac yn eu gweithio nhw o oleu i dywyll. Son am wyth awr, yn wir: dase fo yn ei gadael hi ar "twice eight," fel bydde ni yn deyd yn yr ysgol, mi fase yn o lew. Ond mae o yn flaenor, Robat Jones bach, ac mae o yn sicr o fyned i'r nefoedd. Y ni, y pechaduriaid —yr aelodau cyffredin—aiff i'r lle arall hwnw; neu os cawn ni fyn'd i'r un fan a Mr. W., rhywle tua'r seti cefn fydd hi."

"Paid a siarad fel yna, John anwyl. Ydi ddim yn iawn i ti wneyd, a thithe newydd ddwad o'r seiat. Mae yn ddyledswydd arno ni wneyd fel y dywed y rhai sydd wedi eu codi i swyddi. Rhaid i ti gofio fod blaenoriaid yn cael eu dewis o dan arweiniad, ac nid mater o hit and miss ydi hi."

"Pob parch i chi, Robat Jones, choelia i byth mo hyny. 'Does gen i ddim mymrym o ffydd yn y codi blaenoriaid yma—y fodrwy aur pia hi, Robat Jones. Ty braf i gymryd pregethwrs, a gig i fynd i'r stesion i'w cyfarfod nhw. Chlwsoch chi rioed fath hogle cwcio fydd yn Tyddynygwair acw bob nos Sadwrn mis y pregethwrs, a bydd yr haid gwydde yn y buarth acw yn myn'd un yn llai bob wsnos. Byddwn ni, y gweision, yn cael digon o'r hogle amser cinio ddydd Sul, a bydd hyny fel rhyw sôs i helpu i ni fyta y cig moch a thatws trwy crwyn."

"Taw, taw, John bach; paid a chablu pethau cysegredig. Rydw i bob amser wedi cael fy nysgu i barchu cenhadon hedd' ac i edrych gyda gwyleidd—dra ar hyd yn nod 'ôl traed y rhai sydd yn efengylu.'

"Wel, felly fine, Robat Jones; ac os ydw i wedi newid fy marn, nid arnaf fi mae y bai. Os oes genych amser, mi ddeuda i stori bach wrthoch, ac y mae hi mor wir a'ch bod chi yn chwythu y tân yna 'rwan."

"Wel, a hai, John, ond paid a chablu."

"Yr ydach chi yn gwybod am mistar. Ydi o ddim yn rhyw swell mawr iawn ond pan y bydd o yn myn'd i'r Cyfarfod Misol, neu pan y bydd o yn gynrychiolydd' i'r Sasiwn. Mae o yn gwisgo ddigon plaen bob dydd. Wel i chi, rhyw brydnawn Sadwrn yn nghanol y cynheua yd, dyma fo yn edrych ar i watch yn y gadles, ac yn deud, 'Yn wir, rhaid i mi fyn'd i'r stesion i gyfarfod y pregethwr, a 'does dim amser i molchi na dim.' Ffwrdd a fo i'r stabl, rhoddodd Bess yn y gig, a ffwrdd a fo. Nid y gweinidog oedd wedi ei gyhoeddi oedd yn y stesion, ond rhyw fachgen difarf a diddawn newydd ddechreu wedi dwad yn ei le. Meddyliodd y pregethwr mai y gwas oedd, a gwnaeth yn lled hy arno. 'Ydech chi acw er's talwm?' meddai. 'Ydw, er's talwm iawn,' medde mistar. 'Oes acw le go dda acw?' 'Oes.' "'Oes acw fwyd go dda?' 'Oes.' Oes acw ferched?' 'Oes. 'Yden nhw yn rhai neis? 'Yden am wn i.' 'Wyddoch chi oes acw dipyn o begs?' 'Wel, felle fod pan fydd yr hen wr a'r hen wraig wedi myn'd.' Gyda hyn dyma'r gig i fewn i'r buarth, a dyma mistar yn gwaeddi arna' i, 'John, rho y gaseg yma i fewn, a rho ffeed o geirch a tipyn o ffa iddi. Edrychodd y pregethwr ifanc yn syn. Gwelodd ei fod wedi rho'i ei droed yni, ac yr oedd ei wyneb fel crib yr hen dyrci oedd wrth ddrws yr hen 'sgubor. Ar ol tê aeth y pregethwr ifanc allan am dro. Yr oedd trên yn gadael y stesion am naw o'r gloch. Yr oedd gwely y pregethwrs yn wâg y noson hono, ac yr oedd pwlpud capel ———— yn wag boreu Sabboth. Mae'r stori cyn wired a'r pader, Robat Jones. Nid arna' i mae y bai os nad oes genyf gymaint parch i'r efengyl ag oedd."

