Adgofion am Goleufryn

Adgofion am Goleufryn

gan Evan Williams, Llanfrothen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards

O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol XV, Rhif 89, 15 Rhagfyr 1898, tudalen 252—255

Adgofion am Goleufryn.

NID wyf yn honni ond un cymhwysder i ysgrifennu y nodiadau hyn am Goleufryn, sef fy mod wedi fy magu mewn dwy ergyd carreg iddo, ac wedi bod lawer yn ei gymdeithas am y deng mlynedd a'r hugain cyntaf o'i oes.

Ganwyd ef yn Ty Isaf, yn ymyl eglwys blwyfol Llanfrothen, ym Mai, 1840. Enw ei dad oedd Richard Jones, gwr o alluoedd naturiol cryfion, ond a fu farw pan nad oedd ei unig fachgen ond chwech wythnos oed. Efe fyddai yn dechreu y canu yn Siloam. Yr oedd ei fam, Ann Jones, yn chwaer i Robin Tecwyn Meirion, bardd tlws a phur adnabyddus yn ei amser. Gwelir felly ei fod yn hannu o deulu athrylithgar o'r ddwy ochr.

Yn lled fuan wedi marwolaeth ei phriod, aeth ei fam i gadw ty'r capel, Tanygrisiau, Ffestiniog, gan adael ei bachgen bychan i ofal ei ewythr, brawd ei dad, John Williams, Bryngoleu, blaenor o radd dda a phur adnabyddus yng ngorllewin Meirionnydd. Ymhen tua chwe blynedd y mae ei fam yn ymfudo i'r America gyda'i dwy eneth fechan, hŷn nag ef, ac yn ei adael ef yng ngofal ei ewythr. Diau y gwyddai ei fam yn dda y cawsai pob chwareu teg gan ei ewythr a'i nain, Sian Jones, coffa da am dani,—cyn y buasai yn meddwl ei adael ar ol; ac felly yn sicr y bu. Cafodd gartref rhagorol gan Sion Wiliam a Sian Jones, ac y mae yn bur sicr na fuasai yn dod i'r safle y daeth oni bai am ddylanwad ei gartref. Cafodd ddigon o bethau y byd hwn heb fawr o'i foethau; ond cafodd beth gwell, cafodd esiampl ac addysg grefyddol ragorol. Yr oedd ganddo feddwl uchel iawn o'i ewythr ar hyd ei oes, ac anaml y bu neb yn fwy hoff o'i dad nag ydoedd ef o'i ewythr; a darfu iddo ymddwyn yn anrhydeddus ato wedi iddo fyned i henaint a llesgedd.

Saer coed oedd ei ewythr, a dysgodd yntau yr un alwedigaeth, a chydag ef y bu nes yr oedd tuag ugain oed. Ond clywais ef yn dweyd na roddodd ei fryd ar ddysgu y gwaith, ac na feddyliodd am ddilyn y gwaith ar hyd ei oes. Modd bynnag, bu yn dilyn y gwaith yma nes yr oedd yn bump ar hugain oed, ac yr wyf yn gwybod am lawer o ddodrefn o'i waith mewn gwahanol fannau yn yr ardal. Tua'r flwyddyn 1861 aeth i Borthmadog i weithio at Meistri J. H. Williams a'i feibion, a bu yno am rai blynyddau. Yma y dechreuodd ei duedd lenyddol ymddadblygu. Yr oedd wedi darllen pob llyfr y caffai afael arno cyn gadael cartref. Darllennai yn ddidor bob hamdden a gaffai, a pharhaodd felly ar hyd ei oes. Anaml y gwelid ef yn bwyta pryd o fwyd heb lyfr yn ei law. Tra yn aros ym Mhorthmadog cyfansoddodd amryw draethodau, a byddai yn fuddugol bron bob amser. Un o honynt oedd ar "Ffeiriau Cymru," yr hwn a ymddanghosodd yn ben- odau yn yr Herald Cymraeg. Cyhoeldwyd traethawd arall iddo, nad wyf yn cofio y testyn, yn y Cylchgrawn, cyhoeddiad misol yn dod allan yn y Dehau, o dan olygiad Edward Mathews. Clywais ei fod ef a phregethwr arall, sydd yn fyw, yn gyd-ymgeiswyr ar draethawd ym Mhorthmadog, ac mai John Owen Ty'n Llwyn oedd y beirniad. Cydmarai Mr. Owen y ddau. ymgeisydd, neu y ddau gyfansoddiad, i ddwy long yn dod i mewn i'r porthladd, un yn llestr prydferth anghyffredin, ac yn ei llawn hwyliau, a'r llall yn rhyw smack pur ddiolwg, ond fod llwyth yr olaf bron mor werthfawr a'r cyntaf. Prin y mae eisieu dweyd pa un o'r ddau oedd Goleufryn. Onid oedd tlysni yn un o nodweddion amlycaf ei feddwl? Yr oedd yn llenor gwych a phur adnabyddus cyn dechreu pregethu, ac yn fwy enwog fel llenor nag fel pregethwr am y rhan gyntaf o'i fywyd cyhoeddus, os nad felly ar hyd ei oes.

