Astudiaethau T Gwynn Jones/Tennyson

Uhland Astudiaethau T Gwynn Jones

gan Thomas Gwynn Jones

Ein Cymdogion a Ninnau
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Alfred, Arglwydd Tennyson
ar Wicipedia

TENNYSON

NI bu gyfnod mwy diddorol yn hanes barddoniaeth Saesneg, hwyrach, na'r cyfnod y mae "Oes Victoria" yn enw digon cyfleus arno. Yn y cyfnod hwnnw y llonyddodd cyffro ac y dyfnhaodd rhediad rhai o syniadau'r cyfnod o'i flaen, cyfnod cynhyrfus a disglair Shelley a Byron, Wordsworth a Coleridge. Cyfnod tymhestlog oedd hwnnw, ac ysbrydión ystormus oedd ei feirdd gorau. Pan aeth y dymestl heibio, cododd to o feirdd llai tanbaid a dynion mwy cyffredin. Ac eto yng ngwaith gorau'r beirdd hynny, ceir meddwl newydd, a chip olwg ar bethau y bydd y gwybodau manwl yn eu dysgu fel gwirioneddau cyn bo hir, efallai; canys bydd greddf y bardd, ar brydiau, yn gweled pethau nas cenfydd gwybodaeth fanwl am oes, neu oesau, ar ei ôl.

All we have willed or hoped or dreamed of good shall exist;
Not its semblance, but itself; no beauty, nor good, nor power,
Whose voice has gone forth, but each survives for the melodist
When eternity affirms the conception of an hour.

Felly y canodd Browning, y mwyaf ei ffydd o'r holl feirdd, ac onid rhaid eisoes gydnabod bod llawer peth yn bosibl na buasai gwybodaeth oes Browning yn ei gydnabod? Cymerer rhai o syniadau'n cyfnod ni am fater a meddwl yn enghraifft o'r hyn y cyfeirir ato. "When eternity affirms the conception of an hour." Hynny yw, pan welom yn eglurach ac yn ein hymyl, megis, beth a welodd y bardd ymhell, megis wrth olau mellten. Yn wir, gellid ysgrifennu traethiad diddorol ar y gosodiad nad oes yn amhosibl ddim y gallo meddwl dyn ei ddychmygu.

Un o feirdd mwyaf "Oes Victoria," onid y pennaf ohonynt, oedd Tennyson. Ganed ef yn y flwyddyn deunaw cant a naw. Offeiriad oedd ei dad, a merch i offeiriad oedd ei fam. Dechreuodd fynd i'r ysgol yn saith oed, ond cymerth ei dad ef dan ei addysg ei hun cyn hir. Yna danfonwyd ef i Gaer Grawnt, lle bu am ysbaid, ond ymadawodd heb ei raddio, pedfai hynny rywbeth. Bu'n ymladd â thlodi am rai blynyddoedd wedyn, ond o'r diwedd, yn bennaf drwy ymdrech Carlyle, cafodd bensiwn o ddau gant o bunnau yn y flwyddyn; dechreuodd ei weithiau dalu iddo, ac ar ôl hynny gwnaed ef yn fardd y Goron, a chafodd fyd eithaf esmwyth a dibryder hyd y diwedd. Y mae'n debyg na bu erioed yn dlawd iawn, fel y cyfrifid tlodi ymhlith beirdd, ac am hynny, na wybu anobaith gymaint â llawer un. Ol bywyd gwastad a gweddol ddibryder sydd ar ei weithiau, ac ymdrechion yr ysbryd yn hytrach na thrafferthion yr ystumog, oedd ei ymdrechion ef—mwy o ofn marw nag o ofn methu byw.

