Aildrefniad Cymdeithas/Traethawd Aildrefniad Cymdeithas
← Aildrefniad Cymdeithas | Aildrefniad Cymdeithas gan R J Derfel |
Pob un i bawb—pawb i bob un → |
AILDREFNIAD CYMDEITHAS.
Pe gofyniad i mi, pa beth yw y pwysicaf, o'r holl bethau sydd yn galw ac yn hawlio sylw diwygwyr yr oes bresenol? atebwn yn ddibetrus, "AILDREFNIAD СYMDEITHAS." Dyma yn ddiddadl yw y pwnc mawr sydd yn curo wrth y drws ac yn gwrthod tewi, nes cael y sylw a hawlia. Ac fe ddeil i guro yn uwch ac yn uwch, nes bydd y rhai sydd mewn awdurdod yn gorfod gwrando a chydsynio a hawliau y bobl.
Wrth son am aildrefnu cymdeithas, y peth cyntaf i sylwi arno, ydyw y drefn sydd ar gymdeithas yn bresenol, ar achos neu achosion ag sydd yn galw am ddiwygiad. Mae yr achosion hyn mor luosog, amrywiol, a mawrion, fel nad ellir yn yr amser at ein gwasanaeth yn bresenol, ond taflu cipdrem arnynt—rhyw braidd-gyffwrdd ar penaf a mwyaf amlwg o honynt.
Am y drefn bresenol ar gymdeithas gellir dweud yn gyntaf mai trefn ddi-drefn; cynllun, di-gynllun, ydyw. Yn Caban f'ewyrth Twm, un o'r cymeriadau ydyw Topsi. Pan ofynwyd i Topsi pa bryd y ganwyd hi, atebodd: "Ni anwyd fi o gwbl, tyfu wnaethum I." Felly y gellir dweud am gymdeithas—tyfiad ydyw. Pan edrychir ar dy neu offeryn, neu beirniant, gellir gweled yn mhob un o honynt arwyddion o fwriad a dyfais. Mae yn amlwg eu bod wedi cael eu gwneud yn ol cynllun a fodolai o'u blaen. Ond nid oes un gymdeithas ar wyneb y ddaear ac y gellir dweud am dani, yn ei holl gysylltiadau, ei bod yn byw ac yn bodoli yn ol plan a dynwyd o flaen y gymdeithas ei hun. Pe teflid tynelli o geryg o ben y mynydd i lawr i'r gwastadedd, mae yn bosibl y gallai y ceryg ar ddamwain, ymffurfio yn ogof, neu ystafell, neu yn fath o dy—gyda rhywbeth tebyg i ddrws a ffenestr yn perthyn iddo—ond trefn ddi—drefn fyddai arno, oblegid ar ddamwain y gwnaed ef. Felly yn benaf y ffurfiwyd cymdeithas. Dadblygiad ydyw. Yn y dechrau, pan oedd y bobl yn ychydig mewn nifer, a digon o le iddynt heb gyfyngu y naill ar y llall, nid oedd angen am gyfundrefn helaeth a manwl i'w rheoli, ac yr oedd pob teulu yn gyfraith iddo ei hun. Bob yn dipyn fel y mae golud yn cynyddu, mae rhyw un mewn ardal, yn taflu golwg ddeisyfgar ar olud ei gymydogion, ac yn penderfynu eu meddianu drwy fodd neu drwy drais. Mae yr un hwnw yn ddigon tebyg yn fwy cawraidd ei gorff ac yn fwy cyfrwys a dichellgar na'i gymydogion, ac felly yn cael y llaw uchaf arnynt. Wedi cael y bobl i lawr, mae yn gwneud ei hun yn benaeth. O hyn allan, nid yw y bobl ond caethion i'r penaeth. Y penaeth sydd yn rheoleiddio pob peth. Mae y tir yn perthyn iddo, a rhaid talu iddo. O'r cyfoeth a enillir trwy lafur, rhaid rhoi rhan fawr am haw! i'w ddefnyddio. O'cyfoeth a enillir trwy lafur, rhaid rhoi rhan fawr i'r penaeth. Ac os ymosodir ar y penaeth, neu os ymosoda efe ar rhywun arall, mae yn rhaid i'r bobl ymladd drosto ac aberthu eu bywyd i'w gadw ef rhag niwed. Rhywbeth yn debyg i hyn ydoedd dechreuad cymdeithas, ac nid yw y drefn a fodola yn bresenol ddim amgen na dadblygiad o honi.
