Atgofion am Dalysarn (testun cyfansawdd)

Atgofion am Dalysarn (testun cyfansawdd)

gan Fanny Jones, Machynlleth


golygwyd gan George Maitland Lloyd Davies
I'w darllen pennod wrth bennod gweler gweler Atgofion am Dalysarn

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader


ATGOFION AM DALYSARN



GAN



FANNY JONES, MACHYNLLETH





LLYFRAU PAWB

DINBYCH



Argraffiad Cyntaf Mai 1947



Argraffwyd gan Wasg Gee



RHAGAIR

YSGRIFENNWYD yr atgofion a ganlyn gan Mrs. Fanny Jones, Machynlleth, mewn llythyrau ataf a hithau wedi pasio oed yr addewid. Yr hynaf ond un ydoedd o ferched John Jones Talysarn a Fanny ei wraig. Y mae Cofiannau ei thad a'i mam yn adnabyddus, a chyhoeddwyd hefyd Gofiannau i'w brodyr, David Lloyd Jones a Thomas Lloyd Jones, a oedd yn enwog yn eu dydd, y naill fel pregethwr a'r llall fel teithiwr dros wledydd Ewrop. Ond nid ar led byd na lled gwlad y teithiodd meddwl Fanny, ond yn hytrach ar hyd bywyd cartref a chymdogaeth. Dawn disgrifio a oedd ganddi, a hynny'n fwy byw o lawer ar aelwyd ac mewn ymgom nag ar bapur. Ymddiddorai hefyd yn yr anenwogion hynny a elwid gan Edmwnt Prys "Ei weiniaid a'i werinos." Darllenais neithiwr sylw'r Dr. Johnson yn ei ddydd: "Whatever withdraws us from the power of our senses, whatever makes the past, the distant, or the future predominate over the present, advances us in the dignity of thinking beings."

Perygl meddwl ein hoes yw ei fod ledled y ddaear yn fâs ac yn frysiog ei amgyffred, a phrin yw gwybodaeth plant dynion, ie, a phlant y wlad bellach, o'u cartref a'u cymdogaeth. Cyfrinach yr aelwyd yng Nghymru gynt oedd hanes cymeriadau a'u cyfeiriadau mewn bywyd; yr oedd prifio mewn profiad yn ogystal ac mewn corffolaeth. A rhag ein bod yn anystyriol o hanes o'r fath, awgrymog ddigon ydoedd cyffes gwŷr mor enwog â'r Iarll Baldwin, Arglwydd Grey a'r Archesgob Lang, a welodd fywyd ar led byd, iddynt droi at atgofion Wordsworth yn ei hanes hynod o " daith yr anialwch i gyd" a adroddir yn y "Prelude." Yn wir, amcan Wordsworth yn yr "Excursion" ydoedd darlunio, nid mawrion byd, ond cymeriadau a phrofiadau'r anenwogion hynny na welir eu hanes mewn llyfr hanes.

Rhyw deimlad o'r gwerthoedd hyn, wrth chwilio a chwalu hen bapurau, a barodd imi anfon hen ysgrifau fy modryb Fanny at Kate Roberts, rhag ofn bod ynddynt ddiddordeb i eraill hefyd. Gresyn yw eu bod mor fyr a bratiog, ac na buaswn ar y pryd, ddeugain mlynedd yn ôl, wedi ysgrifennu'n fanwl yr ystorïau a glywais ganddi noson ar ôl noson ar yr aelwyd am fywyd yn Nhalysarn ganrif yn ôl.

Nid oedd y cartref prysur a'r diwydiant llechi cynnar o grombil y Nant dawel mor ddi-ramant chwaith. Oni anwyd ei mam, Frances, ar lan môr Ffrainc pan aeth ei nain i weini ar ei gŵr, a fu'n ymladd yno tan Wellington? Oni phriodwyd hi yn ddeunaw oed â John Jones, a aeth, ganol dydd golau, at ei thad, Thomas Edwards Taldrwst, i ofyn amdani, ac wedi'r briodas yn hen Eglwys Llanllyfni, oni chariodd hi o'r Eglwys ar grwper ei geffyl yn ôl arfer yr oes?

Yng ngolau atgofion fy modryb nid Methodistiaeth yn unig a lanwodd fryd ei thad, fel y gallesid meddwl wrth ddarllen y Cofiant swyddogol gan y Dr. Owen Thomas. Cofiaf hi'n adrodd fel y dychwelai o'i deithiau hir ar gefn ei geffyl, ac fel y rhedai ei blant ato cyn ei fod wedi tynnu ei got farchogaeth, a'r genethod â'u breichiau am ei wddf

"Yn gu rosynnog res annwyl,
Yn gariad i gyd mewn gwrid gŵyl",

ac fel y cododd hwynt i gyd o'r llawr â'i freichiau cryfion. Hanes angerddol ydoedd colli ei eneth Elin yn bedair ar ddeg oed. Y mae disgrifiad manwl a hynod iawn ohoni, ac o arteithiau ei enaid yn ei golled, yn ei bregeth "Y Symudiad Mawr."

Cofiaf hefyd ei hanes am ei thad pan erlidiwyd ef gan yr Uchel-Galfiniaid oherwydd ei gyfeiliornad, yn ôl eu tyb, at Arminiaeth, a'i bwyslais ar ran a dyletswydd dyn yn ei iachawdwriaeth. Bygythid ei droi o'r weinidogaeth, a dychrynwyd ei wraig gymaint nes erfyn arno fod "fel pobl eraill, a pheidio â thynnu pawb am ei ben." O'r diwedd, wrth weled ei dagrau ar ei hwyneb, trodd ati: "Os yw fy nghydwybod yn lân a Gair Duw wrth fy nghefn, waeth gen' i amdanynt."

Yng ngwaelod y gist cefais lyfryn wedi ei rwymo mewn lledr ac arno "A present to Fanny Jones ", ond ar ei ddalennau y mae nodiadau o bregeth ar yr Antimoniaeth a ddyrysai gymaint o'i gyd-grefyddwyr wrth roddi'r pwyslais oll ar etholedigaeth Duw a dim ar ymdrech dyn. Y mae'r ysgrif mor fân fel mai prin y medr neb ei darllen ond â chŵydd-wydr. Dyma un o'i ymresymiadau a ddengys ei ddull cartrefol ac effeithiol o drafod y pwnc:

"Meddyliwch fod Admiral Lloegr yn anfon llythyr at gapten y fan-i-war, neu long ryfel, i Fôr y Canoldir, yn gorchymyn iddo ddyfod â'r llong adref i Loegr. Oni ddeallai'r capten mai meddwl yr Admiral ydyw iddo ef, nid cario'r llong ar ei gefn, ond yn unig arfer y moddion i'w dwyn adref, codi'r hwyliau ac iawndroi'r llyw, a gadael i'r môr ei chario a'r gwynt ei gyrru adref. Felly, long ymhell oddi cartref ydwyt tithau, a Duw yn galw am yr hen long yna adref yn ôl; ond nid yw'n disgwyl i ti ddod yn dy nerth dy hun. Y mae yn caniatáu i ti ei rhoddi ar fôr Rhad Ras i'w chario, ac o flaen gwynt nerthol yr Ysbryd o'r uchelder i'w gyrru adref, ond disgwyl i tithau godi ambell ysgrythur i fyny yn dy fyfyrdod, fel hwyl ar y mast i'r gwynt gael dal arni, ac anfon ambell weddi i fyny fel llyw i'w chyfeirio i'r iawn borthladd."