Dechreuodd ganu yn ieuanc—rhwng pedair ar ddeg a phymtheg oed—a phan oedd yn ddwy ar bymtheg, cyhoeddwyd "Poems by Two Brothers," ganddo ef a'i frawd, Charles. Yng Nghaer Grawnt, cafodd gymeradwyaeth ei gyd ysgolheigion fel bardd, ac enillodd wobr am gerdd pan oedd yn ugain oed. Cyn iddo adael Caer Grawnt, cyhoeddwyd ei "Poems, chiefly Lyrical." Derbyniad cymysg a gafodd ei waith, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r beirniaid yn ei ganmol, rhai ohonynt yn ei ganmol yn uchel iawn. Cyhoedd odd ei weithiau yn lled gyson ar ôl hynny. Ymhlith y rhai mwyaf gellir nodi "The Palace of Art," "The Princess," "In Memoriam," "Maud," "Idylls of the King," "Enoch Arden," ac amryw fugeilgerddi a chwaraegerddi. Cafodd ei weithiau dderbyniad croesawus, at ei gilydd, ac ystyrid ef yn ddiau yn ben bardd ei oes.

Fel y dywedwyd, cafodd fywyd lled wastad, ac y mae ôl hynny ar ei waith. Dilynodd gyfnod tymhestlog ond disglair, fel y soniwyd eisoes, a pharodd y dylanwadau a wnaeth Shelley a Byron yn ddiwygwyr tanbaid ei fod yntau'n Rhyddfrydwr cymedrol. Ond ni chwbl ryddhawyd ef tra bu fyw rhag dylanwad awyr glerigol ei gartref, neu yn hytrach, rhag y dylanwadau cymdeithasol oedd yn yr awyr honno. Digon rhyfedd bod Southey a Wordsworth yn Geidwadwyr er eu bod o darddiad gwerinol; bod Tennyson yn Rhyddfrydwr cymedrol, er ei fod o ddosbarth lled geidwadol, a bod yn rhaid cael pendefigion fel Byron a Shelley i fod yn yr eithaf arall. Gellir casglu na ddihangodd Tennyson yn llwyr rhag swyn y syniadau chwildroadol a daniodd ddychymyg Byron a Shelley yn y cyfnod o'i flaen. Aeth am dro i'r Pyrenees tua'r flwyddyn 1831, a chyfarfu yno â'r ffoaduriaid a ruthrodd yn erbyn llywodraeth Ysbaen dan arweiniad Torrigo, ac a laddwyd agos bob un pan laniasant ym Malaga ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Ond os oedd ganddo gydymdeimlad â'r chwil drowyr oddi cartref, yr oedd ganddo gryn barch i awdurdod a threfn yn ei wlad ei hun, ac y mae ôl y wers honno, a ddysgwyd mor dda i Saeson erioed—y wers ar ddyletswydd pobl gyffredin i barchu'r mawrion a bodloni ar eu gweithredoedd—ar ei waith yntau, hyd yn oed er bod ei duedd at fath o ryddfrydiaeth gymedrol yn ddigon eglur hefyd. Mewn cân a ysgrifennodd i gyfeilles, dywedodd:

In rick-fire days,
When Dives loathed the times, and paced his land
In fear of worse,
And sanguine Lazarus felt vacant hand.
Fill with his purse;
For lowly minds were madden'd to the height
By tonguester tricks,
And once I well remember that red night
When thirty ricks,
All flaming, made an English homestead Hell—
These hands of mine
Have helped to pass a bucket from the well
Along the line.

Dyma lun a ddengys na wnaed Tennyson i gyfranogi mewn chwyldroadau; yr oedd gweled ychydig deisi ar dân yn ddigon o fraw iddo, ac ni welai lawer oddi tan y cwbl ond y "tonguester tricks"—castiau cynhyrfwyr. Ceir yr un teimlad yn "Locksley Hall" a "Maud"; ac yn y gerdd "Love thou thy Land," ceir y llinellau a ganlyn:

But pamper not a hasty time,
Nor feed with crude imaginings
The herd, wild hearts and feeble wings,
That every sophister can lime.