Ym Mhorthmadog y dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1865. Nis gwn paham y bu iddo ddechreu ym Mhorthmadog yn hytrach nag yn Llanfrothen. Mae yn wir mai yn y lle cyntaf y trigiannai yn awr ers ysbaid, ond byddai yn dyfod adref yn lled aml i dreulio y Sabboth gyda'i ewythr, a gallasai gael dechreu yn Llanfrothen mor rwydded ag yn y Porth. Modd bynnag, ym Mhorthmadog y dechreuodd, ac aelod o Gyfarfod Misol Lleyn ac Eifionnydd fu nes y symudodd i Lanrwst. Ond bu ei gyfeillion yn Llanfrothen yn bur garedig wrtho. Rhoddasant anrheg o yn agos i ddeg punt iddo, pan oedd yn y Bala. Mae hanes yr anrheg yma i'w weled yn y Drysorfa am Tachwedd, 1868, a themtir fi i'w roddi i mewn yma. Dyma'r hanes,

"SILOAM, LLANFROTHEN,—ANRHEG I BREGETHWR IEUANC."

"Yng nghanol ein trafferth gydag adeiladu addoldai prydferth, y fugeiliaeth, a phethau da ereill, mae yn berygl i ni ollwng dros gof ein dynion ieuainc sydd wedi ymaflyd yn y weinidogaeth, a pheidio darparu ar eu cyfer pan yn ymdrechu cyrraedd gwybodaeth ac addysg trwy lawer o anfanteision. Yr ydym yn credu y dylai eglwysi ein gwlad gymeryd mwy o sylw o hyn. Mae yn ddiamen fod llawer o fechgyn ieuainc talentog wedi dioddef llawer o dlodi tra yn yr athrofa, ac wedi gorfod pryderu llawer, yr hyn oedd yn rhwystr iddynt fyned ymlaen gyda'n haddysg. Ond y mae yn dda gennym weled rhai eglwysi yn cymmeryd sylw o hyn, ac yn gweithredu yn sylweddol. Felly y gwnaeth eglwys weithgar Llanfrothen y tro hwn. Gwrthrych yr anrheg hon oedd Mr. W. R. Jones (Goleufryn), sydd yn Athrofa'r Bala bellach ers dros ddwy flynedd; ac, yn ol fel yr ydym yn clywed, yn dyfod ymlaen yn rhagorol yno. Dechreuodd bregethu ym Mhorthmadog, oherwydd mai yno yr oedd yn aros ers rhai blynyddau. Ond yr oedd eglwys Llanfrothen yn teimlo mai un o'i phlant hi ydoedd; ac yr oeddynt yn teimlo mai ei dyledswydd oedd gwneuthur rhyw arwydd sylweddol o'u parch a'u hanwyldeb tuag ato yn ei ymdrech am addysg paratoadol i'r weinidogaeth. Felly penderfynwyd rhoddi cyfleusdra i bob gwr ewyllysgar ei galon i fwrw yr hyn a allent i'r drysorfa hon; ac y mae yn hyfryd gennym hysbysu fod y cynnyrch tua deg punt. Deallwn i eglwys Porthmadog (Tabernacl) wneuthur anrheg gyffelyb iddo pan oedd yn dechreu pregethu. Nid oes gennym ond dymuno ei lwyddant."

