Am Dro i Erstalwm/Yr Awrhon a Chynt
← Am Dro i Erstalwm | Am Dro i Erstalwm gan Dafydd Rhys Williams (Index) |
→ |
Bynag dir neu wlad y rhodiwyf,
Son am Gymru nid anghofiaf;
Dros holl donau troion bywyd
Yn fy mryd i Gymru nofiaf.
Yno mae fy serch yn aros,
Yno mae fy mryd yn trigo;
Nid anghofiaf mewn un oror
Garu Cymru a'i bendigo!
YR AWRHON A CHYNT.
Ar un tro mewn cwsg ymrwydais,
Ac am Arthur y breuddwydais;
Drwy ryw ddyffryn hardd yr aethym
Ac at fynydd mawr y daethym.
Gwelwn ogof—O, awenau—
Ac fel llidiard ar ei genau;
Ac o'i mewn fel dysglaer radau
Oedd rhyfeddol oleuadau!
Y Gwyliwr:
Wrth y llidiard oedd gwyliadur
Tal urddasol fel penadur;
Yn ei law 'roedd cledd-a tharian
Ar ei fraich yn glaer fel arian.
A mi'n syllu yn werinol
Drwy y ddor i'r llys breninol,
Wele'r barau 'n ymeangu
Minau y tu mewn yn sangu!
Trodd y gwyliwr i'm blaenori,
I egluro a dyddori;
Yno gwelwn feirch a'u safnau
Yn breuddwydio uwch eu cafnau.
Bob un wedi ei gyfrwyo
Ac yn arfog i andwyo;
Parod oent i ado'r gaerfa
Pan y delai'r wys i'r aerfa!
Heibio'r meirch yn eu stafelloedd,
A'r marchogion yn eu celloedd,
Daethym at ryw le arddunol,
Megys neuadd fawr freninol.
Ac i fewn yr es heb gelu,
Ac a welais ar ei wely, Arthur,
Pentywysog Prydain,
Fu a'i glodydd gynt mor llydain!
Ac ni fu erioed greadur
Ddyn mor enwog a'r Penadur;
Ac er Adda ni fu iawnach
Y Prydeinwr a'i gyflawnach.
'Roedd yn wrol, yn ddifrifol;
'Roedd yn goeth ac yn ddigrifol;
Pan fai'n brudd ai'n drist ei awen,
Amser arall, byddai'n llawen.
Yn y gad fel llew rhuadwy;
Yn y wledd fel car teimladwy;
Gyda'r tlawd yn frawd ystyriol;
Gyda'r doeth yn goeth fyfyriol.
Pan darawodd ar ei glybod,
Ein disymwth swn yn dyfod.
Ebrwydd cododd i'n cyfarchu
Minau'n awchus am ei barchu.
Ebe fe, "Ai brawd a'i bradwr?"
Ebe'r gwyliwr, "Cywir wladwr;"
Ac ymgrymais ger drych moesau
Lle'r ymdrwsiai y cynoesau.
Gerddo oedd ei waewffon hoew
A'i Galedfwlch, gleddyf gloew;
A'r hen Ddraig a fu'n ymwared
Yno'n hongian ar y pared.
Rhodd y Gwyliwr i mi dripod
Sedd dair troediog (os am wypod)
I mi eistedd ger y Brenin
Fu yn deyrn hyd Gaercystenin.
Y Bardd:
"Ond, yrwan, Arthur, dywed
Ffordd y cest ti gynt y niwed,
Pan y gwnaethost y fath ddystryw
Ar lu'th nai, o fradus ystryw?"
Ni fu tebyg aerfa cred i
Mi'n y byd na chynt na chwedi;
Ond drwy ba ryw gast neu ddichell
Yr anafwyd di a'r bichell?
Arthur:
Yna'r ai fel cwmwl dybryd
Dros hawddgarwch ei wynebryd;
A rhyw ddigus ddiystyrwch
Doai'r gwr oedd gar difyrwch!
Anesmwythai'r gwych gadlywydd;
Teimlai loes ei glwy o newyddEbai,
"Medrawd ddirmygedig
Drodd yn fradwr melldigedig!"
