Adgofion Andronicus/Tipyn o Fy Hanes

Cynwysiad Adgofion Andronicus

gan John Williams Jones (Andronicus)

Edward Jones o'r Wenallt

ADGOFION ANDRONICUS.


TIPYN O FY HANES.

NID ydwyf ar un cyfrif yn bwriadu ysgrifenu Hunan-gofiant, nid oes dim yn fy mywyd a fyddai o ddyddordeb yn y byd i neb o'm darllenwyr ei wybod. Ond enwaf rhyw ychydig o land marks sydd yn fy hanes i fel yn hanes pob dyn cyffredin arall.

Ni fyddai chwaith o un dyddordeb i neb wybod y dydd a'r awr, y mis a'r flwyddyn, y cyrhaeddais y byd pechadurus hwn. Digon yw dweyd fod llawenydd mawr pan wnaeth y mab cyntafanedig ei ymddanghosiad ar lwyfan byd o amser. Tra yr oedd eraill yn llawenhau ar yr amgylchiad, wylo wnai y baban. Gobeithiaf pan yn ymado â'r fuchedd hon y bydd y llawenhau o'm hochr i, beth bynag am y wylo o'r ochr arall. Caiff y darllenydd wybod cyn myn'd yn mhell iawn pa le y ganwyd fi, oblegid mewn llyfr o Adgofion y peth mwyaf naturiol ydyw i ysgrifenydd son am fangre ei febyd.

Y CWMWL CYNTAF.

Y cwmwl cyntaf a ddaeth uwch fy mhen yn nyddiau fy mebyd oedd colli brawd bychan pan oeddwn tua chwech oed. Aeth y bychan yn llaw ei dad rhyw foreu i dŷ ei nain, ac ni ddychwelodd byth mwyach i gyd-chwareu â mi, oblegid bu farw yn ddisyfyd o'r clefyd coch. Nid anghofiaf byth y loes a gefais pan glywais fod Llewelyn bach wedi myned i'r Nefoedd, yr "Ephraim" bach yr oeddwn i wedi helpu i'w ddysgu gerdded. Ni buaswn yn son o gwbl am yr amgylchiad hwn oni bai fod un peth lled bwysig i Ymneillduwyr wedi cymeryd lle ddydd ei gladdedigaeth yn mynwent Llangower, ar lan Llyn Tegid. Yn y flwyddyn 1848 yr oedd hyn, ac ni raid i mi ddweyd nad oedd Deddf Gladdu Osborne Morgan wedi ei phasio, ac felly nid oedd rhyddid i weinidog Ymneillduol gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Fodd bynag, er na chai Dr. Lewis Edwards halogi awyrgylch mynwent Llangower â'i lais, yr oedd y Duweinydd enwog yn ddigon gwrol, ac yn Ymneillduwr digon pybyr, i ufuddhau i gais taer fy nhad a darllen rhan o'r Beibl, a gweddio oddiallan i'r "tir cysegredig a sanctaidd." Yr oedd yr hen Reithor Jones yn hen wr caredig a rhyddfrydig ei feddwl, ond yr oedd yntau "dan awdurdod," ac yr oedd yn `rhaid iddo ufuddhau i'r cyfreithiau Eglwysig, neu yr ydwyf yn sicr na fuasai gan yr hen foneddwr ddim gwrthwynebiad o gwbl i Lewis Edwards, Athraw y Coleg Methodus, i gael darllen y gwasanaeth, ac i bregethu hefyd o ran hyny. Pe buasai hyny wedi cymeryd lle buasai muriau hen Eglwys Llangower y pryd hyny wedi cael haner awr o Dduwinyddiaeth na chafodd "gynt na chwedyn;" pob parch i'r gwyr da a fu neu y sydd yn llanw y pwlpud.

