Aildrefniad Cymdeithas/Cerddi
← R. J. DERFEL, Manceinion o'r Celt 24 Chwef 1888 | Aildrefniad Cymdeithas gan R J Derfel |
→ |
Y SEREN UNIG.
Seren unig—seren dlos,
Addurn wyt i'r dywell nos,
Unig ar dy ben dy hun—
Denol yw dy landeg lun;
Er i ser sydd fwy na thi
Gilio draw, a'n gadael ni,
Dal i oleu wnei o hyd—
Dal i wenu ar y byd:
Dysg i minau, seren dlos,
Ganu yn y dywell nos.
Y GWLITHYN.
WLITHYN gloyw—wlithyn bychan,
Blentyn tlws y wawr a'r nos;
Harddach wyt na thlws o arian,
Dan yr haul, ar fron y rhos;
O nad allet ymddysgleirio
Ar y rhosyn bach o hyd,
Ond yr haul a tyn dy gario
Adref i addurno'i bryd:
Ond cyn myned, dysg i mi
Ymddysgleirio, ac addurno
Oriau 'mywyd, fel tydi.
YR ALARCH.
Brenin y llyn yw'r alarch gwyn,
Mae'n harddu'r dwfr o dano;
Nid oes yr un mor hardd ei lun,
Pan ar y llyn yn nofio,
Nofia'n gry' ar y gloyw li',
Gan edrych ar ei ddelw,
Yn falch o'i hun, wrth wel'd ei lun
Yn nrych y dyfroedd gloyw:
Felly dyn,
Wrth wel'd ei lun
Yn nrych ei fywyd gwyn,.
All lawenhau,
Ac ymfawrhau,
Fel alarch ar y llyn.
MACHLUD HAUL.
GWYRA'R haul ei ben i gysgu,
Gwrida wrth gusanu'r nos;
Cwyd y ser i wylio'i wely,
Gyda'r Lloe'r, eu banon clos;
Dan ymwrido yn ei wyneb,
D'wedant wrtho, "noswaith dda;
Yntau wrida wrth eu hateb,
A than wenu, cysgu wna:
Fel yr haul, O boed i ninau
Fachlud yn yr angeu du ;
Huno gyda chan a gwenau,
Fel cawn godi byth mewn bri.
Y GAWOD.
Mae'r wybren i gyd yn gwmwl,
A'r awyr oll yn wlaw;
Nid oes ond tarth a nifwl
I'w weled ar bob llaw;
Gwlaw, gwlaw, gwlaw, yn ddibaid gawod ddaw
I lawr yn ddu ei lun,
A minau yn ei ganol, mor wlyb a'r gwlaw ei hun ;
Ond aeth y gawod heibio er trymed ydoedd hi,
A'r haul a welir eto fel arfer yn ei fri:
Ac felly gorthrymderau,
Er dued ydynt hwy,
Ddiflanant fel cymylau,
Ac ni ddychwelant mwy.
Y WAWR.
GEILW'R haul ei ferch i fyny
Gyda chusan ar ei grudd,
Hithau gwyd ei phen dan wenu,
Ac agora ddorau'r dydd,
Tyn y llen oddiar ei gwyneb-
Gad i'r bydoedd wel'd ei gwedd,
Ac yn llewyrch ei dysgleirdeb
Gwena'r bore gwyn mewn hedd:
Fel y wawr cyfodwn ninau
Gyda gwenau ar ein grudd,
A dysgleiriwn mewn rhinweddau
A daioni-oriau'n dydd.
Y WENYNEN.
GWENYNEN fach yr ha', o flodyn i flodyn yr a
I gasglu mel, ac yn ol ni ddel
Nes cael y mel fwynha;
Dan ganu trydd i'w thaith-
Dan ganu gwnaiff ei gwaith,
A than ei llwyth, ei dyddiol ffrwyth,
Ni pheidia ganu chwaith;
A chanu bydd ar hwyr y dydd
Ar ol ei llafur maith.
Megys y wenynen fach,
Dan ganu gweithiwn ninau,
Felly byddwn gryf ac iach,
A dedwydd dan ein beichiau,
Y CWMWL.
Y CWMWL du, sy'n hofian fry,
Fel cysgod edyn angau;
Pelydrau cry' yr haulwen gu,
Ni threiddiant drwy'i blygiadau;
Edrycha draw, fel byd o fraw
Ar ddisgyn ar y ddaear,
Ond cynar wlaw o'i fynwes ddaw,
I faethu'r egin cynar;
Ac felly gorthrymderau,
Er dued yw eu gwedd,
Adawant ar eu holau,
Yn aml, fwynhad a hedd.
Y BORE NIWLIOG.
Cyfodai'r bore'n brudd,
A dagrau ar ei rudd, o wely'r nos ;
Ond erbyn haner dydd,
Fe wnaeth yr haulwen rydd ei ruddiau fel y rhos;
Ac yn yr hwyr, uwch caerau'r nen,
Dan wenu, gwyrodd lawr ei ben
I gysgu hun, ar fynwes wen y Lleuad dlos ;
Ac felly, llawer oes
Yn myd y boen a'r gwaeledd,
Er dechreu gyda loes,
Ddiwedda mewn gorfoledd.
Y LLOER.
GWEN yw'r Lloer, gwelw ac oer
Fel delw arian;
Tebyg yw i olwg y byw,
I'r nos ei hunan;
Unig a phrudd, ni oddefa i'r dydd
Ei gwel'd mor brudd a gwelw;
Ac edrych ni fyn ar ddim ond y llyn,
Lle gwel ei delw;
A llawer bron, sydd fel y Lloer
Yn cuddio'i galar.
