Am Dro i Erstalwm (testun cyfansawdd)

Am Dro i Erstalwm (testun cyfansawdd)

gan Dafydd Rhys Williams (Index)

Pennod Nesaf
I'w darllen pennod wrth bennod gwelerr Am Dro i Erstalwm



AM DRO I




ERSTALWM.








GAN INDEX.








CYNWYSIAD.
 
Am Dro
Am Dro i Erstalwm
Yr Awrhon a Chynt





AM DRO.

Ni wnaethym y Llyfr bach hwn er gwag glod
Na phrofi mai Ni yw'r rhai penaf mewn bod;
Nid oes budd mewn gweniaith, gwell yw cael y gwir
Oblegid efe fydd yr Holl Beth cyn hir.




AM DRO

I.

Dau enw rhyfedd yn nglyn a llenyddiaeth arwrol a rhamantus y Cymry yw y Brenin Arthur a Sieffry o Fynwy. Tua chanol y 12fed ganrif y cyflwynodd Sieffry Arthur i'r byd drwy ei "Historia Britonum," yn yr hon am y tro cyntaf y rhoddwyd hanes y Brenin digyffelyb ger bron Ewrop. Yr oedd Sieffry yn chwedleuwr heb ei fath, oblegid edrydd ei straeon mwyaf ofergoelus fel pe baent yn hanesion geirwir a chredadwy.

II.

Meddai ar y ddawn i wneyd i'r gau ymddangos yn wir; a chyda'r symlrwydd mwyaf swynol gallai enill y meddwl i goelio ei chwedlau heb y mesur lleiaf o ameuaeth. Yn ei ragymadrodd edrydd yn ei ddull chwedlonaidd am y modd damweiniol y dygwyddodd iddo ddyfod o hyd i Hanes Breninoedd Prydain, gan ddatgan ei syndod nad ysgrifenasai Gildas a Beda am Arthur. "Yn yr awduron prydferth hyn," ebe efe, "ni welais ddim am y breninoedd hyny a fucheddasant cyn Crist, nac am Arthur a llawer eraill a'i dylynasant, er yr haeddai eu campau anfarwoldeb ac er y trysorai y bobl eu coffadwriaeth yn eu calonau fel pe wedi ei hysgrifenu yno." Rhoddodd Gwallter Mapes, archddeon Rhydychain, hen lyfr wedi ei ysgrifenu yn y Frythonaeg iddo, yr hwn a gynwysai hanes parhaus mewn arddull syml a swynol o ddyddiau Brutus, brenin cyntaf y Prydeinwyr, i lawr hyd Cadwaladr fab Caswallon. "Mewn ufudd-dod i'w ddymuniad ef," eb efe "er nad oeddwn fawr o law at ysgrifenu iaith deg, ymgymerais a chyfieithu y llyfr yn fy ymadrodd cyffredin a diaddurn fy hun i'r iaith Ladin." Drwy ei ragdraeth ceisia argyhoeddi y darllenydd i goelio nad yw efe o fawr gwerth fel ysgrifenwr hanesion, er ar yr un pryd yn cyfansoddi y llyfr sydd wedi bod yn brif ffynonell rhamant a chwedloniaeth Prydain a'r byd. I Sieffry y mae llenyddiaeth yn ddyledus am y deyrnas ramantus fwyaf swynol welodd y byd ac sydd, hefyd, wedi bod yn ysbrydoliaeth i benaf awenau Ewrop.

III.

Yr oedd Sieffry yn rhamantwr o reddf ac o godiad. Nis gellir darllen tudalenaid o'i waith na theimlir hyny. Y mae yn cyfareddu y meddwl ac yn ei wneyd yn hygoelus yn ddiarwybod iddo ei hun, a chyn bo hir a y byd i ymollwng i goelio yr oll ag a ddywed. Y mae ei eiriau cyntaf yn gyfaredd i Brydeinwr ac yn ei brofi yn feddianol ar y ddawn o ramantu. Ebe efe, "Prydain, yr oreu o'r ynysoedd; cynyrcha bob peth sydd yn fuddiol i ddyn, gyda digonedd nad yw fyth yn pallu. Mae yn llawn o bob math o feteloedd; ei mynyddoedd yn gymwys i'r amaethyddiaeth decaf, gyda thir yn gyfaddas i bob amrywiaeth o ffrwythau; a'i gwigoedd yn llawn o bob math o wylltfilod;" ac ni anghofia grybwyll am ei da corniog a'i gwenyn. O dan ei huchel fryniau y gorwedd meusydd gwyrddion. rhwng nentydd murmurog yn llawn pysgod. Poblogir y wlad yn awr, ebe efe, gan Brydeiniaid, Rhufeiniaid, Sacsoniaid, Pictiaid a Scotiaid, ond gynt arferai y Brythoniaid ei rheoli o for i for, hyd i Dduw ddial arnynt am eu pechodau a'u balchder. Yna a Sieffry yn mlaen i adrodd hanes y breninoedd Prydeinig. Galwai un o'r Pabau Brydain yn baradwys a gardd o fwyniant; ac y mae darluniad Shakespeare o honi yn Risiart II. yn odidog a nodweddiadol o'i ddawn ef:

This other Eden, demi-paradise;
This fortress built by Nature for herself;
This happy breed of men, this little world;
This nurse, this teeming womb of royal kings,
Fear'd by their breed, and famous by their birth.


IV.

Yn mhell dros y tonau mae gwlad fach ryfeddol,
Pe chwilid fy nghalon ceid ynddi ei llun;
Nid byth y crybwyllir am wlad nag y cyfyd
Yn swynol i'm golwg fy ngwlad fach fy hun;
Mae'n llawn o fan gymoedd a bryniau a nentydd
A myrdd o fan gaeau fel gerddi i mi;
Os sonir am hiraeth, y wlad hon ymddengys
O flaen fy serch clwyfus—fy mamwlad yw hi!

Yn mhell dros y tonau, rhwng bryniau mae'm cartref,
Pe chwilid fy nghalon ceid ynddi ei lun;
Er teithio y gwledydd, a gweled pob gwychder
Hen gartre'r cartrefi yw'm cartref fy hun;
Pan fo hi yn heulwen mi gwelaf e'n ddysglaer
Ar lechwedd oleulwys yn ngwyneb y ne';
Ni sonir am gartref na saif hwn i fyny
I'm serch yn hudoliaeth, yn benlle pob lle!

Yn mhell dros y tonau mae swynion rhamantus
Agorant fy mron fel ag allwedd, bob un;
A chlywaf yr awel yn murmur hen donau
Yn fiwsig-adgofion o'm mamwlad fy hun;
Os sonir am Wynfa, yn gyntaf i Gymru
Yr hed draw fy meddwl, can's coelio wyf fi
Na fydd yr un nefol ond Cymru o newydd
A Chymru'n y nefoedd fydd Gwynfa i mi!


V.

Bywiai Sieffry yn y 12fed ganrif, a dyrchafwyd ef yn Esgob Llanelwy yn 1152. Am oesau coelid fod ei hanes yn wir ac ymddiriedol, ond barn ysgolheigion mwyach yw mai chwedlau yw y cyfan o'i hanes, ond gall pob meddwl awengar a rhamantgar fedi llawer o fwyniant a thynu gwersi gwerthfawr o'u darllen.

VI.

Adwaenir yr awdwr rhamantus wrth yr enw Sieffry o Fynwy, a thystir i ddylanwad ei waith gan y ffaith iddo ysbrydoli mwy o ysgrifenwyr na neb arall. Dylanwadodd ei hanes megys cyfaredd ar y meddyliau mwyaf awengar drwy yr oesau, gan gymeryd i fewn Shakespeare a Tennyson. Bu yn mryd Milton am flynyddau i wneyd yr hanes am Arthur a'i Ford Gron yn destyn arwrgerdd, ond yn ddiweddarach dewisodd Goll Gwynfa.

VII.

Gellid cyffelybu hanes Sieffry i ffynon yn nghanol mynydd anghysbell yn llifo o gwm i gwm gan gasglu nerth nes dyfod yn afon lydan yn nghanol meusydd heirdd a chnydfawr, yn ogoniant gwlad. Gellid olrhain y llenyddiaeth Seisnig i hon; ac y mae holl ramant y beirdd diweddaraf yn ddyledus iawn i ysbrydoliaeth yr awen ryfedd hon o dref Mynwy. Ar ei ymddangosiad cyntaf, croesawyd yr hanes gyda chymeradwyaeth gyffredinol gan y dysgedig yn ogystal a'r anwybodus. Ni ameuai neb nad oedd ei holl gynwys mor wir a'r efengyl. Defnyddid darnau o hono gan y Brenin Edward I. mewn dadl a'r Pab Bonifas yr Wythfed. Yr oedd ei hynafiaeth yn drech na phob anghrediniaeth. Yr oedd gair y gwr duwiol yn ddigon o sicrwydd ei fod yn wir a dim ond y gwir. Ar hyd yr oesau amddiffynid yr hanes gan yr ysgolheigion blaenaf; ac os yr ymgeisid i'w wadu gan Sais, priodolid hyny yn ddioed i'w ragfarn at y Cymry!

VIII.

Tebyg na phenderfynir fyth mo'r pwnc pa un a'i cyfieithiad a'i cyfansoddiad gwreiddiol o eiddo Sieffry oedd ei Historia Britonum. Dywed yr hanes i ddyn o'r enw Gwallter Mapes, archddeon Rhydychain, ddyfod o hyd i'r ysgrifau gwreiddiol mewn llyfrfa yn Llydaw, yn y Frythonaeg, ac vn dwyn arwyddion o hynafiaeth mawr. Dygodd hwy gydag ef i Loegr, ac wedi chwilio allan am rywrai hyddysg yn yr iaith Brydeinig, dygwyddodd iddo ymdaro wrth Sieffry, gwr hynod o hyddysg yn hynafiaeth a hanes Prydain, gwybodus yn iaith y Brython, ac ysgrifenwr prydferth mewn odl ac hebddi. Pan welodd Sieffry yr hanes dywedir iddo gael boddhad i'w ryfeddu, gan ymgymeryd a'i gyfieithu i'r Lladin. Haerai rhai fod yr ysgrifau gwreiddiol hyd heddyw ar gael, ond ni ddywedir yn mha le. Ond ofer fyddai dadlu y pwnc hwn o gwbl, gan ei fod yn hysbys mai chwedlau yw yr hanes yn y cyfanswm, yn gymysgedig, feallai, a symiau bychain iawn o wir. Ni fyddem yn mhell o le pe y cymwysem at ramant Sieffry y geiriau almanacaidd hyny, "Ychydig o wir a llawer yn gelwydd." Ond wedi yr oll gall fod hanes yn chwedl ac eto yn llawn dyddordeb ac adeiladaeth.

IX.

Priodola rhai holl ffughanes Sieffry i eiddigedd y Cymro. Yn gweled nad oedd mewn byd hanes cyflawn o hynafiaeth Prydain, fel oedd gan y Lladinwyr, y Groegiaid, a'r Hebreaid (yn enwedig yr olaf) o'u gwledydd, tybir i Sieffry ymgymeryd a'r gorchwyl o lanw y diffyg, yr hyn a wnaed i foddlonrwydd yn Historia Britonum. Hyd ddechreu y ganrif ddiweddaf ffynai y goel o'r braidd yn gyffredinol yn mhlith y Cymry eu bod yn ddisgynyddion Gomer, ac ai rhai mor bell a haeru mai Cymry oedd y cynddiluwiaid; mai Cymro o waed coch cyfa oedd Adda, ac mai y Gymraeg oedd iaith Eden. Felly y mae cryn sail i'r gred i'r Cymro ddyfeisio ei hanes hynafol i gael y goreu ar awduron gwledydd eraill.

X.

Ond waeth yn y byd am wirionedd yr hanes, y mae y rhamant sydd yn elfen mor brydferth a gogoneddus yn ei gwneyd yn fwy swynol na hanes. Y mae rhoi tro drwy hen lenyddiaeth chwedlonol y Cymry yn fwyniant ac adeiladaeth. Y mae yn llawn o'r dychymygion mwyaf cywrain a'r meddylddrychau mwyaf hudoliaethus. Y mae ynddi ddefnyddiau i'r beirdd am oesau y ddaear; a'r syndod penaf yw i'r awen Gymreig wneyd cyn lleied o'r trysor anferth hwn sydd mor hylaw ganddi.

XI.

Y mae y Cymry wedi bod mor ddisylw o'u hadnoddau awenawl ag o'u trysorau daearol. Y mae eu trysorau rhamantus wedi myned yn eiddo y Saeson, fel yr aeth eu tir, eu mwn, eu glo a'u pethau gwerthfawr eraill. Ymddengys y Cymry yn foddlon ar y dychymyg fod pethau yn eiddo iddynt heb y boddlonrwydd ymarferol o'u meddianu yn wirioneddol a sylweddol. Cenedloedd eraill sydd yn dadblygu eu trysorau awenawl a rhamantus, fel y dadblygant eu hadnoddau daearol a thanddaearol. Y mae eisieu i'r Cymry feddianu eu gwlad, yn dir, mor, dwfr, awyr ac awen yn drwyadl ac i ddybenion ymarferol a gwareiddiol.

XII.

Dywedir i William Williams, Llandegai, fod yn foddion i gael yr Arglwydd Penrhyn i gymeryd at y gwaith o ddadblygu cyfoeth enfawr chwarel Cae Braich y Cefn. Yn flaenorol i hyny, ceid ychydig Gymry (yn ol yr hanes) fel nifer o ieir yn crafu mewn tyllau beision ar lechwedd y Fronwen. Onid yw hyny yn arddangosiad, hefyd, o'r modd yr esgeulusodd eu llenorion a'u beirdd drysorau rhamantus eu llenyddiaeth henafol gan fyned i grafu tomenau cystadleuaeth Eisteddfodol a chynyrchu dim gwerth i gyhoeddi ar hyd y blynyddau? Onid ydym fel pobl wedi colli ysbrydoliaeth ac awen ramantus ein cyndadau? Onid ydyw ein hawdlau a'n pryddestau a'n cynyrchion rhigymedig a chynganeddol wedi ymddirywio i ddim nemawr gwell na chyffredinedd blin a diddyddordeb? Yr ydym wedi myned fel cynifer o ieir rhigymol i grafu tyllau beision yn lle treiddio a chloddio i fewn i drysorau dihysbydd ein rhamantau Cymreig. Y mae gogoniant yr awen wedi myned o'n gafael gan adael dim ar ol ond teml wag a defodau diamcan a diystyr!

XIII.

Nid haeriad dwl yw y dywediad fod y gwaed a'r anian Geltaidd wrth wraidd mawredd Prydain. Y mae fel ystof ar ba un y gweuwyd y genedl gyfansawdd fawr a elwir yn "British Nation." Y genedl neu yr ach Geltaidd yw yr ystof, a'r Rufeinaidd, y Sacsonaidd, y Ddanaidd a'r Normanaidd yw yr amrywiol we. Fel y dywed Matthew Arnold, i hon y mae y Saeson yn ddyledus am eu hysbryd annibynol, eu hyni, eu cariad at ryddid, eu cydymdeimlad ag egwyddor cyfiawnder, gonestrwydd, uniondeb mewn llysoedd barn, &c. Y gwaed Celtaidd yn nghalon y Sais gyfrifa am ei fod yn well na'r Ellmyn, ei lysfrawd, ar y Cyfandir. Y mae mwy o waed y Cymro yn y Sais nag sydd ynddo o'i waed ei hun! Ond, cofier mai gwaed y Cymro yn ei amser goreu sydd yn y Sais, nid y Cymro dirywiedig presenol. Gwaed y Cymro pan oedd yn arwrol ac yn rhamantus. Diau fod llawer o'r gwaed a'r awen Geltaidd hon yn Shakespeare a Milton, Byron, Burns ac eraill. Y dyddiau hyn, y mae wedi myned yn ffasiwn i haeru fod y Celtiaid yn anwadal ac yn ddiddyfalwch. Y maent mewn rhyw ystyr yn hyny, ond mewn ystyr arall y maent y bobl ddyfalaf a chyndynaf ar lawr y ddaear. Y maent yn ddiarebol o ymlyngar wrth rai pethau, a phethau eraill nis gellir eu cael i ymgyraedd atynt o gwbl. Ni charant y pethau mwyaf buddiol iddynt eu hunain bob amser, ond ymgyndynant wrth bob peth a hoffant. Rhyw Sais a ddyfeisiodd y chwedl a ganlyn i arddangos hoffder cyndyn y Cymry o gaws pob, yr hon a roddir genym ar gan yn y Gymraeg am y tro cyntaf:

XIV.

Mae'n scrifenedig mewn hen frut
Pa bryd rhoid Pedar a pha sut
Yn wyliwr ar glaer borth v nef,
A'r drafferth flin a gafodd ef
Gan rai anhywaith adodd Duw
Ryw fodd o'i dostur yno i fyw.

Ac yn eu plith fe ddaeth yn lli
Rhyw haid o Gymry gwael eu bri,
Y rhai ymdyrent i'r un fan
A'u cyson dwrdd fel melin ban,
Gan flino eraill yn ddi nag
A'u bregliach a'u bragaldiach gwag.
Bob un yn siarad fel o'i go.
Y naill a'i "fe" a'r llall a'i "fo;"
Bob un yn tyrfu am ei blaid
Yn gyndyn dros ei enwad gaid;
Cystadlu, dadlu a pheth na
Hyd ddrygu'r nef ei hun a'u pla;
Hyd nes i'r Arglwydd deimlo'n flin
Eu gado idd ei wlad ei hun.

Ac ebai ef wrth P. ryw ddydd
"Mi garwn gael y wlad yn rhydd
O rai mor ffraellyd ac mor groes;"
A'r ateb hwn y porthor roes:
"Fy Arglwydd da, mor hawdd i'w wneyd
Yw hyny ag yw'n hawdd ei ddweyd."
Ac aeth Sant Pedar felly i mas
O'r wynfa glaer i'r byd di ras,
A chlyw'd e'n bloeddio (gyfrwys freg)
"Caws wedi bobi!" nerth ei geg,
A'r Cymry'n clywed aent ar frys
At floedd apeliai at eu blys
A neidiodd P. yn od o dlws
I fewn i'r nef gan gloi y drws!

XV.

Cymerer y Gwyddelod (Celtiaid) mewn ymdrech a'r gorthrwm Normanaidd, ac ar ol saith canrif o ddyfal wrthwynebiad yn cyraedd buddugoliaeth. Cymerer y Cymry wedi canrifoedd o ymgiprys a'r un gallu tirgarol a gorthrwmgarol yn cadw eu hiaith a'u hunaniaeth mor ddilwgr! Nid yw Lloegr namyn goruwchadeiladaeth Deutonaidd weledig ar seiliau Cymreig anweledig, fel y dywed Matthew Arnold; neu i ddefnyddio cyffelybiaeth arall, talp o does Teutonaidd gyda'r lefain neu y burym Celtaidd yn gweithio drwyddo yn raddol i'w droi i ddybenion hollol Geltaidd cyn y diwedd. Wedi i'r Sais dderbyn y gwaed a'r ysbrydoliaeth Geltaidd i'w gyfansoddiad yr aeth yntau yn enaid byw. Cydnabyddwn ei fod yn business man, yn rheolwr a gorthrymwr erioed, ond y teimlad Celtaidd ynddo ddechreuodd ei wneyd yn Brydeiniwr. Y rheswm ei fod yn well heddyw na'r Ellmyn yw fod y gwaed Celtaidd ynddo.

XVI.

Y mae yr anian Geltaidd ramantus wedi bod o les i'r Sais, eithr wedi drygu y Cymro. Y mae y rhamantus mor debyg o niweidio dyn a dim oddigerth iddo ei throi at waith buddiol. Aeth y Cymro yn ymffrostgar o'i henafiaeth, ac felly yn ddiofal o'i ddyfodol. Am oesau bu y Cymro a'i wyneb tuag yn ol yn ymhyfrydu mewn cynllunio chwedlau am ei haniad a'i henafiaeth ddigyffelyb. Nid oedd yn ddigon i'r Cymro olrhain ei darddiad yn ol i Brutus, rhaid oedd iddo fyned yn ol i Gomer, mab i fab hynaf Noah, a phrofi gyda llaw mai y Gymraeg oedd iaith Noah. Ebe un awdwr ar y pwnc hwn, "Ni chafodd y Cymry eu hiaith o gymysgfa Twr Babel, am y rheswm fod Gomer, tad y Cymry, wedi ymadael am y Gorllewin cyn hyny, ac wedi myned a'r famiaith gydag ef. Nid oedd y Cymry yn Babel o gwbl. Felly gellid casglu yn naturiol mai y Gymraeg oedd yr iaith gynddiluwaidd." Ebe awdwr arall, "Yn yr iaith Gymraeg y rhoddwyd yr addewid gyntaf i Efa." "Gwahanol dafodieithoedd o'r Gymraeg (yr Omeraeg) yw yr holl ieithoedd o'r Sanscrit fawr hyd y Wyddelaeg fach." "Y Gymraeg yw gwreidd-fam holl ieithoedd y ddaear." Y mae y ddawn ramantus hon felly wedi niweidio y Cymro drwy droi ei feddwl i ymhyfrydu yn y gorphenol pell yn lle yn y presenol a'r dyfodol agos; yn ogystal a'i wneyd i or ganmol ei genedl ei hun.

XVII.

Gwelir hyn yn amlwg yn y llinellau a ganlyn o eiddo y bardd Cymreig:

A fu erioed o fawr rym
Neb o golofn Ab Gwilym?
Na, fu'r un o'u nifer hwy
Werth rhawnen wrth Oronwy.
Heriaf Homer a Horas,
Ni bu a'i trech neb o'u tras!

Edmygwr dirfawr o henafiaeth y Cymry oedd Iolo Forganwg. Ryw dro aeth i Lundain i alw ar ryw foneddwr uchel, ac wedi cyraedd y ddor, daeth y trulliad i ateb y curiad, ac yn gweled rhyw daiogyn wrth yr agoriad, hysbysodd hyny i'r boneddwr, yr hwn a ddaeth at y drws gyda fflangell gan fwriadu ei chymwyso at y dyeithrddyn, ond ebe Iolo:

Strike a Welshman, if you dare,
Ancient Britons as we are;
We were men of great renown
Ere a Saxon wore a crown.


XVIII.