Mae yn wir ddrwg genyf, John, fod dy feddwl di yn cymeryd y cyfeiriad yna. Rhaid i ti beidio gadael i bethe fel yna droi dy feddwl di yn erbyn gweision yr Arglwydd. Cofia, John bach, am yr hen Dalsarn, Robat Ellis, Dafydd Morris, William Herbert, Evan Owen. A hefyd 'rwyt ti yn 'nabod llawer o bregethwyr hen ac ifanc y dyddie yma. Paid a mesur rhyw barblis wrth hoelion wyth. Gwrando di ar y genadwri—hidia befo y cenhadwr."

Hawdd iawn ydi i chi siarad, Robat Jones; yr ydych wedi cael gras."

John bach, paid a siarad fel yna. Os nad wyt ti wedi ei gael dos ar dy linie heno, a gofyn am ei gael. Mi glywest am y dyn yna gafodd ei ladd yn y chwarel heddyw. Y mae yn dda iddo erbyn hyn fod ei bac yn barod."

Yn wir, Robat Jones, llawer ffitiach i chi fod yn y sêt fawr na'u haner nhw. Yr ydach chi yn gwneyd mwy o les mewn ffordd syml fel hyn na llawer pregethwr gyda phregeth hir, a hono yn bene ac yn rhane i gyd. Os ydi y stwffl yn barod, rhaid i mi fyn'd. Nos dda, Robat Jones; mi dalith mistar rhywbryd."

Pan aeth gwas Tyddynygwair allan, dyma rhyw stordyn o wâs bach oedd yn helpu gyda'r godro a thua'r stabl yn y Buarth Mawr yn codi oddiar rhyw hen aradr oedd yn disgwyl am y "doctor" yn nghornel yr efail, ac yn dyweyd "Robat Jones" lon'd ei gêg.

"Wel, be' sant di eisie, Wil?"

"'Sgenoch chi raw reit dda newch i werthu i mi, Robat Jones; mae arna i eisia cael rhaw i mi 'nhun?"

"Oes siwr, Wil; wyt ti wedi cael lle i dori bedde, neu wyt ti yn myn'd yn brentis i ddysgu dal tyrchod daear. Ond dyma i ti raw newydd spon am dri a chwech."

"Na ro byth, Robat. Jones (gan boeri sug tybaco), mi ro i chi haner coron.

"Na roi byth, Wil; wyddost am dana i—fydda i ddim yn gwneyd dau bris.'

Wel, rhowch bres peint o gwrw, ynte."

"Ffei o honot, Wil, yn son am dy gwrw. Fydde yn well gen i ro'i hoelion at ro'i yn dy arch di o lawer. Ond mi ddeuda i ti beth na i efo ti. Oes gent ti Destament, dywed?"

"Nac oes, Robat Jones; yr ydw i wedi colli hwnw roth mam, druan, i mi pan oeddwn i yn gadael cartre."