Sefais ddoe uwchben bedd ei fam, Elinor ach Rhisiart, a gladdwyd yn 1847 gerllaw hen Eglwys y Plwyf yn Nolwyddelan. Cofiaf fy modryb yn adrodd fel y cafodd ei thad yn Nhalysarn freuddwyd am ei marwolaeth. Yr oedd rhyw gyfriniaeth ryfedd (neu second sight, ys dywed gwŷr yr Ucheldiroedd) yn y ddau. Cofiaf hanes eu bod yn eistedd mewn parlwr yn y llofft pan gododd Fanny Jones yn sydyn gan ddweud, Mae gwraig y Pendist newydd ddarfod," a pheri tynnu llen ar y ffenestri. Eglurodd ei bod wedi clywed traed yn esgyn y grisiau ac yn croesi'r ystafell, a llais yn sibrwd y geiriau wrthi. Ymhen amser daeth gŵr ar gefn ceffyl gyda'r newyddion am farwolaeth ei pherthynas o'r Pendist.

Nid oes fawr o goel yn yr oes olau hon i ymwybyddiaeth o'r fath, ond gan rai fel Syr Oliver Lodge a'r gwyddonwyr eraill a ffurfiodd y "Psychical Research Society." Cofiaf yr Athro Fleure yn adrodd ei gred fod gwareiddiad arwynebol yr oes wedi ein hamddifadu o rai o ddoniau yr is-ymwybyddiaeth mewn oes dawelach a dyfnach.

Yr un modd gyda diwylliant cefn gwlad. Yr oedd barddoniaeth a'i chrefft yn fore iawn ar aelwyd Tan y Castell, fel y dengys emynau a phrydyddiaeth Dafydd Jones o Dreborth. Ac am ei frawd John yr oedd diwinyddiaeth, ac athroniaeth, cerddoriaeth a chrefftwaith ganddo i'r fath raddau nes ei gymhwyso, yn ôl beirniad o fri, i fod yn arholwr Prifysgol ar “Gyfatebiaeth rhwng Natur a Chrefydd " gan yr Esgob Butler. Ugain mlynedd yn ôl cyhoeddwyd Tonau Talysarn " gan Emlyn Evans, ac yn ôl fy modryb, nid âi'r teulu i orffwys heb ganu, fel côr, amryw o hoff emynau ei thad.

Gwelais yn yr hen gist amryw lythyrau o'r ganrif o'r blaen-un o Lundain i'w wraig yn 1838, yn diweddu: "Dymunaf arnoch ofalu am Thomas a Richard bach rhag iddynt gael cam, nac oeri eu traed a chael afiechyd. Dymunaf arnoch, er fy mod dros ddau gant o filltiroedd oddi wrthych cedwch ddyletswydd yn ofalus, ac aed rhywun i weddi yn y llofft newydd bob dydd; gofelwch am wneud hyn, ac na adewch y tŷ heb ddyletswydd. Yr Arglwydd fyddo yn dda wrthych, a'i amddiffyn fyddo trosoch. Gweddiwch drosof eich gorau.

Mewn llythyr at ei fab John yn America yn 1847, ysgrifenna: "Mae dy addewid na bydd i ti briodi heb ein cydsyniad wedi llonni llawer ar dy fam. Dymunaf arnat fod yn bwyllog ac yn ddifrifol gyda hynny. Gochel ar un cyfrif ddenu serch neb, heb fod o feddwl gonest a difrifol. Pechod a ddygodd felltith amlwg ar lawer ydyw gwneud twyll neu arfer anffyddlondeb. Gofala am ochel cellwair à neb mewn un modd oni bydd gennyt feddwl difrifol a phenderfynol. . .

Da iawn gennym gael hanes oddi wrthych yn fynych, fynych. Onid oes ar fy mrodyr hiraeth mawr mewn hen le anial fel yna-dim modd gwneud y crop yn arian? Wedi ei godi, ni ellir gwerthu'r gwenith. Pa beth yw gan hynny o werth? Ni thâl y tir a'r wlad i gadw gweinidogion. Pe bai yna swm yr Wyddfa o wenith ni thalai i'w gario i'r môr-mae mor bell. Gan hynny, pa beth a wnewch? Gweddïa ar Dduw am gyfarwyddyd, pa beth i'w wneud. Dyro yn dy lythyr ateb i'r gofyniadau hyn: (1) A fyddi yn dilyn y Seiat ac yn cadw addoliad teuluaidd? (2) Pa beth ydyw dy fwriad gyda'r ffarm? (3) Pa fodd y mae ar dy fodraboedd? (4) Hanes d'ewyrth William. (5) Pa faint yw'r prisiau yn awr? (6) Pa bryd y byddi yn codi yn y bore?

Y mae'n agos i dri o'r gloch y bore y munud hwn. Dy fam a minnau sydd ar ein traed."

Ac at ei frawd, William, yn America:

"Pa fodd y mae achos crefydd yn eich cymdogaeth? Bûm yn Llundain y llynedd. Ceisiant gennyf ddyfod yno i fyw, a chynigiant i mi yn dda, ond bwriadu'r wyf i'm llwch orwedd yn naear Cymru neu America. Disgwyliais lawer am lythyr oddi wrthych yn fy mhrofedigaeth chwerw ar ôl colli fy annwyl blentyn 14 oed. Mae fy hiraeth yn annioddefol."

Dyma un o'i lythyrau olaf at ei blant (22/11/1856): "Fy annwyl Dafydd a'm Plant oll,

"Mae eich llythyr wedi rhoddi i mi a'ch mam fodlonrwydd mawr. Gwyliwch a gweddiwch am fendith yr Arglwydd ar eich masnach ac am gyfarwyddyd dwyfol yn eich holl symudiadau. Cofiwch fod llywodraeth Duw dros bob peth, a'i fod yn trefnu trigfa preswylfa pob dyn fel y ceisiant yr Arglwydd. Caiff Dafydd bob peth y mae yn ofyn. Caiff Gwen aros yna eto yn gwmni iddo: caiff symud i ysgol arall. Dymunaf gael llythyr dioed i ddweud pa fodd y mae iechyd Gwen, Fanny, Thomas, Dafydd a Richard. Dymunaf i Gwen ysgrifennu llythyr ataf y tro nesaf; dymunaf ei gael yn ddioed. Caiff hithau'r pethau y mae yn eu ceisio. Mae arnom eisiau llythyrau yn amlach. Gobeithio, Dafydd annwyl, y gwnei ufuddhau i weddïo pan geisir gennyt; yn awr y mae dechrau. Dymunaf gael gwybod a ydych yn cadw dyletswydd deuluaidd yn rheolaidd a chyson bob yn ail eich pedwar. Mae hyn yn ddymuniad taer eich mam a minnau. Yr Arglwydd a'ch bendithio ac a'ch cyfarwyddo ac a'ch cadwo rhag pob drwg. Ymddygwch ym mhob peth fel y mae'n addas i'r saint; hwn yw dymuniad enaid eich tad."