Y mae yr henafiaeth ddysglaer hon o luniad y dychymyg rhamantus Cymreig wedi niweidio y Cymro yn ddirfawr drwy daflu ei feddwl i'r gorphenol pell i ymfoddloni ar fawredd tybiedig ei gyndeidiau yn lle ymroi ei hun i adeiladu iddo ei hun fawredd a chlod cyfamserol. Y mae plant tadau cyfoethog yn fynych yn troi allan yn ddiffrwyth, am yr ymorphwysant ar olud y teulu. "Y mae genym ni Abraham yn dad i ni," ebe yr Iuddew; a'r un modd y dywedai y Cymry "Y mae genym ni Gomer, a Noah, ac Adda yn dadau i ni,” ac ymfoddlonent ar hyny.

XIX

Ond os mai drwg llenyddiaeth ramantus y Cymry fu troi eu meddwl yn ol i fawrhau ac ymffrostio yn eu henafiaeth aruthrol o ddysglaer, canlyniad y Diwygiad crefyddol gant a haner o flynyddau yn ol fu taflu y meddwl Cymreig yn ormodol i'r dyfodol pell. Aeth y Cymry dan ddylanwad y llenyddiaeth dduwinyddol i efrydu y byd y tu draw i'r bedd, fel ag i ebargofi y presenol gwerthfawr yn nghyd a'i ddyledswyddau amrywiol a phwysig. Hyd yn ddiweddar, o ddyddiau Rowlands, Llangeitho, a Hywel Harris, pregethu ac efrydu duwinyddiaeth oedd prif ddifyrwch y Cymry. Ni chymerent nemawr ddim dyddordeb yn y gwyddorau, y celfau a'r crefftydd. Am genedlaethau buont fel pobl yn oedi yn nychlyd ar lan Iorddonen crefydd bruddglwyfus.

XX.

Y mae hyn yn nodweddiadol o genedloedd rhamantus eithafol. Eu tuedd yw myned yn ddifater Ο ddyledswyddau cymdeithasol a gwladyddol gwareiddiad. Dyma nodwedda y Cymry a'r Gwyddelod ar hyd yr oesau. Y mae yr enaid fyddo rhamant wedi ei wenwyno yn analluog i wynebu gwirionedd. Cenfydd wyrthiau a dirgeledigaethau yn mhob man, ond ni wel werth bywyd ymarferol. Fel y dywed Noyalis, gwell gan y rhamantwr y nos gyda'i lloerwen yn hytrach na'r dydd gyda'i heulwen. Y mae mwy o feirdd wedi canu am y lloer nag am yr haul. Rhyw lewyrchyn bach fel y gloyn oedd "goleu mwyn" y Cardinal Newman. Yr oedd yn gas ganddo yntau heulwen gwareiddiad. Yr ydym ni fel cenedl wedi bod yn hiraethus am ryw fawredd yn y gorphenol, ac fel y dywed ysgrifenydd Germanaidd am y rhamantwyr eithafol "ymborthasom ar ddychymyg, a difaodd hwnw ni yn dal am hyny."

XXI.

Y mae pobl hiraethant ar ol y gorphenol pell, ddysgwyliant am y dyfodol trawsangeuol yn anghymwys i hyrwyddo eu gwareiddiad yn y fuchedd sydd yr awrhon. Y mae y bobl ofalant am y presenol yn gymwysach i ofalu am y dyfodol na'r rhai freuddwydiant o bell am y dyfodol. Profir hyn gan y cenedloedd ymarferol o'u cyferbynu a'r cenedloedd rhamantus. Y mae graddau o ramant yn yr ysbryd yn fuddiol ac anhebgorol, ond y mae gormod yn ddinystr ac yn wenwyn. Cynyrcha y naill wareiddiad; arweinia y llall i oferedd meddwl a moes. Y mae y rhamantwr fel y Pabydd a'i wyneb tua'r gorphenol a'i gefn ar y dyfodol. Y mae y rhamantwr gan mwyaf yn dueddol i lithro yn ol i ofergoeliaeth ac aros gyda phethau y gorphenol. Y mae y rhai hyn am godi pethau yn eu hol o hyd. Yn y gorphenol, gwelant baradwys, er mai y ffaith yw mai i ddyfod y mae yr Oes Euraidd. Dyma amryfusedd penaf y rhamantwyr, gosodant baradwys yn yr amser aeth heibio yn lle yn yr amser i ddyfod. Edrychant am y ffrwyth yn y gwraidd, yn lle yn y brig. Fel Wilhelm Meister crwydra y rhamantwr gyda nod, eithr heb wybodaeth o'r lle y mae na chynllun i'w chyraedd. Pan y mae y wawr ar dori y mae y rhamantwr a'i gefn ar doriad y dydd a'i wyneb yn mawrhau y lloer fan draw!

XXII.

Felly gwelir fod y dychymyg sydd yn brif ysgogydd gwareiddiad, yn y gormodiaeth o hono yn rhwystr ac yn dramgwydd. O fewn terfynau ymarferol, y mae yn elfen werthfawr; yn y meddwdod o hono y mae yn wanychiad y meddwl ac yn ei wneyd yn ddiamcan yn ei weithrediadau. Parlysir y meddwl gan or-ddychymyg. Ffrwythau addfed rhamantiaeth yw diystyrwch o wirionedd a sylwedd, diogi, gwrthwynebiad i ymarferoldeb, amddifadrwydd o amcan buddiol. Gwna ddyn yn bendefig, i fyw ar ddychymyg gan gyfrif ei hun yn rhy urddasol i gyflawni gwaith a dyledswyddau gwareiddiad. Ai nid hyn gyfrifa fod ein cenedl hyd yma mor amddifad o gynyrchion gwareiddiad a diwylliant? Nid oes yn ein hanes bensaerniaeth, arluniaeth, cerfiaeth, gwyddor na chelf uwchraddol fel a gaed yn Groeg. Yr ydym hyd yn nod heddyw yn amddifad o'r pethau hyn ac yn amddifad o'r awydd i'w cynyrchu a'r chwaeth i'w gwerthfawrogi. Ni fu yn ein plith erioed ddim yn teilyngu yr enw Dinas. Ni fu genym erioed Brif Ddinas, ac felly ni fu yn ffynu yn ein plith awydd am undeb cenedlaethol, yr hyn sydd wrth wraidd sefydliad a gwneuthuriad cenedl. Q

XXIII.

Ar hyd yr oesau cyfyngid y bywyd Cymreig i gynyrchu bywoliaeth syml, canu, barddoni a rhyfela. Yr oedd yr olaf mor gryf a dim ynom. Yr oedd yr anian hon mor gref fel os na chaem y Saeson yn barod i ymladd a ni, ymladdem a'n gilydd. Os na fyddai genym achos rhyfel, dychymygem un digonol i gychwyn ffrae waedlyd. Cadwai hyn ni yn brysur ar hyd yr oesau, fel na feddem na defnyddiau na hamdden i adeiladu ein gwlad yn gymdeithasol a gwleidyddol. Yr oedd ar lanau Cymru gyfleusderau masnachol godidog a gwledydd eraill, ond ni ymddengys y teimlem ddim dyddordeb yn hyny, fel y Groegiaid gynt. Am ganrifoedd ni ymddangosem yn cynyddu ac yn ymddadblygu dim. Ymddangosem yn ddidoledig oddiwrth bawb, ac yn ymfoddloni yn hollol arnom ein hunain a'n trafferthion mewnol parhaus. Bu ein hymrafaelion a'n hanundeb ar hyd yr oesau yn felldith i ni fel cenedl. Collasom ein gwlad drwy ein hymrangarwch; ac esgeulusasom ein gwareiddiad a'n cynydd i foddio ein hoffder o ryfel a chynen.

XXIV.

"I ha' na faith in the Celtic blude and its spirit o lees," ebe Mackaye yn "Alton Locke," o her- Q wydd ei anwadalwch. "Puir lustful Reubens that they are, unstable as water"-"ansafadwy fel dwfr; ni ragorant." Y mae anwadalwch neu ddiamcanrwydd yn gyfartal a diffyg gallu. Y mae rhamantusrwydd y meddwl Celtaidd yn achos ei wendidau. Un o'i wendidau yw ei duedd i droi ymaith oddiwrth ffeithiau profiad. Car ymgrwydro ymaith i fyd y dychymyg yn mhell o frwydr y byd a'r fuchedd bresenol. Ebe y meddwl rhamantus o hyd "Rhowch i mi bethau anymarferol y darfelydd, pethau gwlad hud a lledrith; pethau anghymwys i'r bywyd presenol." Afradlon yw y meddwl rhamantus, ac ni fydd o fudd hyd y dychwelo i ymafael a'r ymarferol. Nid diffyg gallu a dawn yw diffyg y Celt, ond diffyg gwerthfawrogiad o'i amgylchoedd.

XXV.

Hyd yn ddiweddar y mae y Cymro wedi dangos mwy o'r diffyg hwn na'i frodyr, yr Ysgotyn a'r Gwyddel. Oni freuddwydiodd y Cymro ei fywyd ymaith drwy yr oesau, gan fawrhau ac ymhyfrydu yn ei feddyliau ei hun, gan dybio nad oedd eu gwell i'w cael? Drwy yr oesau bu a'i fryd arno ei hun a'i ragoriaeth dybiedig yn lle ymgydnabyddu a rhagoriaethau gwareiddiad a'u mabwysiadu a'u gwneyd yn eiddo iddo ei hun. Ymfoddlonodd ar ddychymygu rhes o Q ffug freninoedd a gwychder teyrnasol yn y cynoesau, heb flino o gwbl yn nghylch cael teyrnas a theulu breninol gwirioneddol. Rhagorach gwaith na ffugio pethau wedi bod, yw llunio pethau i fod. Fel y dywed yr awdwr Ffrengig, nid yw dychymygion anymarferol namyn coedwig ddiwreiddiau (une foret qui n'a pas de racines). Nid addoli y gorphenol wna y meddwl doeth, eithr adeiladu arno bethau rhagorach o oes i oes. Ar hyd yr oesau ni fu campau y Cymro yn deilwng o'i ddoniau. Treuliodd hwy i ryfela, barddoni ac ymddifyru yn ddiam "Herein lies the pitiful tragedy of his life." Ni ddirnadodd y ffaith bwysig fod gwareiddiad yn golygu gwybod a gwneyd. Meddyliai fwy o'i hunan nag o'i genedl a'i wlad. Ni chymerai ddyddordeb mewn pensaerniaeth, cerfluniaeth, arluniaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, celf na chrefft o radd uchel. Y mae yr oll o'r braidd o'i lenyddiaeth yn farddoniaeth, a'i awen fwyaf barddonol yn rhyddiaith, megys y Mabinogion, y Bardd Cwsg a Llyfr y Tri Aderyn. Awgrymiadol iawn yw y cyfaddefiad hwnw o eiddo awdwr "Drych y Prif Oesoedd" pan y dywed yn nglyn a'r traddodiad i'r Cymry ddyfod o Gaerdroia, y ceid gweled y bugeiliaid ar bob twyn a bryn yn tori llun Caerdroia ar wyneb y glas, ac ebai efe ar yr un pryd rhwng crom- Q fachau ["Yr oeddwn i yn cwbl fwriadu, pan sgrifenais hyn ar y cyntaf i osod yma lun Caerdroia, ond nid oedd dyn o fewn fy nghydnabod ag oedd o fedr i wneuthur hyny nac mewn pren nac mewn efydd"]. Nid llawer yn well ydoedd hi ar Thomas Pennant pan yn dwyn ei Deithiau allan gyda Moses Griffith fel ei gydymaith celfol. Fel y cydnebydd Pennant nid oedd y darluniau namyn gwaith "an untaught genius," geiriau a ellid gymwyso at athrylith y Cymry ar hyd yr oesau.

XXVI.

Awgryma hyn i ni ffaith amlwg yn nglyn a'n cenedl ni, sef na osododd o'i blaen erioed nod uchel mewn unrhyw gamp, ddim hyd yn nod yn y pethau yr ymhyfrydai fwyaf ynddynt, sef rhyfela, barddoni a chanu. Onid oes llawer o wir yn ngeiriau awdwr "Drych y Prif Oesoedd" pan y dywed "Gwaith salw a chwith yw adrodd helynt y Cymry, eu haflwydd a'u trafferthion byd yn mhob oes, canys mor anniolchgar oeddynt i Dduw ac mor chwanog i wrthryfela yn ei erbyn ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y cnawd a'r diafol, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddianus."

XXVII.

Mor druenus yw y desgrifiad a roddir o ys- Q bryd ymrafaelus y Cymry, yr hyn a gyfrif am eu colliad o'u gwlad a'u cyflwr tlawd ar hyd yr oesau, yr hyn a'u cadwodd yn ddigyfleusdra addysg a gwareiddiad. "Hwy allasent gadw y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid allan o'u gwlad pe buasent yn unfryd a heddychol a'u gilydd; ond rhaid addef mai dynion diffaith, cynenus, drwg, oeddynt na fedrent gydfod fel brodyr yn nghyd." Ac ebai eto, "Odid fyth y byddai heddwch parhaus yn y deyrnas, y trechaf yn treisio y gwanaf," &c. "Dylyn eu hen gamp ysgeler a wnaethent hwy fyth i ymryson a mwrddro eu gilydd, fel y gwelwch adar y to yn ymgiprys am ddyrnaid o yd," &c.

XXVIII.

Ond nid eu hymrysongarwch a'u hymrangarwch oedd unig ddiffyg y Cymry, eithr yr oeddynt yn ddiystyr o werth arfau effeithiol, ac yn ddisylw o werth medr i ryfela. Fel y dywed awdwr y "Drych," "Ni wna gwr dewr, heb fedr, ond sawdiwr trwsgl," ac ymadrodd yn arddangos yr un diffyg yw hwnw o eiddo Giraldus Cambrensis a ddywed a ddefnyddiwyd gan Harri yr Ail mewn llythyr at Ymerawdwr Caercystenyn, sef "fod pobl o fewn cwr o ynys Prydain, a elwir y Cymry, a rhai yn hyderus ddigon ymladdent law-law heb ddim ond y dwrn Q moel a gwyr arfog a gwaywffyn a tharian a chleddyf."

XXIX.

Onid hawdd yw casglu oddiwrth y ffeithiau uchod fod y Cymry yn feddianol ar wroldeb ac athrylith, ond eu bod yn ddiystyr o'u gwerth wedi eu diwyllio; eu bod yn ymfoddloni ar gyneddfau naturiol ac yn ddifater o effeithiolrwydd offer ac arfau sydd yn rhoi uwchafiaeth i bobl israddol.

XXX.

Ar hyd yr oesau cawn hwy yn llawn arwriaeth ddiamcan. Owen Glyndwr yw yr unig arwr Cymreig a ymddengys gymerai ddyddordeb mewn addysg a gwareiddiad. Ni ymddengys fod y beirdd yn feddianol ar nod uchel diwylliant a gwareiddiad. Gwarient eu hamser yn canu clodydd arwyr a rhyfelwyr, ac ambell i un yn canu mwynderau serch; ac ymddengys fod y Cymry hyd yn ddiweddar yn feddianol ar yr un meddylnodau. Sylwer ar ein can genedlaethol, yr hon gynwysa ddesgrifiad cryno o'n gwareiddiad drwy yr oesau:

Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol rhyfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwa'd.

Wrth wladgarwyr y golygir rhai garasant eu gwlad yn erbyn y Saeson, nid yn mhlaid eu lles a'u gwareiddiad. Hyd yn ddiweddar y mae mawrion a gwerin Cymru wedi bod yn ddiystyr iawn o gyflwr gwareiddiol eu gwlad. Yr oedd ei chyflwr politicaidd yn isel, a'i chyfleusderau addysg yn ddirmygedig.

XXXI.

Gweddi pob cenedl yw ei hawyddfryd parhaus, ac ymddengys mai gweddi y Cymry fu byw yn ddidoledig oddiwrth gymdeithas cenedloedd eraill. Ychydig o gydnabyddiaeth fu rhyngddi a chenedloedd gwar eraill hyd yn ddiweddar. Cauodd y drws yn eu herbyn, tynodd y lleni i lawr ar ei ffenestri, ac ymfoddlonai ar fyw ar ei phen ei hun, fel yr aeth i goelio mai hi oedd cenedl benaf y ddaear! Galwai ei hun yn wlad y breintiau mawr, a choelia llawer o'i phlant heddyw pe y collid y Gymraeg, yr ai pregethu, gweddio a chrefydd i ddifodiant! Aeth yn falch a hunanddigonol. Aeth i ymffrostio yn anghymedrol yn ei haniad a'i bonedd daearol. Fel y dywed Theophilus Eyans "Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cewch ar a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyraedd ato; pe bai ni eu hepil yn well o hyny." Nid ydym ond gwaeth o hono, oblegid nid yw ein hetifeddiaeth yn gyfatebol i'n hymffrost. Nid wydd ei anwadalwch. "Puir lustful Reubens that they are, unstable as water"-"ansafadwy fel dwfr; ni ragorant." Y mae anwadalwch neu ddiamcanrwydd yn gyfartal a diffyg gallu. Y mae rhamantusrwydd y meddwl Celtaidd yn achos ei wendidau. Un o'i wendidau yw ei duedd i droi ymaith oddiwrth ffeithiau profiad. Car ymgrwydro ymaith i fyd y dychymyg yn mhell o frwydr y byd a'r fuchedd bresenol. Ebe y meddwl rhamantus o hyd "Rhowch i mi bethau anymarferol y darfelydd, pethau gwlad hud a lledrith; pethau anghymwys i'r bywyd presenol." Afradlon yw y meddwl rhamantus, ac ni fydd o fudd hyd y dychwelo i ymafael a'r ymarferol. Nid diffyg gallu a dawn yw diffyg y Celt, ond diffyg gwerthfawrogiad o'i amgylchoedd.

XXV.

Hyd yn ddiweddar y mae y Cymro wedi dangos mwy o'r diffyg hwn na'i frodyr, yr Ysgotyn a'r Gwyddel. Oni freuddwydiodd y Cymro ei fywyd ymaith drwy yr oesau, gan fawrhau ac ymhyfrydu yn ei feddyliau ei hun, gan dybio nad oedd eu gwell i'w cael? Drwy yr oesau bu a'i fryd arno ei hun a'i ragoriaeth dybiedig yn lle ymgydnabyddu a rhagoriaethau gwareiddiad a'u mabwysiadu a'u gwneyd yn eiddo iddo ei hun. Ymfoddlonodd ar ddychymygu rhes o ffug freninoedd a gwychder teyrnasol yn y cynoesau, heb flino o gwbl yn nghylch cael teyrnas a theulu breninol gwirioneddol. Rhagorach gwaith na ffugio pethau wedi bod, yw llunio pethau i fod. Fel y dywed yr awdwr Ffrengig, nid yw dychymygion anymarferol namyn coedwig ddiwreiddiau (une foret qui n'a pas de racines). Nid addoli y gorphenol wna y meddwl doeth, eithr adeiladu arno bethau rhagorach o oes i oes. Ar hyd yr oesau ni fu campau y Cymro yn deilwng o'i ddoniau. Treuliodd hwy i ryfela, barddoni ac ymddifyru yn ddiam "Herein lies the pitiful tragedy of his life." Ni ddirnadodd y ffaith bwysig fod gwareiddiad yn golygu gwybod a gwneyd. Meddyliai fwy o'i hunan nag o'i genedl a'i wlad. Ni chymerai ddyddordeb mewn pensaerniaeth, cerfluniaeth, arluniaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, celf na chrefft o radd uchel. Y mae yr oll o'r braidd o'i lenyddiaeth yn farddoniaeth, a'i awen fwyaf barddonol yn rhyddiaith, megys y Mabinogion, y Bardd Cwsg a Llyfr y Tri Aderyn. Awgrymiadol iawn yw y cyfaddefiad hwnw o eiddo awdwr "Drych y Prif Oesoedd" pan y dywed yn nglyn a'r traddodiad i'r Cymry ddyfod o Gaerdroia, y ceid gweled y bugeiliaid ar bob twyn a bryn yn tori llun Caerdroia ar wyneb y glas, ac ebai efe ar yr un pryd rhwng cromfachau ["Yr oeddwn i yn cwbl fwriadu, pan sgrifenais hyn ar y cyntaf i osod yma lun Caerdroia, ond nid oedd dyn o fewn fy nghydnabod ag oedd o fedr i wneuthur hyny nac mewn pren nac mewn efydd"]. Nid llawer yn well ydoedd hi ar Thomas Pennant pan yn dwyn ei Deithiau allan gyda Moses Griffith fel ei gydymaith celfol. Fel y cydnebydd Pennant nid oedd y darluniau namyn gwaith "an untaught genius," geiriau a ellid gymwyso at athrylith y Cymry ar hyd yr oesau.

XXVI.

Awgryma hyn i ni ffaith amlwg yn nglyn a'n cenedl ni, sef na osododd o'i blaen erioed nod uchel mewn unrhyw gamp, ddim hyd yn nod yn y pethau yr ymhyfrydai fwyaf ynddynt, sef rhyfela, barddoni a chanu. Onid oes llawer o wir yn ngeiriau awdwr "Drych y Prif Oesoedd" pan y dywed "Gwaith salw a chwith yw adrodd helynt y Cymry, eu haflwydd a'u trafferthion byd yn mhob oes, canys mor anniolchgar oeddynt i Dduw ac mor chwanog i wrthryfela yn ei erbyn ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y cnawd a'r diafol, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddianus."

XXVII.

Mor druenus yw y desgrifiad a roddir o ysbryd ymrafaelus y Cymry, yr hyn a gyfrif am eu colliad o'u gwlad a'u cyflwr tlawd ar hyd yr oesau, yr hyn a'u cadwodd yn ddigyfleusdra addysg a gwareiddiad. "Hwy allasent gadw y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid allan o'u gwlad pe buasent yn unfryd a heddychol a'u gilydd; ond rhaid addef mai dynion diffaith, cynenus, drwg, oeddynt na fedrent gydfod fel brodyr yn nghyd." Ac ebai eto, "Odid fyth y byddai heddwch parhaus yn y deyrnas, y trechaf yn treisio y gwanaf," &c. "Dylyn eu hen gamp ysgeler a wnaethent hwy fyth i ymryson a mwrddro eu gilydd, fel y gwelwch adar y to yn ymgiprys am ddyrnaid o yd," &c.

XXVIII.