"Wel hwde, dyma i ti chwech i brynu un newydd yn Stryd Llyn pan ei di i G'narfon. Ac yna, os bydd arnat eisia pladur newydd at y cynheua gwair—os byddi di wedi dysgu allan y pymtheg penod cynta yn Ioan— mi ro i y bladur ore sydd geni i ti, os doi di ata i yn ffair Llanllyfni. Gwna, Wil bach, er mwyn dy hen dad a dy hen fam dduwiol. Mae nhw yn y nefoedd, ac os wyt ti am fyn'd atyn nhw, rhaid i ti beidio hel â'r ddiod yma."

Aeth gwas bach y Buarth Mawr adref gyda'r rhaw ar ei ysgwydd, a dagrau yn ei lygaid.

Fel yna y bydde Robat Jones y Go' yn pregethu. Er nad oedd yn cael myn'd i'r seiat bob wythnos, ac er nad oedd yn bregethwr na blaenor, yr oedd yn gwneyd llawer iawn o les yn y cylch yr oedd yn troi. Yr oedd ei bregethau at y pwrpas bob amser—'roedd rhyw fachau ynddynt. Byddai yn hoff dros ben o blant, a hoff waith y gof oedd gwrando arnynt yn dyweyd eu hadnodau cyn myn'd i'r seiat. Yr oedd yn holwr plant heb ei fath yn yr ardal, a dyna yr unig swydd a gafodd erioed yn yr eglwys na'r Ysgol Sabbothol, ac nid diffyg cymhwyster, ond ei fod yn digwydd gwisgo barclod lledr a chrys brith.

Trwy ddiwydrwydd a chynildeb yr oedd Robat Jones wedi hel ceiniog lled ddel cyn bod yn haner cant oed. Yr oedd wedi prynu ei dy a'r efail. Yr oedd ganddo shares yn llongau William Thomas, a swm go lew yn manc y Maes. Ond pan ar ben haner cant cyfarfyddodd â damwain wrth bedoli merlyn gwyllt yn perthyn i wr Tyddynygwair. Anafwyd ef gymaint fel ag y bu mewn perygl mawr o golli ei fywyd. Dyna yr amser y dechreuodd ei helbulon. Y mae pum' mlynedd o amser er hyny. Ni fu byth yn chwareu tôn â'i forthwyl ar yr engan ar ol hyny. Os gwelir mwg yn esgyn i fyny o simddau efail y Groesffordd, nid Robat Jones sydd yn chwythu y tân. Y mae ef yn gorwedd byth, ac y mae wedi cael digon o seibiant i weled "dull y byd hwn," a beth sydd mewn crefydd a'r rhai sydd yn ei phroffesu. Y mae wedi darllen llawer ar ddameg y gwr a syrthiodd yn mhlith lladron, ac yn deall yn lled dda ystyr y geiriau Lefiad a Samariad.

CYMYLAU.

Y diwrnod y ciciwyd Robat Jones gan y ceffyl gwyllt, safai ei wraig a'i blant oddiamgylch y gwely wedi haner d'rysu, ac yn disgwyl bob mynud wel'd llygaid y tad yn agor neu ei wefusau yn symud. Safai dau feddyg medrus o Gaernarfon (dau frawd) wrth ben y gwely.

Ydech chi yn meddwl y daw o trwyddi hi, doctor anwyl?" meddai y fam grynedig a phryderus.

"Yr ydym yn disgwyl yn fawr, Elin Jones. Yr oedd Robat yn ddyn sobor, ac wedi cymeryd gofal o hono ei hunan bob amser, ac y mae hyny yn ei ffafr yrwan. Mi wnawn ni ein goreu, Elin Jones, a gofynwch chwithe i'r Meddyg Mawr ddyfod yma i'n helpu ni. Yr ydech chi ag Yntau yn gryn ffrindie er's llawer dydd. Cerwch chwi i gyd i lawr yrwan: mae yn rhaid i ni gael lle reit ddistaw; mae o reit wael, ac yn feverish iawn."