"Ni fu gwr na chawr o'r goreu
Fedrai'm sefyll, hwyr neu foreu;
Ond yn ol y fradus drefn
Cymro'm gwanodd yn fy nghefn!
Y Bardd:
"Dyna ddrwg ein hil drwy'r oesau,
Ac achlysur ein holl groesau;
Ac ni phery'r un wladwriaeth
Lle bo digter a bradwriaeth.
"Brad Afarwy, 'r llipryn du fain,
Roes ein gwlad i Iwl o Rufain;
Gwrtheyrn, gan y gwin yn gynes
Roes holl Brydain am Ellmynes!
Arthur:
Medrawd—naddo, ni thywyll'is
Neb erioed a gwell ewyllys!
Gwae na chawn holl fradwyr Gwalia
I ryw gongl rhwng y walia!"
Y Bardd yn gellweirus:
Wedi'r araeth ogoneddus,
Ebe finau, "Gorfoleddus!
O! na fyddai'th ddwylaw'n rhyddion
I ddileu'r Dicshondafyddion!
"Gwae na ddeuit i'r Eisteddfod
Genedlaethol—y Gyneddfod
Lle mae'r Ffichtiaid a'r Paganiaid
Yn ein hanerch ni'r Troianiaid!
"Difyr garw fyddai'th ruthraw
A'th Galedfwlch, ac yn llithraw
I'w cymynu a'u di-rywio
'N enbyd am eu brad-a'u briwio!
"Gan roi llidiog dda ddyrnodau
Ar eu cyrff yn amlwg nodau,
Gan roi cosfa i bob Brython
Sy'n dirmygu gwlad y rhython!
"Ond er taro'r pwnc yn rhwyfodd
Gan mai'th nai mor glau a'th glwyfodd
A yw'th archoll eto'n mendio
Pwy yw'r M. D. sy'n dy dendio?
"Beth am Myrddin a'i beirianau
A'i ogonawl ddaroganau?
Syn na wnai ef saim neu eli
Iach i oleweiddio'th weli.[1]
"Gwn pe baet dan lygad huan
Ceffit feddyginiaeth fuan;
Mae ein byd yn llawn meddygon
Sydd yn ddychryn i glefydon!
Y mae ynddo bob cyfferi
At bob gwaew, gwynt a geri
At y cylla, at yr afu
At bob llun a lliw ar grafu!
Extracts, meddir, sydd yn ddiau
Megys cyfiawnhad i'r giau;
A phob bitters goreffeithiol
Gan feddygon gorymdeithiol.
Hefyd, essences i'r galon
Ac i chwalu pob gofalon:
A chymwysir trydan, hefyd,
I bensyfyrdanu'r clefyd.
Y mae'r oes a'i dawn atdynol
Yn dyfeisio campau synol;
Ac yn aml y ceir cyfeillion
Yn rhoi llygaid (gwydr) i ddeillion!
Y mae'r byd yn llawn peleni,
Darpar-falm at bob trueni"—
(Ebe Arthur, "Piti garw,
Minau yma'n haner marw!")
Y Bardd yn myned yn mlaen:
"Y mae llawer yn dychmygu
Gwell fai peidio a meddygu,
Am mai amlder y meddygon
Yw gwir achos y clefydon.
"Y mae Mari Baker Eddy
'N gwella pob peth drwy anghredu;
Efengyla hi'n ddiswildra
Mai dychymyg pob anhwyldra.
"Corn ar droed neu gur mewn cylla
Nid yw namyn coel o'r hylla';
A'n ol hon, pan fydd dyn farw
Marwa o wiriondeb garw!
Y mae'r wlad yn llawn physigwyr
Ac o bob diffael feddygwyr;
Ac fod neb yn marw, meddaf,
Yw'r rhyfeddod sy' ryfeddaf!"
Arthur:
Ebe Arthur: "Nid oedd glefyd
Yn fy oes i nemawr-hefyd
Na physigwr o osodaeth
Wnai afiechyd yn drafodaeth.
"Nid oedd neb o'r braidd yn cwyno,
Am na phoen na gwaew yno;
Yr oedd dyn fel pob creatur
Yn bucheddu rheol natur.
"Rhoddai mam i mi'n foreubryd
Ac i ginio (y goreubryd)
Gawl neu botes, cig a bara
Yna'm gyrai 'maes i chwara.