Bu farw John Jones yn 1857, ac yna'n raddol gwasgarwyd y plant. Ychydig cyn ei farw aeth yn un swydd i weled ei fab hynaf, a ddaethai erbyn hynny yn berchennog llongau a chwareli, i erfyn arno gefnu ar y byd, a throi ei fywyd i wasanaeth yr Efengyl. Cloffodd ei fab rhwng dau feddwl am ysbaid, ond glynodd wrth y byd. Yr olwg olaf a gefais arno oedd yn ei blas hardd, yn hen ŵr musgrell ac anfoddog, heb fawr o'i ôl ar gartref nac ar gymdogaeth.

Bu gweddw John Jones, Fanny, fyw am flynyddoedd yn Nhalysarn wedi claddu ei gŵr, ac yr oedd ei direidi a'i duwioldeb yn parhau hyd y diwedd. Pan ddaeth Thomas John, Cilgerran, i Dalysarn yn nyddiau cyntaf ei gweddwdod, pregethodd yn ei ffordd hynod ar "Y Cyfamod Disigl." Ar ganol y bregeth, a hithau'n eistedd yn y Set Fawr gyda'r blaenoriaid, cododd Fanny Jones ei llaw, â'r fodrwy briodas arni, a thorrodd allan: "Y mae angau wedi torri hon, ond y mae gennyf gyfamod arall na all angau na'r bedd ei dorri." Yna aeth Thomas John a hithau i orfoledd. Bu farw yn Llandinam yng nghartref ei mab, David Lloyd Jones.

Dyma gefndir bore oes Fanny Jones, Machynlleth, a dyma hen gynefin ei dawn a'i hatgofion dwys a digrif. Cyfarfüm wythnos yn ôl â gwraig a fu'n aelod o'i dosbarth a ddywedai: "Cymeriad cryf ydoedd yn anghyffredin felly, a barn bendant a dim ofn ei dweud. Dull sydyn oedd ganddi wrth gerdded a siarad. Siaradai'n dda heb ronyn o swildod, eto heb hyfdra. Rhoddai bwys mawr ar letygarwch. Ei gwaith mawr oedd gyda'i Dosbarth Beiblaidd, a dawn ganddi i wneud gwaith y dosbarth yn boblogaidd, nes y daeth yn enwog ym Machynlleth."

GEORGE M. LL. DAVIES.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
George Maitland Lloyd Davies
ar Wicipedia

ATGOFION AM DALYSARN

ATGOFION IEUENCTID

YR wyf yn gwneud ymdrech i ysgrifennu rhai o hen atgofion fy ieuenctid. Gofynnir imi am ddisgrifiad o'm hen gartref; am arferion y teulu; y fath un oedd fy nhad yn enwedig, a hefyd sut un oedd fy mam; pa fath awdurdod oedd yn y teulu, ac felly ymlaen.

Atebaf fel hyn: Y cofion cyntaf sydd gennyf am fy hen gartref ydyw yn gyntaf, y tŷ a adeiladwyd gan fy nhaid i'm mam wedi iddi briodi. Yr oedd siop un ochr, parlwr yr ochr arall a chegin yn y cefn; llofftydd, bedair ohonynt, uwchben, a warws wrth y talcen. Fe aeth y tŷ yma'n rhy fychan ac adeiladwyd darn newydd ato'n fuan. Cynhwysai hwn gegin fawr sgwâr, llofft a garret o'r un maintioli; a gardd wrth ei dalcen. Tu cefn yr oedd llwybr o gerrig gleision yn dyfod cydrhyngddynt at ddrws y gegin; yna, heibio i'r ardd, wrth y talcen, yr oedd y ffordd, a derfynai mewn gwahanol lwybrau ar ôl ichwi fyned heibio i'r stablau a'r siediau a oedd yn perthyn i'n tŷ ni. Yr oedd chwech o risiau yn esgyn o'r ffordd i'r siop, rhai llydain oddeutu chwe troedfedd o led, ac yna, wal uchel i amgylchu'r cowrt o'i blaen oddeutu chwe troedfedd o uchder.

Safai ein hen gartref ar godiad tir, a'r olwg ohono fel panorama prydferth. Oddi tano'n union, y tu arall i'r ffordd, yr oedd gardd Pen y Parc a choedwig brydferth; yna'r gledffordd a chaeau'r Plas; yna'r drive i'r Plas, ac wedi hynny "cae y ffrynt" fel y gelwid ef, â'i wyrddlesni yn ddiarhebol bob amser; yna Ffordd y Plwyf a'r bont dros Afon Sarnwylltddur; yna meysydd perthynol i fferm Hendre Gwyn, hen adeilad isel, cegin, siamber, a thaflod, a thŷ croes a ystyrid yn barlwr, yna ychwaneg o feysydd Tyn-y-werglodd, Tŷ Mawr a Gwernaer. Wedi hynny fe godai'r tir

yn naturiol i fyny, i fyny nes dod at Gwm Silyn; yna fe ysgythrai'r creigiau tragwyddol o'n blaen byth heb newid, a byth yn herio tymhestloedd y gaeaf ofnadwy.

Yn nesaf at ddisgrifiad o'r hen gartref daw'r hen Gapel plaen a diaddurn; adeilad hollol fel tŷ, ond ei fod yn fwy helaeth; dau ddrws a dwy ffenestr yn y gornel, a grisiau'n esgyn iddo, a lle ysgwâr o'i flaen, ac ar un ochr i'r lle hwn glawdd wal gardd y Tŷ Capel, oddeutu dwy droedfedd o uchder, â cherrig llyfnion arni. Eisteddai dynion ifainc yn y fan hon i edrych ar y bobl yn myned i'r Capel, pwy, a pha bryd, a hefyd pa fodd уг oedd y rhyw fenywaidd yn gwisgo, a phwy oedd y brydferthaf. Yna, o dan yr un to yr oedd y Tŷ Capel. Lle pwysig y dyddiau hynny fyddai hwn, oblegid fe fyddai cymaint o ddieithriaid yn dyfod i aros yno: gweinidogion o'r Deheudir; y pregethwr a'i gyfaill; William Morris, Cilgerran, a'i gyfaill; John Jones, Blaenannerch, a'i gyfaill, ac felly ymlaen, yn aml iawn. Pan fyddai fy nhad gartref fe fyddai'r gweinidogion hyn yn aros yn ein hen gartref ni, ac O! 'r fath aberth a achosai rhoddi gwely i bregethwr dieithr, oblegid yr oedd holl welyau ein tŷ ni bob amser yn llawn; ond os dymunai fy nhad eu cael ni fyddai un drafferth yn ormod i'm mam i'w gwneud.