Yn ail, trefn hunanol ydyw i gorff y bobl. Ei harwyddair ydyw,"Pob un drosto ei hun." Yn awr, pe buasai pawb yn gyfartal o ran maint a grym corfforol, yn gyfartal o ran gallu meddyliol ac addysg, ac yn gyfartal o ran profiad a chyfleusderau, fuasai dim cymaint i'w ddweud yn ei herbyn. Ond yma anghyfartalwch yw y rheol. Mae rhai yn gryf a llawer yn wan. Mae rhai yn iach a llawer yn afiach. Mae rhai yn ddysgedig a llawer yn annysgedig. Mae rhai yn byw yn nghanol cyfleusderau, a llawer heb un cyfleusdra yn eu cyraedd. Mewn amgylchiadau fel hyn, nid yw bywyd a'i bleserau yn ddim amgen nag ymgiprys, lle mae yr oll neu agos yr oll o'r gwobrwyon yn rhwym o fyned i'r cryf a'r dysgedig. Pa obaith sydd i'r gwan yn erbyn y cryf? i'r anllythyrenog yn erbyn y dysgedig? i'r tlawd yn erbyn y cyfoethog? Fel rheol, dim, mewn gwirionedd, dim. Yr unig rai a ffefrir gan y drefn bresenol ydynt y cryf a'r cyfrwys, Nid yw bywyd i'r lluaws ddim amgen na brwydr o'r cryd i'r bedd-ac yn y frwydr am fera beunyddiol, mae miloedd yn cael eu gwthio i'r wał a'u mathru o dan draed i farwolaeth. Mae rhai yn llwyddo yn casglu arian werth myrddiynau, a'r bobl wirion-ffol yn eu haddoli, oblegid yr aur sydd ganddynt. Ond beth yw llwyddiant yr ychydig pan edrychir arno yn feirniadol? Nid yw ddim amgen nac aflwyddiant miloedd o gydymgeiswyr yn y frwydr am olud. Golyger for mewn ardal, werth mil o bunau o olud yn bosibl i'w enill, a bod yno fil o bersonau i gyd yn ymgeisio am gymaint ag a allant o'r golud-os llwydda un dyn i feddianu pum cant iddo ei hunan, mae yn amlwg na fydd yn aros o'r golud, ond pump cant arall i'w ranu rhwng y mil, ond un, o bersonau. Os oes un dyn yn werth myrddiynau, mae miloedd ar ei gyfer heb fod yn werth dim. Mae yr un dyn yn gyfoethog am fod y lluaws yn dlawd; ac y mae y lluaws yn dlawd am fod yr ychydig yn oludog. Pe rhoddid ei ran gyfiawn i bob un, fyddai ddim yn bosibl i rai fod yn or-oludog; a thra y bydd yn bosibl i rai feddianu myrddiynau, bydd yn anmhosibl i'r lluaws feddianu digon i ddiwallu eu beisiau cyfreithlawn.
I wyr y breintiau a'r golud, mae y drefn bresenol yn gweithio yn ogoneddus. Fe synai Syr Heliwr o Gaer— ysbail, fod neb yn gallu gweled unrhyw fai ar y drefn bresenol. Rhaid i'w denantiaid ef weithio bob un drosto ei hun a gweithio bob un i Syr Heliwr ar yr un pryd. Pwy sydd yn cadw y gwr mawr o Gaerysbail? Nid yw yn llafurio nac yn nyddu, ac eto ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant yn debyg iddo. Mae yn byw mewn byd da helaethwych beunydd, ac nid oes arno eisiau dim-pwy sydd yn ei gadw? Ei denantiaid a neb arall. Jigsed by Google Mae yn byw ar ffrwyth llafur yr amaethwyr ac eraill, heb wneud un gwasanaeth iddynt hwy nac i gymdeithas am ei gynaliaeth.
