Adgofion am John Elias/Pennod II

Pennod I Adgofion am John Elias

gan Richard Parry (Gwalchmai)

Pennod III

PENNOD II.

JOHN ELIAS MEWN CYMDEITHASFA

YN y bennod flaenorol, mynegwyd na amcenid yn y nodiadau hyny ddim yn amgen na gosod ger bron ychydig o adgofion am Mr. Elias. Felly y waith hon, ni chynnygir at ddim chwaneg na gosod ar lawr ychydig o adgofion am dano mewn argraffiadau a lynasant yn y meddwl ac ar y teimlad, ac sydd mor fyw heddyw a phe buasai yr amgylchiadau y cyfeirir atynt wedi cymmeryd lle ddoe—fel y byddont ar gof a chadw i'r rhai a'i clywsant, ac fel rhyw awgrym i'n darllenwyr ieuainc, na welsant ac na chlywsant ef erioed, yn mha bethau yr oedd ei brif hynodrwydd—yn mha fodd yr oedd yn gwahaniaethu oddi wrth ereill, ac yn tra rhagori ar bawb. Sylwedd ein nodiadau y tro hwn fydd, adgofion am dano yn anerch y dorf ar y maes, ac yn cadw addoliad teuluaidd yn y man y llettyai, mewn cymmanfa yn Môn. Yr oedd efe yn arferol o rybuddio y gynnulleidfa yn nghylch iawn ymddygiad a moesau da yn y cynnulliadau hyn bob blwyddyn, y noswaith gyntaf o'r cyfarfod ar ol y bregeth; ac yr oedd ei anerchion bob amser yn tynu sylw anarferol yr holl dorf, ac yn ffurfio un o ranau mwyaf arbenig y cyfarfod. Tua deng mlynedd ar ugain yn ol, y cyfarfod mwyaf dyddorol a dylanwadol ar hyd y flwyddyn yn Môn, oedd y sassiwn, neu y seiat fawr, fel ei gelwid ychydig o flyneddoedd cyn hyny. Gallesid galw y sassiwn y pryd hwnw yn gyfarfod cenedlaethol, mewn gwirionedd, heb arfer gormodiaith: o blegid yr oedd yr holl wlad yn talu math o warogaeth iddi. Hi oedd yr uchel-ŵyl gyfarfod i bawb, o bob gradd. Yr oedd yn rhaid fod Ierusalem yn dangos golygfa hynod ar brif wyliau yr Iuddewon gynt. Yr oedd y gwrywiaid yn cyrchu yno o bob parth o'r wlad, fel yr oedd holl heolydd y dref yn orlawnion o ddyeithriaid yn mhob man: yr oedd y gwerthwyr durturod a chywion colomenod yn llanw un heol, a'r cyfnewidwyr arian yn llanw heol arall. Yr oedd tynfa y dorf yn ferw yn yr un cyfeiriad, tua y porth deheuol; ac yr oedd y lluaws yn cael eu britho gan ddillad cochion y milwyr Rhufeinig yn mhob parth, a swn eu tabyrddau a'u chwibanoglau yn swyno clustiau yn mhob petryal, a thrwst diorphwys yn mhob cwr yn cyffroi y lle drwyddo draw. Ond pa mor uchel bynag oedd y cyffro yno, nid oedd yn fwy felly nag yn y sassiwn yn Môn. Yr oedd y cynnulliad yn lluosog iawn. Nid oedd poblogaeth y sir y pryd hwnw uwch law deugain mil; ac fe ellir sicrhau fod y bedwaredd ran o honynt yn bresennol yn un o'r cyfarfodydd hyn. Ugain mil oedd cyfrifiad cyffredin y werin; ond yr oedd yn rhaid fod y cyfrifiad hwnw yn gyfeiliornus iawn. Nid oeddynt yn gyffredin dros saith mil; ond ar un amgylchiad neillduol, cyrhaeddodd ddim llai na deng mil. Ar y tro y cyfeirir ato yn awr, darfu i'r Parch. Richard Llwyd, o Beaumaris, gyfrif penau y bobl ar hyd a lled y dorf; ac wrth eu lluosogi yn nghyd, yr oedd yn eu cael yn 12,000, fel y gwelid yn y ffugrau a ysgrifenodd yn y llyfr hymnau ar y pryd. Ond, a chyfrif fod sefyllfa y dorf yn grwn, ac nid yn ysgwâr, ni ellir sichrau fod yno dros ddeng mil. Ond yr oedd y cyfrif hwn yn ddirfawr, pan ystyrir ei gyfartaledd â nifer trigolion yr holl wlad; ïe, yr oedd yn fwy ddwy waith nag a welwyd erioed ar unwaith yn Exeter Hall yn Llundain.