Yn y Tŷ Capel, Robert Griffith, y blaenor, oedd y gŵr, a Margaret Thomas oedd y wraig a Lowri Roberts oedd y ferch. Ni chaed erioed gymhwysach teulu i gadw Tŷ Capel, oblegid yr oedd y cymhwyster yn perthyn i'r tri hyn at y goruchwylion y gosodwyd hwy ynddynt—Robert Griffith i weinyddu ar y ceffylau ac i fedru cynnal ymddiddan â'r gweinidogion; Margaret Thomas i weini arnynt ac i eistedd wrth y bwrdd i'w diddanu a'u helpio, ac i ddweud wrthynt am y tamaid blasus a gawsai yn y bregeth y noswaith honno; a Lowri yn darpar y bwyd mor berffaith â phe derbyniasai gyflog cogyddes o ugain punt: y cwbl oedd ganddi i fyw arno oedd pobi wics. Byddai'r rhai hyn y pryd hwnnw yn angenrheidiau anhepgorol, oblegid dyna'r nwyddau a fyddai fwyaf mewn bri ar adegau marw neu briodi. Byddai'n arferiad myned i ymweld â'r teulu y byddai marwolaeth wedi digwydd ynddo, ac yn gyffredin deuid ag ychydig anrhegion gyda hwynt, weithiau de neu siwgr neu ymenyn, ond yn amlaf wics. Felly y bu yn ein tŷ ni pan fu farw fy chwaer bedair ar ddeg oed. Am fod gennym de a siwgr ac ymenyn ni wyddid beth i'w gyflwyno, ac felly daeth ugeiniau â wics. Buom yn byw ar wics nes aethant yn ddiflas a chas gennym eu gweled byth. Felly gwelwch fod marchnad dda yn cael ei gwneud gan Lowri mewn wics.

Feallai y dylwn hefyd ddweud fod yn byw yn ein hymyl deulu mewn tŷ hen ffasiwn o'r enw Pen y Parc-tŷ bychan llawr a siamber, â thaflod a chowrt a gardd o'i flaen, beudy dan yr un to, a chegin allan yn agos iddo. Yr oedd y teulu yn gynwysedig o ŵr a gwraig a phump o blant-y gŵr, Hugh Jones; y wraig, Mary William; a'r plant, Siôn, Wil, a Chadi, a Siani, a Neli. Saer coed oedd Hugh Jones, ac yn ddyn distaw, tawel a didrwst, yn gweithio yng ngweithdy'r Plas, Talysarn. Y Plas yn cynrychioli chwarel Talysarn y pryd hwnnw. Yr oedd gan Hugh Jones gydweithiwr, sef Evan William y Graig, ac yr oedd tuedd y dyn hwn at ddiod. Felly fe âi Hugh Jones ben y mis i'r dafarn, a chymerai ormod o ddiod nes byddai dan ei heffeithiau yn gecrus, fel y byddai bob amser pe gofynnai Mary William iddo pan welai ef felly, "P'le y buost, y creadur rhyfedd? Wyt ti wedi colli hynny o synnwyr a roddodd Duw iti, dywed? P'le mae d'arian di, dywed? Ai gweddill y mae Marged y Graig a minnau i'w gael at gadw'r plant ac i'ch cadw chi, dywed? Y ffwl gwirion! Dos i dy wely. Dyna'r lle gora' i ti, yr hen gena'."

Dynes ryfedd iawn oedd Mary William-hollol ddiddirnad am grefydd-ond nid oedd mo'i gwell at bethau'r ddaear yma. Magodd lond tŷ o blant yn onest, yn weithgar ac yn ddiargyhoedd, ond ni fynnai â chrefydd. Ni theimlodd erioed fod un gofyn arni ond talu'i ffordd, gwneud cyfiawnder, a byw fel anifail a cheisio ei bywoliaeth ei hun. Ni wyddai beth oedd cadw'r Saboth yn ei feddwl, a heb ddim parch buasai'n rhoi'r dillad allan ar y perthi i'w sychu. Dynes hollol baganaidd yn ymyl y Capel oedd! Ac O! fel y byddai ein rhieni ofalus am ein cadw draw oddi wrth ei llwybrau. Fe'i gwelais yn dod i'n tŷ ni ar y Saboth, ac fe ddywedodd: "Fe fûm i yn y dre ddoe," gan feddwl Caernarfon. "A fuoch chwi?" ebe mam. "Do'n wir," ebr hithau, ac yr oedd y moch bach yn . . . . ."Ai e?" ebe fy mam, ac yna dywedodd wrthym ni'r plant am fyned i'r llofft. Gwelodd Mary William nad oedd ei hymddiddan yn gymeradwy, ac ni ddaeth byth i'n tŷ ni wedyn ar y Saboth.

Aeth Mary William i farw, ac O! 'r cofion sydd gennym am yr amgylchiad-dyma fo. Fe ddywedodd fy mam wrth fy nhad ar ei ddychweliad o'i daith yn y Deheudir, "Y mae Mary William yn sâl iawn. A ewch chwi i edrych amdani? Na, nid yw o un diben," ebr yntau. "O ewch," meddai mam. Ac fe aeth; ac acthom ninnau'r plant i edrych drwy'r ffenestr ar yr olygfa, ac ni ellir byth ddileu honno oddi ar ein cof. Wele Mary William yn marw, a'n tad yn sefyll uwch ei phen. Edrychodd arno a phlygodd ei dwylo ymhleth a dywedodd, "O! John Jones; O! John Jones, gŵr Duw," a daliai i wasgu ei dwylo ymhleth. Feallai na bu erioed wahaniaeth mwy rhwng dau deulu nag a fodolai rhwng Pen y Parc a'n cartref ni. Crefydd oedd y peth blaenaf gyda'n rhieni ni. Yr oedd popeth yn ddarostyngedig i'w gofynion hi. Y byd a dim pellach oedd ger bron ein cymdogion. Byddai gan grefydd y fath awdurdod nes gwneud i'r byd fod yn ddarostyngedig i'w gofynion ym mhob peth. Yn ein tŷ ni ar amser y ddyletswydd deuluaidd fe gaeid drws y siop, a chan nad oedd yr un masnachwr arall yn y gymdogaeth fe fyddai llu wedi ymgasglu i aros nes agorid y drws; a chan na fyddai fy nhad un amser mewn brys, ond yn cymryd ei amser, fe fyddai'n rhaid disgwyl yn hir weithiau! Hefyd fe gaeid y drws amser moddion yn y Capel, y Cyfarfod Gweddi, y Society a'r bregeth nosweithiau'r wythnos, ac fe fyddai nifer fawr yn disgwyl am eu negeseuau pan ddeuem allan o'r Capel, a'u ffordd ymhell, a'r noswaith feallai'n ddrycinog a thywyll. Ond fe ddaeth pawb i ddeall mai dyna oedd rheolau'r teulu, a pheidio â grwgnach.

Hefyd byddai'n rhaid i bob aelod o'r teulu fynd i'r Capel, ond un i warchod. Ni oddefid inni wledda ar y Saboth nac i goginio ond yr angenrheidiau. Byddai'n rhaid paratoi'r cwbl a ellid ddydd Sadwrn gogyfer â'r Saboth. Ni wneid un gwaith ar Ddydd yr Arglwydd ond yr hyn a oedd yn llwyr angenrheidiol. Ni welais erioed un o'r aelodau yn gafael mewn papur newydd; byddai'r gorchymyn yn cael ei roddi i'w gadw hyd nes byddai'r Saboth heibio. Hefyd ni oddefid i un llyfr gael ei ddarllen os na byddai'n llyfr crefyddol; ac ni welais erioed neb yn ysgrifennu llythyr yn ein cartref ond ar achlysur o farwolaeth neu afiechyd. Hefyd ni oddefid inni wneud unrhyw sylwadau sarhaus ar y bregeth neu'r pregethwr ar ginio. Fe eisteddai fy mam fel brenhines ar ei gorsedd, ac fe gadwai'r fath awdurdod arnom bob amser. Gan fod fy nhad gymaint oddi cartref, arni hi y disgynnai'r awdurdod yn ei theulu, ac fe'i cadwodd ef hyd y diwedd. Ni feiddiai neb anufuddhau.