"Dyna'r bwyd gyfrana fendith,
Bara haidd neu fara gwenith;
Darn o fochyn, hwrdd neu darw
Wedi'u halltu-wedi ei farw!
"Ein meddygon oedd ein mamau,
Hwy a wyddent ein pahamau,
Am y dibwys fan wanegau
Fyddai ynom ar adegau.
Y Bardd:
Ebe finau, "Nid i'th enau
'R'elai llawer o gacenau;
Roet ti'n gawr o fachgen gwisci
Cyn bo son am yfed chwisci.
"Nid oet ti wrth fyn'd i weira
'N llanw'th fol a phwdin eira;
Ac ni wnest erioed ddychmygu
Fod cynaliaeth mewn ysmygu.
"Roedd y mamau gynt heb ddysgu
Syfyrdanu'r plant i gysgu,
Na gwneyd ymborth sydd yn foddiad
Ac yn ddystryw'r cyfansoddiad.
Y Bardd yn myned yn Bersonol:
"Bendifaddeu, ple mae'r dewin,
Penaf wyddon y Gorllewin;
Mab di dad ond nid di fedr
Ap mynaches Eglwys Pedr?
"Oni wnaeth efe ar brydiau
Gampus droion drwy ei frudiau?
Gwyddai gelloedd cudd y creigiau;
Gwyddai gastiau drwg y dreigiau."
Arthur:
Ebe Arthur yn fyfyriol,
(Fel pe'n siarad yn ystyriol),
"Gwyddai Myrddin fwy na'i allu
Nid ei wybod oedd yn pallu.
"Pan y daeth am dro am danaf
I ddeongli drwg fy anaf,
'Roedd fel pe bae'r celfyddodau
Wedi drysu yn eu rhodau!
Myrddin:
"Mae dy glwy yn dyngedfenawl;
Mae o arfaeth arwybrenawl;
Nid oes llysiau yn Thesalia
Nac yn nghymoedd gwylltaf Gwalia;
"Nid oes iawn na dawn na dewin
Yn y Dwyrain na'r Gorllewin;
Nid oes enaint, saim nac eli
Eill am oesau wella'th weli.
"Deli'n mlaen o hyd i nychu,
Ond dy einioes heb wanychu,
Hyd yr elo'r Ddraig i huno
Cymru wedi ei chyfuno."
Y Bardd:
"Dyna syniad tlws barddonol,
Y mae hefyd yn wyddonol,"
Ebai fi, "sef fod dy glefyd
Yn anhwyldeb Cymru hefyd.
"Mae dy anaf yn gysgodol;
Mae dy niwed yn orfodol;
Gwella'th archoll cyn y gwellir
Archoll Cymru'n wir, nis gellir!
"Rwyt ti felly'n cynrychioli
Ac mae'th glwy i'w briodoli
I anundeb cenedlaethol
Anffyddlondeb gwasanaethol.
"Drwy yr oesau (rhag cywilydd!)
Na bai'r Cymry'n caru' gilydd;
Nid ymgecru, ymgynenu,
Ymrafaelio'n ddiddibenu!
"Ond mae lluaws yn ffyddloniaid,
O bydd galw am wroniaid;
Os oes Dim Cwmbrags a bradwyr
Y mae myrdd yn gywir wladwyr.
"Y mae Cymru'n ymddiwygio,
A Hengistiaeth yn diffygio;
Gwalia eto a adfywia
Yn amen a haleliwia.
"Ha! er gwaethaf Swidw Polion!
Ha! er brathu ein gwrolion,
Yn y wledd, a'r Cyllyll Hirion
Y mae'r Cymry eto'n burion!
"Er holl ystryw brad y gelyn
I ddifodi'r iaith a'r delyn,
Byw yw'r iaith a byw yw'r awen
Y mae'r Cymry eto'n llawen!
"Ac wrth hyn, mae'n dra thebygol
Fod y Cymro'n anorchfygol;
Ac yn llawen eto, meddaf,
Fe yw'r cyntaf a'r diweddaf.
"Nid yw'n haerllug fel Shon
Darw; Fel yr Ellmyn, nid yw'n arw;
Nid yw gymhen fel y Ffrancwr;
Nid yw'n nerfus fel y Iancwr.