Aeth y teulu i gyd i lawr i'r gegin, lle yr oedd llawer o bobl y capel wedi d'od yn nghyd i gael gwybod sut yr oedd gwr yr efail; ac yn eu plith hen wr duwiol o'r enw Shon Dafydd, fyddai yn arfer eistedd yn nghanol llawr y capel, ac yn weddiwr heb ei fath. Y mynud y gwelodd Elin Jones yr hen wr aeth ato a dywedodd, "Y mae Robat bach yn sâl iawn; ewch chi dipyn i weddi, Shon Dafydd, a gofynwch i'r Iesu o Nazareth ddyfod yma: y Fo ydi y Meddyg Mawr." Aeth yr hen Gristion ar ei liniau, a phawb arall gyda fo, a gweddiodd yn ddwys ac effeithiol. Ymaflodd yn rhaffau yr addewidion nes tynu y nefoedd am ei ben. Ar hyn daeth un o'r meddygon i lawr o'r llofft a dywedodd, Gwell i chwi fyn'd i fyny, Elin Jones: mae o wedi agor ei lygad am fynud, ac mi ddywedodd un gair, a hwnw oedd 'Elin.' "Diolch byth," meddai hithau, a "diolch byth" meddai pawb arall. Pan aeth Elin Jones at wely ei gwr, edrychodd arni, a dywedodd, "Elin bach," ac yna cauodd ei lygaid, a dyna oedd y geiriau olaf a ddywedodd am lawer o wythnosau. Amser blin a phryderus fu hi ar deulu y gof tra y bu ef yn hongian rhwng byw a marw. Cymaint oedd trallod y wraig druan fel nas gallai roddi ei meddwl ar ddim arall ond ar ei gwr. Nid oedd yr un o'r bechgyn yn ddigon hen i fyn'd i'r efail, ac nid oedd yr un o'r prentisiaid wedi cael digon o brofiad i gymeryd y gofal. Nid oedd Elin Jones chwaith yn dymuno cyflogi gweithiwr profiadol heb ymgynghori â'i gwr: felly 'doedd dim i'w wneyd ond cau yr efail. Peth chwith iawn oedd gwel'd Efail y Groesffordd heb fŵg yn esgyn i fyny o'r simddai, ac yr oedd plant yr ysgol bron a thori eu calonau wrth basio y lle; yr oeddynt wedi colli tân yr efail a gwyneb rhadlon a geiriau siriol eu hen gyfaill. Diwrnod i'w gofio yn nhý y gof oedd pan yr agorodd ei lygaid gyntaf ar ol i glefyd y 'menydd ei adael, ac y dechreuodd siarad tipyn. Pan glywodd plant yr ardal y newydd yr oeddynt yn falch dros ben. Yr oedd gan un gylch wedi tori, ac un arall eisieu hoelen i roi yn mlaen ei dop, ac amryw o fân jobsus yn disgwyl. Byddai Robat Jones yn gwneyd llawer o gymwynasau bychain i blant yr ardal. Yr oedd ganddo lawer iawn o gwsmeriaid bychain y thankee jobs. Pan aeth y gair allan fod Robat Jones yn debyg o fendio, ac y byddai yr efail yn agor cyn hir, yr oedd llawenydd mawr yn mhlith gweision y ffarmwrs trwy'r ardal, ac yr oeddynt yn dechreu hel pethau at eu gilydd i fyn'd a nhw i'r efail. Colled fawr iddynt hwy oedd colli ymgom ddifyr y gof. Yr oedd yn dda iawn hefyd gan wr Tyddynygwair glywed, oblegid gaseg ef oedd wedi anafu Robat, druan. A chwareu teg i'r ffarmwr tyner-galon, yr oedd llawer basgedaid o wyau, cywion ieir, a phwysi o fenyn yn cyrhaedd ty y gof er pan oedd yn gorwedd. Ac os oedd llawenydd yn mhlith cyfeillion, gellwch feddwl bod llawenydd llawer mwy yn y teulu oedd yn ei garu mor fawr. Ond och! byr iawn fu y llawenydd pan ddywedodd y doctor y gallai Robat Jones ddyfod i sgwrsio ac i fwyta ac yfed, ond yr oedd yn gwestiwn a fedrai byth godi o'r gwely. Yr oedd y meddyg yn lled agos i'w le, oblegid gorwedd y mae y gof er's pum' mlynedd, ac y mae wedi myned trwy lawer iawn o helbulon.