Yr oedd y Saboth yn ddiwrnod o orffwystra i'r gwasanaethyddion yn ogystal ag i'r plant. Ni oddefid golchi llestri ond a fyddai raid. Byddai'n rhaid paratoi nos Sadwrn i olchi cerrig y drws, glanhau oddeutu'r tân, a phob paratoad a ellid ei wneud. Yr oedd sancteiddrwydd i'r Arglwydd ar bob peth yn y tŷ, a pherffaith ddistawrwydd i ddarllen, a neb i siarad i'w rhwystro, nac un math o sŵn. Fe âi'r plant hynaf i'w gwahanol ystafelloedd i ddarllen, ac fe gymerai fy mam y plant ieuengaf oddeutu'r bwrdd ac fe ddangosai iddynt ddarluniau o gymeriadau'r Beibl, ac fe ddywedai eu hanes mewn modd mor dda nes argraffu eu cymeriadau ar eu meddyliau am eu hoes. Meddai allu neilltuol at hyn. Wedi dod o'r moddion nos Saboth byddem yn canu hymnau. Yr oedd gan fy mam lais fel organ ei hun, ond fy chwaer hynaf a'm brawd a fyddai'n deall y tonau. Yr oeddym oll yn gallu canu. Byddai fy nhad yn dod adref ar nos Saboth weithiau pan fyddai'n pregethu yn y capelydd cyfagos. Byddai golwg flinderus arno, a'm mam yn ei ddisgwyl; ac wedi paratoi pryd iddo, os byddai wedi cael oedfa lewyrchus fe fyddai'n siriol iawn; ac wedi bwyta fe ddywedai, 'Dewch, blant; gadewch inni ganu tôn," ac fe'i dywedai:

Wel, dyma'r Cyfaill gorau ga'd,
Mae'n ganmil gwell na mam na thad;
Mewn pob caledi ffyddlon yw . . ."

A chyda'i lais melodaidd, treiddgar fe ddechreuai'r gân ei hun. Ac O! fel y byddai fy mam yn mwynhau ac yn porthi ac yn wylo ac yn canmol. Byddai cwmni fy nhad ar adegau fel hyn y peth nesaf i'n meddwl a'n syniad ni am y Nefoedd o ddim a welsom ac a deimlasom erioed. Yr oedd y Nefoedd ynddo ef ei hun wedi dyfod adref o ganol gorfoledd yn un o'r capeli cylchynnol. Yn Rhostryfan : yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; os Baal, ewch ar ei ôl yntau.' O! le nad anghofiaf byth mohono! I ba ddiben cloffi, fechgyn; arddelwch eich Duw. Os y diafol ydych yn ei ddewis rhowch Amen am lwyddiant ei deyrnas. Ond os yr Arglwydd sydd Dduw ewch ar ei ôl a rhowch eich Amen dros lwyddiant Ei Deyrnas; dywedwch, 'O Frenin, bydd fyw byth, teyrnasa ar fy nghalon, O Waredwr pechadur, teyrnasa ar f'enaid i.'"

Y mae atgofion am fy nhad y peth mwyaf cysegredig yn fy nghof. Dyn sydyn ei symudiadau; ychydig a ddywedai ar adegau. Treuliai ei amser gan mwyaf yn ei lyfrgell neu yn ei winllan goed a oedd gerllaw'r hen gartref. Fe ellid ei weled yn cerdded i fyny iddi cyn gynted ag y byddai'r ddyletswydd deuluaidd drosodd. Fe allai na welid ef am awr neu ddwy; yna fe gerddai'n unionsyth i lawr y cae ar hyd y ffordd heibio i'r hen Gapel ac i mewn drwy'r gegin ac i'r llofft yn brysur heb ddweud gair wrth neb. Yna fe arhosai yn ei lyfrgell hyd amser cinio. Byddai'n rhaid bod hwn yn hollol barod cyn galw ar fy nhad. Weithiau fe fyddai'n paratoi i fynd i'r Deheudir neu oddi cartref; fe fyddai'n brysur a distaw iawn, yr un gair i'w gael ganddo amser bwyd pan ddeuai at y bwrdd; a phawb fel y bedd yn ofni gwneud dim sŵn; a'm mam yn meddu'r cydymdeimlad llwyraf ag ef ac yn gwneud ei gorau iddo ym mhob modd. Weithiau fe eisteddai ac fe ymaflai yn ei bibell, ac fe gymerai arno smocio, ond am ychydig iawn o amser. Fe godai'n sydyn ac i'w lyfrgell, ac ni welem ef mwy nes i'm mam orchymyn ei alw ef i gael te gyda ni. Ac O! fel y byddai'n mwynhau ei gwpanaid te, â'i feddwl wedi cael gollyngdod, wedi cael syniad neu olwg neu ddatguddiad newydd ar ryw wirionedd. Byddai fel bachgen chwareus, ac fe ddywedai, "Wel dowch, Fanny Jones, gadewch inni gael cwpanaid o de da'n awr."

Ymddangosai fel pe bai ei feddwl mawr yn morio yn nyfnderoedd gwirioneddau'r Beibl. Ar adegau fe fyddai'n hawdd deall, pan gadwai'r ddyletswydd deuluaidd, ei fod mewn cymundeb agos â'i Dad, a'i fod yn teimlo bod ei lafur wedi ei goroni â llwyddiant, ei fod wedi dyfod o hyd i rywbeth i'w ddweud dros ei Dduw. Cyn cychwyn i'w daith fe fyddai ei feddyliau am bwysigrwydd ei waith yn gwneud iddo anghofio popeth am ei ddillad. Ni sylwai arnynt; ni chai pethau bychain le yn ei feddwl. Byddai'n rhaid gofalu drosto ac amdano, a'u rhoi yn ymyl ei law, ac edrych ei fod wedi cael popeth yn gyfleus.

Cofiaf amgylchiad pan oeddwn oddeutu chwech neu saith oed, pan anwyd fy mrawd Richard. Yr oedd ohonom Ann, John, Fanny, Ellin, Margaret. Pan anwyd Richard fe gafodd fy mam glefyd y llaw (nervous fever). Bu'n agos i angau, a phob doctor yn methu gwneud yr un lles iddi; fe'i gwelwyd gan chwech ohonynt, ond nid oedd dim gobaith gwella. Daeth cyfeillion a pherthnasau i ymweled â'm tad ac i gydymdeimlo ag ef yn ei drallod dwfn. Yr oedd gennym fasnach eang a helaeth, a gweision a morynion; a chan mai fy mam a fyddai'n edrych ar ôl y cwbl ni wyddai fy nhad ddim am y fasnach o gwbl. O! fel y teimlai ei galon yn gwaedu wrth weld gwrthrych ei serch, yr ymhoffai gymaint ynddi, mam ei blant bychain annwyl, a ffon ei gynhaliaeth, yn myned i farw. Daeth modryb i'm mam o Gaernarfon a chymerodd y baban a dwy o'm chwiorydd yn y carriage i Gaernarfon. Ac O! ingoedd meddwl mawr fy Nhad yn edrych arnynt yn myned, a'i wraig fel y tybiai yn marw. Ond yng nghanol y berw i gyd yr oedd yn rhaid cael dyletswydd deuluaidd. Cofiaf un bore ddrws y siop wedi ei gau, a'r cwsmeriaid yn dod at ddrws y gegin wrth gefn setl fawr a oedd yn ymyl y drws. Dyna lle y penlinient weddi ryfedd hon ar amgylchiad ofnadwy o bwysig i'm tad-fy mam yn myned i'n gadael. Ac fe weddïodd mor effeithiol ac mor afaelgar nes peri i un o'r gwrandawyr ddweud wrth y nesaf ati, "Ni fydd Fanny Jones ddim marw, gei di weld; ni wrthyd yr Arglwydd weddi John Jones ar ei rhan. A glywaist ti erioed y fath weddi, dywed? O na, mi gaiff fendio."

