Astudiaethau T Gwynn Jones/Llyfrau Ieuenctid

Y Deml Gladd Astudiaethau T Gwynn Jones

gan Thomas Gwynn Jones

Popeth o'r Newydd?

LLYFRAU IEUENCTID

OND odid nad y llyfrau pwysicaf i ddyn yw'r rhai a ddarllenodd yn hogyn, ac efallai mai gadael i'r hogyn ddyfod o hyd i'w lyfrau drwy ddamwain sydd orau. Anaml, o leiaf, y bydd y llyfrau fydd yn fy mhlesio i yn taro chwaeth fy mechgyn fel y buaswn yn disgwyl. Adwaen un hogyn a ddarllensai amryw lyfrau lawer gwaith trosodd cyn bod yn un ar ddeg oed. Darllenodd un o nofelau Maurice Hewlett wyth waith cyn ei fod yn ddeg, ac "Oliver Twist" Dickens bedair neu bum waith. Nid rhaid i neb bryderu am chwaeth lenyddol yr hogyn hwnnw. Gallai feirniadu ystori yn amgenach ac yn llawer gonestach nag ambell adolygwr wrth ei swydd.

Yr wyf yn meddwl mai ystori yn "Nhrysorfa'r Plant" oedd y peth cyntaf a ddarllenais fy hun. Yr oedd casgliad helaeth o rifynnau o'r cyhoeddiad hwnnw at fy ngalwad, a charwn fynd trwyddynt. Cof gennyf fyth am wên fy mam pan ofynnais iddi a oedd y "Drysorfa" am y flwyddyn un ar gael yn ein tŷ ni.

Nid wyf yn cofio enw fy stori gyntaf na nemor o'r digwyddiadau bellach, ond cofiaf fel y byddwn, ar ddiwrnod gwlyb, yn eistedd wrth ffenestr cegin helaeth hen blasty wedi ei droi'n ffermdy, ac yn darllen yr ystori honno, bob yn ail ag edrych ar y glaw yn mynd heibio fel cynfas drwy'r awyr of flaen y gwynt. Yn ddiweddarach beth, daeth hanes "Albert Maywood," cyfieithiad o ystori Americanaidd, allan yn y "Drysorfa," a hyfrydwch diderfyn o'i darllen. Yr oedd coed o bobtu i'n tŷ ni, yn ymestyn am rai milltiroedd. Yn y coed hynny y byddai anturiaethau Maywood i gyd, ond diddorol yw cofio fel y byddai'r meddwl yn dwyn i mewn i'r coed bethau nad oeddynt yno, megis craig uchel; neu yn helaethu darn bychan o dir ar lan afon yn daith diwrnod o faint. Synnais lawer tro wedyn fel y medrais wasgu'r ystori i ryw hanner milltir o goed.

Llyfr Saesneg, mi gredaf, oedd fy llyfr nesaf—dysgasai fy mam fi i ddarllen yr iaith honno yn lled ieuanc. Nid cof gennyf na theitl y llyfr nac enw ei awdur, ond ar ffurf llythyrau oddi wrth dad at ei fab yr oedd, yn adrodd hanes Lloegr, neu hanes ei brenhinoedd yn hytrach. Darllenais hwnnw lawer gwaith trosodd, ac yr wyf yn cofio'n dda synnu nad oedd fodd bod yn frenin heb dorri pen neu wenwyno rhywun arall o hyd. Tua'r un adeg, byddai'n hoff gennyf ddarllen llyfryn bach a elwid "Basgedaid o Flodau," ac yr wyf yn cofio rhai genethod a fyddai'n wylo wrth ddarllen hwnnw—bendith ar eu calonnau bach caredig!

Yr oedd gennyf lyfr Saesneg arall a ddarllenwn ar y Sul—er nad oedd Sul caeth yn ein tŷ ni—Uplands" oedd ei enw, hanes teulu wedi dyfod i lawr yn y byd a mynd i'r "wlad uchaf" i fyw. Ni welais byth mo'r llyfr wedyn. Awyr y llyfrau hyn, yn fwy na'u digwyddiadau, sydd wedi aros hyd heddiw. Gyda hwy y mae magasîn Saesneg, "The Prize" y gelwid. Yr oedd gennyf gyfrol ohono wedi ei rhwymo. Cof gennyf rai cerddi a lluniau ynddi eto—cân Wordsworth i'r Gôg, a chân arall, yn disgrifio dyn yn dyfod i'w hen gartref ar ôl bod i ffwrdd flynyddoedd:

He comes today to tread again
The unforgotten dells.