Ym Mehefin y flwyddyn hon, sef 1865, aeth i ysgol Clynog, yr hon a gedwid y pryd hynny gan yr anwyl Dewi Arfon, a bu yno am flwyddyn, sef hyd Mehefin, 1866. Wele ran o lythyr a anfonodd yn lled fuan wedi iddo fyned yno.

"Grammar School, Clynog,
"Gorff 7. 1866.

"Anwyl Gyfaill,—Wele fi, ar ol maith ddistawrwydd, yn anfon gair atat, gan obeithio y bydd iddynt dy gael yn iach fel y maent yn fy ngadael innau. O'r diwedd dyma fi yng Nghlynog—dyma yr hyn a fu am gymaint o amser yn ddrychfeddwl o'r diwedd wedi ei sylweddoli mewn ffaith. Yr wyf yn hoffi y lle yn fawr, ac yn neillduol yr ysgol; er nad oes yma ryw lawer o fanteision i ddysgu, oni wna dyn feddwl am ddysgu; ond i'r dyn penderfynol y mae mae pob lle yn gyffelyb. Nid oes yma le i neb ond a fyddo yn meddwl o ddifrif am ddysgu, ac nid dysgu yn yr ysgol yn unig, ond dysgu fore a hwyr, a dyma yr adegau y mae yn bosibl dysgu mwyaf o lawer. Mae yma gryn lawer o ysgolheigion yn awr, ond y mae yn debyg yr aiff llawer o honynt i ffordd yn fuan. Yr wyf wedi bod yn ymddiddan ag amryw yn yr un amgylchiadau a thithau, a thystiolaeth pob un o honynt oedd fod yma le campus i ddechreu am ryw gyfnod, pe buasit yn meddwl myned i rywle arall wedyn. Ac felly yr wyf yn disgwyl caf dy gwmpeini yma y gauaf dyfodol, os byddwn byw.

Bydd yn rhaid i mi gael tipyn o hanes Cymanfa Liverpool gennyt yn dy lythyr nesaf.—pwy oedd y prif ddynion a glywaist, a phwy oedd yn myned oreu, pa fodd yr oeddit yn teimlo yn Liverpool, a brynaist ti lawer o lyfrau. Dyna i ti ddigon o gwestiynau erbyn y tro nesaf. Yr wyf yn disgwyl cael beirniadaeth deg a diduedd ar y traethawd. Paid ti a gadael i'th deimladau cyfeillgar â mi ddallu dim ar dy allu beirniadol. Bydd yn onest.

"Brysia anfon yn ol ataf. Cofia fi at dy dad a'th fam, a'r teulu yna i gyd. Dywed wrth fy modryb Bryngoleu am wneyd i fy ewythr ysgrifennu ataf pan gaiff amser.—Yr eiddot hyd dranc,

W. R. JONES."

Ymroddodd i ddysgu yma a gwnaeth gynnydd mawr iawn. Nid oedd yn gryf iawn mewn rhif a mesur, ac nid oedd ganddo fawr o flas arnynt. Ond yr oedd yn gryf a chyflym mewn canghennau ereill. Hoffai Glynog yn fawr, a theimlai yn hollol gartrefol yma. Cafodd le cysurus i aros, sef Cileoed, gyda John Owen, a'i fam a'i chwaer, pobl hynod garedig, fel y gŵyr ugeiniau fu yn aros yno. Dyma ei gyd-ysgolheigion, mor bell ag y cofiaf hwy—y Parchn. J. Williams, Caergybi; J. J. Roberts (Iolo Carnarvon); Dr. Joseph Roberts, New York; R. Humphreys, Bontnewydd; J. R. Williams, Rhyd Bach; J. Williams, Dwyran; D. Roberts, Abererch; J. Owen, Dublin (Criccieth); Moses Jones, Bala; R. V. Griffith, America; y diweddar R. Roberts, Morfa Nefyn; W. Roberts (Gwyddno); ac Edward Roberts, Llanfairfechan,—coffa da am dano, gyda'i droion digrif a diniwed.