Fel y dywedais yn y benod gyntaf, yr oedd Robat Jones wedi hel ceiniog lled ddel, ac yr oedd ganddo swm lled dda wrth ei gefn yn Manc y Maes, ac mewn lleoedd ereill; ond druan o hono, tra y mae y fraich gref a gurai gyda nerth ar yr engan wedi bod yn gorwedd yn farw wrth ei ochr yn y gwely er's pum' mlynedd, y mae y tipyn pres wedi diflanu. Mae'r efail a'r busnes wedi eu gwerthu er's llawer dydd i wr diarth o ardal arall; ac y mae dau fachgen hynaf Robat Jones yn brentisiaid yn hen efail eu tad.

Yr oedd amgylchiadau wedi myn'd a'r ysgrifenydd i fyw i ardal gryn bellder oddiwrth fy hen gyfaill o'r Groesffordd, ac yr oeddwn heb ei weled er's yn agos i flwyddyn. Fodd bynag, diwrnod Diolchgarwch diweddaf penderfynais fyn'd i dalu ymweliad â Robat Jones. Yr oeddwn yn teimlo ei bod yn llawn cymaint o grefydd i mi fyn'd i ymweled â'm hen gyfaill ag ydoedd myn'd i'r capel dair gwaith. Pan y bydd y Barnwr Mawr yn eistedd ar y cwmwl, y dydd diweddaf, ni ddywed, "Yr oedd cyfarfod diolchgarwch yn nghapel----," ond dywed wrth lawer, "Bu'm glaf, ond ni ddaethoch i ymweled â mi." Felly, yn fore ddydd Llun cychwynais gyda'r tren, ac yr oeddwn wedi synu yn ddirfawr gweled cynifer yn teithio gyda'r trens. Yr. oedd ugeiniau o fechgyn a merched o'r shiope, o'r chwarelau, ac o'r ffermydd i'w gweled yn ddigon penrhyddion a gwamal, yn cymeryd mantais ar y dydd gwyl i fyned i ymblesera yn lle myn'd i'r capel i ddiolch am eu "bara beunyddiol." Clywais yn Stesion Caernarfon fod canoedd wedi myn'd efo'r excursion i Fanchester. O ran fy hunan, nid oes genyf fawr o feddwl o'r cheap trips yma. Mae pobl yn cael eu denu i fyned i ffwrdd i wario eu pres yn lle talu eu dyledion yn y shiope, ac yn prynu pethau yn Lerpwl a Manchester, ac yn aml yn rhoddi mwy am danynt nag a fydde yn rhaid iddynt. Heblaw hyny, mae fod hogia a hogenod ieuainc yn teithio mewn cerbydau heb oleuni ynddynt ar hyd y nos yn beth ag y dylid sefyll yn gryf yn ei erbyn. Dyna chwi, bregethwyr a blaenoriaid, bwnc teilwng o ymdriniaeth arno yn eich cyfarfodydd. Ond dyma fi wedi myn'd oddiwrth fy nhestyn; ond nid y fi ydyw y cyntaf i grwydro oddiwrth y pwnc (rhyw dipyn rhwng cromfachau, fel y bydd yr areithwyr mawr yn dyweyd). Erbyn cyrhaedd ty Robat Jones yr oedd pawb wedi myn'd i'r capel ond y wraig. Y mae pum' mlynedd o bryder a helbulon wedi gwneyd eu hol ar Elin Jones. Y mae golwg ddigon llwydaidd arni, eto, trwy'r cwbl, yr ydym yn ei chael yn siriol; ac y mae yn hawdd gwybod ei bod yn cael cysur o rywle heblaw oddiwrth bethau y byd yma. Yn wir, y peth cyntaf a welwn ar y ford gron ar ol myned i fewn oedd hen Feibl Peter Williams yn agored. Hwn oedd Hen Feibl mawr ei mam." Yr oedd llawer o ôl bodio, ac yn wir ôl dagrau, arno. Yr oedd y Beibl yn agored ar lyfr Job, a'r benod olaf. Mi fyddwch yn cael cryn dipyn o gysur yn yr Hen Lyfr, Elin Jones," meddwn wrthi.