Y cam nesaf, feallai, oedd dyfod ar draws "Cymru" Owen Jones (Meudwy Môn), yn rhifynnau, ymhlith llyfrau fy nhad. Dichon mai dyma'r llyfr a gafodd fwyaf o ddylanwad arnafi o bob llyfr a ddarllenais erioed, er nad yw ond math o eiriadur a bod ei arddull yn bopeth ond Cymreig. Ei rinwedd oedd bod ynddo ystraeon am Gymru a'i thrigolion. Bu'r llyfr hwn yn gydymaith am flynyddoedd. Am ryw reswm cudd, glynodd pob darn o hen brydyddiaeth Gymraeg sydd ynddo yn y cof, pa un bynnag a ellir ei ddeall ai peidio. Yr oedd rhyw ysblander tynghedfennol o gwmpas y dyfyniadau hynny, megis y sydd mewn ystorm o fellt a tharanau. Nid oedd gan yr athro bach, digon diniwed, a'i dipyn Saesneg, ddim i'w ddysgu i hogyn, mwy! Hwyrach mai ei waith ef, ar orchymyn ei feistriaid, yn ein cosbi am siarad ein iaith ein hunain a roes gymaint o werth ar lyfr Owen Jones yn ei dro.

Un flwyddyn, mewn ysgol arall, lle nad oedd gosb am siarad Cymraeg, o leiaf, yr oedd yn rhaid i ni ddysgu can' llinell o brydyddiaeth Saesneg ar dafod leferydd. Darn o ganol "Lady of the Lake" Walter Scott oedd y darn dewis. Nid oedd dechrau na diwedd y gerdd yn y llyfr, ond cyn darllen y darn ddwywaith, nid oedd amheuaeth nad dyna'r brydyddiaeth orau a ddarllenswn i eto. Ni ddywedodd ein hathrawon—mwy na'r llyfr lle'r oedd y darn—ddim am Scott wrthym, na gair am ddechrau na diwedd y gerdd. Digon i ni adrodd y can' llinell, fel y gwnâi rhyw barrot. Daeth blys cael hyd i'r holl gerdd. Cefais wybod am lyfr bychan a'i glawr wedi ei liwio'n ddu ac yn goch, llyfr o waith Scott, ac yn cynnwys "The Lady of the Lake." Costiai ddeunaw ceiniog. Tolio pris y cinio bob dydd nes cael y deunaw ceiniog i'w brynu. Pan ddaeth yr arholwr ar ben y flwyddyn i wrando arnom yn adrodd rhyw gyfran o'r can' llinell, sylwais ei fod yn chwarae â chwilsyn oedd ar y ddesg y safai wrthi, a ninnau'n rhes, bob un yn adrodd yn ei dro. Dodai'r arholwr flaen y cwilsyn mewn inc coch a gwnâi farc ag ef ar wynebau rhai o'r plant. Pan ddaeth fy nhro, rhoes imi linell yn agos i'r dechrau, a gadael i mi fynd ymlaen hyd ddiwedd y darn. Gwelwn y cwilsyn yn dynesu at fy wyneb, ond tarewais ef o'i law a rhedais allan. Galwodd arnaf, yn ofer, a chlywais ef yn chwerthin wrth i mi fynd drwy'r drws. Yr wyf yn meddwl beth yn well ohono bellach, ond y pryd hwnnw, yr oeddwn yn meddwl ei fod yn hy, gyda'i inc coch, ac yn ddwl—gwrando ar hogyn yn adrodd can' llinell o ganol cerdd, ac yntau yn ei medru i gyd! Nid wyf yn sicr nad wyf o'r un farn hyd heddiw am y dylni. Ac ni waeth cyfaddef na pheidio fy mod, er gwaethaf yr holl feirniaid, yn dal i hoffi prydyddiaeth Scott. Gofidiwn gynt na buasai brydyddiaeth debyg yn Gymraeg. Gofidiaf hynny eto. Daeth Scotland felly yn wlad rhamant i mi, mewn modd na ddaethai Cymru eto, ac arweiniodd "Iarlles y Llyn" fi ar hyd llwybrau anghynefin. Dysgodd i mi o'r diwedd fiwsig ei hiaith ei hun, nad yw Scott ond adlais ohono. Ai damwain oedd rhoi'r can' llinell hynny o Scott i ni i'w dysgu ar dafod leferydd? Ni wn i ac ni waeth gennyf. Ond ni ddwg Pan-Eingl y byd mo'r etifeddiaeth mwy—ceir crwydro gydag Oisin a Fionn, Oscar a Chaoilte, i hela'r baeddod rhith ar hyd meysydd o gymylau a tharth, ac ni bydd hynny oferach na bod yn "ymarferol." Amlhaodd llyfrau yn gyflym ar ôl y cyfnod hwn. Yr oedd rhywfaint o'r peth a geid gan Scott i'w gael yn "Owen Puw" Pedr Hir a "Llywarch Hen" Taliesin Hiraethog, a chymerth "Drych y Prif Oesoedd" afael rhag blaen ar y diriogaeth lle teyrnasai Owen Jones cynt. Bu'r copi hwnnw o'r "Drych"—argraffiad Llanidloes yn fenthig gan fwy na dwsin o hogiau, ac y mae nodiadau tanbaid rhai ohonynt ar ymyl ei ddail hyd heddiw, a hwythau ar led y byd, neu wedi ei adael .. .

(1917.)

Nodiadau

golygu