Ym mhob cyfeiriad o'i eiddo at Ffrainc, dengys fod ganddo ofn pob symudiad egniol mewn gwleidyddiaeth. Yn wir, y mae arwr "Locksley Hall" yn debyg o fod yn bortreiad da o Tennyson ei hun—dyn a chanddo ryw awydd am grwydro a gwneud rhywbeth, am fywyd egniol, ond yn rhy hoff o gwmffwrdd â sicrwydd ei ddosbarth, heb ddigon o dân i'w gario yn groes i'w fudd, ac am hynny yn ei dawelu ei hun drwy sôn am y "tonguester tricks" a'r "crude imaginings," fel y bydd pobl o'r un dosbarth yn gyffredin.

Fel y gallesid disgwyl, yn wyneb hyn, yr oedd gan yr amser a fu, traddodiad a rhamant, swyn mawr iddo. Dylanwadodd yr ysbryd a elwir yn "ysbryd clasurol" yn fawr arno. Medrai ymdaflu yn dda i syniad ei oes am feddwl y Groegiaid. Yn ei "Ulysses," y mae ysbryd y bywyd egniol. Cymerer y llinellau hyn, lle ceir ysbryd antur ac annibyniaeth:

Death closes all: but something ere the end,
Some work of noble note may yet be done,
Not unbecoming men that strove with gods.

Gwych oedd dynion a wynebai'r duwiau gynt, ond Duw a'n helpo rhag y dynionach-"the herd"-a fynnai ymryson â'u meistriaid am dipyn o degwch, yn hytrach na disgwyl yn ufudd wrthynt am grystyn yn awr ac yn y man. Yn yr ysbryd hwn, medrai Tennyson ganmol rhyfel a masnach fel pethau at wareiddio dynion. Eb efô:

These two crowned twins,
Commerce and conquest, shower the fiery grain
Of freedom broadcast over all that orbs
Between the Northern and the Southern morn.

Ac ym "Maud," y mae'r arwr yn cael gwellhad rhag drygau cymdeithas a'i wallgofrwydd ef ei hun, drwy fynd i ryfel. Y mae rhyfel yn beth da-yn rhywle arall, a chwildroad yn beth drygionus-gartref. Eto, fel cerdd, y mae "Ulysses" yn dodi Tennyson yn llawer uwch nag y dyd ei gerddi ar bynciau ei oes ei hun ef. Dwg ni yn ôl

Far on the ringing plains windy Troy,

a medr ein hatgoffa am eiriau beirdd Groeg ei hun. Y mae grym hefyd yn ei linellau syml:

It may be we shall touch the happy isles,
And see the great Achilles whom we knew,
Though much is taken, much abides; and tho'
We are not now that strength which in old days
Moved earth and heaven; that which we are, we are;
One equal temper of heroic hearts,
Made weak by time and fate, but strong in will
To strive, to seek, to find, and not to yield.

Onid dyna feistrolaeth ardderchog ar wir gamp yr elfen Anglo-Sacson yn Saesneg, ei geiriau byrion syml: Yn ei gerddi rhamantus, ni bydd ef mor llwyddiannus, oddi eithr yn rhai o'r telynegion. Yr oedd ganddo ddull arbennig ac effeithiol i godi golygfa o flaen y meddwl a dodi arni hud yr amser a fu. Ceir enghraifft ragorol o hynny yn "The Lady of Shalott":

Willows whiten, aspens quiver,
Little breezes dusk and shiver
Thro' the wave that runs for ever
Flowing down to Camelot.
Four gray walls and four gray towers
Overlook a space of flowers,
And the silent isle embowers
The Lady of Shalott.

Yr oedd ganddo ffordd dda at wneud ei ddisgrif iadau. Mewn llythyr a ddyfynnir yn ei Gofiant, dywedir:

There was a period in my life when, as an artist,—Turner, for instance,—takes rough sketches of landscapes, etc., in order to work them eventually into some great picture, so I was in the habit of chronicling, in four or five words or more, whatever might strike me as picturesque in Nature. I never put these down, and many and many a line has gone away on the north wind, but some remain.