Ar ol marwolaeth Llewelyn, cynygiodd fy nhad wobr i aelodau Cymdeithas Lenyddol y Bala o "gadach poced" Indian Silk am y beddargraph goreu i'r bychan oedd yn gorwedd is yr hen "ywen ddu ganghenog" yn mynwent Llangower. Y mae yna ddynion yn y Bala heddyw yn cofio yn dda yr hen Gymdeithas Lenyddol a gynhelid yn llofft yr hen Goleg, yr hen Gymdeithas Lenyddol a ddechreuwyd o dan y pren gwyrddlas yn nghae y Rhiwlas, ac wedi hyny mewn cut mochyn ac ystabl, fel y bu rhyw ysgrifenydd yn ceisio rhoi yr hanes dro yn ol yn Cymru Owen M. Edwards. Wel, fe gynhaliwyd cyfarfod arbenig noson gwobr y "cadach poced." Yr oedd ugain o feirdd y Bala wedi gyru eu cyfansoddiadau i'r gystadleuaeth (ugain sylwch, a'r dyn fu yn ysgrifenu hanes y Gymdeithas Lenyddol yn Cymru wedi dweyd nad oedd yno ddim ond un neu ddau o feirdd yn y Bala, ffei o hono). Do, fe ymgeisiodd ugain o blant y Bala am y "cadach poced sidan." Dr. Lewis Edwards oedd y beirniad, ac yn y fan hon rhoddaf ei feirniadaeth. Yr wyf yn ei chodi o'i lawysgrif ei hunan; mae'r tipyn papyr yn gysegredig yn ein teulu, a dyma eiriau fy hen fam anwyl wrth ei anfon i mi y dydd o'r blaen: "Cofia gymeryd gofal o hono to, 'machgen i. Yr ydwyf wedi ei gadw yn ofalus er's chwe blynedd a deugain."

"BEIRNIADAETH Y PENILLION A'R ENGLYNION."

"Heblaw prydferthwch iaith a meddylrych, dylai penill neu englyn coffadwriaethol gynwys cymaint ar a ellir o gyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn hanes y gwrthrych. Ac y mae yn ymddangos hefyd y dylai arwain meddwl y darllenydd at athrawiaeth yr Adgyfodiad, neu o leiaf at hanfodiad yr enaid mewn byd arall. Nid yw cyfeiriadau o'r fath yma yn ddigon ynddynt eu hunain; ond os bydd pob teilyngdod arall yn gyfartal y maent yn fwy na digon i droi y fantol.

"Ar farwolaeth Llewellyn Jones, derbyniwyd Penillion gan Sala, Dafydd, Gwerfil las, Priddellwr, Multum in parvo, Aderyn y corph, Ehedwr, a Llywarch yr ail; ac englynion gan Cyfaill, Galarwr, Crwydryn, Guto Gôf, Lwyd, Galarwr, Llywarch, Cymro Cochddu, Dafydd, Diawen, Beuno, Anwgan, a Cyffredin Dirodres. Yn y dosbarth uwchaf gellir rhestru Multum in Parvo, Aderyn y Corph, Ehedwr, Galarwr, Llywarch, Diawen, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail.

"Y mae englyn Cymro Cochddu yn gyfansoddiad campus; ond nid yw yn cyfeirio at hyder y Cristion. Nid oes ynddo un syniad nas gallasai ddyfod oddiwrth un o'r hen feirdd Paganaidd. Englyn da yw eiddo Dafydd o ran meddylrych, ond y mae pob llinell yn llawn o feiau yn erbyn rheolau cynghanedd. Y tri goreu o'r cwbl ydyw Llywarch, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail, ac y mae yn ymddangos i mi mai y goreu o'r tri ydyw Llywarch yr ail. Y mae ei benill yn ddadganiad syml o'r amgylchiad ac o'r teimladau a gynyrchid ganddo yn meddwl y tad a'r fam alarus. Yn ei grybwylliad am y fam y mae yn symud y tu hwynt i bob un o'r lleill. Y mae y symudiad disymwth hefyd yn niwedd y drydedd llinell o'r penill yn dra phrydferth. Ond dylasai fod llinell fer rhwng y gair 'sydyn' a'r geiriau tawn a son' i arwyddo cyfnewidiad mater fel y canlyn, —

'O dy ei dad cychwynai i'r Gilrhos yn dra llon;
Cusanai 'i fam gan feddwl dod eto 'n ol at hon;
Ond gerwin oedd ei golli mor sydyn—tawn a son;
Uwch poen mae'r bach penfelyn yn awr yn mynwes Ion.'
"Os nad wyf yn camsynied, hwn sydd yn haeddu y wobr.