Ond nid eu hymrysongarwch a'u hymrangarwch oedd unig ddiffyg y Cymry, eithr yr oeddynt yn ddiystyr o werth arfau effeithiol, ac yn ddisylw o werth medr i ryfela. Fel y dywed awdwr y "Drych," "Ni wna gwr dewr, heb fedr, ond sawdiwr trwsgl," ac ymadrodd yn arddangos yr un diffyg yw hwnw o eiddo Giraldus Cambrensis a ddywed a ddefnyddiwyd gan Harri yr Ail mewn llythyr at Ymerawdwr Caercystenyn, sef "fod pobl o fewn cwr o ynys Prydain, a elwir y Cymry, a rhai yn hyderus ddigon ymladdent law-law heb ddim ond y dwrn moel a gwyr arfog a gwaywffyn a tharian a chleddyf."

XXIX.

Onid hawdd yw casglu oddiwrth y ffeithiau uchod fod y Cymry yn feddianol ar wroldeb ac athrylith, ond eu bod yn ddiystyr o'u gwerth wedi eu diwyllio; eu bod yn ymfoddloni ar gyneddfau naturiol ac yn ddifater o effeithiolrwydd offer ac arfau sydd yn rhoi uwchafiaeth i bobl israddol.

XXX.

Ar hyd yr oesau cawn hwy yn llawn arwriaeth ddiamcan. Owen Glyndwr yw yr unig arwr Cymreig a ymddengys gymerai ddyddordeb mewn addysg a gwareiddiad. Ni ymddengys fod y beirdd yn feddianol ar nod uchel diwylliant a gwareiddiad. Gwarient eu hamser yn canu clodydd arwyr a rhyfelwyr, ac ambell i un yn canu mwynderau serch; ac ymddengys fod y Cymry hyd yn ddiweddar yn feddianol ar yr un meddylnodau. Sylwer ar ein can genedlaethol, yr hon gynwysa ddesgrifiad cryno o'n gwareiddiad drwy yr oesau:

Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol rhyfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwa'd.

Wrth wladgarwyr y golygir rhai garasant eu gwlad yn erbyn y Saeson, nid yn mhlaid eu lles a'u gwareiddiad. Hyd yn ddiweddar y mae mawrion a gwerin Cymru wedi bod yn ddiystyr iawn o gyflwr gwareiddiol eu gwlad. Yr oedd ei chyflwr politicaidd yn isel, a'i chyfleusderau addysg yn ddirmygedig.

XXXI.

Gweddi pob cenedl yw ei hawyddfryd parhaus, ac ymddengys mai gweddi y Cymry fu byw yn ddidoledig oddiwrth gymdeithas cenedloedd eraill. Ychydig o gydnabyddiaeth fu rhyngddi a chenedloedd gwar eraill hyd yn ddiweddar. Cauodd y drws yn eu herbyn, tynodd y lleni i lawr ar ei ffenestri, ac ymfoddlonai ar fyw ar ei phen ei hun, fel yr aeth i goelio mai hi oedd cenedl benaf y ddaear! Galwai ei hun yn wlad y breintiau mawr, a choelia llawer o'i phlant heddyw pe y collid y Gymraeg, yr ai pregethu, gweddio a chrefydd i ddifodiant! Aeth yn falch a hunanddigonol. Aeth i ymffrostio yn anghymedrol yn ei haniad a'i bonedd daearol. Fel y dywed Theophilus Eyans "Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cewch ar a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyraedd ato; pe bai ni eu hepil yn well o hyny." Nid ydym ond gwaeth o hono, oblegid nid yw ein hetifeddiaeth yn gyfatebol i'n hymffrost. Nid oes genym ond gobeithio ein bod fel cenedl ar ddychwelyd o'n crwydriadau yn ngwlad hud a lledrith, ac y deuwn ar frys i weled gwerth profiad eang, dwfn ac amrywiol o'r bywyd sydd yr awrhon. Fel y dywed awdwr Ffrengig yn ei draethawd ar Ragfarnau: "Unwaith y crwydra yr ysbryd dynol, mae yn fynych yn hir yn dychwelyd o'i grwydriadau."

XXXII.

Gwelir yn hanes y Cymry yr ansoddau meddyliol ac ysbrydol hyny nodweddant y cymeriad rhamantus, sef y duedd i edrych yn ol gan fawrygu ac edmygu y gorphenol; i hiraethu ar ol yr amser gynt, gan foli a fu, yn hytrach na dyheu am ac ymestyn at a fydd. Dangosir y cyflwr meddwl hwn gan yr ymadrodd hwnw a glywir mor fynych, sef "codi Cymru yn ei hol." Dyna ddymuniad a dyhead y meddwl rhamantus, sef troi yn ol i'r gorphenol lle mae pob mawredd a dedwyddwch, can ac awen. Mae yn y pegwn cyferbyniol i'r ymarferol sydd a'i lygad ar y presenol a'r dyfodol. Onid hyn sydd yn cyfrif fod goludoedd sylweddol a thymorol Cymru yn ngafaelion estroniaid? I'r Cymro rhamantus gwlad beirdd a chantorion a gwladgarwyr tra mad yw Cymru; tra i'r Sais, yr Ysgotyn, yr Ellmynwr a'r Iuddew, y mae yn wlad oludog o lo, haiarn, dur, alcan, llechau, &c. Er fod y Cymro yn weithiwr rhagorol, yn lowr, gweithiwr haiarn a dur ac alcan, yn forwr ac amaethwr a phob crefftwr arall, eto rhamantus o fryd yw, gyda thueddfryd gref at ganu, awenu, pregethu a dychymygu. Y mae ei awyddfryd yn fwy am y dychymygol na'r ymarferol. Ai nid athrylith anymarferol ddiamcan (ein vacierendes Genie), fel eiddo arwr Eichendorff, yn ei chwedl ramantus, fu athrylith Cymru ar hyd yr oesau; ac ai nid y ffordd i gael Cymru i'r blaen fydd iddi gael ei nod o'i blaen yn lle o'i hol?

XXXIII.

Tueddir ni i gredu fod llawer o wir yn yr hen ymadrodd Lladin, "Scire Anglis sitis est; sitis est nescire Britannis," sef fod awydd y Sais i ddysgu, ac awydd y Brython i annysgu neu esgeuluso dysgu. Cefnogir y dywediad hwn gan gyflwr y Cymry ar hyd yr oesau yn nglyn a gwybodaeth a dysg fuddiol, ond ymddengys hyn i'w briodoli i dywysogion ac arweinwyr Cymru, oblegid yn awr ceir addysg yn blaguro a'r bobl yn ei werthfawrogi. Mawrion gwael sydd yn Nghymru. Ar hyd yr oesau yr oedd gan ein pobl ni ddigon o athrylith, ond nid oedd yn y wlad ysgolion na chyfleusderau i'w dadblygu. Ein beirdd oedd ein hunig ysgolheigion a llenorion, ac ni chynyrchai y rhai hyny ddim ond barddoniaeth; y mae genym heddyw ddigon os nid gormod o dalentau, ond rhy fach eto o gymellion i ymberffeithio ynddynt. Y mae genym fyrddiwn o brydyddion, ond neb i ymgystadlu a Shakespeare, Milton, Byron, Browning, &c. Y mae pawb eisieu bod yn rhywbeth, yn lle ymuno fel pobl i ddarparu trefn a chymorth i fechgyn mwyaf athrylithgar ein cenedl fyned yn uchel iawn. Diogel genym gyda threfn addysg bresenol a dyfodol Cymru y daw athrylith werthfawr ei phlant i sylw y byd. "Y fath fantais fyddai i'r bobl," ebai un am ei wlad, "pe y gadawent heibio ddawnsio!" Y fath les fyddai i'r Cymry, hefyd, pe y gadawent heibio rai o'u hoffderau ac y troent eu holl awyddfryd a'u holl athrylith o ddifrif i fod yn uwchraddol mewn cerdd, awen, celf, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, adeiladwaith, masnach, &c.! Nid oes ond ychydig o hyn yn ein hanes o adeg ein huniad a Lloegr hyd heddyw. Y mae genym ddigon o ganu, barddoni a phregethu, ond yr ydym mewn angen difrifol o'r pethau eraill defnyddiol a diwylliol a enwyd uchod. Nis gallwn fod hebddynt, os am fod yn gyfochrog a chenedloedd eraill. Mae trefn addysg Cymru yn addaw yn ddirfawr; mae y wawr wedi tori ar y Dywysogaeth; mae y dyfodol yn ddysglaer!



AM DRO I ERSTALWM

Os wyt ti gyndyned
Dy awydd am fyned
A'th nod ar fawr glod
Drwy yr oesau ar hynt,
Po bellaf yr ei di
Tywyllaf y cei di
Bob oes o flaen oes
Drwy yr hen amser gynt.
 
Mae rhai'n hoff o amser po hynaf ei dro,
Ond goreu ei dynged bo iangaf y bo.


AM DRO I ERSTALWM.

I.

Mae lle i goelio mai cynyrch ysbryd Barddas yw ein hawliad o uwchafiaeth a henafiaeth aruthrol y Cymry. Ni ein hunain gred yr ymhoniad hwn; ac felly nid rhyfedd i bobl eraill wawdio a gwatwar ein hymffrost. Beth a gynyrfodd y beirdd i goelio coel o'r fath oddigerth eu balchder a'u rhodresgarwch? Nid oes sail o gwbl i uwchafiaeth na henafiaeth ein cenedl, fwy na ryw genedl arall.

II.

Yn yr amser gynt, ni choeliai y Cymry y pethau hyn; nid oes son yn eu hen lenyddiaeth am danynt; ac wedi dyfodiad gwybodaeth glasurol a'r Ysgrythyrau yn adnabyddus yn y canrifoedd diweddaf, y dechreuodd y beirdd a'r llenorion Cymreig lunio ac adeiladu y gyfundrefn hygoelus.

III.

Fel y dywed Myfyr Morganwg yn ei "Henafiaeth y Delyn:" "Yn nghyfrinion Barddas yr ydym yn cael golwg ar yr holl syniadau a'r meddyliau hyny, o ba rai, drwy eu llygru, y gwnawd i fyny goel-grefyddau y byd, a hyny yn eu symlrwydd gwreiddiol, fel ag oeddynt cyn eu llygru." Yn ol Myfyr, "O tan Orsedd Barddas y tarddodd allan y ddiod grefyddol, sef y dwfr bywiol grisial gwreiddiol, yr hyn a hepleswyd wedi hyny, ac a drowyd yn drwythion meddwol i bendroni gwahanol drigolion." O ffynon Barddas, felly, cafodd holl genedloedd y ddaear eu gwybodaeth o amser a thragwyddoldeb.

Gwyddorion yr Orsedd oruchel o hyd
Yw'r "gwir" yn ei burdeb "yn erbyn y byd."

IV.

Felly dyma ymffrost dysgeidiaeth Barddas, sef mai y Cymro yw Alpha ac Omega, y cyntaf a'r diweddaf o feibion dynion. Ganwyd ef o'r dechreu, ac y mae y diwedd yn etifeddiaeth iddo. Nid rhyfedd i awdwr dawnus "Drych y Prif Oesoedd" yngan mai "gwaith salw a chwith yw adrodd helynt y Cymry." Yr ysbryd balch hwn a'u gwnaeth ac a'u gwna felly.

V

.

Nid oes awdwr estronol na chenfydd yr ymhoniad hwn. Blinodd awduron estronol a blinant y Cymry eto drwy eu cyfeiriadau gwawdus at darddiad y genedl. Un hen awdwr Seisnig a adroddai i'r Cymry cyntaf ddyfod allan o'r ddaear drwy dwll neu agen, a'u bod o liw gwyrdd anferthol, annhebyg i ddim dynol welwyd erioed o'r blaen. Rhai o'r Rhufeiniaid a'r Groegiaid hefyd, a goelient iddynt dyfu allan o'r ddaear, megys bwyd llyffant!

VI.

Er yr addawa awdwr y "Drych" symud y niwl oddiar ffordd hanes haniad ein cenedl, syrth efe yn fuan i ganol hygoeledd dysgeidiaeth drwy syrthio i fagl Barddas. Wrth sylwi ar ganlyniadau cymysgiad y tafod-ieithoedd wedi helynt Twr Babel, ebai efe, "A phwy oedd yn siarad Cymraeg a dybiwch chwi y pryd hwnw ond Gomer, mab hynaf Japhet ap Noah, ap Lamech, ap Methusela, ap Enoc, ap Jared, ap Malaleel, ap Cainan, ap Enos, ap Seth, ap Adda, ap Duw." Er yr awgryma y frawddeg yna mai Cymro oedd Adda ei hun, barn yr awdwr oedd mai Hebraeg oedd yr iaith wreiddiol. Cydnebydd efe fod y Gymraeg o haniad Babelaidd, ond yn ddiweddarach cawn rai yn haeru i'r Gymraeg ragoesi a goroesi helynt y Twr. Dywed awdwr Cymreig "nad oedd y Cymry yn Babel ar adeg cymysgu yr ieithoedd, felly, ebe efe, y casgliad rhesymol yw fod iaith y Cymry yn iaith gynddiluwaidd, a thebyg, yn iaith Paradwys. Nid dychymyg yw hyn, ond tebygolrwydd."

VII.

Teithia hwn eto ar yr un llwybr ag awdwr y "Drych," ac felly yn naturiol ac yn anocheladwy syrth i'r un agen. Ebe efe: "Pan ymneillduodd Aschenas oddiwrth ei frodyr, aeth a'i iaith gydag ef (siarada am iaith fel dodrefnyn). Gan fod y Cymry felly (Aschenas a'i deulu, tebyg) wedi cymeryd eu hiaith gyda hwy, rhaid ei bod yn iaith Noah (taid Aschenas), ac (felly yn y blaen) hyd yn iaith Adda, ac yn iaith Paradwys, oblegid ni chyfnewidiwyd arni o amser y cread." A hwn mor hyf a haeru, "Yn yr iaith Gymraeg y rhoddwyd yr addewid i'r wraig i ysigo pen y sarff." Y casgliad naturiol, felly, yw fod y Sarff yn Gymraes, neu o leiaf yn medru y Gymraeg. Sylwer eto yn mhellach y dywedir mai yn y Gymraeg y rhoddwyd yr addewid i'r wraig; felly y casgliad anocheladwy yw mai Cymro yw yr Arglwydd, neu o leiaf medrai Gymraeg y pryd hwnw. Y mae yr ymhoniaeth Farddol yn cyraedd yn mhell. Wrth gwrs, nid oes sail o gwbl i'r dychymygion hyn. Hygoeledd balchder Barddas sydd wrth wraidd yr hawliad eithafol hwn; ond wrth hawlio y fath henafiaeth i'r Cymry a'u hiaith, ychydig ganfyddant yr anfri a'r gwarth dynant ar eu penau drwy ein gwneyd ni a'n hiaith yn gyfryngau yr anffawd benaf ddygwyddodd i'r teulu dynol.

VIII.

A yr ysbryd barddol i fewn am yr oll o'r gogoniant sydd. Ebe awdwr y "Drych" mor syml wirion "Ac yma, pe dywedwn mai Cymry oedd y duwiau hyn, y rhai oedd Ewrop ac Asia yn eu haddoli yn amser eu hanwybodaeth gynt, mi wn eisoes y bydd rhai yn barod i chwerthin yn eu dwrn a dywedyd 'Nid yw hyn ddim ond ffiloreg.' Ond gan fod genyf awdurdod y gwirionedd i sefyll o'm blaen, mi a ddywedaf yn hy mai Cymry oeddynt. Nid wyf yn dweyd mai Cymry oeddynt o Gymru; nac wyf, mi wn well pethau; ond gwyr oeddynt o hiliogaeth Gomer, o'r un ach a ninau ac yn siarad yr un iaith. Y neb a dybio mai chwedlau gwneuthur yw y rhai hyn, darllened, atolwg, waith y Doctor dysgedig Pezron." Byddai hyny fel anog dyn wada ofergoeliaeth rhyw offeiriad Pabyddol i ddarllen gwaith y Pab!

IX.

A pha elw neu glod ydyw i'r Cymry hawlio henafiaeth mor aruthrol? Nid yw yn glod i'n cenedl mai Cymro oedd Adda, ac mai Cymro oedd y Diafol, yn rhith y sarff. Nid yw yn glod i'r Cymry mai eu cyndad achosodd lygriad y teulu dynol ac sydd gyfrifol am yr helynt fwyaf ddiraddiol gymerodd le erioed. Pa glod yw i'r Cymry mai drwy gamwedd Cymro a Chymraes y daeth barn ar bawb i gondemniad, ac mai trwy anufudd-dod Cymro a Chymraes y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid?

X.

Ond fel mae coeg athrawiaeth yn myned o ddrwg i waeth o angenrheidrwydd, yn nwylaw Myfyr Morganwg ymddirywiodd coel Barddas hyd y trodd yn wrthodiad o'r ddysgeidiaeth Feiblaidd, ar yr hon y seilid hi ar y cyntaf. Gymaint yw cyfaredd y gair a'r arwydd "Nod" i Myfyr fel y coelia efe mai gan Cain oedd y wir grefydd ac nid Abel, a thrwy linach Cain y disgynodd derwyddiaeth, sef y wir grefydd i lawr i ni, y Cymry! Y llinach wreiddiol, ebe efe, yw yr eiddo Cain. Nid yw llinach Seth ond math o efelychiad o linach Cain. Nid yw ffugachres Seth fel y'i ceir yn marddas yr Iuddewon ond llinach fabwysiedig plaid y ffug-feirdd. Y gwir yw, ebe efe eto, mai llin Seth a fuant yn mhob oes a gwlad yr eilunaddolwyr a'r aberthwyr gwaedlyd; ac mai yn llin Cain, sef llin Orseddog Menw mab y Teirgwaedd, o'r Ynys Wen, yn unig, y cadwyd adnabyddiaeth o'r Goruchaf Dduw Celi; a'i chyfrinion hi i'r dydd hwn, mewn cysylltiad a'r Cylch Gwyn-gil (Dinas noddfa Cain, neu ddinas Enoc) yw y "Gwir yn Erbyn y Byd" llygredig!

XI.

Yn ol Myfyr, eto, nid oedd Enoc y Beibl namyn Einigan y Cymry, a lle y dywedir "iddo rodio gyda Duw ac na chaed ef," yr ystyr yw iddo gael ei gymeryd i ddinas Enoc, paradwys neu yr Ynys Wen (Prydain). Yr oedd hyn

Cyn codi allorau na themlau,
Nac urddo offeiriaid di fudd;
Cyn llunio yr ofergoeliaethau
Sydd heddyw yn tw'llu ein dydd.

Cenfydd y darllenydd y seilia Myfyr yr oll o'i amryfusedd ar nod Cain. Fel engraifft o'r modd yr adeiladir cyfundrefnau yn fynych ar air neu ddau, neu ymadrodd neu ddau, gellir nodi y "Tair Gwaedd," a'r rhan a chwery yn athrawiaeth y Derwyddon diweddar. Nid yw y Nod Cyfrin namyn darlun o lyfr pren y Cymry, sef tair astell gul (gwydd) gyda phill neu hoel drwyddynt i'w dal wrth eu gilydd; ond fel y mae yn resyn meddwl adeiladwyd gan feirdd Barddas gyfundrefn wirion ar hyny. Y mae cymaint o sail i haeriadau gwirion Myfyr ag sydd i henafiaeth achres Pantagruel yn ffughanes yr arwr hwnw gan Rabelais.

XII.

Yn y flwyddyn 1853 ymdrechodd Myfyr gyflawni gwyrth drwy droi awrlais amser yn ei ol. Un Sabboth, ymgymerodd a'r annichonadwyaeth o adgyfodi y meirw, oblegid hyny mewn gwirionedd fuasai rhoi anadl einioes yn nerwyddiaeth yr hen Gymry ag oedd wedi marw er's oesau ac wedi ei chyfrif yn mhlith y pethau a fu. Ymdyrodd canoedd o amgylch y Gareg Sigl yn ymyl Pontypridd; aeth y Myfyr drwy nifer o ddefodau diystyr a disynwyr, dechreuodd y bobl chwerthin am ei ben; a throwyd ysgerbwd hen baganiaeth y Cymry yn ol i'w fedd lle y dylasai Myfyr ei adael i barhau ei hun dragwyddol. Dysgodd y wers nad hawdd yw adgyfodi y meirw. Canlynwyr Myfyr oeddynt bobl ddiamgyffred a digrefydd, rhai na wyddent y gwahaniaeth rhwng drwg a da, y dwl a'r doeth.

XIII.

Pan y bu Myfyr farw, dysgwylid y cai Derwyddiaeth lonydd yn ei bedd, ond rhoes Myfyr ei fantell ar ysgwydd Morien, ei olnydd apostcraidd, yr hwn sydd yn ymhyfrydu mewn cwhwfanu corff y farwolaeth Derwyddiaeth o flaen llygaid y genedl. Heddyw gwelir Morien yn sathru gwin-wryf Derwyddiaeth ei hunan, ac nid oes neb o'r bobl gydag ef. Ond nid oes mwyach win yn y grawnsypiau, eithr y mae fel pe yn sathru clai neu bridd. Y mae yn ei esboniadaeth dderwyddol fel amaethwr gwirion yn dyrnu gwellt henafiaeth.

XIY.

Y mae y duedd hon o eiddo y meddwl Cymreig i garu henafiaeth yn adgoffa y chwedl hono am ddyn yn y Gorllewin a drigai mewn congl anghysbell. Un diwrnod daeth teithiwr hyd at ei dyddyn, yr hwn a synai at anwybodaeth y gwr o ddygwyddiadau presenol a'i ddyddordeb byw yn amgylchiadau a helyntion y gorphenol. Ac ebai y teithiwr wrtho,

"Paham na chymerwch chwi bapyr newydd i'r ty?"

"Wel," ebe carwr yr amser gynt yn ol, "gadawodd fy nhaid ar ol i mi 'Ddrych y Prif Oesoedd,' a hen hanesion eraill yn cyraedd o ddyddiau Adda hyd Ficer Llanymddyfri, ac nid wyf eto wedi haner eu darllen."

XV.

Ond o gymharu yr hen dderwyddiaeth ag oes ramantus y Cymry a ffuantus adfywiad derwyddiaeth yn ystod y ddwy ganrif aethant heibio, cawn fod y gyntaf yn ddyddorol ac addysgiadol, a'r llall yn ddim amgen na lol wirion ac esgyrn sychion. Yr oedd cig a chroen ar y naill, tra y mae y llall wedi marw yn hir ac yn sawru o dranoeth marwolaeth. Ni wyr Sieffry ddim am achres coegdderwyddion y dyddiau diweddaf hyn. Dyfeisiadau diweddarach yw chwedl Gomer a llyfr cenedliad y Cymry o Adda. Dechreua Sieffry gyda Brutus a dymchweliad Caer Droia a'i llosgiad a than. Y mae anadl einioes yn ffug hanes Sieffry o'r dechreu. Chwyth awel ramantus beraidd dros ei faes o'r cychwyn. Rhamant sydd hanes yn diystyru gofynion rheswm eithr yn boddhau y darfelydd a'r dychymyg.