A'i golwg ar ei llety oer
Yn mynwes daear.
Y MORGRUGYN.
MAE'R doeth forgrugyn bach,
I'w les ei hun a'i ach,
Yn gweithio'n rhydd
Tra byddo'n ddydd,
Ac yntau'n gryf a iach,
Trysora ddyddiau haf,
Nes llanw'r fan lle saf,
Erbyn daw y gauaf du,
Ac yntau'n wan a chlaf.
Os yw ei ddyddiau ef yn faith
A'i lwyth yn fwy nag ef ei hun,
Mae calon ddewr yn gwneyd y gwaith
Yn ysgafn, ysgafn, i bob un ;
Ac yn dal caiff ganu'n gu,
Pan y daw y gauaf du.
Fel y doeth forgrugyn bychan,
Gweithiwn ninau ddyddiau haf;
Da fydd cael ychydig arian
Erbyn myn'd yn hen neu glaf.
PENILL NEWYDD AR HEN DESTYN
YMLYNWN wrth ein gwlad a'n hiaith,
A dywedwn wrth bob gelyn,—
Boed oes y byd i'r iaith Gymraeg,
Ac oes y nefoedd wed'yn.
YR EOS.
CANU mae'r eos ganiad dlos,
Megys angyles ganol nos;
Heb neb i'w gwrando, na gwel'd ei llun,
Ond anian lan a hithau'i hun.
Pe na b'ai neb i wrando,
Na gwybod am ei bri;
Na phrydydd i dlarlunio
Ei llais llesmeiriol hi ;
Canu'r un fath wani'r eos lan
Er mwyn y pleser sydd yn y gan.
Fel yr eos canwn ninau,
Canwn ganol nos bob un;
Nid er mwyn i neb ein clywed,
Ond er mwyn y gan ei hun.
I'R COEGYN.
Pigog wr cegog yw'r coegyn—a gwirion
Gawg araeth gwag goryn;
Bendithiwyd doniwyd y dyn
A gwybodaeth gwybedyn.
DECHRAU.
Os byth bydd genyt waith
Yn gofyn nerth a hamdden,
Ac hwyrach amser maith,
A llafur blin i'w orphen;
Na feddwl ddim am bwys
Na maint y gwaith, na'r rhwystrau;
Ond gyda phenderfyniad dwys,
Dos at dy waith, a dechrau.
Os hoffet wneuthur can,
Arwrgerdd faith, neu gywydd;
A llanw'r gerdd a than,-
Diddiffodd dan awenydd :
Nac ofna brinder iaith,
Na thlodi meddyiddrychau;
Nid oes yn eisiau at y gwaith,
Ond calon grefi ddechrau.
Daw meddylddrychau hardd,
Fyrddiynau, heb eu gofyn ;
Fel gwenyn yn yr ardd,
A mel o dan eu hedyn;
Ond iti ddal dy bin
Yn barod at y geiriau,
Ni bydd meddyliau byth yn brin,
I'r dyn sy'n gallu dechrau.
Pa mwyaf fydd y gwaith,
Y mwyaf fydd y pleser;
Fel dy (nder moroedd maith,
O dan y llong yn gryfder:
Mae'r gwaith yn nerthu'r llaw
Sy'n gweithio'n erbyn rhwystrau ;
A'r gwaith i ben yn hwylus ddaw,
Ai wobrwy, wedi dechrau.
MAE CYMRU ETO'N FYW.
ER gwaethaf gallu Rhufain gynt
A medr ei dewrion wyr-
Er gwaethaf llawer gwaedlyd hynt
Ar byd a lled ein tir:
Er methu enill brwydrau fil,
A cholli llawer llyw;
Ar ol y llid ar lladd i gyd,
Mae Cymru eto'n fyw.
Os llwyddodd dichell llid a brad,
I lifo'r tir a gwaed;
Os syrthiodd myrdd o'n tadau dewr
Yn garnedd dan eu traed;
Er gwaethaf twyll a brad y sais
A gormes o bob rhyw-
Ar ol y twyll ar brad i gyd,
Mae Cymru eto'n fyw.
Os esgeuluswyd Cymru fad
Gan rai o'i phlant ei hun—
Os gwerthwyd hi ar ddydd y frwydr
Gan fradwyr lawer un:
Er gwaethaf esgeulusdod pawb
Er dyfned oedd y briw—
Ar ol y brad ar blinder oll,
Mae Cymru eto'n fyw.
Prophwydwyd gan brophwydwyr gau
O oes i oes heb baid,
Mai angau oedd ei thynged hi—
Mai marw fyddai raid;
Ond wele tra mae'r brudwyr ffol
Yn isel dan yr yw,
Ar daroganwyr oll yn fud—
Mae Cymru eto'n fyw.
O'r Dwyrain a'r Gorllewin draw
O'r gogledd ac or De,
Ymchwyddol lais fel taran ddaw
Clywadwy dros bob lle;
Yn uwch ac uwch dyrchafa'r llef
Ar byd i gyd a'i clyw
Yn bloeddio mewn acenion clir—
Mae Cymru eto'n fyw.
Anwylir Cymru gan ei phlant
Mewn gwir angherddol serch,
Ar ol i'r bradwyr suddo lawr
I waelod angof erch;
Ac yn Gymraeg fe glywir myrdd,
Yr oesau oll au clyw,
Yn dweud mor groew ag erioed,
Mae Cymru eto'n fyw.
R. J. DERFEL, PUBLISHER, MANCHESTER.