L. EDWARDS."


Nid Eisteddfod Gadeiriol, ac nid Beirdd yn ol Defawd a Braint Beirdd Ynys Prydain oeddynt yn Llofft yr Hen Goleg y noson hono. Nid Pryddest ar Owain Glyndwr nac Awdl "Prydferthwch," neu "Diniweidrwydd" oedd y testyn; na, dim ond plentyn bychan pedair oed, mab i siopwr bychan yn nhref y Bala. Nid Cadair, Coron, na Thlws oedd y wobr; na, dim ond "cadach poced sidan," ac Edward Jones, Tailor & Draper, deputy superintendent David Evans yn Ysgol Sul y plant gafodd y wobr. Wn i ddim yn lle y mae y "cadach poced sidan," ond gwn yn lle y mae awdwr y penill. Y mae yn nghanol y Nefoedd er's llawer dydd, ac y mae wedi gwel'd cyn hyn y "bach penfelyn", ac y mae wedi gwel'd ei dad, yr hwn hefyd sydd "uwchlaw poen er's dros ddeugain mlynedd. Ond dyma beth oeddwn i yn myn'd i dreio ddweyd. Y mae Beirniadaeth Dr. Lewis Edwards, yr hon sydd yn awr ger fy mron, wedi ei hysgrifenu er's dros 48 o flynyddoedd, ac er mai at Gyfarfod Llenyddol llofft y Coleg yr oedd, lle nad oedd Caledfryn, Eben Fardd na Nicander yn tynu am y dorch, y mae wedi ei hysgrifenu yn drefnus a gofalus, pob sill a nodyn yn ei le. Mae'n batrwm i laweroedd yr oes hon. Y Mae rhai awduron ac ysgrifenwyr yn tybied mai arddanghosiad o ddysgeidiaeth a gallu ydyw ysgrifenu yn flêr, ac mai doethineb ydyw rhoddi mawr drafferth i wyr y wasg. Nid dyna oedd syniad y Doethawr mawr o'r Bala. Y mae genyf fi lythyr a gefais oddiwrtho mewn atebiad i un o'm heiddo fi, yn y flwyddyn 1865. Dyma fel y dechreua:—

"Daeth yr eiddoch heb ddyddiad i law."

Yr oeddwn wedi anghofio rhoddi y date, ond nid anghofiais byth wed'yn. Cafodd y wers y fath effaith arnaf fi fel y buasai yn llawer gwell genyf adael fy enw allan o lythyr na'r date. Arwyddair Dr. Lewis Edwards. fyddai "Os ydyw rhywbeth yn werth ei wneyd o gwbl y mae yn werth ei wneyd yn iawn."

CWMWL DUDEW.

Y brofedigaeth fawr nesaf oedd marwolaeth fy nhad, pan oeddwn yn brin ddeg oed, a'r hynaf o bedwar o fechgyn, gydag un chwaer ychydig hyn na mi. Newidiwyd ein holl ragolygon, a bu raid tori y cylch teuluaidd pan oedd rhai o honom yn lled ieuanc, ond gofalodd Tad yr Amddifaid a Barnwr y Weddw am danom yn lled rhyfedd. Ni fuaswn yn son am yr amgylchiad hwn eto, ond fod un digwyddiad wedi cymeryd lle yn y gladdedigaeth sydd yn newydd i'r rhai ieuengaf o'm darllenwyr. Yr oedd gryn dwrw wedi codi y pryd hyny yn mhlith Ymneillduwyr yn erbyn yr hen arferiad Pabaidd

"offrwm" mewn cynhebryngau, a'm tad a gafodd y fraint o'i gladdu gyntaf gyda chladdedigaeth cyhoeddus yn hen Eglwys Llangower heb i'r arferiad o offrwm gymeryd lle.