Mae y gwyr mawr yn dweud fod unigoliaeth a chystadleuaeth yn beth da i'r bobl-yn drefn fuddiol i'r lluaws. Ond gwelwch mor ofalus ydynt wedi bod rhag cymwyso y drefn atynt eu hunain. Hyny o drefn sydd yn ffynu, mewn cymdeithas yn awr, mae wedi cael ei sefydlu gan y cyfoethogion, heb ymgynghori ar bobl o gwbl, ac y mae yr holl gyfreithiau ar sefydliadau wedi cael eu trefnu i gydweithio er daioni iddynt eu hunain. Maent wedi cymeryd meddiant o'r tir, heb un hawl ynddo mwy nac eraill, ac ni chaiff neb ei lafurio heb eu cenad hwy a thalu rhent iddynt am y caniatad. Drwy y ddyfais anghyfiawn yma maent wedi sicrhau gwasanaeth eu holl denantiaid i gasglu cyfoeth iddynt eu hunain. Nid ydynt wedi gadael dim i ddamwain. Mae gwaddol y teulu brenhinol wedi ei sefydlu. Mae cyflogau y swyddogion gwladol, y barnwyr, y cyfreithwyr, a'r milwyr, wedi ei sefydlu hefyd. Felly hefyd y mae bywoliaeth yr esgobion a'r offeriadon o bob gradd wedi ei sefydlu, mor bell ac y gellid sefydlu unhryw beth yn mlaen llaw. Mae llywodraethwyr pob gwlad wedi bod yn hynod o ofalus a llwyddianus i wneud eu bywoliaeth eu hunain a'u perthynasau yn sicr a sefydlog.
Yn drydydd trefn anghyfiawn ydyw. Crynswth o anghyfiawnder ydyw y drefn i gyd. Nid personau a feiir, ond y drefn. I raddau pell iawn mae pob un mewn cymdeithas yr hyn ydyw am fod amgylchiadau wedi ei wneud felly. Mewn amgylchiadau gwahanol, buasem i gyd yn wahanol i'r hyn ydym yn awr. Oblegid hyny wrth gyhoeddi fod y drefn yn grynswth o anghyfiawnder, collfarnu y drefn a wneir, ac nid personau. Mae yn anmosibl edrych ar gymdeithas mewn un ran o honi heb ganfod gamwri yn ffynu ar bob llaw. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi y tlawd i weithio yn fore a hwyr, o wythnos i wythnos, a blwyddyn i flwyddyn, hyd ddydd ei farwolaeth, am gyflog rhy fychan i'w alluogi i ddiwallu yn briodol anghenrheidiau ei natur? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny i ganoedd o filoedd yn ein gwlad. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi dynion gweithgar diwyd a sobr i fyw mewn cutiau, a gamerwir yn dai, heb ddigon o fwyd, na digon o dan, na digon o ddillad, na digon o ddodrefn, na digon o ddim ag sydd yn angenrheidiol i wneud bywyd yn ddedwydd? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi plant diniwed i ddioddef newyn, noethni, oerni, afiechyd, budreddi, anwybodaeth, a phob aflendid yn nghanol cyflawnder o gyfoeth? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi y llafurwyr i weithio yn galed i gynyrchu cyfoeth a'i gasglu, nid iddynt eu hunain, ond i eraill, i gadw segurwyr diles mewn urddas a moethau? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Beth all fod yn fwy anghyfiawn na gorfodi y gweithiwr i weithio pum awr o bob deg am ddim i greu golud i ryw un arali? Mae y drefn bresenol yn gwneud hyny. Y neb na weithio na fwytaed chwaith. Dyna gyfiawnder. Ond dan y drefn bresenol, y segurwyr sydd yn bwyta oreu, yn gwisgo oreu, ac yn byw yn y bri ar urddas penaf, tra mae y gweithwyr yn ddigon aml yn haner newynu ynghanol digonedd. Cyhoeddwyd chwedl yn ddiweddar mewn Newyddyr Americanaidd. Wneir dim cam ar chwedl na'i hawdwr drwy gymreigio tipyn arni hi. Ryw wanwyn yn ol ehedodd