Holl amrantau'r sêr ddywedant
ar hyd y nos,
"Dyma'r ffordd i fro gogoniant",
ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch,
i arddangos gwir brydferthwch,
teulu'r nefoedd mewn tawelwch
ar hyd y nos.


O mor siriol gwena seren
ar hyd y nos,
i oleuo'i chwaer ddaearen
ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
rhown ein golau gwan i'n gilydd
ar hyd y nos.