Yn Gorffennaf, 1866, safodd yr arholiad am fynediad i Athrofa'r Bala, ac yr oedd yn bedwerydd ymysg pedwar ar bymtheg.

Wele ran o lythyr a anfonodd newydd iddo gael canlyniad yr arholiad.

"Cilcoed, Clynog,
Awst 6, 1866.

"Anwyl Gyfaill,— Yr wyf newydd gyrraedd yma trwy lawer o wlaw. Penderfynais beidio myned i Harlech oherwydd y gwlaw. Erbyn i mi fyned i fyny i'r Garth at Mr. Owen yr amser honno oddiwrthyt ti yn y Port, yr oedd wedi cael llythyr oddi wrth y Parch. G. Parry (Dr. Parry, Carno), yn cynnwys result yr examination yn ei pherthynas â mi. Yr wyf fi yn 4ydd o'r 19eg. Dyna sicrwydd am pum punt. W. J. Williams, Llanrwst, yw y cyntaf. Nis gwn pwy yw yr ail; J. Roberts, Corris (Dr. Roberts (Kassia), yn 3ydd; a'r "Disgybl arall" yn 4ydd; R. Humphreys (Bontnewydd), yn 5ed, ac nis gwn pwy oddiyno ymlaen, hyd yr 8fed, hwnnw yw J. Williams, Capel Curig (Caergybi). Dyna i ti ychydig nes y caf dy weled. Cofia fyned i Bryngoleu i ddweyd yr helynt yma."

Aeth i'r Bala ar agoriad y coleg ar ol gwyliau yr haf, a bu yno am dair blynedd. Gweithiodd yn egniol tra y bu yno, a safodd yr arholiadau blynyddol yn anrhydeddus, heb fod yn uchel iawn, nag yn isel. Cwynai yn aml newydd iddo fyned yno, fod y gwaith yn fawr iawn, a'i fod yntau yn ddiffygiol mewn dau beth oedd yn hanfodol i'w lwyddiant colegawl, sef addysg foreuol dda, a chof cryf a gafaelgar. Gwir yw na chafodd addysg foreuol dda, ac y mae yn syn ei fod yn sefyll mor uchel ac ystyried ei fanteision boreuol. Ond am ei gof, ni ddylasai gwyno, yr oedd ganddo gof gafaelgar iawn. Prawf o hynny yw ei fod yn hanesydd rhagorol, ac yn ddyn o wybodaeth eang iawn. Safodd yn gyntaf yn ei ddosbarth un flwyddyn mewn hanes. Wele ran o lythyr oddiwrtho yn lled fuan wedi iddo fyned i'r Bala.

"Victoria House, Bala,
Medi 24, 1866.

"Anwyl Gyfaill, Derbyniais dy lythyr a'r llyfr ddydd Sadwrn, ar ol hir ddisgwyl am air oddiwrthyt, ne nis gallaf fynegu i ti pa mor dda oedd gennyf ei gael. Mae gair oddiwrth gyfaill i mi ar hyn a bryd, fel dyfroedd oerion i enaid sychedig.' Nid wyf wedi rhyw gynefino yma eto mor dda ag yng Nghlynog, ac y mae yn ddiameu nad allaf wneyd. Yr wyf yn credu yn benderfynol mai yr amser hwnnw a dreuliasom yng Nghlynog oedd yr amser difyrraf a welaf fi beth bynnag