XVI.

Ar ol rhyfel Caer Droia, ffodd Aeneas gyda'i fab Ascenius gan hwylio ar long i'r Eidal. Ascenius a genedlodd Sylyius, yr hwn mewn ffordd anghyfreithlon a genedlodd Brutus, tad y Prydeinwyr. Proffwydwyd am dano y byddai iddo ladd ei dad a'i fam (yn ddamweiniol, wrth gwrs) a dyfod i ogoniant aruthrol. Y pryd hwnw gwisgai Brutus y teiti o "Brutus, Cadfridog Rhelyw y Troiaid." Wedi cyflawni llawer o wrhydri rhagarweiniol, daeth yn amser i Brutus feddwl am gael gwraig, yr hyn sydd yn arfer gyffredin ar hyd yr oesau. Gwarchaeid ar ddinas Sparatinum gan Pandrasus, ac ymgymerodd Brutus Cadfridog rhelyw y Troiaid a gwaredu y gwarchaeedigion, yr hyn wnaeth gan gymeryd Pandrasus yn garcharor. Gan fod y Brenin Pandrasus yn gryf a'i bobl yn lluosog, a'r perygl o aros yn eu plith neu yn agos yn fawr, cynaliwyd cynadledd i benderfynu beth fuasai oreu wneyd o dan yr amgylchiadau, a chynygiai hwn hyn, a hwnyna hyn a hwnacw hyn ac arall, hyd at ryw Mempricius (enwid y Cymry yn dra gwahanol y pryd hyny i'r hyn wneir yn awr), yr hwn a roes gyngorion rhagorol iddynt, sef gofyn merch y Brenin, wrth ei henw, Ignoge, yn wraig i'r Cadfridog, a digon o aur, arian, yd, a phob peth angenrheidiol arall i ymadael oddiyno am wlad bell (nid oeddynt yn breuddwydio am Patagonia y pryd hyny), oblegid, ebe efe, pe dygwyddai i ni ymrafaelio a'n gilydd, byddai yn berygl i ni fyw yn eu hymyl, ar ol y gweithredoedd gyflawnwyd genym arnynt. Eu plant a phlant eu plant a gofient am danom i ddial arnom!" Galwyd Pandrasus o flaen y Cadfridog, a rhoddwyd ei ddewis iddo, sef cael ei gigeiddio yn echrydus neu roi ei ferch yn wraig i Brutus. Yn ddoeth iawn dewisodd yntau yr olaf. Nid oes son am y pethau hyn a llawer o bethau eraill Sieffry mewn hanes gyffredin. Efe a'u dyfeisiodd a'i ben ei hun!

XVII.

Y mae ymadawiad Ignoge a'i rhieni a gwlad ei genedigaeth, y modd y daliai ei llygaid yn dyn tua'i mamwlad yn diflanu o'r golwg hyd y syrthiai i lewyg, yn deimladwy iawn. Wedi morio am beth amser daeth y fintai (rhelyw y Troiaid) at ynys o'r enw Leogecia, ac ynddi yr oedd teml, lle yr aberthodd Brutus i'r tri duw, Iau, Mercher a Deina, pan y rhagddywedwyd iddo yr ymsefydlai mewn ynys lle y seiliai deyrnas ac y tarddai breninoedd o'i had, ac i'r hon y darostyngid yr holl fyd.

Sic de prole tua reges nascentur, et ipsis
Totius terrae subditus orbis erit.

Ymddengys yn ddigon tebygol y cyflawnir y broffwydoliaeth ryfedd hon.

XVIII.

Wedi llawer o orchestion a champau arwraidd cyraeddodd Brutus a'i relyw ynys Prydain, yr hon a elwid y pryd hyny yn Albion gan y Groegiaid. Ond wrth deithio drwy Ffrainc, cyfarfu Brutus a'i fintai a Throiwr arall o'r enw Corineus, yr hwn a sefydlodd Gernyw. Yr oedd y Corineus hwn yn gawr o ddyn ac yn abl i wrthsefyll mil o filwyr cyffredin. Rhanodd Brutus ac yntau yr ynys rhyngddynt. Nid oedd neb ynddi ond cewri, a hoffder Corineus oedd ymladd a hwy. Yn eu plith yr oedd un anferthol o ddiffaith o'r enw Gogmagog. Yr oedd hwn yn 12 cufydd o hyd, a gallai dynu derwen i fyny o'i gwraidd fel tynu ceninen! Darlunir ymladdfa rhwng Gogmagog a Corineus gyda medr gan Sieffry. Gellir gweled y Gogmagog hwn yn Neuadd Dinas Llundain hyd y dydd heddyw. Gelwid hi ar y cyntaf yn Gaer Droia Newydd. Gresyn na fyddai Corineus yn fyw heddyw i ddyfetha cewri y dyddiau presenol, sef clymbleidiau dur, glo, olew, arian, aur, a pheth na.

XIX.

Ganwyd i Brutus a'i wraig Ignoge, dri mab, Llogrin, Albanach a Camber; ac yn ol y Cymry, rhanodd Brydain rhwng y tri, a galwyd y tair rhan yn Lloegr, Alban a Chymru. Nid oedd dim safai yn ffordd Sieffry i wneyd hanes trefnus o'i ystori ramantus. Cofier mai Cymry oedd y Saeson a'r Ysgotiaid (sef yr Albaniaid) y pryd hwnw. Wyr i Brutus oedd Maddan, a wyr iddo yntau oedd Ebraucus, tad yr hwn oedd angenfil o ddyn, yr hwn a ddaeth i ddiwedd gresynus ond haeddianol, sef ei amgylchynu gan fleiddiaid rheibus a'i ysglyfio mewn modd echrydus; er hyny, yr oedd y bleiddiaid yn deilwng o glod. Yr oedd i Ebraucus (Efrog) 20 o feibion a 30 o ferched a rhydd Sieffry eu henwau oll, a gellir eu cael yn ei "Historia Britonum." Gwelir wrth y rhai hyn nad oes eisieu o gwbl i alw pob Cymro yn John, Dafydd, Thomas ac ychydig o enwau eraill, nac ychwaith y merched oll yn Mari, Ann, Shan, Cat a Shoned.

XX.

Disgynydd i Ebraucus (Efrog) oedd y brenin Llyr, yr ysgrifenodd William Shakespeare am AM DRO I ERSTALWM. dano ef a'i ferched. Yr oedd Llyr yn hoff iawn o weniaith, fel ambell i Gymro, ac un diwrnod daeth i'w ben ofyn i'r merched, fel y gofynir yn aml i blant, pa mor hoff yr oeddynt o'r hen ddyn, eu tad, ac atebodd dwy o honynt, Gonorella a Regan, y carent ef yn fwy na'u hunain, yr hyn a ogleisiai yr hen wr yn ddirfawr. Yna gofynodd i'r ferch ieuengaf, sef Cordelia, ac atebodd hithau y carai hi ef fel y gweddai i blentyn garu ei dad. Digiodd yr hen ddyn wrthi am hyny, ac wedi rhoi ei ddwy ferch wenieithus yn wragedd i ddau dduc enwog, rhanodd ei deyrnas rhyngddynt a phriododd ei ferch ieuengaf, Cordelia, i frenin Ffrainc, ac ni roddodd nac arian na thir gyda hi; ond gan y carai Aganippus hi mor fawr, dywedodd wrth ei thad ei fod yn foddlon ar Cordelia ei hun, gan fod ganddo ddigon o bethau y byd ei hunan. Wedi i'r hen frenin fyned yn hen, fel yr a breninoedd fel pobl dlawd, amddifadwyd ef o'i wlad gan ei ddwy ferch a'u gwyr, a gorfu iddo wedi'r cyfan gymeryd llong a chroesi y mor at ei ferch yn Paris, yr hon a'i croesawodd fel ei blentyn, a chododd hi a'i phriod fyddin fawr o filwyr, a chroesodd efe, hi a hwy y mor i Loegr gan ymlid y meibion-yn-nghyfraith oddiar eu gorseddau. Wedi marwolaeth ei thad a'i gwr, teyrnasodd Cordelia am bum mlynedd yn Mhrydain, ond cododd dau fab ei dwy chwaer anniolchgar, Margan a Cunedagius (y mae yr anniolchgar yn cenedlu rhai anniolchgar) yn ei herbyn, a rhoisant hi yn ngharchar, lle y cyflawnodd hi hunanladdiad, ac yna rhanodd y ddau yr holl deyrnas rhyngddynt. Rhai drwg am ranu ac anghytuno oedd teulu breninol y Cymry ar hyd yr oesau. Ar fyr, aeth y naill i drachwantu eiddo y llall, aeth yn rhyfel a gorfu Cunedagius. O linach Cunedagius, cododd brenin o'r enw Gorbogudo, ac iddo ef y ganwyd dau fab (gefeilliaid, gellid tybio wrth eu henwau) Ferrex a Porrex. Aeth yn ffrae rhwng y ddau (yn ol yr hen arfer Gymroaidd), a naddodd Porrex Ferrex, a lladdwyd Porrex gan ei fam. Dylynwyd hyn gan ryfel cartrefol, pum brenin yn teyrnasu ar yr un pryd, a'r Cymry yn dyfetha eu gilydd am eu bywyd. Dyma un o bechodau y genedl drwy yr oesau, sef ei gwamalwch, ei hoffder o ymrafaelio a'u gilydd, a thywallt gwaed eu gilydd; hyd yn nod y mab waed ei dad, a'r meibion waed eu gilydd. Mor wir yw ymadrodd awdwr y "Drych," sef fod Prydain lawer pryd yn ddim ond "annhrefn ac anras gwyllt." Yn ol hanes dychymygol Sieffry rhyfela a thywallt gwaed oedd prif ddifyrwch y bobl. Cyhoeddid dyn yn dywysog heddyw, a thorid ei ben dranoeth i roi. lle i rywun arall, a hwnw o fewn byr amser a gai yr un dihenydd. Yr hwyaf ei gleddyf a'r direitiaf a ymchwyddai i awdurdod ac a gadwai reolaeth hyd oni ddeuai un trech nag ef a'i wthio ymaith. Hoff oeddynt o briodoli eu gorchfygiad i fradwyr, ond gwir achos eu hamddifadiad o'u gwlad a'u hannibyniaeth oedd eu rhyfelgarwch a'u hoffder o dywallt gwaed eu gilydd. Mor wir yw yr ymadroddion a roddir yn ngeneuau y Sermaniaid gan yr hanesydd, sef "Canys yn awr, ebe hwy, nid oes dim ond yr annhrefn wyllt dros wyneb yr holl wlad. Gadewch iddynt ladd eu gilydd oni flinant-ysgafna i gyd fydd ein gwaith ni y tro nesaf."

XXI

Mae'r Cymry'n hoff o gofio'n llon
Am Arthur enwog a'i Ford Gron,
Y brenin gwych a fu yn ddrych
I'w oes i drin ei moesau;
Fe aeth ei glod ar hyd y rhod,
Ac nid oedd ceiniach teyrn yn bod,
O decach bryd mewn gwlad ar fyd,
Ac ni fydd drwy yr oesau.

O fewn ei lys yr oedd pob dawn,
A dewrion o wroldeb llawn,
A'i goron hardd a hudai'r bardd
A'i deyrnas mor ardderchog!
Gwenhwyfar dlos fel gwridog ros
Eisteddai wrth ei glun yn glos,
Yn ddarlun byw o ras ei rhyw
Yn gydwedd brydferth serchog.


Bryd hwn 'roedd Cymru'n llawn o swyn,
O fechgyn glew a merchaid mwyn;
'Roedd cerdd a chan drwy'r wladfa lan
A pher hyfrydwch gwynfyd;
Ond aeth ef mwy dan gyfrin glwy'
A Chymru nid ei gwelodd mwy;
Fe aeth yr oes a'i dawn a'i moes
Yn ddystaw tua'r cynfyd!

Ond yn ei hun mae'r brenin cun
Daw eto eilwaith ato'i hun;
Ac wedi hyn ar hyd y llyn
Y dychwel i'w gynteddoedd;
Daw eto'i rad ar hyd y wlad
A'r hen ddifyrwch a'r mwynhad,
A daw'r hen iaith a'i rhin a'i rhaith
Yn rheol yn ei gwleddoedd.

XXII.

Yn hanes rhamantus y Brenin Arthur ceir dychymyg y meddwl Prydeinig yn cyraedd ei ogoniant, oblegid yn y rhamant hon y cawn y darluniad mwyaf cyflawn o nerth a gwendid y cymeriad Cymreig, sef y meddylnod mwyaf ysblenydd yn diffygio yn anffodus o herwydd diffyg y rhinweddau angenrheidiol i gyraedd y nod. Yn Arthur cawn y dychymyg mwyaf hardd ond yn ei glwyf cawn ei gyfaddefiad o'i fethiant i sylweddoli ei amcanion bendigaid. Yn yr hanes hwn eto cawn y bradwr yn chwareu ei ran, fel ar hyd yr oesau; ond cawn elfen gyfrin arall yno, sef ymneillduad y Brenin i ynys Afallon dan ei glwyf i aros rhyw adeg yn y dyfodol pan y daw o'i ymgilfa i oresgyn y Saeson ac adferyd meddiant o'i deyrnas. Yn yr hanes dychymygol ond gogoneddus ceir mwy o wir fawredd a bychanedd y meddwl a'r galon Gymroaidd nag yn holl gyfrolau cin llenyddiaeth, o hyny hyd yn awr. Er mai chwedl yw o'r dechreu i'w diwedd, eto y mae yn llawn o drysorau i'r meddwl craffus. Hon yw y chwedl fwyaf odidog a chyfoethog ddaeth i ben dyn erioed, ac ynddi megys cnewyllyn y ceir holl athroniaeth y meddwl a'r anianawd Cymreig. Yn hon y rhoes Sieffry i gadw dynged Prydain, ac ynddi yn mhlith pethau eraill gwelir adlewyrchiad o ffawd ac anffawd y Cymro.

XXIII.

Dywed rhai mai ffrwyth balchder oedd y chwedl Arthuraidd o'i dechreu i'w diwedd, ac adroddir ei dyfeisiad fel y canlyn. Yn nechreu y cyfnod Normanaidd yn Mhrydain, nid oedd gan y Prydeinwyr nemawr hanes o ddim bri. Yr oedd gan wledydd cyfandir Ewrop hanesion godidog, megys eiddo Groeg a Rhufain, yr Iuddewon, y Tyrciaid ac eraill, felly aeth i ben Sieffry ac eraill i lunio arwriaeth a gurai bob arwriaeth arall; ac ymddengys iddynt wneyd hyny, oblegid y mae y chwedl am Arthur a'i Ford Gron yn drech na phob chwedl arall. Gallai y Rhufeiniaid a'r Groegiaid olrhain eu hachau ac enwi eu gwroniaid yn ol hyd ddyddiau Caerdroia, ac felly i gydymgystadlu a hwy olrheiniodd y Cymro hanes y Prydeinwyr yn ol i Troia, a lluniodd linach o freninoedd o Brutus i lawr hyd ei amser, ac y mae yr hanes yn llawn dyddordeb; ac mewn oesau pan nad oedd gwybodaeth coelid yr hanes fel peth dilys a diameuol.

XXIV

Ganwyd Arthur mewn ffordd ramantus drwy ymyriad Merlin, yr hwn oedd ddewin penaf yr oes. Yn fuan wedi ei eni, hefyd, trosglwyddwyd y plentyn i ofal a than addysg arwr, oblegid nis gallai ysgol gyffredin barotoi cawr meddyliol ac arwrol o fath Arthur. Rhaid oedd ei anfon i ysgol breifat Merlin. Byrddiai gyda marchog o'r enw Syr Ector. Tuag adeg y Nadolig, sef y dydd y ganwyd Brenin Dynoliaeth, cyngorodd Merlin archesgob Caergaint i alw yr holl deyrnas yn nghyd, fel feallai y dangosai Crist drwy ryw ddamwain pwy ddylai fod yn Frenin Prydain. Cymerodd hyn le yn yr eglwys fwyaf yn Llundain. Wedi dyfod allan o gwrdd y boreu, gwelwyd faen mawr pedwar ysgwar yn y fynwent, rhywbeth yn debyg i eingion gof gyda chleddyf mawr wedi ei roi ynddi, ac arno yr oedd y geiriau "Pwy bynag a'm tyn i allan o'r gareg a'r eingion hon, efe fydd frenin Prydain." Wedi i bawb fethu tynodd Arthur ef allan, ond ni wyddai neb nac efe ei hun mai mab Uthr Bendragon oedd. Profodd Arthur ei hun yn benaf dyn yn y deyrnas; ond yn fuan gorfu iddo ddangos ei wroldeb a defnyddio ei gleddyf rhyfedd.

XXV.

Ymddengys mai prif ddifyrwch y Cymry (neu y Prydeinwyr) oedd ymladd a'u gilydd a thywallt gwaed; a cheir Arthur gynted ag y gwnaed ef yn frenin yn ymladd yn ddiorphwys. Ond yn nghanol ei ryfeloedd, cawn ef yn cael hamdden i syrthio i gariad a'r ddynes ieuanc harddaf dan haul, a chan na chai ef lonydd gan ei arglwyddi a'i farchogion heb edrych am wraig, gan y byddai hen fab o frenin yn dramgwydd, gofynodd Merlin iddo (er yn gwybod gystal ag yntau), a feddyliai efe fwy o rywun nag eraill, ac atebodd Arthur do; ei fod yn caru Gwenhwyfar uwchlaw pob merch arall, "a hi," ebe efe, "yw y rhian ddewraf a glanaf welais erioed."

Ebe Merlin yn ol:

"Diau ei bod felly, ond pe na baet mor ddwfn yn ei serch ag yr wyt, gallwn i ddyfod o hyd i eneth o bryd ac o ddaioni; ond lle mae calon dyn, yno hefyd y mae yntau."

Gyda llaw, awgrymodd Merlin y byddai Gwenhwyfar yn ofid iddo, ac, felly hefyd y bu, fel y ceir yn yr hanes.

Gyda Gwenhwyfar cafodd Arthur y Ford Gron yn un o'r anrhegion priodas, yn nghyd a chant o farchogion. Dynion blaenaf y byd yn unig gai seddau o amgylch y Ford. Rhaid oedd i bob un fod yn wron o'r radd flaenaf. Drwy haeddiant rhinwedd yn unig y cai ymgeisydd y lle-bid dlawd neu gyfoethog. Ni chai neb hi am fod ei dad neu ei dadcu yn filiwnydd neu yn feddianol ar waed glas. Ymdebygai Arthur yn fawr i Theodor Rwsifelt yn hyn.

XXVI.

Ond amgylchid y brenin arwrol a hardd gan frad. Trigai yn mynwes ei chwaer. Bu agos iddo a chwrdd a'i ddihenydd o herwydd iddi ladrata ei gleddyf, Caledfwlch, oddiarno a'i roi i'w elyn. Enillodd ei gledd yn ol, ond collodd ei wain. Y mae cledd heb wain yn rhywbeth megys arian heb logell. Dylynai anffawd ar ol anffawd, a thrafferth ar ol trafferth; oblegid yn fuan cawn Ymerawdwr Rhufain yn anfon deuddeg cenad i orchymyn teyrnged gan Arthur, a chawn waed y Cymro yn codi, oblegid nis gall efe ddyoddef ei feistroli gan neb pwy bynag; ac ebai Arthur:

"Y mae genym ni gymaint o hawl i ofyn teyrnged o Rhufain ag sydd gan Rufain oddiwrthym ni; felly gadewch i'r cleddyf hiraf brofi y pwnc."

Ffynai unfrydedd hollol am fyned i ryfel a Rhufain.

XXVII

Yma y gwelir deheurwydd dawn Sieffry i wneyd Prydain yn enwog, oblegid desgrifia yr Ymerawdwr Rhufeinig yn galw ei holl ymerodraeth yn nghyd i orchfygu, ond yn ofer. Yn y rhyfel sydd yn dylyn, anercha Arthur ei filwyr mewn modd calonogol iawn. "Mor fuan," ebe efe, "ag y gwasgarwn ni y Rhufeiniaid, awn yn ein blaen i Rufain i'w chymeryd; ac wedi'n bydd yr holl aur, arian, palasdai, tyrau, trefi, dinasoedd a holl gyfoeth y wlad yn eiddo i chwi !" Nid rhyfedd i'r Prydeinwyr orchfygu wedi cael addewid o'r fath daledigaeth. Wedi ymdrech galed, pan y cawn y Prydeinwyr yn enill yn awr, ac eto y Rhufeinwyr yn curo, Arthur megys llew rhuadwy yn tori penau gelynion ymaith fel pe baent benau cawn, hyd y cawn Morfyd, duc Gloster, gyda'i leng yn rhuthro ar y gweddill o'r fyddin Rufeinig gan droi y fuddugoliaeth a lladd Lucius, yr Ymerawdwr. Danodiaeth y Rhufeiniaid cyn y frwydr oedd fod tafodau y Prydeiniaid yn hwy na'u cleddyfau, ond dangosodd y Prydeiniaid iddynt yn amgenach!

XXVIII.

Ond yn absenoldeb y Brenin, ei ewythr, trodd Medrawd yn fradwr, ac anfonodd dros y mor i Germani i gael cymorth oddiyno fel ag i atal Arthur i adfeddianu ei deyrnas. Daeth wyth gant o longau hyd y glanau yn llawn milwyr paganaidd; denodd hefyd, gyda hwy lawer o Ysgotiaid, Ffictiaid, Gwyddelod ac eraill, gyda'r amcan o ymladd yn erbyn ei ewythr. Traisymbriododd a Gwenhwyfar, hefyd, sef gwraig ei ewythr. Cyfarfu dau lu y nai a'r ewythr, ac wedi ymladd drwy y dydd, cawd can mil yn gorwedd o'r ddwy ochr. Yna yr ymlidiodd Arthur yn enbydus gweled ei bobl wedi eu lladd felly.

"Gwae fi," ebe efe, "i mi erioed fyw i weled y dydd hwn; yn awr, yn ddiau, y daeth fy niwedd."