bran dros fynydd Berwyn i dyffryn Edeyrrion. Wedi chwilio y dyffryn, a gweled ei fod yn hardd ac yn lie dymunol i fyw ynddo, fe benderfynodd wneud ei chartref ar lan y Dyfrdwy yn ardal Llandderfel. Ar un ochr i'r afon fe welodd drefedigaeth o frain wedi sefydlu yn barod, ac er fod yno lawer o brenau heb un nyth ar ei frigyn, fe ddewisodd bren mewn coed ar yr ochr arall i'r afon lle nad oedd un fran, wedi nythu yn flaenorol. Cyn ei bod wedi gorphen ei nyth, fe ddaeth swyddog ati i'w gwysio o flaen brenhines y brain gerllaw y Pale. Rhoddwyd hi ar ei phrawf ar y cyhuddiad o ddwyn eiddo y brain. Pan ddadleuai nad oedd un fran erioed wedi gwneud nyth yn y pren hwnw, dwedwyd wrthi yn sarug nad oedd hyny o ddim gwahaniaeth am fod brain y Pale wedi cymeryd meddiant o'r holl ddyffryn, ac mai eu heiddo hwy a'u hilogaeth ydoedd dros byth. Dedfrydwyd y fran i farw, neu i fywyd o gaethiwed drwy wasanaethu brain y Pale a gwneud nythod i'w plant a thalu rhent am gael byw yn y nyth oedd hi wedi wneud ei hunan ar yr ochr arall i'r afon. Erbyn hyn yr oedd ar y fran eisiau bwyd; ac fe welodd amaethwr yn aredig mewn cae ger llaw Tanyffordd, a ffwrdd a hi yno i gasglu y pryfaid i ddiwallu ei newyn. Ond mewn munud o amser yr oedd yno ganoedd o frain y Pale a'i hamgylch hi, a phrotwyd hi eilwaith yn lladrones am ei bod hi wedi bwyta rhai o'r pryfaid; oblegid yn ol cyfraith y drefedigaeth, yr oedd holl bryfaid y dyffryn yn eiddo personol i frain y Pale hyd byth. Dedfrydwyd hi i farw; ond cymerodd y frenhines drugaredd arni, a gosododd hi i gasglu pryfaid a'u cario i'r Pale, a'i hunig dal ydoedd yr hyn a welai brain y Pale yn dda i'w roddi iddi. Y fran ddamegol yna ydyw y gweithiwr, y tlawd. Nid all y tlawd prin symud led ei droed, nad oes rhywun yn ei wysio am drespasu. Nid all wneud dim tuag at enill ei fara beunyddiol heb genad gan rywun arall. Mae pob peth o'i amgylch yn eiddo personol i rywun, ac nid all gael dim heb werthu ei ryddid, a cholli frwyth ei lafur er ei feddianu. Mae y tlawd yn byw ar ganiatad ac ewyllys da dynion marwol fel ei hunan. Beth mae chwarelwyr Arfon a Meirion yn ei wneud? Y rhan fwyaf o'u hamser maent yn cynyrchu golud, ac fel byddin fawr o gaethweision, yr hyn ydynt yn wirioneddol, maent yn cario y golud i'w meistriaid, ac yn bloeddio hwre pan dderbyniant ran fechan o hono yn ol dan yr enw cyflog. Beth mae y glowyr, a'r amaethwyr, a'r crefft wyr yn ei wneud? Enill golud i'w meistriaid. Ac y mae llawer o honynt, hwyrach yr oll o honynt y dydd heddyw, yn Nghymru yn tybio eu bod yn cael eu cadw gan eu meistriaid-ond camgymeriad dirfawr ydyw hyny, y gweithwyr sydd yn cadw eu meistriaid. Yn holl gylch gwybodaeth nid oes un ffaith eglurach na bod holl fawrion y byd yn byw ar lafur y gweithwyr, ac nad yw y rhan fwyaf o'u golud yn ddim amgen na ffrwyth llafur heb dalu am dano. Pe derbyniai y llafurwr werth ei lafur, ni byddai y meistr ddimau mewn oes yn gyfoethocach am ei gyflogi. Prif ffynonell golud i'r meistr oddiwrth ei weithwyr, ydyw llafur rhad-llafur heb dalu dim am dano. Wel, mae y drefn sydd yn gwneud pethau fel hyn yn bosibl, yn drefn anghyfiawn, ac ar y drefn y mae y bai yn gorphwys, ac nid ar bersonau a ddygwyd i fynu o dani.