"Am yr efrydiau, digon cloff yr wyf fi yn teimlo fy hunan gyda hwynt eto. Yr wyf yn teimlo fy hun ar ol yn fawr iawn gyda dysgu efrydu, dyna y peth mawr pwysig. Y mae yma eisieu cof fel uffern o'r bron. Gwaith mawr efrydiaeth y Bala yw dysgu allan, a chofio yr hyn a ddysgir allan. Ofer i neb ddod yma i feddwl rhagori, heb gael dau beth arbennig, sef bod wedi cael addysg dda yn ieuanc, ac hefyd, medda cof eang a chryf. Dyma y ddau beth wyf fi yn deimlo yn fwyaf diffygiol gyda mi. Yr oeddwn yn meddwl fod gennyf gof lled dda pan yng Nghlynog, ond yr oedd y tasgau yno fel teganau plant yn ymyl y rhai hyn. Beth feddyliet ti am roi pum tudalen o Latin Grammar, a dwy exercise yn y Latin book, a hanner pennod o History of England, i'w dysgu mewn un noswaith? A'u dysgu allan raid, neu ynte eu dysgu mor drylwyr nes gwybod beth yw eu cysylltiad oll. Y mae yr hen Ddoctor yn traddodi darlith i ni bob nos Wener am bump o'r gloch, on Ethics and Christianity, ac y maent yn gampus iawn. Rhaid i mi eu hysgrifennu bob un, yn gymaint ag y cawn ein haroli ynddynt.

Brysia anfon gair yn ol i mi. Na hidia fod heb ddim newyddion. Gwell gennyf gael llythyr yn lled aml, pe na byddai nemawr ynddo. Cofia fi at deulu Bryngoleu, a'r teulu yna, a thithau.—Dy gyfaill, "GOLEUFRYN."

Tra yn y Bala ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Cylchgrawn. Daeth trwy hyn yn bur adnabyddus yn y Dehau yn bur gynnar ar ei fywyd. Bu am daith fechan yno yn pregethu tua'r adeg yr oedd yn gadael y coleg. Canlyniad hyn oedd iddo gael cymhelliad taer i fyned yn weinidog i Lanelli. Ond trwy ddylanwad amryw gyfeillion, a gogwyddiad ei feddwl ei hun, o bosibl, penderfynodd beidio derbyn yr alwad. Derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Ty Mawr, Bryn Mawr, Pen y Graig, a Rhyd Bach, Lleyn. Ymsefydlodd yno yn Hydref, 1869, a bu yno am yn agos i bedair blynedd. Yn 1873, cafodd alwad i fugeilio eglwysi Seion a Bethel, Llanrwst. Yn y flwyddyn hon hefyd y priododd â Miss Rowlands, Poplar Cottage, Pen Llwyn, Aberystwyth, boneddiges yn meddu llawer o rinweddau, a diameu iddi fod yn gymorth mawr iddo i gyflawni ei waith. Bu yn Llanrwst am saith mlynedd, yn gymeradwy iawn, ac yn ennill tir yn barhaus fel llenor a phregethwr. Tra yn aros yma ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Traethodydd a chyhoeddiadau ereill. Yr oedd yn un o'r gweinidogion mwyaf llafurus. Gosododd nod uchel i'w fywyd, ac, er iddo gyrraedd yn uchel, mae yn bosibl iddo gael ei gymeryd ymaith cyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae ei hanes oddiyma ymlaen yn lled hysbys, sef ei arhosiad yng Nghaergybi am bedair blynedd ar ddeg, lle yr oedd yn gymeradwy iawn, ac yn parhau i ennill tir; a'i arhosiad diweddaf yng Nghaernarfon, lle y diweddodd ei yrfa yn orfoleddus Gorff. 11, 1898, yn 58 oed.