Ond mae'r Brython fyth i bara
Cyd a byddo'r Niagara;
A dyweded dyn a fyno
Yn y farn, bydd Cymry yno!"
Arthur:
Pan o'wn felly yn pistyllio
Ar Hengistiaeth a'i rhidyllio,
'Roedd y Brenin yn cael mwynder
Fel pe bae pob sen yn swynder.
Ebai wrthyf, "Mae'n ddywenydd
Gen i'th glywed, wych awenydd;
Gwell yw'th air nag eli'r Gwyddon,
Neu na "Balsam y Derwyddon."
"Rwyf yn teimlo er's rhai blwyddi
Fod hen gur fy nghlwy a'r chwyddi
Fel raddol yn diflanu
A fy iechyd yn cyfanu.
"Mae fy archwaeth yn diwygio
Gallaf gerdded heb ddiffygio
Megys cynt—'rwyf yn wybyddus
O'm hadferiad-'rwy'n awyddus!
"Rwyf yn teimlo'm hen hwylusdod
A'r awyddfryd a'r dibrisdod
O esmwythdra-wyf am esgyn
Ar fy ngheffyl a gor-res-gyn!"
Chwyfiai' gleddyf yn wronaidd
A grymusder Pendragonaidd!
Gwaeddwn inau "Byw fo'r Brenin!
Byw am byth fo Gwlad y Cenin!"
Arthur a'r Bardd:
Wedi i'r brwdfrydedd soddi
Ac i'r gyneu-dan ddifoddi
Ebai'r Brenin yn rwgnachol
Ond yn fwyn a chyfrinachol:
"Ni ddaw gair ar lith na thafod
Fyth o'm gwlad i fewn i'r Hafod"
Ebe finau, "Neb i'th weled
Er dy fawred a'th ucheled?
"Ni ddaw'r gwr glas a llythyrau
Gyda'i godaid o bapyrau?
Ni ddaw cenad cudd na bloeddwr
Ni ddaw clochydd na chyhoeddwr!
"Ni ddaw newydd i ti'n sydyn,
Fel ar esgyll chwim fynydyn?
Nid oes cyswllt telephonig
Rhyngot ti a'r hil Frythonig?
"Ai nid yw y wagen gwrw
Yma'n galw'n fawr ei thwrw?
Neu y landriman am grysau
Yma'n curo wrth dy ddrysau?
"Ni ddaw yma'r newyddiadur
Sy'n rhoi hanes pob pechadur?
Syn na wnai rhyw walch egnio
Gynyg i ti beiriant gwnio!
"Syn na ddeuai (O'r andwyaeth)
Atat yma ryw ddirprwyaeth
Neu ryw bwyllgor i'th seboni
Er hyrwyddo rhyw haelioni!
"Syn na fuasai wedi tirio
Yma'r gwr sydd yn yswirio,
Fel y gallai Gwen dy gladdu
Rhoi maen arnat wedi ei naddu!
Gwenhwyfar:
Ar fy ngair i, yn ddirodres
Dyma'r firain ymerodres;
Yn ymddangos fel angeles
Glanach oedd na neb a weles!
Gyda'r fanon gain fawreddig
Cerddai Pawyn balch boneddig;
Wrthi beunydd yr ymlynai
Ac i bobman y'i dylynai.
Hael wallt oedd lliw'r llin i'r ddynes,
Gyda mynwes geinwech gynes;
Ffurf ac uchder mor urddasol,
Dull a gwedd a moes mor rasol!
Digon hawdd yw gwel'd wrth rodiad
Dyn pa fath a fu ei godiad;
Y mae amlwg ddadguddiadau
Yn ei amryw symudiadau.
Y mae'n amlwg yn ei eiriau;
Y mae'n fer yn ei esgeiriau;
Mae holl gampau mwyn gymeriad
Yn ffrwyth natur ac arferiad.
'Roedd pob peth a wisgai'r ddynes
Yn gyfaddas ac yn gynes;
Mae pob gweithred sy'n bwrpasol
Yn ddefnyddiol ac yn rasol.