Mae lluaws o bethau eraill ac y gellid eu dwyn i ystyriaeth yn erbyn y drefn anrhefnus bresenol, ond rhaid eu gadael, a symud yn mlaen i wneud ychydig o sylwadau byrion ar yr ail-drefnu, oblegid dyna ydyw y rhan bwysicaf or testun.
Y sylw cyntaf ydyw fod miloedd o wyr doethaf a dysgedicaf y byd yn cydnabod fod rhywbeth mawr allan o le mewn cymdeithas fel y mae, a bod cyfnewidiadau a diwygiadau mawrion yn angenrheidiol cyn y bydd pethau fel y dylent fod. Mae cynhyrfu am gyfnewidiad yn mhob man drwy yr holl fyd gwareiddiedig. Yr ydym ninau fel Cymry yn dechrau ymwingo ychydig ac yn gadael i'r byd wybod ein bod yn teimlo nad yw pob peth yn iawn yn y drefn bresenol, ag y mae y cynhyrffadau hyn am ddiwygiadau, yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o'n hargyhoeddiad fod eisiau newid y drefn. Y diwygiadau y cynhyrfir am danynt gan y Cymry ydynt y rhai canlynol:-Dadgysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys Wladol; diwygiad yn neddfau y tir; addysg ganolraddol; ac ambell i floedd wan am Reolaeth Gartrefol. Ar y pethau hyn yr wyf yn cutuno, i raddau o leiaf, ar diwygwyr cyffredin. Ond wedi cael yr holl bethau hyn i ymarferiad, yr ymholiad pwysig ydywfaint gwell allan fydd corph y genedl, nag ydyw yn bresenol? Wrth ymdrin ar pwnc hwn rhaid cofio o hyd mai gweithwyr tlawd sydd yn gwneud i fynu gorph y bobl. Wedi cael y diwygiadau, y ceisir am danynt, ac yr ydym yn rhwym o'u cael, faint cyfoethocach fydd y chwarelwyr, glowyr, crefftwyr, a gweision a morwynion yr amaethwyr? Fydd oriau eu llafur yn llai? eu gwaith yn ysgafnach? eu cyflogau yn uwch? eu hymborth yn well ac yn helaethach? eu gwisgoedd yn well? eu tai yn well? A moddion mwyniant a dedwyddwch yn fwy cyraeddadwy iddynt? Yr wyf yn ateb yn ddibetrusdim, os yw y diwygiadau i derfynu gyda y rhai hyn. Yn yr Iwerddon, mae yr Eglwys wedi ei dadgysylltu ai dadwaddoli ar degwm weidi ei ddiddymu a deddfau y tir wedi eu diwygio, ond y mae y tlodion yno mor dlawd ac mor luosog ag erioed. Y gwirionedd yw, nid oes un diwygiad a wna les gwirioneddol a pharaol i gorph y bobl heb aildrefnu cymdeithas o'i gwraidd i fynu. Yn y fan yma y mae dechreuad y gwahaniaeth rhwng y cymdeithaswyr a'r diwygwyr cyffredin. Os edrychir ar gymdeithas fel pren a rhai o'i ganghenau yn dwyn ffrwythau gwenwynig a marwol—mae y diwygwyr cyffredin yn meddwl fod tocio tipyn a thori ambell i ganghen ymaith, yn gymaint o ddiwygiad ac sydd eisiau: ond y mae y cymdeithaswyr yn haeru fod y pren mor ddrwg a'i ffrwythau mor wenwynig nad ellir byth ei wella ac y rhaid ei dynu ymaith o'r gwraidd a phlanu pren byw a iach yn ei le. Os edrychir ar gymdeithas fel adeilad—mae y diwygwyr