Yr oedd y dref mewn cyffro mawr er ys pythefnos yn mlaen. Yr oedd pob tŷ yn cael ei adgyweirio, yr oedd pob heol yn cael ei gwyngalchu, yr oedd pob annedd yn cael ei glanhau, ac yr oedd pob ystafell yn cael ei thrwsio; ïe, gallesid dyweyd am yr holl dref, "Yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon."

Cymmerid maes at bregethu, a maes arall at geffylau y pregethwyr a'r blaenoriaid; a mawr fyddai y drafferth o rwymo ffrwyni, a nodi cyfrwyau, a gwarchod yr ysgrubliaid. Yr oedd cryn bryder bob amser wrth ddethol y maes pregethu, ac yn nghynlluniad a sefyllfa y pulpud, ac yn y rhagbryderu a fyddai am gael hin deg ar gyfer yr ŵyl fawr. Byddai ymholi mawr pwy fyddai y pregethwyr dyeithr a ddysgwylid i'r wlad, ac yn enwedig pwy o'r Deheudir. Yr oedd swyn mawr mewn cyhoeddiad gwr dyeithr o'r Deheudir y pryd hwnw. Byddai son uchel am gyhoeddiadau y dyeithriaid ar hyd y cymmydogaethau drwy y wlad y nosweithiau blaenorol i'r cyfarfod: ac fel hyny, byddai yr holl ynys drwyddi yn siglo yn mhob man, a'r cyfan yn cydeffeithio er tynu nifer o wrandawyr o bob plwyf, a phob tref, ac o bob cilfach a glan i'r gymmanfa fawr. Ond ar fore y cyfarfod, drwy yr holl drafferthion i gyd, a thrwy y dysgwyliadau oll, y gofyniad mynychaf a glywid oedd, "A ydyw John wedi dyfod?" A phan y deuai, byddai llygaid pob dyn arno, drwy ferw y dyddiadur, a'r cyhoeddiad, a'r gwr dyeithr, a'r siglo llaw, a'r cyfarch, i gyd. Yr oedd hyd yn oed yr olwg arno, yn ei ymddygiad boneddigaidd, a'i ddillad glân trefnus, yn ei glôs pen glin, a'i hosanau duon meinion, yn hynod o ddengar, ac yn sicr o dynu sylw pawb; ac yr oedd yr holl amgylchiadau hyn fel pe buasent yn ymuno i greu dysgwyliad, a phryder, a theimlad byw, erbyn ymgyfarfod yn yr oedfa gyhoeddus ar y maes eang. Bellach, y mae y gyfeillach ddau o'r gloch wedi myned drosodd. Y mae penderfyniadau wedi pasio yno ag sydd yn sicr o gario mwy o ymofyniad a dylanwad ar y wlad na dim a ddaeth o chwarter sessiwn erioed! Y mae yr awrlais newydd daro pump o'r gloch; y mae yn bryd cyrchu at y maes. Y mae yr holl heolydd yn orlawnion o ddyeithriaid, er nad yw hi ond nos gyntaf y cyfarfod. Pa beth, attolwg, sydd yn codi y fath deimlad y nos gyntaf? Anerchiad John Elias yn ddiau sydd yn codi yn y nifer mwyaf y teimlad penaf oll. Y mae yr heol uchaf yn ddu o bobl—pawb yn symmud yn mlaen yn yr un ffordd, ac yn cyfeirio at y maes; rhai yn cludo eu cadeiriau, a'r lleill yn cario eu hystolion. Mae yr oedfa wedi dechreu; y mae y bregeth gyntaf drosodd: gwan yn gyffredin fyddai hono, mewn cyferbyniad â rhyw un ragorol a geid gan ryw hen wron ar ei hol. Mae un o hen gawri y Deheudir yn bresennol y tro hwn, ac i bregethu ddwywaith, sef y nos gyntaf a dau o'r gloch dranoeth.