'O byddaf yn wir; dyma y lle y byddaf yn troi bob amser pan y bydd yn gyfyng arnom. Yn hwn y byddaf yn cael hanes am y cyfaill a lŷn yn well na brawd.' Pan y bydd hi yn dywyll iawn arnom—fel y bydd hi yn aml iawn—byddaf yn cael llawer o gysur yn yr Hen Feibl yma ac yn hymns Ann Griffiths. Wn i ddim be' nawn i hebddyn nhw. Yr ydan ni wedi ei chael i yn arw iawn er's pum' mlynedd; ond wyddoch chi be', yr ydw i yn meddwl fod Robat yn troi ar fendio. Fella nad oes neb arall yn sylwi; ond y fi sydd efo fo o hyd. 'Rwy'n dechra meddwl y caiff o fendio eto, ac wed'yn bydd pobpeth yn iawn. Mi gawn i yr hen efail yn ei hol, ac mi ddaw yr hen ffrindia sydd wedi ein anghofio ni, y rhai fyddai yn llenwi y ty yma pan aeth Robat yn sâl gynta', a phan oeddan ni yn o dda allan. Mi ddo'n nhwtha yn ol; dyna arfer a dull y byd hwn er amser Job. Wyddoch chi pwy adnod oeddwn i yn ei darllen pan ddosoch chi i mewn: dyma hi,—'Yna ei holl geraint a'i garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dy, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef,' &c. Tybed, tybed, da Robat yn mendio y bydda hi felly arno ni?" O byddai, Elin Jones," meddwn ina. "Fel y dywedwch chi, dyna ddull y byd hwn, ac 'i'r pant y rhed y dwr' wyddoch chi; 'ond cyfaill calon mewn ing ei gwelir.'"

"O, peidiwch a meddwl am fynud nad oes genym nina ffrindia, hen gyfaill. O oes, mae rhai wedi bod yn driw i ni trwy'r cwbl; ydyn, yn driw iawn. Ond y peth rhyfedda ydi, mai y rhai yr oeddym ni wedi gwneyd fwya iddyn nhw, a'r rhai oedd Robat druan wedi troi mwyaf yn eu plith, dyna y rhai oedd y cynta i droi eu cefna arno ni."

"Ond mae pobl y capel wedi bod yn driw i chi, mae'n siwr."

Fynwn i ar fy mywyd ddyweyd gair bach am bobl y capel; ond ydyn nhw ddim ond wedi bod fel rhyw bobl arall. Fasech chi byth yn credu, ond mae gwraig y Rectory wedi bod yn ffeind iawn wrtha ni, a'r hen Rector wedi bod yma mor aml, er na thwllodd Robat erioed yr eglwys ond pan yn myn'd i gynhebrwg." "Ond mi fydda Robat yn cymeryd gryn fusnes tua amser y lecsiwn. Yr ydw i yn ei gofio fo amser Watkin Williams yn siarad yn llewis ei grys ar y wal yn ymyl yr efail. Mae nhw, y Librals, wedi bod yn ffeind iawn, dwi'n siwr, Elin Jones.'

