Ar ôl i fy Nghariad Farw
gan Dafydd Nanmor
- Caru merch ifanc hirwen,
- a marw wnaeth morwyn wen.
- Gweddw am hon yn y bronydd
- yw'r gog a'r bedw a'r gwþdd.
- Os marw hon yn Is Conwy -
- ni ddylai Mai ddeilio mwy!
- Gwywon yw'r bedw a'r gwiail
- ac weithian ni ddygan' ddail.
- Och un awr na chawn orwedd
- Gyda bun dan gaead bedd...