cyffredin yn meddwl fod adgyweirio yr adeilad yn ddigon; ond y mae y cymdeithaswyr yn credu ac yn haeru fod yr adeilad yn rhy gregin i'w hadgyweirio, ac y rhaid adeiladu adeilad newydd cyn y gellir diwallu angenrheidiau yr oes bresenol. Wnaiff trwsio cymdeithas mor tro—rhaid ei chreu o newydd cyn byth y gwelir trefn arni. Ond a ellir aildrefnu cymdeithas? os gellir, pa fodd? Mae yr ateb yn barod—gellir. Yn gyntaf drwy genedleiddio y tir a'i holl drysorau, y bobl bia y tir a'r holl drysorau yn y tir. Drwy ysbail a gorthrwm y dygwyd ef oddiarnynt. Eiddo lladrad ydyw y tir lle bynag y mae yn eiddo personol i unrhyw unigolyn. Nid oedd gan neb hawl ond hawl yr ysbeiliwr i'w gymeryd na'i werthu na'i brynu. Etifeddiaeth y bobl ydyw y tir, ac i drysorfa y bobl y dylai y rhenti fyned. Wedi cael y rhent i drysorfa y wlad yn lle i logellau unigolion, gellid diddymu pob treth—yr hyn a fyddai yn elw uniongyrchol oddiwrth y tir i bob person yn y wlad.
Yn ail, drwy genedleiddio gweithiau, peirianau, ac offerynau gwaith. Gwneler y chwarelau, y gweithydd glo, y llaw weithfeydd, a holl offerynau gwaith yn eiddo y cyfundeb neu y wladwriaeth, yn lle personau unigol.
Ac yn drydydd drwy genedleiddio yr elw oddiwrth drafnidaeth, ac yn enwedig yr elw dirfawr sydd yn tarddu oddiwith luosogiad y boblogaeth, yr hwn elw sydd yn awr yn myned i logellau personau unigol, a hyny yn hollol anghyfiawn. Mae hyn yn cael ei wneud yn barod yn y llythyrdy a'r pellebyr. Mae yn cael ei wneud yn Manchester yn y gwaith dwfr a nwy, ac mae yn eithaf possibl gwneud yr un peth a gweithfeydd yr holl wlad.
Ond yn bedwaredd, drwy ddarparu cartref rhydd a sior i bob teulu yn y wlad—cartef o'r hwn nad ellid troi yr un teulu allan byth yn erbyn eu hewyllys.
Ac yn olaf ar hyn o bryd, drwy wneud addysg yn rhad, rhydd a chenedlaethol, nid addysg uchel—raddol, ganol—raddol, ac isel—raddol, oblegid yn y byd newydd fydd dim ond un radd, y bobl; ond yr addysg oreu all y byd ei roddi i'r trigolioni i gyd.
O dan y drefn newydd o gymdeithas, fe fydd miloedd o bethau yn bosibl nad yw y byd hyd yma erioed wedi breuddwydio eu bod yn bosibl.
O dan y drefn newydd fe dderfydd tlodi o'r tir. Nid oes achos fod neb yn dlawd. Mae goruchafiaeth dyn ar natur a'i allu i luosogi cyfoeth mor ehelaeth fel y mae yn gallu cynyrchu mwy na digon i ddiwallu pob anghen. Gyda y tlodion fe dderfydd y troseddwyr i raddau pell o leiaf. Troseddau yn erbyn eiddo ydynt y mwyafrif o'r rhai a gyflawnir. Tlodi ar y naill law a thrythyllwch segurwyr goludog ar y llaw arall, ydyw yr achos fod cynifer o ferched ein gwlad yn gwerthu eu hunain, i gael modd i fyw. Fe dderfydd y ffieidd-dra yna o dan y drefn newydd.