Mae ei bregeth yr awr hon yn gampus, ac yn cael ei thraddodi yn ddedwydd, ac y mae teimladau hynod yn cael eu cynnyrchu drwy yr holl dorf wrth ei gwrandaw.

Bellach, dyma adeg yr anerchiad wedi dyfod. Mae Mr. Elias yn codi i fyny, ac yn nesau at y ddesg. Mae yn edrych o amgylch dros yr holl dorf, ac fel pe byddai yn tremio yn graff drwy bob wyneb hyd y galon ag sydd ger ei fron ar bob llaw. Y mae â'i anadl yn tynu ei fochau i mewn dan ei arleisiau uchel: y mae yn cyfeirio à'i fys ddwywaith at ryw fanau yn y dorf sydd yn sibrwd mewn tipyn o aflonyddwch, nes y mae pawb mewn mynyd mor llonydd a'r delwau ar y pared—ond y mae efe heb agor ei enau eto. O'r diwedd, y mae gwen serchus yn gwisgo ei wyneb, ac yna y mae yn dechreu llefaru :—"Y mae genyf air neu ddau i'w dywedyd cyn i neb syflyd o'i le. Nid yw hi eto prin chwarter wedi saith o'r gloch: ni raid fod brys ar neb; y mae hi yn hirddydd haf. Yr wyf wedi deall er ys meityn ar wyneb y dorf fod pawb yma heno fel pe byddai yn teimlo fod y nefoedd yn ein hymyl. Mae gweision y Duw Goruchaf yn llaw eu Meistr. Mae yn eglur eu bod wedi eu gwisgo â nerth o'r uchelder yn barod. Y mae udgorn bloedd brenin yn y gwersyll. Yr ydym wedi clywed a gweled pethau anhygoel heno. Clywsom drwst crack yn muriau Iericho, a gallwn yn hyderus ddysgwyl gweled yr hen furiau yn garneddi ar lawr cyn nos yfory; ac ni a gawn weled hyny hefyd yn sicr oni bydd i rywbeth ynom ni, neu yn ymddygiad y dorf, neu y dref, dristäu yr Ysbryd. Gan hyny, er mwyn gwerth eneidiau a all fod yn yr esgoreddfa y mynyd hwn, yr wyf yn atolwg am i bawb fod ar eu gwyliadwriaeth. Dymunwn dyngedu pob dyn sydd yma i fod yn fwy difrifol yn awr nag erioed. Na ato Duw i neb o honom fod yn euog o'r fath beth ag ymlid y golomen nefol o'n mysg. Na weler un dyn meddw ar yr heol heno, ar bwys colli ei enaid. Na fydded dim yn ymddygiad neb, yn y tai nac allan o honynt, i ddolurio teimlad un magistrate na swyddwr gwladol, mwy na'r pregethwr neu y dyn duwiol cyffredin. Dysgwyliwn i foesau yr holl dorf fod yn ddifrycheulyd heno; onide, dyma y sassiwn ddiweddaf fydd yn y dref hon byth! Y mae yma filoedd o ddyeithriaid i gael eu llettya heno yn y gymmydogaeth; cofied pob dyn fod yn ufudd i fyned i'r lle y caffo ei wahodd: pa orchest, ar hin fel hyn, fyddai myned dair milltir o ffordd, pe bai raid. Gofaled pob un am fod yn ffyddlawn a diolchgar am ei letty. Chwithau sydd yn llettya, agorwch eich drysau o galon. Nac anghofiwch lettygarwch. Na chymmerwch unrhyw drafferth na thraul: cymmaint a ofynwn ydyw gwely sych, diberygl, a thamaid o fara, a llymaid o ddwfr. Gwerthfawrogwch ddyfodiad y dyeithriaid dan eich cronglwyd am dro. Efallai mai hẹno yr eneinir eich aelwydydd gyntaf â dagrau y saint; efallai mai heno y cyssegrir eich nenbrenau gyntaf â gweddïau duwiolion. Darfu i'r hen bererinion gynt, trwy ffydd, lettya rhai angelion yn ddiarwybod, a gwledda yn hyfryd gyda hwy yn eu lluesttai. Pwy a ŵyr na chewch chwithau heno lettya duwiolion yn nghwmni anweledig angelion y nef! Chwithau sydd yn cyfarwyddo y llettywyr, gofelwch am drefnu fel y byddo gweddïwr yn myned i bob tŷ. Sylwed y dorf i gyd, ar fod addoliad teuluaidd yn mhob annedd heno yn exact am naw o'r gloch. Y mae y nefoedd fawr wedi gwenu arnom eisoes; y mae negeswriaeth gyflym gan yr angelion rhwng yr orsedd a'r maes hwn er ys meityn; ac am naw o'r gloch heno, yr ydym yn hyderu y bydd ysgol Iacob yn orlawn o deithwyr ol a blaen, ac y bydd y fath nerth gan gydweddïau o'r gymmydogaeth hon dros chwe milltir o amgylch, fel y tynant y nefoedd i lawr at y ddaiar, ac y codant y ddaiar mor agos i'r nef, fel y bydd pabell Duw gyda dynion, ac mai y sassiwn hon fydd prif destyn yr ymddyddan heno yn nghyfrin-gynghor y drydedd nef."

