Astudiaethau T Gwynn Jones/O'r Neilltu
← Ein Cymdogion a Ninnau | Astudiaethau T Gwynn Jones gan Thomas Gwynn Jones |
Y Deml Gladd → |
O'R NEILLTU
FLYNYDDOEDD yn ôl, wrth grwydro yma ac acw i chwilio am iechyd, deuthum yn nes at Natur nag y byddwn hyd yn oed pan oeddwn hogyn yn y coed neu ar y rhos o fore hyd nos. Gwelais beth na chawswn ei weled ers blynyddoedd—haf, hydref, gaeaf a gwanwyn ar y mynydd ac yn y coedydd, ac ni chyfrifaswn mai ofer fy hoedl pe cawswn ei threulio hyd yr awr olaf heb wneuthur dim ond gwylio heulwen a chwmwl, niwl a glaw, a dyfod i adnabod mwsogl a rhedyn, blodau a choed, gwybed ac adar, a'r mân anifeiliaid gwylltion sydd eto heb eu difa o'r wlad. Ni byddai ar ddyn eisiau darllen yn ystod dyddiau eang felly. Digon fyddai sylwi a synfyfyrio. Diwrnod gwresog ym Mehefin, wedi hir sychdwr, yng nghanol unigedd ardderchog Mynydd Hiraethog. Popeth yn swrth. Distawrwydd wedi mynd yn ddistawach. Lliw copr ar y ffurfafen. Un gerwyn aruthr a'i hwyneb i waered, ac ôl myrthylio arni yma ac acw, megis ar lestri metel gyrr cyfnod celfyddyd oesau cynt. Y copr tua'r de-orllewin yn dulasu, fel clais ar groen gwritgoch. Sydyn ru dwfn yn y pellter, yna grydwst adar mynydd yn cyfodi'n ebrwydd ac yn rhedeg yn rhes o nodau meinion nes darfod mewn dim, megis pe tarawsai rhywun ddwrn anfeidrol ar grasdannau telyn anferth ac yna redeg ei fysedd yn ysgafn a chwim ar hyd y cildannau i'r uchaf oll. Yna llwnc hir ddistawrwydd . . . A fyddai dyn yn wlyb hyd at ei groen cyn cyrraedd diddosrwydd, dyn nad gwiw iddo gael annwyd? Pa waeth? Pe daethai diwedd y byd, pa waeth . . . o chai dyn glywed peth o'i sŵn, ei gerddoriaeth ysblennydd, a gweled pe dim ond ei wreichion, cyn mynd?
Dro arall, gorwedd yn y grug. Cysgu. Breuddwydio breuddwyd cymysg. Rhyw fywyd pell yn ôl, allan ar fynydd gwyllt, rhyw ffurfiau aneglur yn y tawch. Deffro a chlywed su drist yr awel drwy frigau'r grug. Cyffroi gwaed yr hynafiaid—pwy ŵyr pa hyd y bu'n huno?—yr hynafiaid a fu'n byw ac yn marw ar leoedd felly oesau'n ôl. Pwy a boenai am na masnach na thref na llyfr ? Llwynog yn sefyll a'i ffroen i'r awyr ar y drum draw. Cudyll coch yn hofran fry yn yr awyr, yn llonyddu ar ei adanedd eiliad, yna'n disgyn i'r ddaear fel ergyd. Un ysgrech fain, diwedd tragoedia fach . . gwyddwn am un arall y dymunwn ei bod mor fer pan ddôi'r amser.
Ond rhyfedd yw effaith arferiad. Ar aelwyd ffermdy hen gyda'r hwyr, doi llyfr i'r llaw, braidd fel petai'r llaw yn ei geisio ohoni ei hun. "Ossian" Macpherson. Cofio'r hyfrydwch a gafwyd yn hogyn wrth ei ddarllen, cyn clywed bod dim i gywilyddio o'i blegid mewn bodloni chwaeth gymharol syml, fel eiddo hogyn. Darllen, gyda pheth rhagfarn braidd yn uwchraddol, efallai, a dal ati er hynny. Rhyw feddwl mai'r cysgu yn y grug, a mwynder hanner trist Mynydd Hiraethog fu'r drwg bod un a ddysgwyd i fod yn feirniadol yn cael blas eto ar beth a'i plesiai gynt. Bid fel y bo am hynny. Yn yr awyr agored yr oedd awdur y cerddi'n byw, pa un bynnag ai Osian yn y drydedd ganrif ai Macpherson yn y ddeunawfed ydoedd, ac nid oes reswm pam na allai'r awyr agored fod yn iachus i lenyddiaeth a beirniadaeth wedi bod ormod dan do, yn gystal ag i ddyn yn yr un cyflwr.