Bydd oriau llafur yn llai ac oriau hamddenol pob un yn fwy. Ychydig oriau yn y dydd fyddant yn ddigon i gynyrchu pob peth fydd yn angenrheidiol, pan orfodir pawb i wneud eu rhan o'r gwaith angenrheidiol i'w wneud. Fydd dim lle i segurwyr yn y drefn newydd, oblegid bydd raid i bob un wneud rhyw wasanaeth defnyddiol yn gydnabyddiaeth am ei gynaliaeth. Gwneir ffordd a'r ofnau, yr amheuon ar pryder am y dyfodol ag sydd yn chwerwi bywyd yn y presenol. Bydd pob un yn gwybod, beth bynag a ddigwydd iddynt hwy, y gofelir am y wraig a'r plant. Fe fydd cymdeithas yn dad ac yn fam i ofalu am yr anddifad, nes byddant yn alluog i ofalu am danynt eu hunain. Bydd pawb ar dir cyfartal o ran manteision a chyfleusderau i enill bywoliaeth. Fydd raid i neb grefu ai gap yn ei law ar ei gyd-ddyn, am ddiwrnod o waith i'w gadw yn fyw. Bydd eu perthynas a'u gilydd yn wahanol. Nid morwyn a mistress, a gwas a meistr fyddant y pryd hyny, ond brodyr a chwiorydd o'r un frawdoliaeth-aelodau o'r un gymdeithas. Pryd hyny fydd ddim yn bosibl i'r naill ddyn brynu a gwerthu ei gyd-ddyn i wneud elw o hono, fel y gwneir yn awr. Os yw dyn heb ddim ond ei lafur i'w werthu neu ei gyfnewid, ac yn gorfod ei werthu i gael modd i fyw, mae yr hwn sydd yn prynu ei lafur yn prynu ei gorph, a'i ryddid, a'i fywyd yr un pryd. O bosibl fod gwisg rhyddid am dano, ond o dan y wisg mae llyffetheiriau caethiwed wedi eu cylymu mor sicr ag erioed. Arwyddair y drefn bresenol ydyw, "Lles y mwyafrif." Arwyddair y drefn newydd ydyw,"Lles pawb. Rheol y drefn bresenol ydyw, "Pob un drosto ei hun;" rheol y drefn newydd ydyw, "Pob un i bawb a phawb i bob un."
Yn sicr mae y pethau hyn yn ddymunol ynddynt eu hunain. Maent i gyd yn werth i'w cael, yn werth ceisio am danynt, yn werth cynhyrfu y byd ac aberthu llawer i'w dwyn oddi amgylch. Ac y maent yn bethau y gellir eu cael-maent yn gyraeddadwy. Mae rhwystrau ar y ffordd, ond pethau i'w goresgyn ydynt. Fe fydd yr orsedd, a'r bendefigaeth, a'r cyfoethogion, a'r barnwyr, a'r cyfreithwyr, a'r esgobion, a'r offeiriaid ynghyd au holl gynffonau, yn ein herbyn; ond beth ydynt o'u cymharu ar bobl? Trech gwlad nac arglwydd. Mae hyny wedi cael ei brofi lawer gwaith yn barod, ac fei profir eto. Ond i ni gael y bobl gyda ni, fydd ein gwrthwynebwyr i gyd, o flaen y bobl yn ddim amgen, nac us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.
Yr hyn sydd eisiau yn awr ydyw deffro y bobl i deimlad o'u dyledswydd tuag atynt eu hunain. Mae y gallu ganddynt yn y bleidlais ar tugel, ac os na lwyddant, arnynt hwy y bydd y bai. Mae cenadwri cymdeithasiaeth yn cael ei chyhoeddi iddynt -cenadwri o obaith, o heddwch, o gariad, o gyfiawnder, o helaethrwydd, ac o ddeddwyddwch yn y byd presenol yn yr hwn y maent yn byw. Mae rhai pobl yn dysgu mai dyffryn galar ydyw y byd hwn, ac felly mae irai, ond nid i bawb. I'r pendefigion, yr uwchraddolion a'r offeiriaid o bob enw, mae yn fyd o ddedwyddwch a gogoniant; ond i'r tlawd dyffryn galar a dagrau ydyw mewn gwirionedd. Ond mae cymdeithasiaeth yn dangos ffordd i'w wneud yn fyd o lawnder a dedwyddwch i bawb-mewn gair, i wneud yr holl ddaear yn nefoedd bresenol i'r holl drigolion.