Talodd hyn yn dda iddo, canys y mae camp ar ei ddisgrifiadau, a manyldeb effeithiol. Gellid codi lliaws o enghreifftiau, ond y mae a ganlyn, o'r "Lotus Eaters," yn sampl teg o'i fedr yn y peth hwn:

A land of streams! some like a downward smoke,
Slow—dropping veils of thinnest lawn, did go;
And some thro' wavering lights of foam below.
They saw the gleaming river seaward flow
From the inner land; far off, three mountain tops,
Three silent pinnacles of aged snow,
Stood sunset flush'd; and dew'd with showery drops,
Up—clomb the shadowy pine above the woven copse.

Yn y disgrifiadau hyn, a llyfnder ei gerdd, y mae rhagoriaeth y bardd, ond o ran ysbryd, pobl canol oes Victoria yw ei bobl, hyd yn oed pan gano ef yr hen ramantau, megis yn ystori ymadawiad Arthur. Yn y gerdd honno, y mae ei fedr disgrifio yn llenwi llinellau ystwyth, megis y rhai hyn:

So saying, from the ruin'd shrine he stept
And in the moon athwart the place of tombs,
Where lay the mighty bones of ancient men,
Old Knights, and over them the sea—wind sang
Shrill, chill, with flakes of foam. He stepping down.
By zig-zag paths, and juts of pointed rock,
Came on the shining levels of the lake.

Er bod tuedd yn yr ansoddair i ddyfod yn gyson o flaen pob enw, y mae ef yn dewis ei eiriau yn fanwl ac yn gweu'r gerdd yn fedrus, ond y mae araith Arthur yn rhy hir, a rhy debyg i fritho syniadau oes y bardd ei hun â geiriau ychydig yn fwy hen ffasiwn.

Cerdd go gymysg yw "Maud" yn adrodd am gariad a chas gŵr bonheddig wedi colli ei arian- a'i synhwyrau-ac yn barod i weld bai ar bawb a phopeth o'r herwydd, ystori garu, dipyn yn wyllt ac amhosibl. Y mae ynddi rai telynegion ardderchog, ac y mae ei mydryddiaeth yn gampus drwyddi. Anffawd oedd gladdu'r telynegion yng nghanol y fath enghraifft o'r "tonguester tricks er gogoniant milwriaeth. Gwan yw ei chlo, hyd yn oed fel ystori, ond wedi i ddyn o'i gof ladd brawd ei gariad, nid annaturiol iddo fynd i ladd dynion eraill mewn rhyfel a galw hynny'n was anaeth i Dduw a dyn. Gwaith lled gyffelyb yw "The Princess," sy'n dechrau mor debyg i nofel ffasiynol:

Sir Walter Vivian all a summer day
Gave his broad lawns until the set of sun
Up to the people; thither flock'd at noon
His tenants; wife and child, and thither half
The neighbouring borough with their Institute
Of which he was the patron. I was there
From college, visiting the son, the son
A Walter too,-with others of our set,
Five others; we were seven at Vivian-place.