Dyma oedd ei eiriau: "O Arglwydd, paid â tharo'n drwm, ddaliwn ni ddim; nid ydym ond gwellt ger dy fron; arbed, arbed fywyd y fam a chofia am y plant bach diniwed; cofia mewn trugaredd. Yn ôl Dy arfer, O! trugarha, trugarha wrthym. Ti weli'n trallod a'n cyfyngder. Yr ydym yn syrthio wrth Dy draed, Arglwydd. Ddaliwn ni ddim. Tosturia, adfer yr un sydd yn hoff gennym, Arglwydd." Rhedai ei ddagrau fel afon ar y gadair o'i flaen. Yr oedd pawb yn wylo. A rhyfedd, y diwrnod hwnnw daeth yno ddoctor newydd i'w gweld; defnyddiodd foddion newydd gyda hi. Yn lle tosturio a'i rhoddi i farw fe ddaeth i'r bedroom yn gyflym ei gerdded, ac fe wnaeth sŵn, ac fe gododd y llenni a symud y curtains o gwmpas y gwely, a dywedodd wrth fy mam, Wel, Mrs. Jones, y mae eisiau ichwi godi ar eich eistedd." Fe synnodd fy mam ei glywed yn dweud hyn, a thybiodd mai'r Tylwyth Teg ydoedd, a dywedai ynddi hi ei hun, "Mi glywais lawer o sôn am Dylwyth Teg, ond ni welais un erioed o'r blaen, ond dyma fo." Ac ar hyn dywedodd wrth y Doctor, "Fedra' i ddim, yr wyf i'n marw." "O nag ydych," meddai ef, "'does dim arnoch ond eisiau rhoddi bwyd a diod ichwi. I beth y maent yn eich cadw chwi yn y fan hon? A dyma fo'n troi at fy nhad, "Y mae'n rhaid iddi godi o'r gwely yma. Peidiwch â rhoddi gormod o foethau iddi," ac fe wnaeth stŵr gyda'r cadeiriau. Fe synnodd fy mam, ac fe fu ymweliad y doctor hwn yn foddion i symud ei meddwl o'r dyfnder yr aethai iddo. Ac fe droes ar fendio o'r dydd hwnnw allan.

Ac O! 'r fath nurse a gafodd yn fy nhad! Drannoeth aeth fy chwaer a minnau gydag ef i geisio ganddi godi, ond dywedai na allai byth. "Gellwch, gellwch, Fanny fach, gadewch i'r plant eich helpio, a rhoddi rhywbeth amdanoch, ac mi wnawn eich cario i lawr y grisiau, oni wnawn ni, blant?" Ac felly fe'i cafodd i gydsynio i dreio; ac yntau'n rhoddi llymaid iddi ac yn ei chynorthwyo, gan roddi iddi eiriau cysurlon. "Y mae arna' i eisiau ichwi fendio er mwyn y plant yma, a hefyd imi gael mynd i'r daith a addewais i'r Deheudir i bregethu'r Efengyl; fe leiciech, oni wnaech, imi fynd?" Ac edrychai yn ei hwyneb, â'i phen ar ei frest. "O leiciwn, John annwyl," oedd ei hateb gwan a distaw, "gwnaf fy ngorau ichwi gael mynd os caf fendio." "O cei, fy ngeneth annwyl i," meddai yntau. Yr oedd ei ofal amdani mor fawr fel na wnai ddim ond ei gwylio. Gyda help fy chwaer a minnau fe wisgai amdani i fyned allan am dro gydag ef; ac fe'i cymhellai.i godi ei meddwl. Cofiaf iddo ddyfod adref ar fore Llun, ac aeth i weled fy mam ar ei union, ac fe'i gwelai'n wylo. "Beth sydd, Fanny fach?" meddai wrthi. "O, edrych yr oeddwn ar y plant bach yma," ebr hithau, "a meddwl y byddent yn colli eu mam ac y byddai un arall uwch eu pennau." "O'n wir, meddai yntau," peidiwch â phoeni, fy ngeneth i; ni fydd yma'r un tra byddwch chwi yma, beth bynnag; fydda' i ddim ar frys, oblegid yr wyf wedi bod mewn pryder mawr ynghylch yr un sydd gennyf, ac yr wyf am ei chadw hyd y gallaf."

Amgylchiad arall sydd wedi ei argraffu ar fy meddwl ydyw marwolaeth fy chwaer Elin, bedair ar ddeg oed. Bu farw o'r consumption. Pan ddeallodd fy nhad nad oedd gobaith gwella iddi, yr oedd fel dyn wedi colli ei synnwyr. Chwiliai am y meddygon gorau. Byddai yn ei chwmni'n wastad, ac yn ei holi ac yn ymgeisio rhywbeth a wnai les iddi. Byddem ar ddyletswydd yn arfer dweud adnod bob unchwech neu saith ohonom, a'r ddwy forwyn a'r gwas; ac fe adroddai'r rhai ieuengaf eu gwers ysgol yno. Cofiaf

y Salm Fawr yn cael ei hadrodd felly unwaith. Ac fe eisteddai Elin bach, fy chwaer, yn welw ei gwedd o flaen fy nhad, a chyda'i llais distaw fe adroddai, "Dyma fy nghysur yn fy nghystudd; canys dy air di a'm bywhaodd i." Hefyd, dro arall, dyma a ddywedodd, "Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr cedwais Dy air Di." Edrychai fy nhad arni â'r dagrau'n dyfod o'i lygaid; yr oedd ei deimladau yn ei orchfygu yn aml wrth edrych arni. Ac nid oedd dim a allai ei gwella. Teimlai hithau ond i 'nhad fod gyda hi fod popeth yn iawn. Cofiaf ef yn dyfod wedi bod yn ei gweled, ac agorodd y drws lle'r oedd fy chwaer a minnau. "Beth ydych yn ei wneud, blant? Gweddïwch dros Elin bach annwyl. O! pa fodd i ymadael â hi? Beth a wnaf? O! y mae'n gyfyng arnaf." Ac wylai wrth fynd i lawr y grisiau.

