Am graig i adeiladu

Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr Am graig i adeiladu

gan Maurice David, Y Bala

Ymado wnaf â'r babell

669[1] Sylfaen Safadwy.
76. 76. D.

1 AM graig i adeiladu,
Fy enaid, chwilia'n ddwys;
Y sylfaen fawr safadwy
I roddi arni 'mhwys:
Bydd melys yn yr afon
Gael Craig a'm deil i'r lan,
Pan fyddo pob rhyw stormydd
Yn curo ar f'enaid gwan.

Maurice David, Y Bala


Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 669, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930