Ond cyn y ceir hyny, rhaid cael goleuni addysg, i dywynu ar lygaid y bobl, fel y gwelont ac y teimlont eu sefyllfa, nes eu gyru i chwilio am drefn well. Mae trefn well yn eu hymyl ac yn gyraeddadwy iddynt, er nad ydynt yn ei gweled hyd yn hyn. Maent wedi byw mewn caethiwed mor hir nes y maent, lawer o honynt o leiaf, yn barod i ymladd dros y drefn sydd yn eu llethu, bron i farwolaeth. Nid oes un rheswm arall dros fod gweithwyr yn edrych yn elyniaethus ar Sosialism, yr hwn air o'i gyfiethu ydyw cymdeithasiaeth. Prin y gellir rhyfeddu fod y lluaws yn derbyn cenadwri cymdeithasiaeth mor oer a digyffro, pan gofir eu bod wedi cael eu dysgu o'r cryd i fynu, i fod yn foddlawn ar bethau fel y maent. Ond y mae dipyn yn syn fod Cristonogion, yn y cyffredin, yn wrthwynebol i Sosialism, pan gofir fod llawer iawn o hono yn y bibl. "Gwerth yr hyn oll sydd genyt a dyro i'r tlodion." "Y mae yn haws i gamel fyned drwy grai y nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw." "Ar rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; a hwy a werthasant eu meddianu a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd eisiau ar neb." "Y neb na weithio na fwytaed chwaith." "A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd, ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau." "Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Gellid ychwanegu llawer at y rhai yna o'r hen destament a'r newydd, ond fe wasanaetha y rhai yna y tro fel engreifftiau. Yn sicr, dylai pobl sydd yn proffesu crediniaeth yn y bibl fel llyfr dwyfol, roddi mwy a gwell sylw i'r egwyddorion a ddysgir gan gymdeithaswyr nac a roddant yn bresenol.
Ond gydag addysg mae yn rhaid cael undeb o holl weithwyr y wlad i ddwyn y cyfnewidiad oddiamgylch. Undeb a dysgyblaeth milwyr Rhufain a'u galluogodd i orchfygu y byd. Drwy undeb y mae y cyfoethogion wedi cael meddiant o'r tir a'i drysorau. Drwy undeb y maent yn cadw y lluaws di-drefn mewn caethiwed ac yn eu hysbeilio o ffrwyth eu llafur. A diffyg undeb, trefn, a dysgyblaeth, ydyw yr unig achos gwirioneddol fod y bobl yn gorfod byw yn y fath drueni. Sefydler cyngrair y gweithwyr. Ofer ydyw disgwyl i'r uchel radd a'r canol radd, gychwyn na chefnogi, unrhyw symudiad a fydd o les gwirioneddol a pharaol i'r gweithwyr. Rhaid i'r gweithwyr gymeryd eu hachos eu hunain o dan eu gofal eu hunain, neu fod byth yn gaethweision fel ag y maent yn awr. Rhaid iddynt gael dynion o'u plith eu hunain i'w cynrychioli yn y cynghorau ac yn y senedd. Mae yn anmhosibl i gyfreithwyr ac arglwyddi tir a'r cyffelyb, wneud cyfiawnder a'r bobl, pe ceisent. Mae eu hunan les ar eu ffordd. Ac y mae hunan les yn sicr o gadw yr uchel radd yn rhengau gelynion y bobl. Ond ni ddylai hyny ddigaloni neb. Unwaith y daw y bobl yn ymwybodol o'u nerth-unwaith y codant ar eu traed, ac y safant i fynu ysgwydd wrth ysgwydd, llaw mewn llaw, fel un gwr, mewn undeb a'u gilydd, fe fyddant mewn ystyr gymdeithasol, yn hollalluog, ac nid oes dim ac sydd yn bosibl nad allant ei feddianu.