"Na, hen gyfaill, wyddom ni ddim gwahaniaeth rhwng Whigs a Toris. Mae rhai o'r Toris wedi bod yn ffeind iawn, a da Robat yn mendio, anodd iawn fasa geno fo fotio yn i herbyn nhw."

"Pe dai Robat yn mendio, Elin Jones, fydda dim llawer o dryst na fyddo fo gymaint o Radical ag erioed."

"Yn wir, dyna Robat yn curo y llofft—mae o wedi deffro. Gorphenwch y gwpanaid yna, a dowch i fyny; mi fydd yn dda iawn ganddo fo eich gweled, er na fedar o ddim siarad llawar.'

"All right, Elin Jones, mi ddof i fyny ar eich hol; ac os na fedar o siarad gallwch chwi wneyd y diffyg fyny, peth siwr iawn ydi o."

Yr oedd fy hen gyfaill, y gôf, yn edrych dipyn gwell nag oedd pan welais ef flwyddyn yn ol, ac yr oedd yn dda iawn ganddo fy ngweled.

"Wel, Robat bach, sut yr ydach chi erbyn hyn?"

"Diar mi, hen gyfaill anwyl, mae yn dda gen i ych gwel'd chi; ac wedi d'od yr holl ffordd, a hyny ar ddiwrnod diolchgarwch. Dyma y chweched diwrnod diolchgarwch i mi golli; ond os nad ydw i yno o ran corph, y mae fy ysbryd gyda'r brodyr. Ydach chi wedi cael yr yd i gyd? Mae nhw yn deyd i mi fod yna lawer iawn heb ei gael, a llawer wedi ei ddifetha. Mi ddylasan fod wedi cael dydd o ymostyngiad er's talwm. Bydd yn anhawdd iawn i rai o'r ffarmwrs fyn'd ar eu gliniau i ddiolch am y cynhaua, a nhwtha heb ei gael."

Ar ol araeth mor faith yr oedd Robat druan wedi colli ei anadl yn llwyr, ac Elin yn deyd wrtho, "Peidiwch a siarad chwaneg, Robat bach; neith yr hen gyfaill ddim digio wrthych."

Treuliais rai oriau hynod o ddyddan yn nghwmni y gôf. Yr oedd yn rhaid iddo gael rho'i pwt i fewn yn ei dwrn. Yr oedd methu yn yn lân a deall y drefn. Yr oedd rhai o bobl y capel yn dyfod i edrych am dano weithiau, ac yn dyweyd fod y cwbl er daioni; ond fedrai Robat ddim gwel'd hyny.

"Dyma fi," meddai Robat, "ar fy nghefn er's dros bum' mlynedd, a saith o blant eisieu eu magu. Y mae holl bethau y byd wedi myned oddiwrthyf fel Job. Am beth, tybed? Yr ydwyf yn ddigon hunanol i feddwl nad oeddwn i ddim gwaeth na rhyw greadur arall, ac fella yn well na llawer o rai sydd yn cael iechyd. 'Doeddwn i ddim yn bregethwr nac yn flaenor nac yn ddyn cyhoeddus; ond yr oeddwn yn ceisio gwneyd tipyn o les yn fy ffordd fach fy hun, a phan gawn gyfle i ddyweyd gair da am Iesu Grist wrth rai o'r hogia fydda yn dwad i'r efail—byddwn yn gwneyd hyny. Ond gallasai fod yn llawer gwaeth arnaf. Fe gollodd Job ei anifeiliaid a'i holl dda, a'i blant gyda hyny, ac yr oedd ei wraig eisieu iddo felldithio ei ddydd. Ond dyma mhlant i gen i gyd, ac y mae Elin yma yn gwneyd ei goreu i fy helpu i ddyweyd, 'Dy ewyllys Di a wneler." O gallai, gyfaill, gallasai fod yn llawer gwaeth arnaf. Gogoniant i'r Enw Mawr."



Nodiadau

golygu