Ac ni wisgai ddim o wagedd,
Fel mae'n arfer gan rai gwragedd;
Ni wasgrwymai' hun o gynen
Er mwyn edrych fel cacynen.
Ac ni chobiai ei ffaeleddau,
Er cyflawni ei hagweddau;
Nid oedd ganddi wallt crychedig,
Ac na danedd gosodedig.
'Roedd yn hoenus ac yn heini
Ac yn ddynes iawn i weini;
Nid oedd degan i'r meddygon,
Nac yn chwanog i lewygon.
Yr oedd Arthur mor garuaidd,
A Gwenhwyfar mor deuluaidd!
Nid rhyw ystum a chymhendod
Nid rhyw goegni a mursendod.
Wedi eistedd yn ei ymyl
Ac am dro ymgomio'n symyl,
Ebe fe (y ddau'n ymgrymu) "
Dyma'm cydwedd! Car o Gymru!"
Minau blygais mewn gweddeidd-dra,
Ger fath harddwch a mwyneidd-dra;
Ebe hi (nid mewn Sacsoneg,
Ond yn swynder y Frythoneg).
"Henffych! Croesaw yn ddiddarfod;
Dyddan fyddo'n cydgyfarfod:
'Rym ni'n dau yn gymdeithasol
(Hyny yw a phobl urddasol).
"Rydwyf fi ac Arthur, hefyd,
Yn casau fel haint neu glefyd
Ffrol a lol y dirywiedig
Ac arferion y llygredig."
Y Bardd:
Ebe finau "Rhaid wrth reddfau;
Ofer dysgu heb gyneddfau;
'Pethau roed a geir mewn potes,'
Ys dywedai'r hen gardotes.
"Dawn naturiol yw callineb;
Diffyg gwreiddiol yw ffolineb;
Anhawdd, onide, addysgu
Bwmp y gors y nos i gysgu?
"Nid athrofau nac ysgolion
Sydd yn gwneuthur rhagorolion;
Ni fu'r eos fach ragorol
Mewn academi gerddorol.
"Trech yw natur nag athroniaeth;
Trech yw greddf na phob gwyddoniaeth;
Nid yw'r pysgod man yn cofio
'Rawr y dysgwyd hwy i nofio.
"Natur rasol sy'n rhoi synwyr
A rhagoriaeth i'w dylynwyr;
Ni wneir doethion fyth o ffyliaid,
Nac eosau o benbyliaid.
"Prinder anian yw pob gwendid;
Diffyg gras yw pob aflendid;
Lle na fyddo naturioldeb
Ni fydd crefydd na duwioldeb.
"Cas addysgu i areithio
'R sawl fwriadodd Duw i weithio;
Rhaid i natur, cyn ei eni
Fyn'd i gyngrair a'i rieni.
"Y mae natur yn ddyfeisgar;
Nid yw'n hoffi moddion treisgar;
Cymer hi yn fynych oesau
I gynyrchu dyn o foesau!
"Lle i fagu ffiloregau
Yw aelwydydd ein colegau;
Os am fawredd rhaid wrth reddfau
Yn cydweithio a chyneddfau.
"Y mae natur yn fendithiol,
A chelfyddyd yn rhagrithiol;
Y mae'r naill o ddwyf osodiad,
Ond y llall o hunan godiad.
"Natur sydd yn cywir nerthu;
Natur hefyd sy'n prydferthu;
Ac i lygad gwir ystyriol
Bri pob rhinwedd yw'r naturiol.
Nid oes moes mewn gwag gymhendod
Fwy na gras mewn annibendod;
Y mae natur fawr a'i grasau
Yn gwneyd pawb yn berthynasau."
Gwenhwyfar:
Ebe hithau yn fyfyriol
"Beth ond natur sy'n naturiol?
Ac, yn wir, y mae'n llawenydd
Gen i'th gwmni, gain awenydd!
"Rwyt mor newydd! O, 'rwy'n caru
Rhywun doniol yn llefaru!
Ac mor ddigrif fyddai clywed
Sut mae'r gwragedd yno--dywed!"
Y Bardd a'r Crach Wragedd:
Ebe fi "Yn mhlith y gwragedd
Y mae gogwydd mawr at wagedd;
Maent yn son am ffurfio undeb
I ddinystrio y cyfundeb.
