Merch Ein Hamserau: Rhan 8 Ar Ddydd Priodas

gan Robin Llwyd ab Owain

Sandra Picton (C'mon Midfield)
Cyfarchiad ar ddydd priodas Dwyryd Roberts a Ceri Thomas, 17.8.91. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



I'r llwydrew dilewyrch, di-liw - y daeth
Llafn y dydd a'i ddyfrlliw
Drwy haul Awst eich ffenestr liw
Am ryw eiliad amryliw.