Fel y gellir dywedyd am agos bob un o'r rhai y cyhuddir hwy o ffugio llenyddiaeth, gellir dywedyd am Macpherson y buasai'n llawn mwy o glod iddo fod wedi gwneud y cerddi na bod wedi eu trosi i'r Saesneg. O'm rhan fy hun, nid amau gennyf nad oedd gan Macpherson yn ei feddiant ryw hen gerddi, a gafodd ar lafar gwlad, fel y dywed ei hun, ac yn wir, cyhoeddwyd rhai o'r cerddi cysefin honedig ac eraill tebyg flynyddoedd yn ôl, er na roes hynny derfyn ar y ddadl. Hyd yn oed os darfu iddo yntau eu trwsio wrth eu trosi, fe wnâi eraill yn ei gyfnod beth tebyg, ac anodd gwybod paham y dylid beio mwy arno ef nag ar y lleill. Fe wyddis bellach fod yn Iwerddon a'r Alban ddigonedd o hen gerddi ac ystraeon ar dafod leferydd hyd y dydd hwn, ac nid yn oes Macpherson ei hun y dechreuwyd eu priodoli i Osian chwaith. Ond nid wrth y tân yng nghanol fy llyfrau yr oeddwn y pryd hwnnw, yn araf ddarllen yr Wyddeleg wrth oleuni lamp, ond ar ben mynydd yng nghanol grug a rhedyn, a'r "gwynt yn fy ngwallt," a'm bwriad oedd sôn, nid am farn goleuni lamp, ond am fardd goleuni haul.
Pobl yn byw allan yw arwyr y cerddi, beth bynnag—cysgant allan y nos, er enghraifft, peth nad yw mor farbaraidd bellach ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, a pheth, o ran hynny, y gallai'r dibrofiad roi cynnig arno cyn ei gondemnio. Gyda phobl felly, bydd dyn yn anghofio swyddfa neu siop, ffordd haearn a char motor, het silc a chôt laes, a moddion a dulliau tebyg at wneud arian, i rywun arall os nad iddo ef ei hun. Bydd dyn yn blino weithiau hwyrach ar ymffrost rhai o'u hareithiau, er nad cymaint o lawer ag ar ymffrost yr areithiau y bydd pobl yn gofyn i chwi bob dydd a fyddwch wedi eu darllen. Pan fo'r penaethiaid yn herio'i gilydd i ymladd, byddant yn dra bostfawr yn aml, ond fe fyddant yn ymladd ac yn ymddwyn yn hael at y gorchfygedig. Y mae rhywbeth yn syml a dihoced yn hanes Colmar, un o benaethiaid Cuthullin, yn ofni pan oedd un tro yn ei gwch ar y môr mewn ystorm, ac yn glanio yn ei ofn, yna'n gwrido oblegid yr ofn ac yn mynd yn ei ôl a threchu "mab y gwynt." Anodd peidio â chydymdeimlo â Fingal hefyd pan ddywed wrth "ysbryd Loda," un o dduwiau Llychlyn, am aros. yn ei feysydd hyfryd ei hun ac anghofio am Fingal, yn gymaint ag na fynnai'r arwr aflonyddu arno ef. Wrth sôn am "y cyntaf o'i deulu yn Albion," dywed Duth-maruno:
His race came forth, in their years; they came forth to war, but they always fell. The wound of my fathers is mine. (Cath-Loda).