TROI ALLAN I'R BYD.

Cyfnod pwysig ydyw hwn yn hanes pob bachgen, gadael yr aelwyd gynes a throi allan i'r byd oer, oer, fel yr ia. Ond yr oeddwn yn llawn gobaith y cawn nerth yn ol y dydd, oblegid onid oedd y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry, a Griffith Jones, y blaenor, wedi rhoddi cynghorion da i mi yn y Seiat y noson cynt, ac onid oedd fy hen athraw Robert Jones, y gof, wedi gweddio yn daer droswyf wrth ddiweddu y Seiat? Onid oedd hefyd un o'r myfyrwyr oedd yn lletya yn nhý fy mam wedi gweddio droswyf ar y ddyledswydd deuluaidd y boreu y cychwynwn, a'm mam, fy chwaer, a'm brodyr bach, wedi addaw cofio am danaf bob nos a boreu? Oeddwn, yr oeddwn yn teimlo mor ddewr “a chawr i redeg gyrfa."

Ond nid oes dim yn y ffaith fy mod yn cychwyn oddicartref yn werth sylw, mae miloedd o fechgyn Meirion wedi gwneyd yr un peth, ac ni buaswn yn dy flino, ddarllenydd tirion, trwy gofnodi y ffaith, ond am ddau beth, sef fy mod yn cychwyn oddicartref ar y 29ain o fis Hydref, 1859, sef y diwrnod yr aeth y Royal Charter i lawr ar un o draethellau Môn. Diwrnod dychrynllyd ydoedd hwn i fachgen gychwyn ar daith o chwe' milldir ar hugain ar ben y goach fawr. Yr oeddwn yn cychwyn hefyd o gynhesrwydd y Diwygiad Mawr oedd wedi dyfod fel ton dros ardaloedd Cymru. Teimlwn yn ddigalon ar y daith. Nid ydwyf fardd, ac ni fuom erioed, neu buasai genyf destyn ardderchog pan oeddwn yn teithio trwy Ddyffryn prydferth Llangollen y diwrnod mawr hwnw. Yr oedd y gwlaw yn disgyn yn un cenllif, a'r rhuthr-wynt yn ysgytian yr hen goed ar ochr y ffordd fel yr oedd cawodydd o ddail Hydref yn disgyn ar benau y teithwyr. Ond ni theimlwn yr ystorom; oddi fewn, ac nid oddi faes, yr oedd y storm fwyaf gyda mi. Fe faddeua y darllenydd i mi am roddi y penill cyntaf a gyfansoddais erioed, a hwnw wedi ei nyddu ar ben y goach fawr y diwrnod bythgofiadwy hwnw:—

"Cyn i mi lanchio'm llestr
I ddyfnder môr y byd ,
Lle mae peryglon filoedd ,
A chroesau'n d'od o hyd ;
Da i mi fyddai cofio,
Mai'm tad sydd wrth y llyw —
Ffe yn ngwyneb ' stormydd
A all fy nghadw'n fyw ."

Rhaid i mi beidio ymdroi neu buaswn yn dweyd tipyn o hanes y tair blynedd dedwydd a dreuliais yn Nghaerlleon. Cefais un o'r meistradoedd goreu a charedicaf a gafodd bachgen erioed, sef y diweddar Mr. William Evans, Dilledydd, mab yn nghyfraith Gwilym Hiraethog, a llawer tro y cefais yr anrhydedd o gyd-eistedd wrth yr un bwrdd a'r bardd anfarwol. Hefyd, delai y ffraeth Huw Puw Mostyn i dy fy meistr, a hefyd "Y Gohebydd."