Mae arnaf awydd gwneyd ychydig sylwadau arno fel llenor a phregethwr cyn diweddu, gan hyderu na wnaf gam ag ef nag a'r gwirionedd. Credaf y cydnabyddir ei fod yn un o lenorion blaenaf y genedl. Yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang anghyffredin. Darllennai y pethau goreu yn Saesneg a Chymraeg. Dywedai un gwr craff ei fod yn un o'r rhai mwyaf cyfarwydd mewn llenyddiaeth Seisnig hyd yn oed pan yn y Bala. Aeth ymlaen yn y cyfeiriad hwn ar hyd ei oes. Yr oedd ei chwaeth yn hynod bur. Yr oedd ganddo gyflawnder o iaith, a gallasai hyn fod yn elfen o berygl iddo heb wyliadwriaeth. Diau ei fod yn un o'r ysgrifenwyr Cymraeg goreu. Gwn iddo ddarllen llawer ar rai o'r clasuron Cymreig yn gynnar ar ei fywyd. Dywedai Llyfrbryf, yr hwn sydd yn awdurdod uchel ar hyn, fod ei frawddegau "mor ystwyth a gwiail helyg." O bosibl ei fod yn fwy adnabyddus fel llenor nag fel pregethwr. Bu yn hwy nag y disgwyliem yn dyfod i'r front fel pregethwr. Ond yr oedd ers blynyddau wedi dyfod yn boblogaidd, a galwad mawr am dano. Ac nid poblogrwydd israddol, ac o fyr barhad ydoedd, ond y math uchaf ohono, wedi ei ennill yn hollol deg trwy lafur cyson a diflino. Hwyrach na fyddai yn iawn ei alw yn bregethwr mawr, mewn un ystyr o'r gair. Mewn un ystyr nid oedd Mr. Spurgeon yn deilwng i'w gydmaru â John Foster, neu Robertson o Brighton; mewn ystyr arall yr oedd yn fwy. Ofer disgwyl am dalpiau mawrion o feddyliau gan Mr. Spurgeon, neu Dr. Talmage os mynner, ond yr oedd ganddynt rywbeth arall llawn mwy gwerthfawr i gymeryd gafael mewn pob math o ddyn. Gellid dweyd yr un peth am lawer o hen bregethwyr enwog Cymru. Nid deall yw yr oll o ddyn, er mor werthfawr yw y gallu yma. Mae ganddo serchiadau, mae ganddo ddychymyg, ewyllys, a chydwybod; ac y mae yn bwysig i siaradwr allu cynhyrfu y galluoedd hyn. Byddaf yn meddwl fod llawer o ffolineb yn cael ei siarad wrth son am bregethwr mawr. Yn ol rhai, nid oes neb yn bregethwr mawr os na fydd yn galla dweyd gwirioneddau tywyll ac athronyddol, ac yn ymylu ar fod yn anealladwy. Nid wyf yn tybio fod meddwl Goleufryn o duedd athronyddol. O leiaf nid hyn oedd ei nerth mwyaf, ac ni welid llawer o hyn yn ei ysgrifeniadau na'i bregethau. Ond yr oedd cryn lawer o'r bardd ynddo, er na chyfansoddodd fawr, os dim barddoniaeth. Yr oedd ganddo ddychymyg byw iawn. Yr oedd ganddo lygaid i weled y prydferth a'i ddangos i ereill. Medrai bregethu yn ddyddorol, dawn sydd yn brin y dyddiau hyn,—nid yn ddifyr a feddyliaf. Credaf fod gwahaniaeth rhwng y ddau ddull. Mae yn bosibl dweyd man hanesion cynhyrfus a hanner gwir i ddifyrru rhyw fath o bobl. Yr oedd Goleufryn yn bell iawn oddiwrth y dosbarth yma. Yr hyn a olygaf yw gallu i osod y gwirionedd mewn dull byw, swynol, a fresh o flaen y gwrandawyr, meddu digon o illustrations, &c., i egluro a phrydferthu y gwirionedd. Ac onid dyna nod angen y pregethwr yn yr oes fasnachol a gwyddonol hon,—gallu gosod y gwirionedd mewn dull mor fyw a swynol nes peri i'r gwrandawr anghofio byd yr arian a byd gwirioneddau sychion gwyddoniaeth ac uchfeirniadaeth? Yr oedd Goleufryn yn lled gryf yn y cyfeiriad yma, nid fel y corwynt, yr hwn sydd yn ysgubo popeth o'i flaen, ond fel yr awel dyner, falmaidd, ac adfywiol—fel y gwlith tyner a ffrwythlon, fel y blodeuyn prydferth a phersawrus.

Llanfrothen.EVAN WILLIAMS.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.