Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon

Yn awr, mewn gorfoleddus gân Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon

gan Robert Davies (Bardd Nantglyn)

I Dad y trugareddau i gyd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Sachliain a Lludw, Merched yng ngwaith dur Cyfarthfa. Engrafiad o baentiad gan Thomas Henry Thomas

23[1] Gweddi a Mawl
M. H.

1 ANTURIAF, Arglwydd, yr awr hon,
Yn llwch a lludw ger dy fron;
O flaen dy fainc a'th orsedd Di
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

2 Tŵr yn y nos Ti imi sydd,
Fy nghraig a'm cysgod yn y dydd
I'm cynnal: am dy ofal Di
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

3 Tylawd a noeth, gresynus wyf,
Gwan ac anghenus dan fy nghlwyf;
Mae ffynnon bywyd gyda Thi :
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

4 Mae yna dorf luosog lân,
Yn bur eu cerdd, yn bêr eu cân;
Eu mawl yn unig sydd i Ti
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 23, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930