Yna y canfu Arthur Medrawd, achos yr holl gyflafan, a rhuthrodd arno ac a drywanodd ei nai drwy ei gorff nes y bu farw, a chlwyfodd yntau ei ewythr fel y llewygodd, ac arweiniodd Syr Lucan a Bedwyr ef i gapel yn ymyl y dwfr. Yna y gorchymynodd Arthur Bedwyr i fyned a'i gleddyf a'i daflu i'r llyn, a chododd megys braich a llaw allan o'r dwfr gan ei gymeryd. Yn fuan nesaodd cwch at y lan, yn llawn o rianod, y rhai a alarasant o herwydd gweled y Brenin, ac wedi cludo ei fawrhydi iddo gosodwyd ef yn nghanol y rhianod a gogwyddodd yntau ei ben ar arffed un o honynt. Ac felly y rhwyfasant o'r lan. A Bedwyr a lefodd

"Fy arglwydd Arthur, beth a wnaf wedi dy fyned a'm gadael?"

Ac Arthur a'i hatebodd,

"Cymer y cysur goreu allot, oblegid ofer rhoi ymddiriedaeth ynof fi mwyach. Yr wyf yn myned i Ynys Afallon i wellhau fy nghlwyf, ac os na chlywi mwy oddiwrthyf, gweddia dros fy enaid."

Ac wylai a llefai y rhianod, fel yr oedd yn resyn eu clywed!

XXIX

Ymadawiad Arthur (Bedwyr a gan):
"Ffarwelia, gar; 'rwy'n gado'm dyrys wlad
Dros gefn y lli i'r ynys dawel gudd,
I fwrw'm blinder ac i wella'm clwy',
I ddychwel eto ryw ddyfodol ddydd;
Fan draw mae fy nymuniad mwyn yn son
Am ardal hoff lle mae yn haf o hyd;
Lle nad oes rhew yn deifio'r blodeu cain,
Na brad na thwyll yn drygu'r dyner fryd!"

Ac yna tawodd; ond ysgydwai'i law
Yn ffarwel dyner olaf yn y byd;
A chlywn y tair brenines yn y cwch
Yn wylo gan gofleidio'i gorff yn nghyd;

Yn unig ger y fwyn furmurol don
Myfinau deimlwn hiraeth megys tyn
Rhyw ddirgel ofid yn fy mhlicio draw
I'w ddylyn, yr hardd frenin, dros y llyn!

Yn llai yr ai y cwch a'r llefain dwys,
Ond daliai ef i chwyfio'i bell ffar-wel,
Fel suddai'r hwylfad gyda'i gynwys mad
I niwl cudd lanau pell yr ynys ddel!
Ac felly'r aeth y Brenin hardd ei foes
O wydd y byd i fyd tu draw i'r don,
I orphwys o'i ddygn lafur dros ei wlad
A chlwy'r diddiolch yn ei freiniol fron!

XXX.

Yn fuan cawn Sieffry yn llefaru y cerydd chwerw a ganlyn ar y genedl: "Paham, genedl ffol, drwy dy syched am ymrafaelion cartrefol y gwanychaist ti dy hun fel na elli amddiffyn dy dir, dy wragedd a'th blant? Dos yn mlaen hyd y dealli yr ymadrodd hwnw yn yr Efengyl 'Pob ty wedi ymranu yn ei erbyn ei hun ni saif.' Gan fod dy deyrnas wedi ymrafaelio yn ei herbyn ei hun; gan fod dy serch ynfyd at ymrafaelio, dy eiddigedd a'th falchder yn dy atal i fod yn deyrngar at dy frenin, gweli, felly, dy dir yn anrhaith dan draed yr estron paganaidd, a'th aneddau yn adfeilion; yr hyn a fydd yn alar i ti, oesau i ddyfod."

XXXI.

Gwelwn y Brenin gwych Arthur yn ymadael dan archoll brad; gallai ddweyd mai ei dy ei hun fu ei andwyaeth; ei deului hun fu yr achos i'w amcanion godidog fethu; dan ei archoll ac yn ngwydd ei farchogion a'i arwyr penaf ar lawr yn eu gwaed, teimlai na cheid byth ond hyny gyfle mor braf i gyflawni y fath wrhydri ysblenydd; teimlai er iddo orchfygu y fradwriaeth fawr yn ei erbyn iddo wneyd hyny ar draul dirfawr andwyo ei fywyd ei hun, fel y dywaid Tennyson

While Arthur at one blow
Striking the last stroke with Excalibur
Slew him, and all but slain himself
He fell;

a gorfu iddo ddychwelyd ei Galedfwlch, arwyddlun ei freniniaeth arwrol, ddaeth i fyny ar nawnddydd dysglaer yn pelydru gan y fath riniau cyfriniol, yn ol i'r llyn, o'r hwn y cododd y llaw i'w gymeryd eilwaith. Ai ni ddengys hyn yn amlwg ac yn ddigamsyniol i'r genedl fethu cyflawni ei chenadaeth ac i ragluniaeth alw ei chyfle yn ol? Yn Mabinogi "Branwen Ferch Llyr," cawn yr un elfenau ymrafaelgar yn esgor ar anffodion a chanlyniadau dygn i'r bobl, fel nas gellir ebargofi y ffaith a ddysg hanes i'r genedl fethu o herwydd ei hoffder o ymrafael. Yn y ddau frawd yn y chwedl hono, gwelir ffawd ac anffawd, sef Nissyen ac Efnissyen; y cyntaf yn was da, yn peri tangnefedd rhwng ei deulu pan y byddant lidiocaf; a'r llall ymladd pan y byddai heddychaf.

XXXII.

Arthur a ddywaid:
Ffarwelia, fyd, a'th gastiau cudd,
'Rwy'n gado'th frad a'm bron yn friw;
Gofidiau brofais, do, bob dydd,
A phoen o hyd i mi fu byw;
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n mynd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!

Yn wych fy swydd, yn hardd fy mryd,
Yn uchel ddysglaer wrthrych clod;
Mawr oedd fy mri, mewn cylch mor ddrud
Edmygedd oesau oedd fy nod;
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!

Ces ddraenen yn y blodyn mad;
Ces ddichell yn y llygad llaith,
Ces aml i broffes ffraeth yn frad,
Ac aml i friw wrth droedio'r daith;
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!

Nid oes mewn byd ddim ddeil ond gras;
Na dim i'w goelio onid Duw;
Gwrandawaf ddaw o'r wybren las
Nid caru gwagedd byd yw byw;

Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!

Nid car yw'r byd; a chartref chwaith
Ni cha'r un dyn ar hyn o ddaer;
Rhaid myn'd i'w gyrchu'n mhell ar daith,
I'r ynys fwyn, ramantus, glaer!
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a boddhad!

XXXIII.

Gwyddai Giraldus, efe yn Gymro, o ochr ei fam, wendidau y Cymry, sef eu heiddigedd a'u hymrafaelion teuluol. "Pe buasent yn unol, ebe efe, buasent yn anorchfygol; ac uwchlaw pobpeth, pe y buasai iddynt yn lle tri tywysog, un, a hwnw yn un da." Ond fel y mae'n drist cyfaddef, yr oedd ymrafaelio yn eu gwaed, ac ni thyciodd dim ar hyd yr oesau, ddim o'u hanffodion a'u hymrafaelion gwaedlyd aneirif, i'w hargyhoeddi o ddirfawr werth undeb a chydweithrediad. Awdwr "Drych y Prif Oesoedd" a ddywed yn gywrain a chyfrwys mai Arthur ddyfeisiodd y Ford Gron, fel y gallai pawb eistedd blith draphlith yn ddiwahan wrthi heb ddim ymryson am oruchafiaeth; ac un o ofynion goruchel ei arwriaeth oedd "y dylai pob un hyd eithaf ei allu gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyru ymaith y gelynion."

XXXIV.

Y mae un sylw gan Carnhuanawc a awgryma y fath gyflwr o gyffro rhyfelus a gwaedlyd oedd hanes y Cymry ar hyd yr oesau. Pan yn cyfeirio at flynyddau heddychlawn Hywel Dda, yr hyn a briodolir i gadernid y brenin rhyfedd hwnw neu i'w ddoethineb yn rheoli y wlad, "ond braidd," ebe yr hanesydd, "y gallasai unrhyw dywysog Cymroaidd yn yr amseroedd hyny ymgadw yn hollol rhag rhyfel a rhyw blaid neu gilydd, naill y Saeson neu y Llu du; ac, felly, barnaf fod yr absenoldeb yma o grybwylliad am ryfel, yn gyfrifedig i esgeulusdra hanesyddion, yn hytrach nag i dawelwch anghyffroedig am ddeugain mlynedd." Y fath resyni i feddwl i'r Cymry ryfela o'r braidd yn ddidangnefedd o fawr parhad ar hyd yr oesau, a'r fath syndod i'r bobl orfyw y fath hir yrfa o ymrafael a thywallt gwaed! Ai rhyfedd fod y bobl yn dlawd drwy yr oesau, heb fawr olion llwyddiant a diwylliant yn eu plith? Fel y dywed Nicol Macchiavelli yn ei draethawd "Y Tywysog," "Mae y darfodedigaeth yn hawdd i'w atal ond yn anhawdd ei adnabod, yn y cychwyn, ond gyda threigliad amser, daw yn hawdd i'w adnabod ac yn anhawdd ei wella." Felly y bu gyda'r Cymry. Pe gwybuasent mai math of ddarfodedigaeth oedd eu hymrafael gwaedlyd a'u gilydd, gallasent ei atal yn y cychwyn, a pharhau yn ddigon cryf i atal eu goresgyniad yn nghyd a'u gwlad gan y Saeson a'r Normaniaid. "Calon esgeulus a wna fuchedd annhrefnus."

XXXV.

Un diffyg difrifol ac andwyol ynom ar hyd yr oesau fu ein hamddifadrwydd o broffwydi ac o arweinwyr gwareiddiol a gwleidyddol. Wrth edrych dros hanes y Cymry, ceir na chododd proffwyd neu wladweinydd yn eu plith o ddyddiau Hywel Dda hyd uniad Cymru a Lloegr. "Gwlad beirdd, cantorion a gwrol ryfelwyr" fu ar hyd yr oesau. Nid oedd y "gwrol ryfelwyr" yn wladweinyddion, na'r beirdd yn broffwydi. Dylynai y beirdd eu tywysogion rhyfelgar i'w moli a'u marwnadu. Ni feddyliai y naill am adeiladu, diwygio a diwyllio y wlad, na'r llall am oleuo a hyfforddi. Ni chododd yr un Nathan i feio a cheryddu a chollfarnu. Yr oedd Dafydd ap Gwilym, y dysgleiriaf o'r beirdd mewn rhyw ystyr, yn hollol amddifad o anianawd y proffwyd. Drwy yr oesau tywyll, ni chododd neb fel Hywel Harris. Gwenieithio a thruthio i'r tywysogion rhyfelgar wnai y beirdd. Pe codasai ambell i broffwyd Cymreig grymus, diau y cawsid ambell i dywysog Cymreig dwysfeddwl a gwladgarol, yn ngwir ystyr y gair.

XXXVI

Gwelsom yn hanes Llyr y modd y rhanodd efe ei deyrnas yn dair, ac fel yr achlysurodd hyny lawer o ofid iddo. Ebe efe yn y chwareu gan Shakespeare—

We have this day a constant will to publish
Our daughters' several dowers, that future strife
May be prevented now

ond y gwir yw i'w waith yn cyflawni hyn achosi yr holl drafferth, a bu yr un cynllun yn foddion i beri tywalltiad llynoedd o waed y Cymry. Hefyd, yn ol cronicl Caradog o Lancarfan, Rhodri fawr (ddechreuodd ei deyrnasiad yn 843) a ranodd Gymru yn dair rhan rhwng ei dri mab; a sylwer eto mai amcan Rhodri oedd "sicrhau diogelwch a chadernid Cymru," yn agos yr un rheswm ag a rydd Shakespeare yn ngenau Llyr; ond ebe'r hanesydd, "hi a ddygwyddodd yn llwyr wrthwyneb, canys benben yr aethant o hyny allan, fel prin y gwladychodd un tywysog heb ymgecraeth a llawer o dywallt gwaed. Y ffaith yw i ryw drindodaeth wleidyddol nodweddu y Brutaniaid a'u handwyo. Rhanwyd Prydain ar y cyntaf, yn ol chwedl Sieffry, i Loegr, Cambria ac Alban, rhan i bob un o dri mab; yna gwelwn Gwynedd, Powys a Deheubarth. Rhanwyd y De, hefyd, i Gwent, Morganwg a Dyfed, a'r canolbarth eto i Geredigion, Brycheiniog a Buallt! Mewn gwirionedd, yr oedd trindodaeth deyrnasol wedi troi yn felldith i'r genedl, a'i gwaredigaeth oddiwrthi ei hun a'r Saeson fuasai undodaeth, fel y crybwyllai Giraldus. Drwy y canol oesau tywyll, yr oedd Cymru, fel pe wedi ei thori yn dair, a phob rhan fel rhan o sarff heb allu byth ymgydio drachefn.

XXXVII

Ar hyd yr oesau cawn y deyrnas driphlyg hon mewn ymrafael barhaus a hi ei hun. Yn ymosod arni ar hyd ei glanau, yr oedd morladron; o'r dwyrain yr oedd y Sacson a'r Norman, ac o'i mewn yr oedd ei phlant ei hun, y rhai a ymrafaelient a'u gilydd, "difyrwch nodweddiadol iawn" o'r genedl. Mwy na thebyg na fu brenin erioed ar y genedl gyfan. Daeth dau neu dri yn agos i hyny, ond yn eu marw cyflawnent yr un amryfusedd a Llyr, a chwalid y deyrnas.

XXXVIII

Pan ddaeth Hywel Dda i'r orsedd, wedi ymrafaelion meibion Rhodri, mwynhaodd Cymru dymor o heddwch, a phriodolir iddo drefn na welodd y wlad ei chyffelyb; ond gyda'i farw yntau yn 950, aeth y wlad eto yn un oddaith o dan ymrafael fewnol, y tywysogion Cymreig wrthi yn dyfetha eu gilydd yn barod i'w darostyngiad gan eu gelynion. Yn hanes y Cymry, ac, hefyd, yn ei chwedlau, ceir y rhesymau mwyaf gwagsaw a phlentynaidd fel achlysuron eu rhyfeloedd. Cymerer y chwedl am ffrae rhwng Nynniaw a Pheibiaw. I bobl ffraellyd y mae esgus yn ddigon o achos. Ebe Sampson, gwas i deulu Capulet, yn "Romeo a Juliet:"

"Mi fwyta i 'mawd yn ngwydd y Montagywiaid, a bydd yn warth iddynt, os y dioddefan' nhw hyny;" a chyn pen mynyd yr oedd yn ffrae waedlyd.

Dywedai Nynniaw mai ei faes ef oedd yr wybren, a Pheibiaw, mai ei dda a'i ddefaid yntau oedd y ser, a'r lleuad yn fugail arnynt. Ebai Nynniaw eto, "Ni chant aros yn fy maes i." "Hwy gant," ebai Peibiaw, a dyna hi yn gynen wyllt a therfysg rhyngddynt, hyd y dyfethwyd gwlad y naill fel y llall yn agos oll yn yr ymladdau. Wedi clywed hyn aeth Rhitta Gawr, brenin Cymru, i ddarostwng y ddau dywysog disynwyr, a'r gosp fu eu difarfu. A phan glywodd y rhai eraill o wyth brenin ar hugain Ynys Prydain am y sarhad hwn ar y ddau frenin anghall, aethant i ddial ar Rhitta, ond Rhitta a'u goresgynodd oll ac a'u difarfodd hwythau oll, &c. Dengys y chwedl fod yr esgus lleiaf yn ddigonol i yru y Cymry benben frigfrig a'u gilydd.

XXXIX.

Am gan' mlynedd cyn dyfodiad y Normaniaid i Loegr a Chymru edrychir yn ofer am ofod o heddwch rhwng y Cymry a'u gilydd, yn yr hwn y meddylient am rywbeth amgenach na chwant am oresgyn a dyfetha eu gilydd. Yn Llywelyn I., a esgynodd orsedd Gwynedd yn 1000, cawn gyfuniad o ysbrydoedd Nissyen ac Efnissyen; ond dywed hanes i ni i Gymru fwynhau llwyddiant a llawnder o dan ei deyrnasiad. Yr oedd y cnydau yn doreithiog, y bobl yn amlhau, a'r anifeiliaid yn epiliog, fel nad oedd dyn tlawd yn y wlad. Lladdwyd ef, serch hyny, mewn ffrae rhyngddo a'i gydwladwyr. Gafaelwyd yn ei deyrnwialen gan berthynas iddo, a lladdwyd yntau gan Gruffydd ap Llywelyn. Yr oedd Gruffydd yn engreifftiol o'r tywysogion Cymreig-yn well ganddo ryfela na byw mewn tangnefedd. Wedi gorchfygu y Daniaid a ymosodent ar lanau Sir Fon, trodd, heb chwithryn o esgus, ar y Deheubarth, gan ei anrheithio a'r cledd ac a than yn ei flys i yru y Tywysog Hywel ap Edwy allan. Dychwelodd hwnw gyda Daniaid a Sacsoniaid i'w helpu. Dyfod i fewn i helpu y Cymry wnaeth y Sacsoniaid ar y cyntaf, ac aros i'w darostwng. Yr oedd y Sacsoniaid yn gyfrwysach na'r Cymry. I helpu Gwrtheyrn y daeth Hengist a Horsa a'u gwyr i Brydain, a daethant a dynes hardd o Ellmynes gyda hwy, yr hon a swynodd y brenin hyd at ddrysu ei ddeall. Rhoddodd yntau wlad Caint i'r Sacsoniaid am Rhonwen, heb ofyn o gwbl am gydsyniad perchenog y wlad, sef Gorangan. Daeth y Normaniaid i Forganwg i helpu Iestyn i ymladd a'i gyd-dywysog Rhys ap Tudor. Yr oedd y tywysogion anghyfeillgar hyn mor lluosog yn Nghymru, a'u teyrnasoedd mor agos, fel y gallent ymddyddan a'u gilydd. Mae ffermydd yn y wlad hon yn lletach na theyrnasoedd rhai o dywysogion Cymru gynt.

XL.

Dan Gruffydd ap Llywelyn, brenin Gwynedd drwy hawl, a holl Gymru drwy rym y cledd, codwyd y wlad yn uchel iawn mewn ystyr ryfelus. Yr oedd efe yn rhyfelwr grymus ac yn ddychryn i'r Sacsoniaid; ond yr oedd iddo wraig o'r Philistiaid. Syn i'r fath elyn i'r Saeson briodi Saesnes! Gelwid ef yn darian ac amddiffynwr y Brutaniaid, yr hwn a fu yn anorchfygol, yr hwn a enillodd fuddugoliaethau aneirif ac a lanwodd gymoedd yr Eryri ag ysbail o aur, arian, ceinion a dillad drudfawr. Eto bradychwyd a lladdwyd ef gan ei gydwladwyr. Yn ystod ei deyrnasiad, fel y tywysogion a'i blaenorodd ac a'i dylynodd, ni wnaeth ddim i gryfhau a chadarnhau y wlad yn wleidyddol a threfniadol. Wedi marwolaeth y gorchfygwr mawr, cafodd Cymru ei hun yn ddiymadferth ac wrth drugaredd Harold. Onid rhyfeloedd Gruffydd a Harold barotodd y ffordd i oresgyniad Gwilym y Gorchfygwr a'i giwaid Normanaidd ladronllyd? Wrth orchfygu ei elynion gorchfygai Gruffydd ei wlad ei hun dan yr un.

XLI

Tywysog nodedig eto oedd Llywelyn ap Iorwerth ap Owen Gwynedd a elwir yn Llywelyn Fawr. Nid oedd y Cymry yn fanwl o barth i haniad cyfreithlon tywysog os y rhoddent eu bryd arno. Yr oedd cryn nifer o'r tywysogion yn blant gorthrech, a phan y cyfrifai eu tadau hwy yn etifeddion cyfreithlawn, gwrthdystiai yr Eglwys yn eu herbyn. Achosodd hyn lawer o dywallt gwaed. Iorwerth oedd etifedd cyfreithlon yr orsedd yn Ngwynedd, ond gan fod ei drwyn yn dwn, ni fynai y Cymry mo hono i reoli arnynt! Cymerwyd meddiant o'r orsedd gan Hywel, ei frawd anghyfreithlon o Wyddeles, ond lladdwyd ef gan Dafydd, ei frawd naturiol o fam arall. Am fod Llywelyn, mab Iorwerth, yn addawol, gwnaed ef yn frenin, a phriododd ferch orthrech i Frenin Lloegr, o'r enw Joan. Cododd deyrnas Cymru yn uchel fel y gwnaeth Gruffydd ap Llywelyn; ond fel hwnw yr oedd ei fuddugoliaethau oll yn filwrol; ni threfnodd ddim ar y deyrnas ac ni adawodd ddim ond annhrefn a diymadferthedd ar ei ol, yn nghyd ag elfenau andwyol. Gadawodd fab o Gymro trwyadl ond anghyfreithlon i ymrafaelio a mab o Saesnes briod am yr orsedd. Bu Dafydd fab Joan farw yn ddiblant, a chodwyd Llywelyn fab Griffith orchrech i'r orsedd, ac ef a fradychwyd ac a laddwyd yn Muallt, ac efe elwir yn "Llywelyn ein Llyw Olaf." Bradychwyd Dafydd ei frawd, hefyd, gan ei gydwladwyr ei hun, sef Einion, ap Ifor a Goronwy ap Dafydd, y rhai a'i dygasant ef yn gaeth at y brenin Iorwerth, o flaen llys yr hwn y dedfrydwyd ef i gael ei ladd i'w dori yn bedwar aelod, i'w hanfon yn anrhegion i bedair dinas, Brystau, Northampton, Caerefrog a Chaerwynt (ac ymrafaeliodd y ddwy olaf am ei ysgwydd dde!) ond gosodwyd ei ben ar dwr Llundain yn ymyl pen ei frawd Llywelyn.