Fel hyn, yr oedd meddyliau y bobl wedi eu hoelio wrth ei ymadroddion, ac yr oeddynt fel yn clywed ei eiriau yn ringio yn hir yn eu clustiau. Yr oedd arswyd ar bob dyn wrth gerdded yr heol rhag rhoi dim achos tramgwydd mewn dim. Ymddangosai y dorf fel crefyddwyr dichlynaidd i gyd. Naw o'r gloch yw yr awr weddi—a dyna y clock wedi taro. Yr oedd llawer wedi gorphen swpera ac addoli cyn yr amser. Yr oedd pawb wedi dyfod i wybod rywfodd neu gilydd pa le yr oedd Elias ei hun yn llettya. Yr oedd yr heol gyferbyn â'r tŷ wedi ei llenwi gan bobl gryn chwarter awr cyn naw o'r gloch. Ar ddyfodiad yr awr, pan agorwyd ffenestr yr ystafell o led y pen, yr oedd pawb yn dysgwyl am gael ei glywed yn darllen a gweddïo. Y mae ef yn rhoddi pennill allan i'w ganu yn mlaenaf—

"Ag isop golch fi'n lân,
Ni byddaf aflan mwyach;
A byddaf, o'm golchi fel hyn,
Fel eira gwyn neu wynach."