Brawddeg o'r dernyn hwn ("they came forth to war but they always fell") yw'r unig frawddeg o "Osian" yr wyf yn cofio gweled ei dyfynnu, a dyfynnir hithau y rhan amlaf yn anghywir ac heb wybod ei chysylltiadau. Dro arall, ni rydd y bardd araith yng ngenau ei arwr o gwbl, ond gadael i'w ddistawrwydd a'i weithredoedd ddangos ystâd ei feddwl. Gwelwn y gwŷr arfog yn gorwedd dan eu harfau yn y grug, a chlywn y gwynt yn suo yn eu gwallt, ac ysbrydion y lladdedigion yn nofio ar y cymylau ac yn gwibio yng ngolau'r tân yn y gwersyll. Pan gwympo rhyfelwr, atynt hwy yr â i ddilyn eu hen gampau gynt, "hela baeddod o darth ym môn y gwynt." Nid yw eu gweithredoedd lawn mor ffyrnig â'r rhai y sydd, er enghraifft, yn y Volsunga Saga a'r hen lên ogleddig, er bod Ogar, un o ryfelwyr Osian, yn "boddi ei ddagr naw gwaith yn ystlys Dula," ac Osian yntau, ar ôl torri pen Cormac yn ei ysgwyd bum waith gerfydd y gwallt. Ymladdai Culgorm a Suran-dronlo, gwanodd y naill y llall, syrthiasant yn erbyn craig, y naill yn gafael yng ngwallt y llall. Disgynnai dŵr o'r graig ar eu tariannau, gan gymysgu â'r gwaed. Yn eu gwleddau, cofiant am henaint a llawenydd a fu. Ei gŵynion ar ôl ei ieuenctid yw rhai o'r pethau prydferthaf a dadogir ar Osian. Dywed yn un ohonynt:
Our youth is like the dream of the hunter on the hill of heath. He sleeps in the mild beams of the sun; he awakes amidst a storm; the red lightning flies around; trees shake their heads to the wind. He looks back with joy on the day of the sun and the pleasant dreams of his rest. When shall Osian's youth return? (The War of Inis-Thona.)
Mynnai pob pennaeth hefyd fod ei glod fyw ar ei ôl, yng ngherddi'r beirdd ac yng ngherrig y bedd. Wrth alaru am ei fab Ryno, dywed Fingal y byddai yntau wedi mynd yn fuan; ni chlywid ei lais ac ni welid ôl ei draed; ond dywed y beirdd am enw Fingal; edrydd y meini amdanaf i." Yn y gerdd "Colna-Dona," ceir hanes Osian ac eraill yn mynd i godi meini er cof am un o fuddugoliaethau Fingal, ac y mae'r bardd yn cyfarch y garreg, gan ofyn iddi ddywedyd yr hanes "wrth y gweiniaid, wedi pallu hiliogaeth Selma." Oni ofynnai rhywun wrth weled y meini "Piau y bedd?" fel y gofynnid yng Nghymru gynt?
Un o'r pethau mwyaf nodedig yn y cerddi hyn yw'r fel y mae'r bardd ag ychydig frawddegau byrion cryno yn codi o flaen y meddwl lun byw o'r hyn y bo'n ei ddisgrifio. Weithiau ag un gyffelybiaeth, caiff effaith nas cai'r disgrifiad manylaf. Byddin yn cyfodi "megis y cyfyd haid o adar môr, pan fwrio'r don hwy oddi ar y traeth." Rhuthr byddin yn rhes ar res, fel "ehediad cysgodau duon yr hydref dros fryniau gwelltog." Dwy fyddin yn cyfarfod fel ystormydd yr hydref, yn cymysgu fel ffrydiau ar y gwastadedd, a'r frwydr yn ymdywallt ymlaen "fel niwl a fo'n rholio ar hyd y cwm pan lamo'r ystorm i heulwen ddistaw'r nef." Gwŷr Cuthullin ar ôl eu trechu mewn brwydr, "fel llwyn a'r fflam wedi rhuthro drwyddo a gwyntoedd y nos ystormus yn ei gyrru; yn bell, yn wyw a du y safant, heb ddeilen yn ysgwyd yn y gwynt."