"Maent yn awr yn dechreu archu
I'w gwyr priod yn lle'u parchu!
Maent yn dechreu ymfforchoca
(Rhag cywilydd!) wrth farchoca.
"Maent yn wir am efelychu
'R gwyr mewn poeri a phesychu;
Ond mae moesau y gwrywaid
Yn anfoesol mewn benywaid.
'Nid ynt mwy yn ymfoddloni
Yn rhesymol ar ddaioni;
Maent yn dechreu taeru'n gynes
Am holl freintiau dyn a dynes!
Y maent yn ei gwneyd hi'n gregyn
Yn y maes ac yn y gegin!
'Rwyf fi'n ofni'n ddyoddefol
Y bydd rhyfel mawr cartrefol!
"Maent yn gwawdio pob rhybuddiad,
Ac yn gwatwar pob datguddiad;
Ac ni dderfydd yr amrafael
Hyd y caffo Efa'r afael
"Yn awenau'r ymerodraeth,
Ac y caffo lawn lywodraeth,
Ac y gwelo lwyr ddysplead
O'r ffasiynau drwy y cread!"
Gwenhwyfar:
"Hach y fi! O'r anniddigrwydd!"
Ebe hi, "Y fath haerllugrwydd!
Boed y wraig yn ras y teulu—
Bydded yntau yn ben y beili.
"Lle y wraig yw ymegnio
Mewn glanhau a gwau a gwnio;
Caru'n fawr ei phlant a'i phriod
A gochelyd oedfa'r piod.
"Nid yw'r wraig yn neillduoliaeth,
Ond yn gyfran o'r ddynoliaeth—
Ebwn inau "Annibendod
Ddaw o bob peth sy'n ddisendod.
"Rhaid mai pengam waith rhyw dwymyn
Wna y wraig am rwygo'r rhwymyn
Wnaed gan Dduw-mor anystyriol
Mysgu cwlwm mor naturiol!"
Ebe Gwen, "Mae'th gred yn rasol;
Serch yw'r rhinwedd cymdeithasol;
Ond gad glywed yn rhyddfrydol
Sut a pethau'n mlaen yn fydol?
Y Bardd:
"Tewch a son! mae'r oes bresenol,"
Ebwn inau yn hamddenol,
"Yn ddigymhar mewn dyfeisio
Ac mewn cynllwyn ffyrdd i dreisio.
Y mae'r ager gyda rhodau
Yn gwneyd rhyfedd ryfeddodau;
Y mae'r ceffyl tan yn tynu
Ceir yn rhes a'th wnai i synu!
"Y mae'r llong drwy rym y peiriant
Yn tramwyo drwy'r llifeiriant;
Waeth am wynt na chwa nac awel
Hon drwy'r oll a nofia'n dawel.
"Ar bob ffordd a heol lydan
Brysia'r ceir gan rym y trydan;.
Dros y gwifrau yr anfonir
Negeseuau-telephonir!
"Golchir dillad a pheirianau;
Gydag ager gweir 'sanau;
Lleddir gwair a thynir tatws,
Ac a pheiriant gwnia Catws.
"Ac mae arnaf ofn o honi
Yr a'r Cymro i wefr farddoni,
I wneyd awdlau fel rhubanau
Rhwng y clawdd a'r difyr lanau.
"Canu, 'gethu a barddoni
Yw tair benaf gamp daioni
Y Brythoniaid yn holl ranau
Cymru rhwng y mor a'r banau.
Arthur:
Ebe Arthur yn freninol
"Sut mae'r byd yn gyffredinol?
Ofer fai i mi ddychmygu
A yw'n gwella neu waethygu."
Y Bardd:
Ebe finau "Mae'n dibynnu
Mae yn anhawdd penderfynu;
Mae ei ogwydd at weriniaeth,
Hyd wastadedd anghrediniaeth.
Mae haerllugrwydd balch hunaniaeth
Am wastadu pob gwahaniaeth;
I ffol ysbryd cydraddoldeb
'Run yw gras ac anfoesoldeb.
"Golud a yn dduw a delw,
A'r cyffredin gais yw elw;
Rhoddir pris ar bob gweithrediad,
Rhoir dan dal bob amgyffrediad.