Mesur Salm byr—mesur go anghyffredin. Nid oedd neb a ddechreuai ganu am beth amser. Ond o'r diwedd, dyma wr y tŷ yn ei chynnyg hi: canwr trwstan druenus oedd efe —ond ра fodd bynag, gwnaeth y tro ar y pryd: a phwy a ddygwyddodd fod allan yn yr heol, wrth y ffenestr, ond Cadi Rondol; a dyma yr hen Gadi yn cipio yr hen fesur i fyny, ac yn dechreu ei rolio yn yr awyr, gan befrio ei hen lygaid croesion gwrthun, â'r olwg arni yn rhyfedd iawn; ond ni waeth beth a fo, gweithiodd yr hen fenyw ei ffordd, a gafaelodd yr holl dorf yn y canu mor wresog, fel y buwyd gryn dipyn o amser cyn cael pen a gosteg i fyned yn mlaen â'r gwasanaeth. Wedi gorphen y canu, darllenodd Mr. Elias Salm li.; ac yr oedd pob arwyddion yn y darlleniad fod y canu wedi tanio ei ysbryd. Yn nesaf, plygodd ei liniau i anerch yr orsedd. Y mae cynnyg darlunio y weddi yn hollol ofer; ac o ran hyny, nid â darlunio, ond âg adgofio y mae a wnelom. Yr ydym yn meddwl na fyddai yn rhyfyg i ni ddefnyddio geiriau yr hanes am weddi y Gwaredwr wrth adrodd. Yr oedd efe mewn "llefain cryf a dagrau, yn offrwm gweddïau ac erfyniau at Dduw" dros achubiaeth y bobl ar y pryd. Yr oedd y teimladau hyn yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin. Yr oedd fel pe buasai wedi cae caniatâd i fyned i ymyl yr orsedd, i ymddyddan wyneb yn wyneb â Duw. Yr oedd ei wyneb yn dysgleirio fel yr eiddo Moses yn y mynydd. Yr oedd ei weddi mewn ofn, mewn ffydd, mewn cariad, mewn hyder, mewn nerth, ac mewn gafael na ollyngai mo honi nes cael ei neges. Os bu Iacob yn ymdrechu â'r angel, yr oedd yntau felly wedi ymaflyd yn nerth ei Dduw. Mynai arwydd er daioni y noswaith hono cyn codi oddi ar ei liniau, fel blaenffrwyth o ryw gynauaf mawr dranoeth! Yr oedd yn tynu ysbryd y bobl i mewn i'w ysbryd ei hun. Yr oedd y weddi hon yn treiddio trwy galonau annuwiolion fel cleddyf tanllyd ysgwydedig; ond yr oedd yn dyrchafu teimladau duwiolion, nes yr oeddynt yn dychymygu eu bod ar adenydd cerubiaid ac yn colli eu gwadnau oddi ar y ddaiar!

Wedi gweddïo, rhoddwyd pennill allan i'w ganu drachefn, a chanu rhyfedd ydoedd!—canu yn ddiau ag yr oedd yn bleser gan seraphiaid dewi i wrandaw arno!

"Caned nef a daiar lawr,
Fe gaed ffynnon;
Golchir pechaduriaid mawr
Yn glaer wynion," &c.

Ac felly y parhaodd y canu am hir amser. Bu effeithiau y weddi hon yn rhyfedd. Gwelwyd y dynion mwyaf annuwiol ac anystyriol yn wylo eu dagrau yn hidl fel plant bychain. Dychwelwyd lluaws at grefydd yn y tro, ag a roisant brawf o'u gwir dröedigaeth mewn oes o fywyd wedi ei gyflwyno i Grist, ac i harddu ffyrdd crefydd a llwybrau rhinwedd. Clywsom rai yn son am yr amgylchiad hwn fel effeithiau rhyfedd ar deimladau anifeilaidd dynion. Nid ydym yn proffesu y gallwn roddi cyfrif athronyddol am danynt; ond os teimladau anifeilaidd oeddynt, byddai yn dda iawn i'r byd weled eu cyffelyb yn fynychach. Peth rhyfedd iawn, os teimladau anifeilaidd oeddynt, fod canlyniadau mor egwyddorol yn eu dilyn. Yr oeddynt yn troi y tyngwr yn weddïwr, a'r meddw yn sobr; yr oedd yr annuwiol yn cael ei ddwyn i wisgo cymmeriad dillyn, moesgar, a sanctaidd, mewn canlyniad iddynt, weddill yr oes. Yr oedd yma rywbeth tra thebyg i'r hyn a gofnodir am yr apostolion:—"Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll â'r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant ar Dduw yn hyderus; a lluaws yr hai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid."

Nodiadau

golygu