XLII

Felly y dirwynwyd annibyniaeth Cymru i ben. Rhoddodd Iorwerth I. ei fryd ar uno Cymru a Lloegr, drwy y trefniad a elwir yn Gyfraith Rhuddlan, yr hon a arweinir i fewn yn y modd a ganlyn: "Iorwerth, drwy rad Duw, Brenin Lloegr, Arglwydd Iwerddon a Dug Aquitain, at ei holl ffyddloniaid yn ei diriogaeth o Eryri, ac o'i diriogaethau eraill yn Nghymru, y Dwyfol Ragluniaeth, yr hwn sydd anffaeledig yn ei drefniadau," &c. Nis gallwn lai na chydnabod daioni rhagluniaeth yn uno Cymru a Lloegr, oblegid dyna y fendith fwyaf ddaeth ar Gymru a Lloegr erioed. Yr oedd y Cymry er wedi eu gorthrechu mewn rhyfel eto heb eu gorchfygu, ac megys brenin call, defnyddiodd Iorwerth ystryw gelfydd i roi cwlwm deheuig ar yr undeb. Ar ol ymgyngori a'r Cymry amryw droion a'u cael yn benderfynol nad ufuddhaent i'r un brenin heb ei fod yn Gymro, trefnodd i gael Elinor, ei frenines, yr hon oedd ar y pryd yn dysgwyl mab i'r byd, ar frys i Gymru, lle y ganwyd ei mab bychan, Iorwerth yr Ail. Galwodd Iorwerth y Cymry ato a dywedodd eu bod yn fynych wedi ceisio ganddo roi iddynt Dywysog, ac fod ganddo un wedi ei eni yn Nghymru ac heb fedru gair o Saesneg. Boddhaodd hyn hwy yn fawr, ond teimlasant dipyn yn ddiflas pan ddeallasant pwy oedd y Tywysog, ond ni aethant yn ol ar eu gair. Ganwyd y Tywysog ar y 25ain (nid ar y 1taf) o Ebrill, 1284.

XLIII

Wedi hir heddwch, peth rhyfedd iawn yn hanes y Cymry, cawn Owain Glyndwr o herwydd cam iddo ef yn bersonol, yn codi gwrthryfel, ac yn gorchfygu y Saeson mewn llawer o frwydrau, hyd enill Cymru yn ol am rai blynyddau, ond gorfu i Owain roi i fyny yn y diwedd ar ol ei holl wroniaeth a barodd gymaint o helbul a thrafferth i'r Saeson fel yr aethant i goelio mai dewin oedd gan mor wyrthiol y cai yr uchaf arnynt. Oferedd fu yr ymgais odidog hon, ac achos dystryw a galar dirfawr drwy Gymru. Ond yr ydym yn agoshau at uniad sylweddol ac ymarferol Cymru a Lloegr drwy ddyrchafiad Harri VII., wyr Owain Tudur a'r Frenines Cathrin, yr hon wedi claddu ei chydwedd, Harri V., a syrthiodd i gariad ag Owain, i'r orsedd, yr hyn a brawf fel y dywedai y chwedl nad marw oedd ysbryd Arthur, eithr y deuai eilwaith yn frenin (rex quondam, rexque futurus). Yn Harri VII. a'i fab Harri VIII., cawn wir nodwedd y Brenin Arthur, oblegid fel y lluchiodd Arthur haerllugrwydd Rhufain yn ol i'w gwyneb, yr un modd y taflodd Harri ymhoniaeth y Babaeth allan o Brydain. Yn nwylaw y ddau Harri ac Elizabeth y gwelwn Galedfwlch, sef cleddyf dysglaer Arthur. Ar faes Bosworth, gwelir ysbryd Arthur yn marchogaeth yn ei rwysg henafol, pan y tarawyd y teyrn ynfyd Risiart III. gan Rhys ap Tomos. Gyda Risiart yr ymladdai Rhys Fychan, gwr o Wynedd, yr hwn a alwai Risiart y Cymro cywiraf gafodd erioed yn Nghymru. Cymro yn erbyn Cymro hyd y diwedd; ond Arthur a orfu.

XLIV

Ar ddyrchafiad Harri VII. i'w orsedd, dechreuodd y cynenus ei ddifrio gan ameu ei fonedd, ond cafwyd yr uchaf ar y rhai hyn eto gan yr achyddiaeth Gymreig. Nid at y Saeson yr aeth Harri i brofi ei fonedd eithr at y dysgawdwyr Cymreig wyddent achres y Brenin yn ol hyd Adda, a phwy fedr ymffrostio mewn hynach a harddach haniad? Cafwyd fod Harri yn fab Edmwnd Iarll Richmond ap Owain ap Meredydd ap Tudor ap Gronw ap Tudur ap Gronw ap Ednyfed Fychan ap Kyner ap Jers ap Gwgan ap Marchudd ap Cynan ap Elfyn ap Mor ap Mynan ap Isbwys Newintyrch ap Isbwys ap Cadrod Calchfynydd ap Cynwyd ap Cindion ap Cynfelyn ap Arthwys ap Morydd ap Cynaw ap Coel Codebog ap Tegfan ap Deheufraint, ac felly yn y blaen drwy yr oesau hyd gyraedd Llyr ap Bleuddyd ap Rhunbaladr bras ap Lleon ap Brutus Darianlas ap Efrawc Gadarn ap Mymbyr ap Madawc ap Locrin ap Brutus, yr hwn oedd y cyntaf i feddianu Prydain. Felly esgynodd Harri ei orsedd drwy ddysgleirdeb ei gledd a godidowgrwydd ei linach. "Gadewch i'r cleddyf hiraf brofi y pwnc," ebai Arthur pan yn ymbarotoi i ymosod ar Rhufain, a pha gleddyf hirach nag achres Harri?

XLV.

Wedi i'r Cymry a'r Saeson ddyfod wyneb yn wyneb ac i ymgydnabyddu a'u gilydd gwelsant nad oedd y naill na'r llall mor ddrwg ag yr arferent goelio; fel y dywed un awdwr Cymreig yn hapus iawn. Gwelwyd nad Hengist oedd pob Sais, ac nad Rhys Gyrch oedd pob Cymro; a diogel genym fod llawenydd yn mhlith angelion pan y daeth y Cymro a'r Sais i adnabyddiaeth well a'u gilydd ac i heddwch; ac yn arbenig pan y daeth y Cymry i dangnefedd a hwy eu hunain.

XLVI

Beth bynag ddywedir am Harri VIII., ei deyrnasiad ef fu yn gyfrwng i uno Cymru a Lloegr dan yr un drefn, drwy yr hon yr estynwyd i drigolion y Dywysogaeth yr un breintiau ag a fwynhaai deiliaid Lloegr; a chydag uniad bendigedig Cymru a Lloegr rhoddwyd terfyn tragwyddol ar hen arfer y Cymry o ymladd yn eu plith eu hunain; a phwy all ddweyd y budd annhraethol fu hyny i ni fel pobl? Heddwch y brenin yn Nghymru fu y fendith fwyaf ddaeth i'r bobl yn nesaf at y Diwygiad Protestanaidd a chyfieithiad yr Ysgrythyr Lan i'r Gymraeg. Rhanwyd Cymru o newydd yn siroedd, yn lle yn fan dywysogaethau fel drwy yr oesau gynt, a gosodwyd cyfreithiau teyrnasol i reoli yn lle yr hen annhrefn dylwythol. Rhoddwyd diwedd ar unbenaeth anghyfrifol y tywysogion ymrafaelgar, a darostyngwyd hwythau i'r un gyfraith genedlaethol. Anfonodd y Cymry erfyniad at y Brenin, a geiriwyd yr erfyniad hwn, fel y tybir, gan Syr John Price, o'r Priordy, Aberhonddu. Yn rhywfodd y pryd hwnw gadawyd Sir Fynwy allan o gymanfa y siroedd Cymreig, ond y mae wedi glynu wrthynt ar hyd yr oesau, ac ni fyn ei chyfrif ond gyda deuddeg llwyth Gomer. Yn rhagymadrodd y gyfraith uchod, cyfeirir at yr afreolaeth a'r annibendod, yr anghytundeb, yr ymraniad, yr ymrafael, yr ymbleidio a'r terfysg sydd yn nodweddiadol o wledydd mandywysogol, a dadgenir bwriad y Brenin fel penarglwydd y cyfan i ddarostwng yr oll i drefn cyfraith a gwybodaeth, gan ddifodi pob gwahaniaeth arfer a defod. gythryblus, a dwyn y bobl i undeb a chydgord cariadus, yr hyn ni fwynhaodd y Cymry, yn dra thebyg, erioed o'r blaen. Dyma fraint y dylai ein pobl ei mawrhau am byth. Braint bwysig arall fu alltudiad y gallu Pabol o Brydain, am yr hyn y buwyd ar hyd yr oesau yn ymdrechu, ond a wnaed yn y diwedd pan y caed y gwaed Cymreig yn Harri VIII. i'w gyflawni. Y gwaed Cymreig fagodd galon i wneyd hyny, ac "Oes y byd i'r gwaed Cymreig Protestanaidd!"

XLVII

Peth arall rhagorol a wnaeth Harri oedd talfyru enwau y Cymry i hyd ymarferol a defnyddiol. Cyn hyny, os y gofynid i ryw Gymro ei enw, byddai yn debyg o ddweyd ei fod yn Ioan ap Ifan ap Gruffydd ap Einion, &c., &c., ond gorfu i bob un ymfoddloni ar ddau neu dri man pellaf, John Ifan, Dafydd Dafys, John Jones, &c. Pan y byddai cynghaws mewn llys rhwng dau Gymro, cymerid y diwrnod cyntaf i wrando enwau yr achwynydd, y cyhuddedig, y tystion, &c. Bellach rhaid fu i'r Cymro roi enwau ei gyndeidiau i fyny, a mabwysiadu enw ei dad neu ei fam. Ymffrostiai y Cymro yn ei linach fel Absalom yn ei wallt!

XLVIII

Yr oedd oes yr hen arwyr Cymreig yn awr wedi myned heibio, a thywysogion llawn ysbryd yr efengyl i gymeryd eu lle, y rhai a orddysgleiriant enwogrwydd eu blaenafiaid Pabyddol a phaganaidd. John Penri, dyma ben newydd, a chenadwri newydd yn ei enau, a goleu Haul Cyfiawnder yn tywynu ar ei wyneb. Gadawodd ei braidd ar fynydd Epynt yn y De gan fyned o flaen llys Elizabeth i ymbil am oleu i Gymru. Aeth o Gymru i Rydychain yn Babydd, ond yn fuan trodd yn Brotestant; gwelir ei ysbryd yn ymfudo o dywyllwch i oleuni, ac o'i gyflwr o oleuni cenfydd Gymru fel mewn magddu, a chyfyd ei lais i fyny yn hyglyw i gondemnio y bugeiliaid cysglyd a didaro a gauent y goleuni allan o Gymru. Ymffrostiai yr offeiriaid Pabaidd yn eu hallweddau, ond eu defnyddio i gloi Cymru mewn tywyllwch ac anwybodaeth wnaethant ar hyd yr oesau; a phan y gwaeddai Penri am agor ffenestri Cymru i gael yr heulwen efengylaidd i fewn, ymgynddeiriogi yn erwin wnai perchenogion yr allweddau. Curai Penri wrth balas y Frenines, wrth ddor y Parliament, wrth ddrysau yr Eglwys, wrth ffenestri y persondai a'r esgobdai, oblegid yr oedd Penri o ddifrif. Efe oedd gwawrgeiniad y Diwygiad yn Nghymru, a "gem" oedd hefyd, fel Luther. Yr oedd Harri wedi uno Lloegr a Chymru yn gyfreithiol; yn awr galwai Penri ar ei ferch i'w gwneyd yn un yn grefyddol ac efengylaidd. Yr oedd eisieu yr efengyl a'r Beibl yn Gymraeg yno, braint i gwblhau y fraint a roes Harri iddi. Am aflonyddu ar hun yr Eglwys gysglyd cymerwyd Penri i'r ddalfa a dyoddefodd angeu bradwr, yn Mai, 1593. Yn 1620 cyhoeddwyd y Beibl, yn benaf o waith William Morgan, y Cymro wnaeth fwyaf o bawb dros y Gymraeg. Ond nid oedd hyn yn ddigon; yr oedd yn rhaid ei gael i ddwylaw y Cymry, a chael y Cymry i fedru ei ddarllen a'i ddeall. Nid yn unig yr oedd Gwyr yr Allweddau wedi cloi y Beibl, eithr hefyd wedi cloi meddwl y bobl y tu ol i fyllt anwybodaeth ac ofergoeliaeth. John Penri oedd un o'r cyntaf i gael ei gyneu gan dan yr efengyl yn y Beibl Cymraeg, ac aeth yn ynfyd fel Paul am gyhoeddi hono i'r genedl Gymreig. Cred Penri oedd nas gallai offeiriad na phregethai fyth fod yn weinidog da i Grist. Heresi annyoddefol a melldigedig y diwygiwr Cymreig gwerthfawr hwn oedd fod eisieu goleuo Cymru! Yr oedd Penri gan gymaint ei awydd i oleuo ei bobl yn ddioed fel canwyll wedi ei goleuo ac yn llosgi y ddau ben iddi. Llofruddiwyd ef gan Wyr yr Allweddau.

XLIX

Dyma gyflwr Cymru pan y cyfieithiwyd yr Ysgrythyr Lan i'r Gymraeg gan William Morgan a'i gynorthwywyr fel y'i darlunid gan Esgob: "Llygredigaethau dychrynllyd, gorthrwm-drethi twyllodrus, bywyd anfoesol, delwaddoliaeth baganaidd yn cael eu cefnogi yn y modd mwyaf gwarthus dan lywodraeth yr Eglwyswyr." Yr oedd y glerigaeth, pe bai ddichon, yn waeth na'r bobl. Pa ryfedd y gwrthwynebai y genedlaeth Eglwysig gyfieithu y Beibl a chyneuad canwyll yr efengyl i oleuo y wlad a dadlenu eu ffieidd-dra? Pa ryfedd yr ymgeisiai gwyr llen a lleyg ddiffodd canwyll John Penri? Nid gwaith yr Eglwys fu rhoi y Beibl i'r bobl, eithr gwaith dynion da, sydd yn barod i wneyd daioni yn mhob oes, pe y caent. Gwyr yr Allweddau sydd erioed yn cloi gwybodaeth a rhyddid. Er fod y dorau led y pen heddyw, ac i aros yn agored, cawn y clerigwyr Pabyddol a Defodol eto yn cludo y ffug allweddau yn eu gwregysau!

Aent o amgylch fel man dduwiau
A'u cenadaeth oddi fry
I addysgu a goleuo
A gwneyd da o dy i dy;
Ond, och, ond, hwy'n ddrwg a wnaethant
I bob gras a goleu ffoi,

Er i Grist eu siarsio i agor
Dorau'r nefoedd, nid eu cloi!
 
Rhodient gydag agoriadau
Etifeddiaeth werthfawr Duw;
Cloisent ddysg a chloisent oleu,
Cloesent ddoniau o bob rhyw;
Cloisent yr Ysgrythyr ddwyfol
Mewn Groeg, Lladin a Hebraeg,
Yn lle gwneyd i'r afon lifo
Drwy holl Gymru yn Gymraeg!

Ond y bobloedd gan wir newyn
A chan syched nerthol ryw,
A dorasant gloiau'r Eglwys,
Er meddianu doniau Duw;
Allan eto ffrydiai'r ffynon
Nes cynyddu'n afon rydd,
Gan ddyfrhau holl feusydd Cymru
O Gaergybi i Gaerdydd!

L

Curwyd wrth y drysau yn egniol gan Penri, ond torwyd hwy i fewn gan y Diwygwyr yn Nghymru yn y 18fed ganrif, sef Griffith Jones, Daniel Rowland, Hywel Harris, William Williams, Peter Williams, Charles o'r Bala, a llu eraill. Aeth yn chwyldroad ffyrnig am agoriad bastiliau Cymru. Carchar-dorwyr oedd y Diwygwyr, a gadawsant garcharau meddyliol eu gwlad heb ddor gyfan ar yr un o honynt. Gwnaent Wyr yr Allweddau yn wawd ac yn watwar. Rhoddasant ddrws agored yn Nghymru nas gall neb ei gau. Ond brwydr ofnadwy ymladdodd ein tadau i ryddhau Cymru! Y pryd hwnw yr oedd y wlad fel y dywed Bunyan yn ei "Daith y Pererin," mewn cyflwr rhyfedd o lygredig; "y rhai oedd ag ysbryd yr efengyl a gras Duw yn eu calonau yn y carcharau, a chefnogwyr gau grefydd yn y dafarn." Ond aeth yr Ysgrythyr yn drech na holl byrth uffern y wladwriaeth a'r Eglwys.

LI

Yn yr ymdrech hon y daw y Beibl Cymraeg allan yn Allu Duw, fel y dywedai Paul fod yr efengyl. Yn y man y'i cyfieithiwyd rhagaddawai ddymchwelyd yr hen drefn. Gwyddai y Diafol ei allu, a thyna paham y rhoes efe yn nghalonau y Pabyddion a'r offeiriadaeth i'w guddio. Trodd y Beibl yn ffynonell fawr o wefr i adfywio Cymru drwyddi draw fel "power house" yn yr oruchwyliaeth drydanol. Aeth Cymru yn llawn o "dynamos" neu wefrgistiau efengylaidd i redeg y newyddion da o lawenydd mawr i bob plwyf a chymydogaeth a chyneu goleu yn mhob lle. Nid oedd son o'r braidd am ddim ond Gallu yr Efengyl. Aeth y Beibl fel yn weithfa udgyrn, oblegid aeth miloedd i chwythu udgyrn yr efengyl fel o ddialedd am lofruddio yr udgornwr cyntaf, sef John Penri. Aeth Cymru yn llawn amaethwyr efengylaidd yn aredig pob maes, hyd yn nod i fewn i fynwentydd yr Eglwys. Cyn bo hir, nid oedd maes gwyllt yn y wlad. Yn aml gwelid yr aradrwr a gwaed y merthyr yn dyferu i lawr ei aeliau, ond deuai yr Hauwr ar ei ol, ac aeth y wlad oedd gynt fel anial i flodeuo fel gardd! Cafwyd fod yr hen Feibl Cymraeg hefyd, yn gerddgist, oblegid yn fuan aeth y wlad yn llawn Nid cynt y dechreuodd yr amaethwyr Efengylaidd aredig a llyfnu nag y dechreuodd y Perganiedydd o Bantycelyn dynu y caniadau mwyaf hudol allan o hono. Druan o Gymru cyn y Diwygiad, hyd iddi ddechreu cael ei goleuo a dysg y Beibl! emynau.

LII

Ychydig o les wnaeth yr hen dywysogion Cymreig i Gymru. Cawsant hi yn baganaidd, a gadawsant hi yn agos yn yr un cyflwr. Yn Anerchiad Ficer Prichard ceir hanes gresynus o gyflwr moesol, crefyddol ac addysgol y bobl. Wedi cyfieithu y Beibl i'r Gymraeg, ceir fod y Cymry mewn tywyllwch ac anwybodaeth dygn:

Mae'r cobleriaid a'u morwynion
A'r rhai gwaetha' mysg y Seison,
Bob yr un a'r Beibl ganthynt.
Ddydd a nos yn darllen ynthynt.

Mae'r penaethiaid gyda ninau
A'u tableri ar eu byrddau,
Heb un Beibl nac un plygain
Yn eu tai na neb i'w darllain.

Pob merch tincer gyda'r Seison
Feder ddarllain llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer Scweier
Gyda ninau ddarllain pader.

Dywedir nad oedd yn holl Gymru a Lloegr, yn y flwyddyn 1674 dros 30 o Feiblau Cymraeg, ond yn 1678 cafwyd argraffiad newydd o hono gan y Parch. Stephen Hughes, mewn undeb a boneddigion da eraill. Fel y gellir casglu o hanesion, "yr oedd bywydau llawer o offeiriaid ac athrawon yn anfad o anfucheddol, a'u syniadau yn resynol o gyfeiliornus." Yr oedd llawer o'r offeiriaid yn fulaidd o ran gwybodaeth o'r efengyl, ac yn anifeilaidd o ran moes. Yn mhob tebygolrwydd, cyn dechreu 1700, nid oedd ysgolion o gwbl yn y Dywysogaeth, ac ni allai y werin ddarllen na Saesneg na Chymraeg, er fod y wlad yn llawn o offeiriaid. Griffith Jones, Llanddowror, oedd tad addysg yn Nghymru. Nodweddid y bobl gan lythineb, meddwdod ac anlladrwydd. Ebai hanesydd, "Byddai pawb yn cadarnhau pob gair a ddywedent gyda llw ar eu henaid, a hyny yn aml yn gelwydd ganddynt." Defnyddid y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin i gonsurio a hwy. Cedwid Beibl mewn cist dan glo er cadw y ty rhag rheibiaeth neu niwed. Yr oedd y diafol a'r dewin am eu bywyd yn swyno dynion ac anifeiliaid, a'r offeiriad a'r clochydd gyda'r Beibl yn dadswyno. Yr oedd cysgu ar obenydd o Feibl yn wellhad oddiwrth anhunedd. Yr oedd penod neu salm yn feddyginiaeth effeithiol i geffyl neu fuwch sal. Edrychai y trueiniaid ar y diwygwyr fel rheibwyr. Cyfferi y paganiaid ofergoelus hyn oedd y Pader, y Credo, y Deg Gorchymyn, a Breuddwyd Mair, a'r olaf oedd y cryfaf yn erbyn anhwylderau y corff ac ystrywiau y diafol. Ond torodd y wawr ar Gymru wyllt ac anwybodus, a dechreuodd hwsmyn yr efengyl ei thrin i dderbyn hadau gwareiddiad, hyd y daeth rhyw efengylydd hynod iawn o'r enw Hywel Harris hyd y prif ffyrdd a'r caeau, ac fel og fawr yn rhwygo y ffordd yr elai! Yr oedd Ysgolion Rhad Cylchynol Griffith Jones wedi aredig Cymru Wyllt yn ysgafn o benbwygilydd; cynifer a 150,000 o Gymry mewn 24 o flynyddau wedi eu haddysgu i ddarllen y Beibl Cymraeg, o blant chwech oed i fyny i henafgwyr 70. Y fath edliwiad yw bywyd Griffith Jones ar y miloedd offeiriaid fuont yn sefyll rhwng Goleuni y byd a'r bobl. Mewn gwirionedd, gan Griffith Jones a'i ddylynwyr yr oedd y gwir allweddau, nid gan y Pab a'r offeiriadaeth.

