Arglwydd, arwain trwy'r anialwch
- gan William Williams
- Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,
- Fi, bererin gwael ei wedd,
- Nad oes ynof nerth na bywyd
- Fel yn gorwedd yn y bedd:
- Hollalluog, Hollalluog,
- Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan.
- Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan
- Agor y ffynhonnau melus
- 'N tarddu i maes o'r Graig y sydd;
- Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
- A rho golofn niwl y dydd;
- Rho i mi fanna, Rho i mi fanna,
- Fel na bwyf yn llwfwrhau.
- Fel na bwyf yn llwfwrhau.
- Pan yn troedio glan Iorddonen,
- Par i'm hofnau suddo i gyd;
- Dwg fi drwy y tonnau geirwon
- Draw i Ganaan - gartref clyd:
- Mawl diderfyn. Mawl diderfyn
- Fydd i'th enw byth am hyn.
- Fydd i'th enw byth am hyn.