Ond dyma'r noswaith olaf yn dod. Mynnai iddo orwedd yn ei hymyl ar y gwely, a gwnaeth hynny yn ei ddillad, a meddai wrtho, "Nhad, mae'r gannwyll yn tywyllu," a chyda hynny fe glywai rywbeth yn torri yn ei brest, ac fe neidiodd i fyny, ac fe welai fod y diwedd wedi dyfod a'i gwedd wedi newid. Ond edrychai ym myw ei lygaid, ac ebe hi wrtho, "Lle mae mam?" Aeth i'w hymofyn, ac eisteddodd wrth y gwely ar ystôl; gwelai ar unwaith fod fy mam yn methu dal; ac ebe hi wrthi, "Ffarwel ichwi, mam annwyl, yr wyf fi'n mynd i ffwrdd." A dywedodd fy nhad, "Ewch a dowch yn ôl, Fanny fach." Ac wedi iddi fyned dywedodd,

"Dowch yma, 'nhad," a rhoddodd ei llaw ar ei garddwrn, a theimlodd guriadau'r gwaed, ac fe ddeallodd eu bod wedi sefyll; yna cododd ei dwylo, ac ymaflodd am wddf fy nhad a dywedodd, "Yr wyf yn mynd, 'nhad." Dywedodd yntau wrthi, "Dyro dy bwys ar Iesu Grist, fy ngeneth annwyl i." "O, yr wyf yn gwneud, fy nhad annwyl, annwyl," oedd ei geiriau olaf hi, ac yna fe ddiffoddodd fel cannwyll â'i breichiau am wddf fy nhad.

Daeth y wraig a oedd yn nyrsio ato, a dywedodd wrtho, "John Jones, dowch i ffwrdd, y mae hi wedi mynd." "O! O! O! y mae hi: ni allaf ei gadael." Ac yna rhoes ei wyneb ar ei hwyneb oer, ac ni symudai. Bu raid gafael ynddo. "O, fy Elin annwyl i." "O, dowch, John Jones," ebr y nyrs, dowch i'r ystafell arall." A bu raid ei arwain yno gan mor fawr oedd ei ofid. Fe'i taflodd ei hun ar y gwely ac fe riddfannodd ac fe ocheneidiodd. Dyna'r lle y gwelais i yr arwydd o hiraeth mwyaf dwfn a welais erioed ar y ddaear yma, yn rhy ddwfn ond i riddfannau ac ochneidiau. Daeth cyfaill i mewn, a gofynnodd fy nhad, "Mr. Jones, a wnewch chwi gadw dyletswydd i ni heddiw; allaf i ddim." "John Jones, o gellwch, gellwch; y rheswm y deuthum i yma heddiw yw fod y gŵr doeth yn dweud mai gwell yw myned i dŷ galar nag i dŷ gwledd." Rhaid ichwi ddarllen," ebe fy nhad, ac ufuddhaodd a threiodd weddïo, ond fe fethodd â dweud ond ychydig eiriau o flaen fy nhad. Teimlai fod yr ystafell yn rhy gysegredig a'r ddesg yn rhy sanctaidd. Griddfannai fy nhad yn ddwfn ac annioddefol yn y llyfrgell yr oeddem ynddi; a'r cwbl yn dwyn ei eiriau a'i anadl oddi arno. Cyfansoddodd fy nhad bregeth ar ei hôl, "A'i dŷ nid edwyn ddim ohono ef mwy." O, fel yr oedd yn ei hoffi; yr oedd ei enaid wedi ymglymu â'i henaid hi; a chredem na ddarfu iddo deimlo mor gryf byth wedi ei cholli.

Cofus gennyf iddo ddweud rhywbeth am "Addysg Chambers i'r bobl ", ac i Hugh Humphreys ddwrdio cyfraith arno. Yr oedd fy mam wedi mynd i gyfarfod ag ef i Gaernarfon, a dywedodd fy modryb, cyfnither fy nhad wrthi, "Wel, yn wir, mae John Jones wedi digio Humphreys, ac y mae am roi cyfraith arno." Fe ddychrynnodd fy mam, a dychwelodd adref ar unwaith. Daeth fy nhad i chwilio amdani at ei gyfnither a dywedodd hithau ei bod wedi mynd adref. Fe gerddodd yntau ar ei hôl naw milltir o ffordd. Fe'i gwelodd yn wylo wrth y tân. "Beth sydd?" ebe fe. "O, Ann Williams a ddywedodd fod Hugh Humphreys am roddi cyfraith arnoch chwi yn achos rhyw lyfr," ebe hithau. "O, ni ddylsai fy nghyfnither ddweud wrthych," ebe yntau. "Ie," ebe fy mam, dywedodd hefyd, 'Beth sydd ar John Jones, deudwch? Ni fydd Dafydd Jones byth yn digio pobol." "O," ebe yntau. "Gwell pe gwnaech chwi dreio bod yn ofalus er mwyn y plant bach a minnau yn y dyfodol," ebe hithau. "O, Fanny, Fanny, nid oeddwn i'n bwriadu gwneud drwg i Humphreys na neb arall, ac ni feddyliais wrth fynd i'r pulpud am ddweud gair; ond os byddaf yn derbyn cenadwri oddi wrth Dduw i'w thraddodi, rhaid imi ei rhoddi. Y mae dynion ifainc yn darllen llyfrau sy'n cynnwys cyfeiliornadau ofnadwy dan rith gwirionedd; rhaid eu rhybuddio, ac ni pheidiaf byth â'i rhoddi er deall bod y gwirionedd yn cael ei guddio gan gelwyddau twyllodrus."

ATGOFION AM HEN SEIADAU TALYSARN

Yr oedd yn ddrycin gwynt a glaw, ond nid oedd y tywydd yn un rhwystr i'r hen chwiorydd a'r hen frodyr i ddyfod ynghyd i'r Cyfarfod Eglwysig. Yn yr Hen Gapel y cynhelid y Society hon. Wedi i un o'r brodyr ddarllen a gweddïo, fe aeth fy nhad allan o'r set fawr, lle'r eisteddai, i ofyn profiad. Aeth at yr hen ŵr William Roberts, Cae Engan. Dyma'r gŵr y daeth fy nhad i fod yn gyfrannog ag ef yn ei fargen pan ddaeth gyntaf i weithio i chwarel Talysarn. Cyflwynodd y swyddog fy nhad i William Roberts rhywbeth yn debyg i hyn, "Wel, dyma fi wedi dod â dyn dieithr i fod gyda chwi: gwnewch yn fawr ohono." Ysgydwodd y ddau law, a buont byth yn gyfeillion. Aeth fy nhad at yr hen ŵr gan ofyn iddo, "Wel, William Roberts, beth sydd gennych i'w ddweud wrthym heno?" "Dim, John Jones, dim, ond fy mod yn ofni 'y nghrefydd: 'rwyf wedi dod i'r penderfyniad mai rhagrith yw'r cwbl." Tybed, William Roberts? "Ie, ie." ebe yntau gan wylo'n hidl. "Faint sydd, William Roberts, er pan ddeuthum atoch i weithio i Allt y Fedw?" "Llawer iawn o flynyddoedd, John Jones." "Wel, William bach, yr oeddwn i yn tybied y pryd hwnnw eich bod yn ddyn duwiol, ac ni chefais le i un amheuaeth am eich crefydd o hynny hyd yn awr. Dyn yn ofni Duw oeddech bob amser er pan ddeuthum i'ch adnabod." "Ie, John Jones, ond ofn sydd arnaf mai rhagrith yw'r cwbl er hynny." "Wel, chwi sydd yn eich adnabod eich hun orau, William Roberts. Os fel yna yr ydych yn teimlo, beth a wnawn ni ichwi? A ddymunech chwi i'r brodyr yma groesi eich enw allan o Lyfr yr Eglwys, ac i chwithau gael dechrau o newydd-ni allwn ni eich gwrthod fel pechadur. Beth ydych chwi yn ei ddweud, William Roberts? "