LIII

Yr oedd Hywel Harris a'r rhai ddaeth ar ei ol fel erydr ac ogau yn tori a llyfnu Cymru, ac yn ei gwneyd yn gyfaddas i dderbyn hadau gwareiddiad am y tro cyntaf yn ei hanes. Nid bardd yn ymddifyru a'i delyn oedd y Diwygiwr, eithr proffwyd yn rhwygo calon ei wlad baganaidd ag og effeithiol argyhoeddiad. Y mae hanes gwrthwynebiad yr Eglwyswyr i bregethiad yr efengyl a gwareiddiad y Cymry yn gywilydd oesol iddynt. Amddifadid clerigwyr da a duwiol o'u lleoedd am ufuddhau i'r Hwn a'u galwodd; cloent eu pregethwyr mwyaf hyawdl allan o'r llanau. Pan y deuai Griffith Jones, Llanddowror, o amgylch y llanoedd troai y curadiaid a'r rheithoriaid yr allweddau yn y drysau, a chai bregethu yn mhlith y beddau. Dywed Jones yn ei lyfr yr ymdrechai aml i gurad yn fwy pe y meiddiai.. Yr oedd yr esgobaethau yn nwylaw plant y byd hwn. Gwrthwynebent bob cynllun i oleuo y bobl. Ataliwyd Harris a Williams, Pantycelyn, i gael urddau am y rheswm y pregethent. Pechod Harris oedd pregethu mewn lleoedd anghysegredig a gweddio yn ddifyfyr ac allan o'i fynwes, yn lle o'r Llyfr Gweddi. Yr oedd y tywyllwch yn gyfryw fel y gellid, fel y dywedai un, ei deimlo, eto diffoddai yr Eglwys bob canwyll fedrai! Am filldiroedd o amgylch yn aml ni phregethid pregeth gan gurad na rheithor, ac mewn llanau eraill clywid pregeth oddiwrth Sais gan ychydig Gymry yn deall dim ond Cymraeg! Drwg Daniel Rowlands yn ngolwg Esgob Ty Ddewi oedd myned o amgylch i bregethu. Gan y daliai Rowlands i bregethu i'r miloedd, penderfynodd yr Esgob ei amddifadu o'i eglwysi. Sais oedd yr Esgob Squire hwn, ac yn anwybodus o iaith y Cymry! Taflwyd Rowlands allan o'r Eglwys am ei fod yn efengylwr. Taflwyd Williams Pantycelyn allan am ei fod yn bregethwr ac yn awyddus i oleuo ei gydwladwyr. Wedi ei ryddhau o gaethiwed yr Eglwys, trodd hwn yn eos y Diwygiad, ac y mae ei emynau wedi bod yn ddiwylliant ac yn iechydwriaeth i filoedd. Saeson a chlerigwyr digenadwri gadwent eu llanau!

LIV.

Er fod corff y genedl wedi ymfoddloni ar ei huniad a'r Saeson, a'r gweddill o'r teulu Prydeinig, ac yn gwerthfawrogi yr undeb grasol a roes ddiwedd ar ymrafaelion oesol y Cymry a'r Saeson ac a'u gilydd, y mae yn aros eto yn ein plith, fel y mae yn drist cyfaddef, relyw anfoddog a gwrthnysig sydd hyd heddyw am annibyniaeth i'r Cymry, am ryddhad o dan iau y Saeson, er nad yw hyny namyn dychymyg a choel. Bob cyfle ga y rhai hyn danodant i'r Saeson eu hen greulonderau tuag at y Cymry, a cheisiant genym goelio mai y Sais yw y dyn gwaethaf ar lawr daear Duw. Y teimlad Saisgasaol hwn oedd wrth wraidd yr awydd dyeithr am sefydlu teyrnas Gymreig yn nghanol rhyw bobl anwaraidd, tebyg i'r weriniaeth Americanaidd, lle ni fyddai ond Cymry, yr iaith Gymraeg, arferion a defion Cymreig, heb un Sais yn beiddio dyfod o fewn canoedd o filldiroedd i fod yn swyddog yno!

LV.

Cymerodd y teimlad gwrthnysig hwn ffurf gynyrfus tua haner can mlynedd yn ol, ac arwr y mudiad a'r cyffro oedd Michael Jones y Bala. Ynddo ef yr adgyfododd hen anianawd ddiddiwyg y Cymro gynt. Meddai ar ysbryd Cymroaidd yr oesau gynt, ac aflonyddai yn ei fynwes ddofn a Brythonaidd gas at y Sais, yr hwn iddo ef oedd yn llawn o frad Hengist. Yr oedd meddwl am Sais yn ei ffyrnigo i'w waelod, ac ymddygai yn anhywaith dan deyrnas a ddygai yr enw o "English." Yr unig ffordd i ddianc o dan iau a baner Lloegr fyddai sefydlu teyrnas fawr Gymreig, ac awd ati i'w chychwyn yn ddioed. Yn ei apel at ei gydwladwyr i ddyfod at eu gilydd i gychwyn teyrnas, cawn ef yn cyfaddef eu gwendid drwy yr oesau. "Beth a pha faint bynag fu y gwahaniaeth rhyngom a'n gilydd mewn crefydd, &c., byddwn un mewn gwladaeth. Drwy ymladd a'n gilydd, yn llwyth yn erbyn llwyth, y gorchfygodd y Rhufeiniaid ni, &c." "Byddwn o un meddwl," ebe efe. Yr oedd am gael y Cymry i fod yn genedl "ffurfiol" yn lle yn genedl "ymdoddol." Yn y diwedd penderfynwyd ar ymsefydlu yn Patagonia, gan dybio y tyfasai y Cymry yn genedl mor gref yno fel ag i ddychrynu yr Ysbaenwyr allan o'u hesgidiau. "Nid oes digon o yni yn yr Ysbaenwyr i ddyfod yno i'n poeni," ebe efe, yn gamsyniol. Aeth y Gwladfawyr yn fuan dan eu rheolaeth, fel y gallesid dysgwyl; aethant ar fyr dan reolaeth cenedl waelach na'r Saeson, ac yn feddianol ar grefydd iselwaelach. Felly drwy ddylyn arweinwyr dall aeth y Cymry i ffos wladfaol annymunol; a thebyg mai hono fydd yr ymgais olaf i sefydlu llywodraeth Gymreig ar y ddaear hon. Y mae y belen hon wedi ei meddianu gan Alluoedd cryfion y byd, a'r oes i bwrcasu tyddyn i adeiladu teyrnas annibynol arno wedi dianc heibio. Mae y cyfle wedi myned, a'r cenedloedd cystadleuol wedi cymeryd eu lle. Lle Cymru mwyach (fel Ysgotland a'r Werddon) fydd dan aden Prydain yn bobl bedair-gainc i wareiddio a meddianu (yn nghyd a'u brodyr Americanaidd) y belen ddaearol. Bu Rhagluniaeth yn garedig i ranu clod y Sais rhwng y Cymro, yr Ysgotyn a'r Gwyddel; a diameu genym mai dyn cryf wneir ryw ddydd o waed y pedwar wedi y'u ceir i ymwadu bob un a'i fympwy, a syrthio i fewn a threfn ac arfaeth y Goruchaf. Y Saesneg fydd ymadrodd y bobl unol hyn, am y rheswm mai hi yw yr iaith fwyaf gyfansawdd a chyfaddas a glywodd ac a lefarodd plant Adda erioed, a bydd yn ddigon o iaith i lenwi genau y byd a thrafod ei holl oruchwyliaeth. Ni ddylem wingo yn erbyn trefn Duw.

LVI.

Ond ebe y dyn, "Beth am yr Hen Gymraeg?" Gall pawb a'i carant ei llefaru; a chofier mai pan fydd farw mai bai y Cymry fydd hyny. Sonir llawer gan Gymry "am ladd y Gymraeg," ond os byth y ceir y Gymraeg wedi ei lladd gellir myned ar lw a'i brofi mewn llys mai y Cymry a'i lladdodd hi. Gyhyd ag y rhoddir llety iddi yn ngenau a chalon y Cymro hi a fydd byw; ond yn y man y gwrthodir llety iddi ac y teflir hi allan, marw fydd ei thynged. Ni chedwir hi yn fyw wrth ei chanmol, eithr ei llefaru.

LVII.

Felly ymddengys mai amcan amlwg Rhagluniaeth bellach yw sicrhau Cymru i ni fel pobl yn dyddyn a phencadle, lle y gallwn gadw y gwaed Cymreig a'r iaith Gymraeg yn fyw; ac os yn feddianol ar synwyr cyffredin, a pharodrwydd i ddefnyddio y cyfleusderau a'r breintiau a sicrheir i ni dan aden Prydain, gallwn fod o wasanaeth dirfawr a buddfawr i ni ein hunain ac i'r gweddill o blant y codwm. Yn mha dir bynag y gwelir Cymry anturiaethus, yn Mhatagonia, Canada, Affrica, neu yn y Talaethau, yn Nghymru y bydd yr aelwyd a'r cysegr. Fel y dywed S. R., y mae gwladychfa Madog ab Owain Gwynedd wedi myned i golli er ys llawer dydd; y mae gwladychfa hyfryd a ffrwythlawn y Cymry ar ochr orllewinol Ffrainc wedi myned yn llawn cymysg; y mae y wladychfa Gymreig yn y Dyffryn Mawr gerllaw Philadelphia wedi ymdoddi i'r bywyd Americanaidd o amgylch; a gellir ychwanegu fod y gwladychfeydd Cymreig ar hyd y Talaethau yn diflanu o flwyddyn i flwyddyn; felly y Wladychfa Gymreig hynaf yn awr yn y byd, a'r un sydd debycaf o fyw hwyaf, ydyw yr un sydd yn Nghymru. Ofer yw breuddwydio am sefydlu gwladychfa Gymreig arall, oblegid pobl ymdoddol yw y Cymry hyd yn nod yn eu gwlad eu hunain. Felly y mae ein tynged yn amlwg, sef ymostwng i drefn Rhagluniaeth. Gallwn gadw Cymru i ni ein hunain am oesau, cadw ein hiaith yn fyw am oesau, os y gwnawn ein dyledswydd tuag atynt; ond os na, a Cymru yn un a Lloegr, ac iaith Lloegr fydd ar hyd-ddi o Gaer i Gaer, ac o for i fynydd, ac ni fydd genym neb i'w feio ond ein hunain.

LVIII

Fel y dywed Dyfed am goll annibyniaeth a nerth Cymru er gwaethaf pob anffawd

Wyt eto'r un; paid cwyno ar dy alon, Dy gledd dy hun sy'n yfed gwaed dy galon.

Edryched y Cymro o'i amgylch a chaiff weled hen ddrwg y Cymry yn ffynu heddyw, sef eu henwadaeth, eu hanghytunrwydd, eu diffyg talent ymuno a'u gilydd i gyraedd amcan-nodau cenedlaethol. Mewn trefi a phentrefi yn y Talaethau, gwelir tri a phedwar capel o Gymry rhy gyndyn i fyned at eu gilydd i fwynhau achos cryf ac unol, yr hyn y maent yn y fath angen o hono! Maent yn ffyddlawn i'w prif eilun, Ymrangarwch. Dyma y clwyf y bydd yn rhaid ei wella. Bydd yn rhaid i ni, hefyd, wneyd ein hiaithgarwch a'n cenedlgarwch yn ymarferol. Yr ydym yn rhy hoff o broffesu a pheidio cyflawni. Trown ein brwdfrydedd yn weithredoedd:

"Ha! fy ngwlad! 'rwy'n hoff o'i henwi,
Ac yn hoff o'i choffa'n fwyn;"
Dyna dd'wedi, wedi'th lenwi
Ar adegau gan ei swyn;
Ond mae caru heb weithredu
(Rhaid yw credu) yn sarhad;
Ti yn caru'r Dywysogaeth,
A dy serch ond gwag warogaeth?
Ac ni fedri iaith dy wlad?

"Ha! fy iaith! iaith fy rhieni!
Hon a'm suai yn fy nghryd!"
Ond yn Seisneg y dadleni
Gain deimladau'th estron fryd;
Nid yw mwy yn eiddo i ti,
Iaith fu'n swyn dy fryd ddinam;
Haner cofio'th wlad a wnei di
Haner bendith mam a gei di
Heb gyfrinach iaith dy fam!

"Ha! fy nghened!! swyn dy yrfa,
O! mor anwyl genyf fi!
Daw dy gofion gynt yn dyrfa"
Mewn estroniaith ddwedi di;
Ond mae'th gefnu ar y famiaith,
Fel i'r genedl yn sarhad;
Os am fod yn Gymro iawnfryd,
Ac yn genedlgarwr llawnfryd,
Rhaid it ddysgu iaith y wlad!

LIX

Pan yn edrych dros hanes Cymru yn yr oesau aeth heibio ac i'r dyfodol, nis gallwn lai na chofio hanes Peredur, yn y Fabinogi, chwedl a ddengys arfer Cymru yn y gorphenol, a'i thynged yn y dyfodol: Yr oedd Peredur yn fab i deulu ag oedd yr oll ond ei hun wedi eu lladd mewn rhyfel-tad a chwech o feibion. Fel canlyniad hyn ymneillduodd y fam gyda Peredur i wlad anial ac anghyfanedd. Yno ni chai Peredur gymdeithas neb ond benywod a llanciau a gwyr diymgais. Felly magwyd ef yn ddibrofiad. Ymddifyrent a'u gilydd drwy chwareu a choed yn lle a chleddyfau. Ond un dydd canfu Peredur farchog, a chyffrowyd ynddo hen ysbryd arwrol ei gynafiaid, a rhaid oedd iddo fyned i'r byd, a llesmeiriodd ei fam pan y clywodd hyny. Fodd bynag, aeth Peredur allan i'r byd, ac ar fyr yr oedd y marchog mwyaf enwog, a dymunai Arthur ei gymdeithas o bawb, oblegid aeth ei enw ar led y gwledydd. Gelwid ef yn Flodeuyn y Marchogion ac yn Llewyrch Arwriaeth. Bu y Brython ar hyd yr oesau yn treulio ei oes mewn anial anghyfanedd, yn ddibrofiad. Rhaid i Gymru ddyfod allan o gylch ei dygiad i fyny a'i chydymgystadleuaeth a hi ei hun, a myned allan fel Peredur i herio y byd a gorchfygu y gwledydd mewn celf, dysg, moes a chrefydd cyn y cyfrifir hi yn arwrol. Dan arweiniad iawn a chydag addysg a phrofiad y mae Cymru yn alluog drwy gynysgaeth naturiol i ddyfod yn Flodeuyn a Llewyrch Arwriaeth.

LX.

A dyma flodeuyn arwriaeth Cymru yn ymagor gyda'r gair, sef yn y diwygiad rhyfedd sydd mewn ychydig amser wedi gwneyd llawer iawn i agor yr ysbrydol o flaen llygaid y byd gwareiddiedig. O'r diwedd dyma Gymru wedi cael o hyd i'w chenadaeth, yr hon sydd ysbrydol. Mae pyrth Seion fel wedi eu symud i Gymru. O'r blaen ni wyddai ond daearyddwyr am Gymru, ond erbyn heddyw y mae y byd yn troi ei wyneb i gyfeiriad Gwlad y Bryniau o herwydd y goleu nefol a'r gorfoledd ysbrydol yno. Mae Cymru yn mhersonoliaeth Eyan Roberts a'i gymdeithion ieuainc wedi derbyn cenadaeth i ddechreu cyfnod newydd yn y byd. Neges yr arwriaeth ysbrydol hon yw cyhoeddi digonolrwydd Cariad Duw i achub pechadur, ac fod Duw yn ymwneyd a phawb yn bersonol a heb gyfryngau defodol neu seremoniol. Ebargofir pob offeiriadaeth ac eglwysyddiaeth ymhongar. Troir yr offeiriad, y clerigwr a'r pregethwr defodol o'r neilldu fel cyfryngau achub, a dadguddir Ysbryd Duw i'r byd fel unig gyfrwng iechydwriaeth. Dymchwelir pob ymhoniaeth offeiriadol, a chwalir y gyffesgell. Heibio i bob trefn eglwysig a y pechadur i bresenoldeb Duw yn ei Fab, yr Hwn a achub bob un yn bersonol. Cynrychiolwyr a goruchwylwyr yr Ysbryd ynt leygwyr-meibion a merched anoffeiriadol ac anmhregethwrol; ac y mae y ffaith i Dduw eu dewis yn brawf o'r nef fod oes yr offeiriadaeth wedi darfod. Gwel yr Arglwydd yn dda gan nad oedd yr offeiriaid a'r pregethwyr ffurfiol yn achub neb, i roi ei Ysbryd i ddynion achub eu gilydd. Wele Peredur wedi troi allan ar lwybr ei arwriaeth!




Bynag dir neu wlad y rhodiwyf,
Son am Gymru nid anghofiaf;
Dros holl donau troion bywyd
Yn fy mryd i Gymru nofiaf.

Yno mae fy serch yn aros,
Yno mae fy mryd yn trigo;
Nid anghofiaf mewn un oror
Garu Cymru a'i bendigo!




YR AWRHON A CHYNT.

Ar un tro mewn cwsg ymrwydais,
Ac am Arthur y breuddwydais;
Drwy ryw ddyffryn hardd yr aethym
Ac at fynydd mawr y daethym.

Gwelwn ogof—O, awenau—
Ac fel llidiard ar ei genau;
Ac o'i mewn fel dysglaer radau
Oedd rhyfeddol oleuadau!

Y Gwyliwr:
Wrth y llidiard oedd gwyliadur
Tal urddasol fel penadur;
Yn ei law 'roedd cledd-a tharian
Ar ei fraich yn glaer fel arian.

A mi'n syllu yn werinol
Drwy y ddor i'r llys breninol,
Wele'r barau 'n ymeangu
Minau y tu mewn yn sangu!

Trodd y gwyliwr i'm blaenori,
I egluro a dyddori;
Yno gwelwn feirch a'u safnau
Yn breuddwydio uwch eu cafnau.


Bob un wedi ei gyfrwyo
Ac yn arfog i andwyo;
Parod oent i ado'r gaerfa
Pan y delai'r wys i'r aerfa!

Heibio'r meirch yn eu stafelloedd,
A'r marchogion yn eu celloedd,
Daethym at ryw le arddunol,
Megys neuadd fawr freninol.

Ac i fewn yr es heb gelu,
Ac a welais ar ei wely, Arthur,
Pentywysog Prydain,
Fu a'i glodydd gynt mor llydain!

Ac ni fu erioed greadur
Ddyn mor enwog a'r Penadur;
Ac er Adda ni fu iawnach
Y Prydeinwr a'i gyflawnach.

'Roedd yn wrol, yn ddifrifol;
'Roedd yn goeth ac yn ddigrifol;
Pan fai'n brudd ai'n drist ei awen,
Amser arall, byddai'n llawen.

Yn y gad fel llew rhuadwy;
Yn y wledd fel car teimladwy;
Gyda'r tlawd yn frawd ystyriol;
Gyda'r doeth yn goeth fyfyriol.


Pan darawodd ar ei glybod,
Ein disymwth swn yn dyfod.
Ebrwydd cododd i'n cyfarchu
Minau'n awchus am ei barchu.

Ebe fe, "Ai brawd a'i bradwr?"
Ebe'r gwyliwr, "Cywir wladwr;"
Ac ymgrymais ger drych moesau
Lle'r ymdrwsiai y cynoesau.

Gerddo oedd ei waewffon hoew
A'i Galedfwlch, gleddyf gloew;
A'r hen Ddraig a fu'n ymwared
Yno'n hongian ar y pared.

Rhodd y Gwyliwr i mi dripod
Sedd dair troediog (os am wypod)
I mi eistedd ger y Brenin
Fu yn deyrn hyd Gaercystenin.
 
Y Bardd:
"Ond, yrwan, Arthur, dywed
Ffordd y cest ti gynt y niwed,
Pan y gwnaethost y fath ddystryw
Ar lu'th nai, o fradus ystryw?"

Ni fu tebyg aerfa cred i
Mi'n y byd na chynt na chwedi;
Ond drwy ba ryw gast neu ddichell
Yr anafwyd di a'r bichell?


Arthur:
Yna'r ai fel cwmwl dybryd
Dros hawddgarwch ei wynebryd;
A rhyw ddigus ddiystyrwch
Doai'r gwr oedd gar difyrwch!

Anesmwythai'r gwych gadlywydd;
Teimlai loes ei glwy o newyddEbai,
"Medrawd ddirmygedig
Drodd yn fradwr melldigedig!"

"Ni fu gwr na chawr o'r goreu
Fedrai'm sefyll, hwyr neu foreu;
Ond yn ol y fradus drefn
Cymro'm gwanodd yn fy nghefn!

Y Bardd:
"Dyna ddrwg ein hil drwy'r oesau,
Ac achlysur ein holl groesau;
Ac ni phery'r un wladwriaeth
Lle bo digter a bradwriaeth.

"Brad Afarwy, 'r llipryn du fain,
Roes ein gwlad i Iwl o Rufain;
Gwrtheyrn, gan y gwin yn gynes
Roes holl Brydain am Ellmynes!

Arthur:
Medrawd—naddo, ni thywyll'is
Neb erioed a gwell ewyllys!

Gwae na chawn holl fradwyr Gwalia
I ryw gongl rhwng y walia!"

Y Bardd yn gellweirus:
Wedi'r araeth ogoneddus,
Ebe finau, "Gorfoleddus!
O! na fyddai'th ddwylaw'n rhyddion
I ddileu'r Dicshondafyddion!

"Gwae na ddeuit i'r Eisteddfod
Genedlaethol—y Gyneddfod
Lle mae'r Ffichtiaid a'r Paganiaid
Yn ein hanerch ni'r Troianiaid!

"Difyr garw fyddai'th ruthraw
A'th Galedfwlch, ac yn llithraw
I'w cymynu a'u di-rywio
'N enbyd am eu brad-a'u briwio!

"Gan roi llidiog dda ddyrnodau
Ar eu cyrff yn amlwg nodau,
Gan roi cosfa i bob Brython
Sy'n dirmygu gwlad y rhython!

"Ond er taro'r pwnc yn rhwyfodd
Gan mai'th nai mor glau a'th glwyfodd
A yw'th archoll eto'n mendio
Pwy yw'r M. D. sy'n dy dendio?

"Beth am Myrddin a'i beirianau
A'i ogonawl ddaroganau?

Syn na wnai ef saim neu eli
Iach i oleweiddio'th weli.[1]

"Gwn pe baet dan lygad huan
Ceffit feddyginiaeth fuan;
Mae ein byd yn llawn meddygon
Sydd yn ddychryn i glefydon!