MANCEINION.

Yn y flwyddyn 1863 symudais fy mhabell i'r ddinas enwog hon, a buom yn dal cysylltiad â hi am dros ddwy flynedd ar hugain, yn ystod pa amser y daethum

yn gydnabyddus â nifer fawr o Gymry gwladgarol. Yr oeddwn yn aelod o Gymdeithas y "Cymreigyddion," yr hon a gynhelid yn Alton House. Perthynai i'r gymdeithas hon Ceiriog, Creuddynfab, Derfel, Idris Vychan, a gwladgarwyr eraill, ac y mae yn rhaid i mi ddweyd fod yn perthyn iddi Ddicshondafyddion, na chyfarfyddais rai tebyg iddynt erioed. Siaradent bob. amser yn Saesoneg, a byddai araeth Gymraeg gan un o'r Cymreigwyr yn ddiflas ganddynt. Ond mae yn dda genyf fod pethau wedi newid yn Manceinion erbyn hyn; mae'r Cymry yn dyfod allan fel un gwr gyda'i Chymdeithas "Cymru Fydd" i "Godi'r Hen Wlad yn ei hol."

Amseroedd terfysglyd oedd yn Manceinion yn y Sixties yn y byd politicaidd. Rhyddfrydiaeth oedd yn teyrnasu y pryd hyny yn mhrif ddinas y Cotwm. Nid oedd y Conservative Workingman wedi ei eni i'r byd y dyddiau hyny. Cynhaliai y Rhyddfrydwyr eu cyfarfodydd yn neuadd fawr y Free Trade Hall, ac yn yr ysgwar hanesyddol a elwir "Stephenson Square." Ond am y Ceidwadwyr, rhyw hole and corner meetings fyddai y rhai mwyaf a allent ymffrostio ynddynt. Ond erbyn hyn y mae Toriaeth wedi dyfod yn allu mawr yn mhrif ddinas Masnach Rydd. Yn awr cynhelir cyfarfodydd anferth gan y Toriaid yn y Free Trade Hall, a llenwir yr esgynlawr, ar ba un y clywyd lleisiau Cobden, Bright, Villiers, a Wilson, gan brif wleidyddwyr Toriaidd ein teyrnas. Buom yn bresenol mewn llawer o gyfarfodydd bythgofiadwy yn y Free Trade Hall, nid y lleiaf ohonynt oedd pan ddaeth Mr. Gladstone i'r ddinas ar ol cael ei droi o Rydychain, ac y llefarodd y geiriau hanesyddol "I appear before you unmuzzled." Nid cyfarfod i'w anghofio chwaith oedd y cyfarfod cyntaf y daeth Mr. Bright iddo yn Manceinion ar ol cael ei daflu allan o gynrychiolaeth y ddinas ugain mlynedd cyn hyny (gwel "Oriau gyda. John Bright.")

Yn y flwyddyn 1867 torodd allan y cynhwrf Ffenaidd, a bu gryn derfysg yn Manceinion, pryd y lladdwyd y Cwnstabl Brett tra yn myn'd a charcharor Ffenaidd i Garchardy Belle Vue. Dygwyd y llofruddion i'r ddalfa, ac o flaen y Frawdlys. Buom yn gwrando ar yr hyawdl Ernest Jones yn dadleu drostynt, ond er cymaint ei hyawdledd collfarnwyd tri o'r llofruddion. Nid ydwyf mewn un modd yn ymffrostio yn y ffaith, ond gwelais y tri llofrudd yn cael eu hyrddio i'r byd arall oddiar y crogbren. Aethym i edrych ar yr olygfa ddychrynllyd fel gohebydd i un o newyddiaduron Caernarfon. Yr oedd yn olygfa nad anghofiaf byth. Y weithred oreu a wnaeth Llywodraeth Prydain erioed oedd gwneyd i ffwrdd â dienyddiadau cyhoeddus, a'r weithred nesaf ddylai fod diddymu y gosp o ddienyddio.