Dichon, wrth gwrs, nad yw'r cerddi mor hen ag y mynnai rhai, ond pwy bynnag a'u canodd, yr oedd yn gynefin â Natur wyllt. Ni allasai beirdd y cerddi meirwon i'r bugeiliaid a'r bugeilesau a'r enwau Groeg a Lladin fyth mo'u canu. Ni welodd y rhai hynny Natur ei hun, a digon ganddynt ail adrodd pethau a ddywed y beirdd clasurol amdani. Prydyddiaeth felly oedd prydiaeth Saesneg oes Macpherson, ac y mae ei gerddi cynnar yntau cyn syched â dim ohoni. Ond am awdur y cerddi hyn, nid ail llaw oedd ei wybod aeth ef am bethau naturiol, a cheir yn ei ddisgrifiadau a'i gyffelybiaethau fanyldeb a chraffter un a welodd ac a wyliodd. Sŵn byddin fel twrf llifogydd: "Cyffelyb eu sŵn i'r ffrydiau fil a gyferfydd yn nyffryn Cona, a hwy, wedi noswaith dymhestlog, yn troelli eu dyfroedd duon dan oleuni gwelw y lloer." Efallai fod ôl taclu ar ystori Agandecca, merch brenin Llychlyn, a laddwyd gan ei thad ei hun am rybuddio Fingal rhag brad y brenin, ac nid oes dim arbennig iawn mewn dywedyd ei bod hi cyn wynned â'r eira, ond pan ddywed y bardd—"Ymollyngodd hithau i lawr fel torch o eira, a lithro oddi ar greigiau Ronan, pan fo distaw'r coed a dyfnhau o'r atsain yn y glyn," dyna beth a welwyd ac a glybuwyd, ac a gofir. Disgrifio gelyn yn dyfod fel tonnau— penagored yn ddiau yw hynny, ond "fel tonnau yn y niwl, pan weler eu brigau ewynnog ar brydiau dros y tawch a fo'n nofio'n isel," dyna fanyldeb. Cof gennyf wylio'r tonnau drwy dawch felly yn torri ar y creigiau ger Aberystwyth, golygfa nad anghofir. Llais y ferch a foddwyd yng ngolwg ei thad yn "darfod fel awel yr hwyr yng nghrawcwellt y creigiau"-sŵn trist hiraethus nad â'n angof gan neb a'i clybu erioed. Cwyn Vinvela, a dorrodd ei chalon ar ôl ei chariad, "fel yr awel yn hesg y llyn."
Nid yw'r cerddi heb gymariaethau tebyg i rail beirdd eraill, a chyhuddwyd Macpherson o ddwyn llawer o'r cyffelybiaethau gorau oddi ar rywrai neu gilydd. Er enghraifft:
The light of song rises in Ossian's soul. It is like the field when darkness covers the hills and the shadow grows on the plain of the sun.
Dygwyd y gyffelybiaeth hon, ebr un beirniad o linell Vergil:
Majoresque cadunt altis de montibus umbræ.
Tybed a fuasai raid i awdur cynifer o gyffelybiaethau a nod mor bersonol arnynt fenthyca llygaid arall i ganfod peth mor gyffredin? Buasai mwy o lewych ar ei gyhuddo o ddwyn cyffelybiaeth fel hon:
She came on his troubled soul, like a beam to the dark-heaving ocean, when it bursts from a cloud and brightens the foamy side of a wave. (Colna-dona.)
Oni chanodd prydydd o Gymro, ganrifau cyn oes Macpherson?—
Gwery fanon fanwl gwâr feddwl faith
Gorne gwawr fore ar för diffaith.
Ond hwyrach mai oddi ar Gynddelw y dug Osian hi! Gwae feirdd gorau'r byd, namyn y cynaraf ohonynt, pwy bynnag ydoedd, petai peth fel hyn feirniadaeth. Efallai mai'r peth prydferthaf yn y cerddi yw cyfarchiad y bardd i'r haul:
Hast thou left thy blue course in heaven, golden-haired son of the sky? The west has opened its gates; the bed of thy repose is there. The waves come to behold thy beauty. They lift their trembling heads. They see thee lovely in thy sleep; they shrink away with fear. Rest in thy shadowy cave, O sun! let thy return be in joy. (Carric-thura.)
Dyma'r ffurf Wyddeleg a gyhoeddwyd ar gynnwys y darn uchod:
An d' fhag thu gorm astar nan speur,
A mhic gun beud is or-bhuidh ciabh?