Dyna ni-broad lawns, people, tenants, Institute, patron, college, visiting, the son, our set, Vivian-place, dyna'r dosbarth a'r cyfnod a'r mân siarad; yr ydym yn teimlo bod gan adroddwr yr hanes syniad dyledus am yr anrhydedd a roed arno. Efallai, wedi'r cwbl, mai dyma'r brydyddiaeth, neu'r frydyddiaeth, a dalodd i Tennyson yn ei oes. Ond wrth lwc, gwnaeth Tennyson lawer gwell gwaith. Os canodd i ferched ieuainc ag enwau neis ac ysgwieriaid ag wynebau'n rhythu fel cerrig nes gorgoneiddio pobl, canodd hefyd i feirdd a meddylwyr, ac nid oes reswm tros gredu na wyddai yntau'r gwahaniaeth hefyd. Dywed rhai mai chydig o'i delynegion yn unig a ddarllenir bellach. Ni synnwn i ddim, canys y mae'n gofyn tipyn o ddeall i ddarllen ei waith mwyaf—y gerdd a alwyd ganddo ef "In Memoriam." Anturiais eisoes ddywedyd mai ymdrech yr ysbryd yn wyneb tynged dyn oedd ymdrech wirioneddol Tennyson, ac yn yr "In Memoriam" y ceir hanes yr ymdrech honno. Yno y mae ef o ddifrif, a dyna'r gerdd o'r eiddo a adawodd fwyaf o'i hôl ar ei ddarllenwyr meddylgar, yr unig ddarllenwyr gwerth eu cael, wedi'r cwbl. Bu farw ei gyfaill, Hallam, yn 1833, ac ar ei ôl ef y canodd Tennyson y gerdd. Bu flynyddoedd wrthi, a rhoes ei orau ynddi. Dyna'r rheswm, efallai, paham y mae'n well gan rai o'r beirniaid ei delynegion ysgafnaf.

Wedi cyfnod egniol Shelley a Byron, Wordsworth a Coleridge, nid oedd ond naturiol ddyfod cyfnod tawel. Methodd amcanion uchel, a daeth digalondid. Ond yr oedd symudiadau eraill yn codi, yr hawl am ddiwygiadau gwleid yddol, y "Reform Bills," ac effaith y pethau yr oedd gwybodaeth yn dyfod o hyd iddynt. Ofn odd rhai fod y bobl—the herd—am drechu eu hen feistriaid, ac eraill fod y gwybodau am ladd yr hen grefydd. Ni allodd Tennyson gyd—gerdded a'r awydd ehangaf am ryddid gwladol, ond aeth ymhellach ar ryddid llwybr y meddwl yn yr ystyr grefyddol neu ysbrydol. Amcanodd drin rhai o bynciau gwleidyddol yr oes, megis yn "The Princess," cerdd ar bwnc hawliau'r merched, ond hanner difrif hanner digrif yw ei ddull, ac yn awyr ac amgylchiadau'r Oesau Canol y dewisodd ef drin ei fater. Ond yn yr "In Memoriam," gafaelodd yn un o bynciau ei oes, neu yn hytrach yn y meddwl dyfnaf oedd gan ei oes am gariad, Duw, ac anfarwoldeb. Ceir yn y gerdd odidog hon olwg ar bynciau gwybod a chrefydd fel yr oeddynt yn effeithio ar feddyliau dynion tua chanol y ganrif. Gwelwn fod y bardd yn derbyn y syniad cyffredin bellach am ffurfiad daear a dyn:

The solid earth whereon we tread
In tracts of fluent heat began
And grew to seeming random forms
The seeming prey of cyclic storms
Till at the last arose the man.


Gyda'r gred hon, y mae'n ddigon tebyg, y daeth ei amheuon a'i oriau tywyllion, am y rhai y canodd yn ddwys ac yn gywir:

You say, but with no touch of scorn,
Sweet-hearted, you, whose light blue eyes
Are tender over drowning flies,
You tell me, doubt is Devil-born.

I know not. one indeed I knew
In many a subtle question versed,
Who touched a jarring lyre at first,
But ever strove to make it true.

Perplext in faith, but pure in deeds,
At last he beat his music out,
There lives more faith in honest doubt,
Believe me, than in half the creeds.

Rhed yr ymdrech fawr hon drwy'r gerdd—Pa beth sydd wir? Pa beth a ddaw o ddyn? Ai marw fydd cariad, ac ofer? Ni allai'r bardd ddim credu hynny:

Still onward winds the dreary way,
I with it; for I long to prove
No lapse of moons can canker Love,
Whatever fickle tongues may say.

I hold it true, whate'er befall,
I feel it, when I sorrow most,
"Tis better to have loved and lost
Than never to have loved at all.