Yr oedd blwyddyn 1868 yn llawn berw yn Manceinion fel yn mhob man arall trwy'r deyrnas. Yr oedd yr etholfraint dair onglog wedi cael ei gwneyd yn gyfraith y tir, a dinas y Cotwm fel Lerpwl, Leeds, Birmingham, a rhai dinasoedd eraill, wedi cael tri aelod, ond nis gellid pleidleisio ond dros ddau, felly aeth Tori i fewn ar ben y rhestr y tro cyntaf er 1832. Taflwyd Ernest Jones allan, ac etholwyd Birley, Bazley, a Bright (the three B's, fel y gelwid hwy gan bobl y ddinas). Ond rhaid i mi adael Manceinion yn y fan hon, gan fod fy meistr, Mr. Robert Roberts (brawd i'r meddyg enwog Syr William Roberts), yr hwn a adwaenir yn awr wrth yr enw Robert Roberts, Ysw., U.H., Crug, ger Caernarfon, wedi cael allan rywfodd fy mod yn ddigon o ddyn neu "bechadur" i wneyd Trafeiliwr, a gyrodd fi i Ddeheudir Cymru.

DECHREU TEITHIO.

Teithiais drwy bron bob cwmwd yn Nghymru, 'O ben Caergybi i ben Caerdydd." Y dref gyntaf i mi weithio yn y Deheudir oedd Casnewydd. Cyrhaeddais yno yn hwyr rhyw noson. Y boreu dranoeth, pan yr oeddwn yn dechreu ar fy moreufwyd, daethpwyd a'r Western Mail ar y bwrdd; agorais ef, a'r peth cyntaf a welwn oedd rhestr o'r rhai oeddynt wedi eu hethol y diwrnod cynt, ac yn eu plith Love Jones-Parry, dros Sir Gaernarfon, gyda mwyafrif o 148, a E. Mathew Richards, dros Sir Aberteifi, gyda mwyafrif o 152. Ni fuaswn yn crybwyll y ffaith hon ond am ei bod wedi digwydd fy mod yn darllen y ffigyrau uchod o oruchaf iaeth Rhyddfrydiaeth mewn dwy o siroedd mwyaf Toriaidd Cymru, yn yr ystafell hanesyddol lle y llechai ynadon Casnewydd, pan daniodd y mob Chartaidd arnynt yn y flwyddyn 1848, ac y mae ol bwledi y terfysgwyr i'w gweled ar barwydydd yr ystafell hyd y dydd heddyw.

Yn ystod deunaw mlynedd o deithio, y rhan fwyaf yn Ngogledd Cymru, gwneuthum laweroedd o gyfeillion, ac y mae y cyfeillgarwch yn parhau hyd y dydd heddyw, fel y gwelir yn neillduol yn rhestr y tanysgrifwyr at y gyfrol fechan hon. Gofod a balla i mi adrodd llawer digwyddiad dyddorol a gymerodd le yn ystod y deunaw mlynedd o fywyd teithydd masnachol. Yn y flwyddyn 1871 y digwyddodd yr amgylchiad mwyaf dyddorol a phwysig yn y cyfnod hwn, ac yn fy mywyd hefyd o ran hyny, oblegid mi a briodais wraig, un o ferched goreu Ynys Mon, yr hon sydd er's yn agos i bedair blynedd ar hugain wedi bod i mi yn gydmar ffyddlawn, ac fel angyles yn gweini arnaf gyda phob sirioldeb ac amynedd yn ystod fy mlin a'm maith gystudd, ac wedi helpu llawer arnaf i gasglu fy ADGOFION at eu gilydd. Bendith y nefoedd fyddo ar ei phen.

Y GWYNTOEDD A DDAETHANT.