Y mae ynddo bob cyfferi
At bob gwaew, gwynt a geri
At y cylla, at yr afu
At bob llun a lliw ar grafu!

Extracts, meddir, sydd yn ddiau
Megys cyfiawnhad i'r giau;
A phob bitters goreffeithiol
Gan feddygon gorymdeithiol.

Hefyd, essences i'r galon
Ac i chwalu pob gofalon:
A chymwysir trydan, hefyd,
I bensyfyrdanu'r clefyd.

Y mae'r oes a'i dawn atdynol
Yn dyfeisio campau synol;
Ac yn aml y ceir cyfeillion
Yn rhoi llygaid (gwydr) i ddeillion!


Y mae'r byd yn llawn peleni,
Darpar-falm at bob trueni"—
(Ebe Arthur, "Piti garw,
Minau yma'n haner marw!")

Y Bardd yn myned yn mlaen:
"Y mae llawer yn dychmygu
Gwell fai peidio a meddygu,
Am mai amlder y meddygon
Yw gwir achos y clefydon.

"Y mae Mari Baker Eddy
'N gwella pob peth drwy anghredu;
Efengyla hi'n ddiswildra
Mai dychymyg pob anhwyldra.

"Corn ar droed neu gur mewn cylla
Nid yw namyn coel o'r hylla';
A'n ol hon, pan fydd dyn farw
Marwa o wiriondeb garw!

Y mae'r wlad yn llawn physigwyr
Ac o bob diffael feddygwyr;
Ac fod neb yn marw, meddaf,
Yw'r rhyfeddod sy' ryfeddaf!"

Arthur:
Ebe Arthur: "Nid oedd glefyd
Yn fy oes i nemawr-hefyd

Na physigwr o osodaeth
Wnai afiechyd yn drafodaeth.

"Nid oedd neb o'r braidd yn cwyno,
Am na phoen na gwaew yno;
Yr oedd dyn fel pob creatur
Yn bucheddu rheol natur.

"Rhoddai mam i mi'n foreubryd
Ac i ginio (y goreubryd)
Gawl neu botes, cig a bara
Yna'm gyrai 'maes i chwara.

"Dyna'r bwyd gyfrana fendith,
Bara haidd neu fara gwenith;
Darn o fochyn, hwrdd neu darw
Wedi'u halltu-wedi ei farw!

"Ein meddygon oedd ein mamau,
Hwy a wyddent ein pahamau,
Am y dibwys fan wanegau
Fyddai ynom ar adegau.

Y Bardd:
Ebe finau, "Nid i'th enau
'R'elai llawer o gacenau;
Roet ti'n gawr o fachgen gwisci
Cyn bo son am yfed chwisci.


"Nid oet ti wrth fyn'd i weira
'N llanw'th fol a phwdin eira;
Ac ni wnest erioed ddychmygu
Fod cynaliaeth mewn ysmygu.

"Roedd y mamau gynt heb ddysgu
Syfyrdanu'r plant i gysgu,
Na gwneyd ymborth sydd yn foddiad
Ac yn ddystryw'r cyfansoddiad.

Y Bardd yn myned yn Bersonol:
"Bendifaddeu, ple mae'r dewin,
Penaf wyddon y Gorllewin;
Mab di dad ond nid di fedr
Ap mynaches Eglwys Pedr?

"Oni wnaeth efe ar brydiau
Gampus droion drwy ei frudiau?
Gwyddai gelloedd cudd y creigiau;
Gwyddai gastiau drwg y dreigiau."

Arthur:
Ebe Arthur yn fyfyriol,
(Fel pe'n siarad yn ystyriol),
"Gwyddai Myrddin fwy na'i allu
Nid ei wybod oedd yn pallu.

"Pan y daeth am dro am danaf
I ddeongli drwg fy anaf,

'Roedd fel pe bae'r celfyddodau
Wedi drysu yn eu rhodau!

Myrddin:
"Mae dy glwy yn dyngedfenawl;
Mae o arfaeth arwybrenawl;
Nid oes llysiau yn Thesalia
Nac yn nghymoedd gwylltaf Gwalia;

"Nid oes iawn na dawn na dewin
Yn y Dwyrain na'r Gorllewin;
Nid oes enaint, saim nac eli
Eill am oesau wella'th weli.

"Deli'n mlaen o hyd i nychu,
Ond dy einioes heb wanychu,
Hyd yr elo'r Ddraig i huno
Cymru wedi ei chyfuno."

Y Bardd:
"Dyna syniad tlws barddonol,
Y mae hefyd yn wyddonol,"
Ebai fi, "sef fod dy glefyd
Yn anhwyldeb Cymru hefyd.

"Mae dy anaf yn gysgodol;
Mae dy niwed yn orfodol;
Gwella'th archoll cyn y gwellir
Archoll Cymru'n wir, nis gellir!


"Rwyt ti felly'n cynrychioli
Ac mae'th glwy i'w briodoli
I anundeb cenedlaethol
Anffyddlondeb gwasanaethol.

"Drwy yr oesau (rhag cywilydd!)
Na bai'r Cymry'n caru' gilydd;
Nid ymgecru, ymgynenu,
Ymrafaelio'n ddiddibenu!

"Ond mae lluaws yn ffyddloniaid,
O bydd galw am wroniaid;
Os oes Dim Cwmbrags a bradwyr
Y mae myrdd yn gywir wladwyr.

"Y mae Cymru'n ymddiwygio,
A Hengistiaeth yn diffygio;
Gwalia eto a adfywia
Yn amen a haleliwia.

"Ha! er gwaethaf Swidw Polion!
Ha! er brathu ein gwrolion,
Yn y wledd, a'r Cyllyll Hirion
Y mae'r Cymry eto'n burion!

"Er holl ystryw brad y gelyn
I ddifodi'r iaith a'r delyn,
Byw yw'r iaith a byw yw'r awen
Y mae'r Cymry eto'n llawen!


"Ac wrth hyn, mae'n dra thebygol
Fod y Cymro'n anorchfygol;
Ac yn llawen eto, meddaf,
Fe yw'r cyntaf a'r diweddaf.

"Nid yw'n haerllug fel Shon
Darw; Fel yr Ellmyn, nid yw'n arw;
Nid yw gymhen fel y Ffrancwr;
Nid yw'n nerfus fel y Iancwr.

Ond mae'r Brython fyth i bara
Cyd a byddo'r Niagara;
A dyweded dyn a fyno
Yn y farn, bydd Cymry yno!"

Arthur:
Pan o'wn felly yn pistyllio
Ar Hengistiaeth a'i rhidyllio,
'Roedd y Brenin yn cael mwynder
Fel pe bae pob sen yn swynder.

Ebai wrthyf, "Mae'n ddywenydd
Gen i'th glywed, wych awenydd;
Gwell yw'th air nag eli'r Gwyddon,
Neu na "Balsam y Derwyddon."

"Rwyf yn teimlo er's rhai blwyddi
Fod hen gur fy nghlwy a'r chwyddi

Fel raddol yn diflanu
A fy iechyd yn cyfanu.

"Mae fy archwaeth yn diwygio
Gallaf gerdded heb ddiffygio
Megys cynt—'rwyf yn wybyddus
O'm hadferiad-'rwy'n awyddus!

"Rwyf yn teimlo'm hen hwylusdod
A'r awyddfryd a'r dibrisdod
O esmwythdra-wyf am esgyn
Ar fy ngheffyl a gor-res-gyn!"

Chwyfiai' gleddyf yn wronaidd
A grymusder Pendragonaidd!
Gwaeddwn inau "Byw fo'r Brenin!
Byw am byth fo Gwlad y Cenin!"

Arthur a'r Bardd:
Wedi i'r brwdfrydedd soddi
Ac i'r gyneu-dan ddifoddi
Ebai'r Brenin yn rwgnachol
Ond yn fwyn a chyfrinachol:

"Ni ddaw gair ar lith na thafod
Fyth o'm gwlad i fewn i'r Hafod"
Ebe finau, "Neb i'th weled
Er dy fawred a'th ucheled?

"Ni ddaw'r gwr glas a llythyrau
Gyda'i godaid o bapyrau?
Ni ddaw cenad cudd na bloeddwr
Ni ddaw clochydd na chyhoeddwr!

"Ni ddaw newydd i ti'n sydyn,
Fel ar esgyll chwim fynydyn?
Nid oes cyswllt telephonig
Rhyngot ti a'r hil Frythonig?

"Ai nid yw y wagen gwrw
Yma'n galw'n fawr ei thwrw?
Neu y landriman am grysau
Yma'n curo wrth dy ddrysau?

"Ni ddaw yma'r newyddiadur
Sy'n rhoi hanes pob pechadur?
Syn na wnai rhyw walch egnio
Gynyg i ti beiriant gwnio!

"Syn na ddeuai (O'r andwyaeth)
Atat yma ryw ddirprwyaeth
Neu ryw bwyllgor i'th seboni
Er hyrwyddo rhyw haelioni!

"Syn na fuasai wedi tirio
Yma'r gwr sydd yn yswirio,
Fel y gallai Gwen dy gladdu
Rhoi maen arnat wedi ei naddu!


Gwenhwyfar:
Ar fy ngair i, yn ddirodres
Dyma'r firain ymerodres;
Yn ymddangos fel angeles
Glanach oedd na neb a weles!

Gyda'r fanon gain fawreddig
Cerddai Pawyn balch boneddig;
Wrthi beunydd yr ymlynai
Ac i bobman y'i dylynai.

Hael wallt oedd lliw'r llin i'r ddynes,
Gyda mynwes geinwech gynes;
Ffurf ac uchder mor urddasol,
Dull a gwedd a moes mor rasol!

Digon hawdd yw gwel'd wrth rodiad
Dyn pa fath a fu ei godiad;
Y mae amlwg ddadguddiadau
Yn ei amryw symudiadau.

Y mae'n amlwg yn ei eiriau;
Y mae'n fer yn ei esgeiriau;
Mae holl gampau mwyn gymeriad
Yn ffrwyth natur ac arferiad.

'Roedd pob peth a wisgai'r ddynes
Yn gyfaddas ac yn gynes;

Mae pob gweithred sy'n bwrpasol
Yn ddefnyddiol ac yn rasol.

Ac ni wisgai ddim o wagedd,
Fel mae'n arfer gan rai gwragedd;
Ni wasgrwymai' hun o gynen
Er mwyn edrych fel cacynen.

Ac ni chobiai ei ffaeleddau,
Er cyflawni ei hagweddau;
Nid oedd ganddi wallt crychedig,
Ac na danedd gosodedig.

'Roedd yn hoenus ac yn heini
Ac yn ddynes iawn i weini;
Nid oedd degan i'r meddygon,
Nac yn chwanog i lewygon.

Yr oedd Arthur mor garuaidd,
A Gwenhwyfar mor deuluaidd!
Nid rhyw ystum a chymhendod
Nid rhyw goegni a mursendod.

Wedi eistedd yn ei ymyl
Ac am dro ymgomio'n symyl,
Ebe fe (y ddau'n ymgrymu) "
Dyma'm cydwedd! Car o Gymru!"

Minau blygais mewn gweddeidd-dra,
Ger fath harddwch a mwyneidd-dra;

Ebe hi (nid mewn Sacsoneg,
Ond yn swynder y Frythoneg).

"Henffych! Croesaw yn ddiddarfod;
Dyddan fyddo'n cydgyfarfod:
'Rym ni'n dau yn gymdeithasol
(Hyny yw a phobl urddasol).

"Rydwyf fi ac Arthur, hefyd,
Yn casau fel haint neu glefyd
Ffrol a lol y dirywiedig
Ac arferion y llygredig."

Y Bardd:
Ebe finau "Rhaid wrth reddfau;
Ofer dysgu heb gyneddfau;
'Pethau roed a geir mewn potes,'
Ys dywedai'r hen gardotes.

"Dawn naturiol yw callineb;
Diffyg gwreiddiol yw ffolineb;
Anhawdd, onide, addysgu
Bwmp y gors y nos i gysgu?

"Nid athrofau nac ysgolion
Sydd yn gwneuthur rhagorolion;
Ni fu'r eos fach ragorol
Mewn academi gerddorol.


"Trech yw natur nag athroniaeth;
Trech yw greddf na phob gwyddoniaeth;
Nid yw'r pysgod man yn cofio
'Rawr y dysgwyd hwy i nofio.

"Natur rasol sy'n rhoi synwyr
A rhagoriaeth i'w dylynwyr;
Ni wneir doethion fyth o ffyliaid,
Nac eosau o benbyliaid.

"Prinder anian yw pob gwendid;
Diffyg gras yw pob aflendid;
Lle na fyddo naturioldeb
Ni fydd crefydd na duwioldeb.

"Cas addysgu i areithio
'R sawl fwriadodd Duw i weithio;
Rhaid i natur, cyn ei eni
Fyn'd i gyngrair a'i rieni.

"Y mae natur yn ddyfeisgar;
Nid yw'n hoffi moddion treisgar;
Cymer hi yn fynych oesau
I gynyrchu dyn o foesau!

"Lle i fagu ffiloregau
Yw aelwydydd ein colegau;
Os am fawredd rhaid wrth reddfau
Yn cydweithio a chyneddfau.


"Y mae natur yn fendithiol,
A chelfyddyd yn rhagrithiol;
Y mae'r naill o ddwyf osodiad,
Ond y llall o hunan godiad.

"Natur sydd yn cywir nerthu;
Natur hefyd sy'n prydferthu;
Ac i lygad gwir ystyriol
Bri pob rhinwedd yw'r naturiol.

Nid oes moes mewn gwag gymhendod
Fwy na gras mewn annibendod;
Y mae natur fawr a'i grasau
Yn gwneyd pawb yn berthynasau."
 
Gwenhwyfar:
Ebe hithau yn fyfyriol
"Beth ond natur sy'n naturiol?
Ac, yn wir, y mae'n llawenydd
Gen i'th gwmni, gain awenydd!

"Rwyt mor newydd! O, 'rwy'n caru
Rhywun doniol yn llefaru!
Ac mor ddigrif fyddai clywed
Sut mae'r gwragedd yno--dywed!"

Y Bardd a'r Crach Wragedd:
Ebe fi "Yn mhlith y gwragedd
Y mae gogwydd mawr at wagedd;

Maent yn son am ffurfio undeb
I ddinystrio y cyfundeb.

"Maent yn awr yn dechreu archu
I'w gwyr priod yn lle'u parchu!
Maent yn dechreu ymfforchoca
(Rhag cywilydd!) wrth farchoca.

"Maent yn wir am efelychu
'R gwyr mewn poeri a phesychu;
Ond mae moesau y gwrywaid
Yn anfoesol mewn benywaid.

'Nid ynt mwy yn ymfoddloni
Yn rhesymol ar ddaioni;
Maent yn dechreu taeru'n gynes
Am holl freintiau dyn a dynes!

Y maent yn ei gwneyd hi'n gregyn
Yn y maes ac yn y gegin!
'Rwyf fi'n ofni'n ddyoddefol
Y bydd rhyfel mawr cartrefol!

"Maent yn gwawdio pob rhybuddiad,
Ac yn gwatwar pob datguddiad;
Ac ni dderfydd yr amrafael
Hyd y caffo Efa'r afael

"Yn awenau'r ymerodraeth,
Ac y caffo lawn lywodraeth,

Ac y gwelo lwyr ddysplead
O'r ffasiynau drwy y cread!"

Gwenhwyfar:
"Hach y fi! O'r anniddigrwydd!"
Ebe hi, "Y fath haerllugrwydd!
Boed y wraig yn ras y teulu—
Bydded yntau yn ben y beili.

"Lle y wraig yw ymegnio
Mewn glanhau a gwau a gwnio;
Caru'n fawr ei phlant a'i phriod
A gochelyd oedfa'r piod.

"Nid yw'r wraig yn neillduoliaeth,
Ond yn gyfran o'r ddynoliaeth—
Ebwn inau "Annibendod
Ddaw o bob peth sy'n ddisendod.

"Rhaid mai pengam waith rhyw dwymyn
Wna y wraig am rwygo'r rhwymyn
Wnaed gan Dduw-mor anystyriol
Mysgu cwlwm mor naturiol!"

Ebe Gwen, "Mae'th gred yn rasol;
Serch yw'r rhinwedd cymdeithasol;
Ond gad glywed yn rhyddfrydol
Sut a pethau'n mlaen yn fydol?


Y Bardd:
"Tewch a son! mae'r oes bresenol,"
Ebwn inau yn hamddenol,
"Yn ddigymhar mewn dyfeisio
Ac mewn cynllwyn ffyrdd i dreisio.

Y mae'r ager gyda rhodau
Yn gwneyd rhyfedd ryfeddodau;
Y mae'r ceffyl tan yn tynu
Ceir yn rhes a'th wnai i synu!

"Y mae'r llong drwy rym y peiriant
Yn tramwyo drwy'r llifeiriant;
Waeth am wynt na chwa nac awel
Hon drwy'r oll a nofia'n dawel.

"Ar bob ffordd a heol lydan
Brysia'r ceir gan rym y trydan;.
Dros y gwifrau yr anfonir
Negeseuau-telephonir!

"Golchir dillad a pheirianau;
Gydag ager gweir 'sanau;
Lleddir gwair a thynir tatws,
Ac a pheiriant gwnia Catws.

"Ac mae arnaf ofn o honi
Yr a'r Cymro i wefr farddoni,

I wneyd awdlau fel rhubanau
Rhwng y clawdd a'r difyr lanau.

"Canu, 'gethu a barddoni
Yw tair benaf gamp daioni
Y Brythoniaid yn holl ranau
Cymru rhwng y mor a'r banau.

Arthur:
Ebe Arthur yn freninol
"Sut mae'r byd yn gyffredinol?
Ofer fai i mi ddychmygu
A yw'n gwella neu waethygu."

Y Bardd:
Ebe finau "Mae'n dibynnu
Mae yn anhawdd penderfynu;
Mae ei ogwydd at weriniaeth,
Hyd wastadedd anghrediniaeth.

Mae haerllugrwydd balch hunaniaeth
Am wastadu pob gwahaniaeth;
I ffol ysbryd cydraddoldeb
'Run yw gras ac anfoesoldeb.

"Golud a yn dduw a delw,
A'r cyffredin gais yw elw;
Rhoddir pris ar bob gweithrediad,
Rhoir dan dal bob amgyffrediad.


"Nid o awen yr ysbrydol,
Ond o anian gnawdol fydol,
Y cyflawnir dyledswyddau
Gwerthir grasau megys nwyddau.

"Prin yw'r gwaith sy'n Dduwogonol;
Llawer camp yn lles personol;
Work and wages, dyna'r cyfan,
Sy'n holl bwysig drwy bedryfan.

"Aml ymgeisiaf a dyfalu
Beth fydd ddydd y farn i'w dalu,
Gan na roddir dim heb logau,
Ac ni wneir dim heb gyflogau.

"Aml rhoir swydd i'r mwyaf cnafus;
Aml rhoir allor i'r anafus;
I'r siaradus yr areithfa;
I gynffonwr waith y weithfa.

"Y mae'r byd yn llawn o bleidiau
Ac o sectau man yn heidiau;
Y mae'r da yn anghydfydol
Dim ond drwg sydd yn unfrydol!

'Dweyd o hyd wna'r Pab o Rufen
O bob ffydd mai fe yw'r hufen;
Ac mae lluoedd yn ei goelio
Wrth ei hawl wedi eu hoelio.


Pobiedono haera'n goegaidd
Mai'r un iawn yw'r Eglwys Roegaidd;
Aml i sect yn ffol a greda
Mewn rhyw gwd neu Bwd neu Beda.

Mae Archesgob Canterberi
Yntau'n cadw'r iawn gyfferi;
Ond fe ddwed y Pab gyn rwydded
Nad oes gras ond lle mae trwydded.

Nid yw gras yn werth os na bydd
Dan awdurdod gwych rhyw Babydd;
Daw goleuni Duw'n haelioni
Ond ei ras drwy seremoni!

Syn i Dduw erioed roi grasau
I ryw bab a'i berthynasau;
Rhoi'r allweddi yn gaffaeliaid
I wael ddwylaw un o'i ddeiliaid!

Nid yw'r Ne'n goleuo megys
Drwy het Pab neu drwy ei wregys;
Mae goleuni Duw yn nefol,
Ac yn mhobman yn gartrefol.

Nid yw'r heulwen yn sirioli
Drwy'r un Pio neu Satoli;
Daw y gwawl yn syth o'r wybyr,
A daw gras hyd yr un llwybyr.


Pam y dylai'r nefoedd eiriol
Drwy ryw deml neu dwr cadeiriol?
Pam y dylai gras dramwyo
Drwy y Vatig i'w andwyo?

Eyan Roberts, drwy'r pentrefydd
Daena oleu'r oreu grefydd;
Crefydd cariad Duw'n cynesu
Crefydd ddigyffelyb Iesu!

Crefydd gras yn denu'n garnau
Y ffol feddwon o'r tafarnau;
Gwneyd y mudion yn siaradus
A gelynion yn gariadus!

Gwneyd y rhegwr i weddio
Ac i ganu'n lle difrio; Tynu
Ysbryd Duw o'r nenau
Yn gawodydd ar eu penau!

"O! drwy Gymru, y per ganu,
Ac am gariad Duw'r molianu!
A hyn oll o nef gyfeiriad
Heb na phab, na phrist na 'ffeiriad!"
 
Ebai Arthur hardd "Gogoniant!"
Ebai Gwen "Amen" mewn lloniant;
"Myn'd at Dduw sy'n iawn, yn ddiau,
Heibio i wag seremoniau.


"Dyna'r gred a'r gyffes oreu,
Caru'n gilydd, hwyr a boreu;
Gwneyd yn gyfiawn at ein gilydd
Cyfrif camwedd yn gywilydd."

Felly bum yn treulio llawen
Dymp ag Arthur hardd a'i awen;
Yn cael gwely plu i gysgu,
Heb un helbul i'm terfysgu.

Gwelais ei holl blas a'i dyddyn
A holl rengau'i gysglyd fyddin;
Ei heirdd erddi a'i neuaddau
Gyda'u gwychder o bob graddau.

Ac wrth dewi'n awr yr wyf ar
Gais y Brenin a Gwenhwyfar
Yn cyflwyno'u dymuniadau
Goreu i Hen Wlad fy Nhadau!







Nodiadau

golygu
  1. Clwyf
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.