"Nid o awen yr ysbrydol,
Ond o anian gnawdol fydol,
Y cyflawnir dyledswyddau
Gwerthir grasau megys nwyddau.
"Prin yw'r gwaith sy'n Dduwogonol;
Llawer camp yn lles personol;
Work and wages, dyna'r cyfan,
Sy'n holl bwysig drwy bedryfan.
"Aml ymgeisiaf a dyfalu
Beth fydd ddydd y farn i'w dalu,
Gan na roddir dim heb logau,
Ac ni wneir dim heb gyflogau.
"Aml rhoir swydd i'r mwyaf cnafus;
Aml rhoir allor i'r anafus;
I'r siaradus yr areithfa;
I gynffonwr waith y weithfa.
"Y mae'r byd yn llawn o bleidiau
Ac o sectau man yn heidiau;
Y mae'r da yn anghydfydol
Dim ond drwg sydd yn unfrydol!
'Dweyd o hyd wna'r Pab o Rufen
O bob ffydd mai fe yw'r hufen;
Ac mae lluoedd yn ei goelio
Wrth ei hawl wedi eu hoelio.
Pobiedono haera'n goegaidd
Mai'r un iawn yw'r Eglwys Roegaidd;
Aml i sect yn ffol a greda
Mewn rhyw gwd neu Bwd neu Beda.
Mae Archesgob Canterberi
Yntau'n cadw'r iawn gyfferi;
Ond fe ddwed y Pab gyn rwydded
Nad oes gras ond lle mae trwydded.
Nid yw gras yn werth os na bydd
Dan awdurdod gwych rhyw Babydd;
Daw goleuni Duw'n haelioni
Ond ei ras drwy seremoni!
Syn i Dduw erioed roi grasau
I ryw bab a'i berthynasau;
Rhoi'r allweddi yn gaffaeliaid
I wael ddwylaw un o'i ddeiliaid!
Nid yw'r Ne'n goleuo megys
Drwy het Pab neu drwy ei wregys;
Mae goleuni Duw yn nefol,
Ac yn mhobman yn gartrefol.
Nid yw'r heulwen yn sirioli
Drwy'r un Pio neu Satoli;
Daw y gwawl yn syth o'r wybyr,
A daw gras hyd yr un llwybyr.
Pam y dylai'r nefoedd eiriol
Drwy ryw deml neu dwr cadeiriol?
Pam y dylai gras dramwyo
Drwy y Vatig i'w andwyo?
Eyan Roberts, drwy'r pentrefydd
Daena oleu'r oreu grefydd;
Crefydd cariad Duw'n cynesu
Crefydd ddigyffelyb Iesu!
Crefydd gras yn denu'n garnau
Y ffol feddwon o'r tafarnau;
Gwneyd y mudion yn siaradus
A gelynion yn gariadus!
Gwneyd y rhegwr i weddio
Ac i ganu'n lle difrio; Tynu
Ysbryd Duw o'r nenau
Yn gawodydd ar eu penau!
"O! drwy Gymru, y per ganu,
Ac am gariad Duw'r molianu!
A hyn oll o nef gyfeiriad
Heb na phab, na phrist na 'ffeiriad!"
Ebai Arthur hardd "Gogoniant!"
Ebai Gwen "Amen" mewn lloniant;
"Myn'd at Dduw sy'n iawn, yn ddiau,
Heibio i wag seremoniau.
"Dyna'r gred a'r gyffes oreu,
Caru'n gilydd, hwyr a boreu;
Gwneyd yn gyfiawn at ein gilydd
Cyfrif camwedd yn gywilydd."
Felly bum yn treulio llawen
Dymp ag Arthur hardd a'i awen;
Yn cael gwely plu i gysgu,
Heb un helbul i'm terfysgu.
Gwelais ei holl blas a'i dyddyn
A holl rengau'i gysglyd fyddin;
Ei heirdd erddi a'i neuaddau
Gyda'u gwychder o bob graddau.
Ac wrth dewi'n awr yr wyf ar
Gais y Brenin a Gwenhwyfar
Yn cyflwyno'u dymuniadau
Goreu i Hen Wlad fy Nhadau!
Nodiadau
golygu- ↑ Clwyf