Pan ar ben dwy flynedd a deugain oed, "Y llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant" ar y babell bridd hon, "a'i chwymp a fu fawr." Yn y flwyddyn 1884 ymaflodd hen elyn y corph dynol, a'r "swmbwl yn y cnawd," y crydcymalau, yn fy aelodau. Ymdrechais ymdrech dêg i ymladd â'r gelyn, ond efe a orfu. Gweinyddwyd arnaf gan rai o feddygon goreu Cymru a Lloegr, ond y gelyn a fu drech na hwynt, ac yr ydwyf er's deng mlynedd yn rhwym mewn cadwynau. Nid boddlawn gan y poenydiwr fy mhoenydio â gwiail ac ysgorpionau, rhaid iddo roddi fy nhraed yn y cyffion a'm carcharu. Ond er mai carcharor ydwyf, yr wyf yn "garcharor gobeithiol." Oblegid credu yr ydwyf y daw ymwared pan ddel yr amser cyfaddas, a hyny yr ochr yma i'r bedd. Yr ydwyf wedi cael nerth trwy'r holl flynyddoedd i fod yn llawen a siriol yn fy holl brofedigaethau, ac yr oedd i bob cwmwl a fu yn hofran uwch fy mhen "silver lining," ac erfyniaf am nerth i ddweyd hyd ddiwedd fy ngyrfa, "Dy ewyllys Di a wneler."

Dyna, yn fyr ac yn fler, ddarllenydd hynaws, "Dipyn o fy Hanes," ac yr ydwyf yn sicr y bydd i ti, o dan yr amgylchiadau, faddeu i mi am lawer o ffaeleddau sydd wedi ymlusgo i'r gyfrol fechan a gynygiaf i'th sylw.

A GAF FI FENDIO ETO?

Tra yn aros yn yr Hydropathic, yn Llandudno, am rai wythnosau yn ngwanwyn 1885, gyrais y penillion a ganlyn at fy hen gyfaill hoff, y diweddar Mr. J. D. Bryan, Caernarfon, yr hwn a fu farw yn Cairo, ac y mae ei gorph yn gorwedd yn dawel yn ngwlad y Pharoaid. Gyrodd yntau y llinellau i'r Genedl Gymreig:

A gaf fi fendio eto?
A fyddaf megys cynt,
Yn sionc fy nhroed, yn iach fy ngwedd,
Wrth fyned ar fy hynt?
A gaf fi fendio eto
O'r blinder poenus hwn,
Sy'n gwneyd fy nghalon egwan
Bron llethu dan y pwn?

A gaf fi byth ymwared
A'r crydcymalau blin
Sy'n gwneyd fy nghorphyn druan
Yn brophwyd i bob hin?
A gaf fi fendio eto,
I fyned yma a thraw,
Heb ofni gwynt y dwyrain,
Nac eira, rhew, na gwlaw?


A gaf fi daflu ymaith
Y ddwyffon hyn cyn hir?
Fe fyddai hyny'n gysur,
O byddai , byddai'n wir;
A gaf fi fendio eto
I chwareu gyda'm plant,
I ddysgu Johnny gerdded,
A'i helpu dros y pant?

A ddaw y dydd caf rodio
Yn nghwmni f'anwyl Ann?
A ddaw y fath hapusrwydd
Byth eto i fy rhan?
A gaf fi fendio eto,
I fyn'd i dŷ fy Nuw,—
I glywed yr Efengyl,
A gwirioneddau gwiw?

A ddaw y dydd caf arwain
Fy mhlant i dy fy Nhad,
A'u rhoddi ar llwybr
I fyn'd i'r hyfryd wlad?

O ! Arglwydd, ti a wyddost
Yr holl ddirgelion mawr,
Ti wyddost a gaf eto
Byth iechyd ar y llawr;
Tydi yw'r Meddyg mwya',
Ac yn dy law mae'r hawl,
Beth bynag fydd fy nhynged,
Mi roddaf iti fawl.

"YN Y TREN."

Cyflwynedig i Mr. J. W. Jones (Andronicus) yn ei gystudd, mewn atebiad i'w linellau, "A gaf fi fendio eto," yn y Genedl Gymreig.