Tha dorsa na h-oidhche dhuit fein,
Agus pailliun do chlos san Iar.
Thig na tonna m'an cuairt gu mall,
Choimhead an fhir a's gloine gruaidh;
A' togail fo eagal an ceann,
Ri d' fhaicinn co aillidh a' d' shuain,
Theich iadsan gun tuar o' d' thaobh.
Gabhsa codal ann a d'uaimh,
A ghrian, is pill an tus le h-aoibhneas.[1]
Sef yw hynny agos yn llythrennol yn Gymraeg:
A adewaist ti las daith yr wybren,
O fab di-fai a'r gwallt melyn aur?
Eiddot dy hun yw drysau'r nos,
A phabell dy orffwys yn y gorllewin
Daw'r tonnau o'th amgylch yn araf,
I'th wylio, ŵr y gruddiau gloywon;
Gan godi eu pennau mewn ofn
O'th weled mor deg yn dy hun,
Ffoant heb liw o'th gyfyl.
Cwsg yna yn dy ogof,
O haul, a dychwel eto â llawenydd.
Gwelir fod y cyfieithiad Saesneg yn ddigon agos. Ni ddichon yr Wyddeleg, wrth gwrs, fod mor gynnar â'r adeg y dywedir fod Osian yn byw-o'r Saesneg neu'r Ffrangeg y cafwyd y gair pailliun, a diweddar yw'r ffurfiau i gyd. Nid ymddengys i mi fod y mesur yn fesur Gwyddeleg cynnar, ac awgryma'r odlau (gruaidh, suain, uaimb; taobh, aoibhneas) yn y ddau raniad olaf, bod rhywbeth ar ôl-llinellau efallai ar goll. Y tebyg yw, fel yr awgrymwyd eisoes, mai rhyw ddarnau cerddi fel hyn, a briodolai traddodiad i Osian, oedd gwreiddyn gwaith Macpherson.
Cafodd y gwaith, pa wedd bynnag, dderbyniad rhyfeddol ar y Cyfandir ac yn Lloegr hefyd, a dylanwadodd lawer ar lenyddiaeth y cyfnod, yn Lloegr, yr Almaen a Ffrainc. Yn ddiweddarach, daeth yn ffasiwn sôn amdano fel rhyw ystum, rhyw atro anweslyd at bethau a fu. Diau fod yr elfen honno ynddo hefyd. Nid dyma'r unig enghraifft yn y byd o'r atro hwnnw, ac yr oedd yn sicr yn gynarach yng Ngwyddeleg Iwerddon a'r Alban nag oes Macpherson, ac yn Gymraeg hefyd, o ran hynny, yn enwedig y gŵyn ar ôl ieuenctid. Ond un gamp a fedrodd Macpherson, o leiaf-dwyn i mewn i'r Saesneg arddull newydd ag arni fwy o bryd a gwedd nag oedd ar eiddo nemor un o'i feirniaid, a tharo ffansi'r gwledydd nes bod nid ychydig o ddynwared arno. Pan ddaeth Pan ddaeth beirniadaeth hanesyddol, a deall na ellid derbyn y gwaith fel eiddo bardd o'r drydedd ganrif, collodd "Osian" y bri oedd iddo unwaith, ac ychydig, ond odid, fydd yn ei ddarllen bellach. Eto, mewn neilltuedd gorfod, yng nghanol rhosydd, creigiau, cymoedd a choedydd, a llwyr ddiflastod ar gyfnod sy'n llawn mor anweslyd ag un y gwn i amdano, yn ei ffordd ei hun, fe'i cefais ef yn gydymaith nid anniddorol, a ddysgodd i mi nid ychydig o bethau, gwybod, yn eu plith, nad oes beroriaeth a ddwg i ddyn gymaint o feddyliau â sŵn y gwynt ym mrigau'r grug, na bodlonrwydd mwy mewn rhai amgylchiadau na byw ambell awr fel petai dyn yn hŷn na'i hynafiaid ef ei hun.
(1906.)
Nodiadau
golygu- ↑ An Original Collection of the Poems of Ossian, etc. Collected and edited by Hugh & John McCallum. Montrose. 1816.