Drwy ei amheuon i gyd, ni all y bardd beidio â chredu y bydd cariad fyw byth, a bod i holl ddigwyddiadau'r byd ryw amcan pell. Anodd dyfod o hyd i ddim sicrwydd:

I stretch lame hands of faith, and grope,
And gather dust and chaff, and call
To what I feel is Lord of all,
And faintly trust the larger hope.

Drwy bob ymchwil ac ystyriaeth, i'r un fan y daw o hyd, ac ni osodwyd erioed mo'r teimladau hyn yn odidocach mewn geiriau na chanddo ef. Hwyrach nad oedd ganddo ar ei orau ddim ond gobaith, ond yr oedd yn obaith dyrchafedig:

Thou wilt not leave us in the dust;
Thou madest man, he knows not why;
He thinks he was not made to die;
And thou hast made him; thou art just.

Our little systems have their day,
They have their day and cease to be,
They are but broken lights of thee,
And thou, O Lord, art more than they

... That God, which ever lives and loves,
One God, one law, one element,
And one far-off divine event,
To which the whole creation moves.


Dyna'n fyr rediad y gerdd. Y mae'n llawn o'r ymdrech rhwng gobaith ac anobaith, ond y mae gobaith ar y cyfan yn trechu, nid gobaith hygoelus ac anwybodus, ond gobaith wedi trechu amheuon a gofid, ac yn canu cân brudd ond urddasol. Bychan, efallai, yw'r pellter rhwng ei obaith ag amheuaeth wedi'r cwbl, canys gallodd y Cymro Clough, a roddes ei leferydd mwyaf didwyll i amheuaeth deall y ganrif, gyrraedd yn agos iawn i'r un fan ag yntau:

To finger idly some old Gordian knot,
Unskilled to sunder, and too weak to cleave,
And with much toil attain to half believe.

Bydd rhai beirniaid hwylus, nad ymddengys fod yn beth anodd o gwbl ganddynt dderbyn tyst iolaethau traddodiadol agored i bob math ar ansicrwydd, yn galw peth fel hyn yn rhyw anwes arwynebol, gan ei droi o'r neilltu drwy chwerthin am ei ben, ond fe saif llinellau Tennyson yn dragywydd:

There lives more faith in honest doubt,
Believe me, than in half the creeds.

Ac eto, ar y cyfan, y mae Tennyson ar du gobaith uchaf ei oes, a phob oes, o ran hynny. Y gwir yw bod dyn yn ei amryw foddau yn ddigon anghyson ag ef ei hun. Mewn bywyd, ni cheir pobl sy'n meddwl ac yn gweithredu bob amser yn gwbl gyson. Ac y mae'r beirdd, hwyrach, yn anghysonach na'r cyffredin, a'u moddau mor aml fel y mae'n anodd dyfod o hyd i'r agwedd ar eu meddyliau y gellid ei hystyried y fwyaf parhaus. Cafodd cerdd Tennyson afael ar lawer, a dyfynnwyd mwy ohoni nag o un darn arall o'i waith. Ymhlith dynion meddylgar bydd yr "In Memoriam" fyw yn hir, canys rhydd gysur i lawer un, ac nid rhyw degan yw.

Daw'r adeg, ond odid, pryd y cyfrifir Tennyson yn fardd mwy nag y cyfrifir heddiw. Yr oedd yn feistr ar eiriau—canodd yn llyfn ac yn felys mewn iaith sydd yn gwneud hynny yn beth anodd; yr oedd amrywiaeth yn ei bynciau a'i fesurau, ac ar ei orau yr oedd yn feddyliwr cywir, dwfn a chlir. I ddarllenwyr Cymreig, diddorol yw gwybod ei fod unwaith wedi astudio tipyn ar y Gymraeg, ac y mae yma ac acw yn ei waith rywbeth nid annhebyg i egwyddor cynghanedd Gymraeg.

(1909).

Nodiadau

golygu