Cei, cei, cei "fendio eto,"
A byddi "megis cynt"
"Yn sionc dy droed, yn iach dy wedd,"
Yn myned ar dy hynt ;"

Cei, cei, cei "fendio eto,"
A byddi yn llawn gwên,
A'th "galon egwan" megys cynt,
Yn llawen "Yn y Trên."

Cei , cei, ti gei ymwared
"O'r crydcymalau blin,"
A bydd dy "gorph prophwydol" gwan
Yn canu'n iach i'r hin;
Paid ofni na chei "fendio"
Cyn iti fyn'd yn hen,
Cawn dy gyfarfod cyn bo hir
Fel prophwyd "Yn y Trên."

Cei, cei, cei "daflu ymaith"
"Y ddwyffon" cyn bo hir,
A byddi'n iach a heinyf fel
Tywysog yn y tir;
Ti fyddi eto'n chwareu
A"Johnny" yn llawn gwên,
A Chymru'n darllen hanes taith
Y gwr sydd "Yn y Trên.”
 
Daw, daw, daw'r dydd cei "rodio"
"Yn nghwmni'th anwyl Ann,"
Yn llawn hapusrwydd fel o'r blaen,
Yn holliach yn y man;
Cei "wrando yr Efengyl,"
A'i "thrugareddau hen,"
A chodi'th lais yn erbyn trais,
Fel arfer, "Yn y Trên."

Cyn hir ti fyddi'n "arwain"
"Dy blant i dŷ dy Dad,”
"A'u rhoddi ar y llwybr" iawn
"I fyn'd i'r hyfryd wlad;"
Mae Duw a'i nodded drosot,
Er iddo guddio'i wên,
Daw'th ddymuniadau oll i ben
Cei "foli" "Yn y Trên.

Everton.

S. DARON JONES


OS NA CHEI FENDIO ETO.

Ar ol darllen llinellau Andronicus yn y Genedl yr wythnos ddiweddaf, ar y testyn "A gaf fi fendio eto," fel hyn yr ysgrifena Mr. W. O. Roberts (Madryn), The Groves, Caerlleon.

Os na chei yma, gyfaill,
Yr adeg fel y bu,
Os na chei di ymadael
A'r crydcymalau du;
Os na chei wel'd, a theimlo,
A llwyr fwynhau iachad,
Er hyny cei ymddiried
Dy enaid i dy Dad.

Os na chei rodio'n heinyf
Ar lanau'r Fenai fwyn,
A theithio oddiamgylch ogylch
Drwy Gymru yn ddigŵyn;
Os na chei ysgrifenu
Y llithoedd gwresog byw,
Mae eto ar dy gyfer
Drysorau gras ein Duw.

Os na chei eto ddarbod
Am dy anwyliaid llon,
A bod yn amddiffynydd
I'r fun roes iti fron;
Os na chei borthi bychain
Diaddysg Arfon dre',
Gofala'r Nef am gigfran
I'w porthi yn dy le.

Os na chei eto fendio
A rhodio is y rhod,
Mor iachus, sionc, a heinyf,
Fel buost ti erioed;
Cei foli'r Iôr mewn blinder
A llawnder mawr o nerth;
Fe gân y fron dan gystudd,
Fel eos yn y berth.


Os cei di eto fendio
A rhodio i Seion lân,
Gan lawen foli'r Iesu
Mewn geiriau pert a chân;
Fydd hyn ond dros fyr amser,
'Dyw einioes dyn ond brau,
Ein dyddiau cysgod ydynt,
Cawn fyned adre'n glau.

Ond p'am na chei di fendio,
A ph'am dioddefi'n awr,
A thithau'n gyfaill ffyddlon
I'r Iesu'r meddyg mawr?
Y dall, y mud, a'r byddar,
A'r cloff iachaodd Ef;
O Iesu, iachâ Ioan,
A gwrando ar ei lef!

MADRYN.





Nodiadau golygu