Erbyn hyn yr oedd yn wylo trwy'r lle, a'r hen Hugh Roberts, y Ffridd, â'i ruddiau fel dwy ffos, a'r hen chwiorydd yn ochneidio, a distawrwydd yn teyrnasu drwy'r lle. "Beth wnawn ni, William Roberts? A gawn ni orchymyn croesi'ch enw allan o Lyfr yr Eglwys? "O na, peidiwch wir," ebe yntau dan deimladau dwfn a drylliog. "Pa reswm sydd gennych dros beidio?" Dim ond wylo a dwfn ochneidio a wnai. "A ga' i ofyn ichwi, William Roberts, am un rheswm dros eich goddef yn y Seiat a chwithau yn dweud mai rhagrithiwr ydych? A ydych chwi, tybed, yn caru Iesu Grist?" "O ydwyf, John bach. O ydwyf, yn ei anwylo yn fwy na'r byd i gyd. O, caru Iesu Grist, 'does dim dowt am hynny. Y Fo yw'r ffrind gorau a feddaf i—wrtho Fo y bydda' i yn dweud fy hanes. Trwyddo Fo yr wyf yn disgwyl myned i'r Nefoedd. Yn ei freichiau Ef yr wy'n codi 'mhen o flaen Duw. O, ei garu O! Ydwyf, ydwyf." A daliai i wylo ac ochneidio yr holl amser y dywedai ei brofiad. Safai fy nhad fel colofn, â'i lygaid yn pelydru'r Anweledig, tybiem. Trodd at William Roberts a dywedodd, "Gresyn, William Roberts, fod y diafol yn eich poenydio chwi! Glywch chwi, frodyr a chwiorydd annwyl, mor greulon, mor ddigywilydd y mae ymosodiadau'r diafol wrth hen Gristion annwyl didwyll: ond o ran hynny yr oedd yn ddigon beiddgar i ymosod ar ein Gwaredwr ni. Dyna fel mae e'n ein poeni ni. Yr ydym yn ymdrechu gyda'n crefydd ac yntau yn edliw inni, ac yn dweud nad yw'r cwbl ond rhagrith."

Yr oedd pawb yn wylo erbyn hyn, ac yng nghanol y twrf a'r ochneidio fe roes yr hen bennill allan i'w ganu, "Fe genir yno am y Gwaed," etc., a'r hen Edward Williams â'i lais yn ddrylliau gan ei deimladau yn dechrau canu. Ac O! 'r fath ganu! Dim dechrau na diweddu gyda'n gilydd, ond slyrio ar ryw air, "Cenir, fe genir, ie, fe genir." "Ie," ebe un arall, "bydd canu wedi cyrraedd yno." "Ie," ebe un arall, "'does dim yn werth canu amdano yn y Nefoedd ond y Gwaed yn golchi beiau—dyna'n unig a fydd yn werth canu amdano byth." O'r diwedd dyma ychydig o dawelwch. Aeth fy nhad ar ei liniau ar ffrynt yr hen sêt fawr, ac fe ddechreuodd weddïo: "Fe fydd yn ddrwg gennym, ein Tad Nefol, weled hen bererinion yn cael eu cythruddo ac edliw eu beiau iddynt. Teimlo rhyw eiddigedd at Dy bobl Di, ein Hiesu annwyl, y mae'r cythruddwr -gweld eu cariad a'u sêl a'u hymlyniad wrthyt. O, mae'n werth dod i'th Dŷ ar noswaith ddrycinllyd fel hyn o bellter ffordd gan y pererinion. Beth sydd yn eu tynnu? Cariad at y Gwaredwr yr Hwn a'n carodd ni. Yr wyt Ti wedi tynnu'n serch arnat Dy hun, wyt yn wir. Fedr dim ei ddiffodd byth, byth." Erbyn hyn ni allem glywed un gair-yr oedd orfoledd drwy'r lle i gyd. Yr oedd yr hen Fargiad Owen, Llidiart y Mynydd, yn f'ymyl. "O, fy Iesu annwyl, annwyl, annwyl, mi ddoist i farw drosto' ni, ac mi eist i'r nef hefyd. Er gwaeled ydym ni, mi ddown yn iach ryw ddiwrnod." Ann Morris, Tan'rallt, a waeddai, "Fe ddown ninnau i'r lan ryw ddiwrnod drwy rinwedd y Gwaed sy'n effeithiol i'n dwyn yn rhydd." A fy mam, "Fe rodd Ei fywyd drosom. Iesu Grist yn marw. Fe gaf finnau ymguddio byth yng nghysgod Ei lawn a'i Aberth Ef." A Chatrin Michel, Tyn Lôn, yn neidio ac yn gweiddi, "Gogoniant am Drefn achub pechadur. Fe gostiodd yn ddrud; do, fe gostiodd ddirmyg a gwawd i'n Gwaredwr ni. Gogoniant byth am iddo'n cofio ni.'

Aeth fy nhad i'r tŷ, â'r moliannu'n parhau yn y Capel. Aeth i'w lyfrgell. Wedi inni roddi negeseuau yn y siop a'i chau, daeth fy nhad i lawr a dywedodd, Oni ddaeth eich mam i mewn eto? Ewch i'w hymofyn." Wedi perswadio llawer arni, daeth ac eisteddodd yn dawel. "Dowch, blant, at eich swper," ebe fy nhad. Wedi gorffen, meddai, "Gadewch inni ganu gyda'n gilydd." Yr oedd gan bob un ohonom leisiau da:

"Ar Galfari yng ngwres y dydd,
Y daeth y gwystl mawr yn rhydd"


phan ddaethpwyd at y geiriau,

"Ac yno'n talu anfeidrol lawn,
Nes clirio llyfrau'r Nef yn llawn,"

fe dorrodd fy mam allan i orfoleddu, "Ie, ie, beth oedd gen' i? Efe a wnaeth y cwbl drosta i. O, fy Ngwaredwr annwyl yn talu anfeidrol Iawn-digon byth i ofynion deddf Duw," ac ymlaen.

Cyfododd fy nhad, ac meddai wrthym, "Gadewch iddi nofio ei llestr: y mae ei henaid yn mwynhau'r pethau yma. Y mae ei hysbryd gyda'r hen siop yna . . . gadewch iddi nofio, blant." Yna aeth i'w lyfrgell, a mam yn gorfoleddu ac yn canmol ei Gwaredwr. Yr oeddem ninnau weithiau'n wylo i'w chanlyn er na wyddem ni am beth y pryd hwnnw, ond yr ydym wedi teimlo, fel hithau, gariad at ein Gwaredwr llonni ein heneidiau.

ATGOFION AM DDOLWYDDELAN[1]

I WAS going out in this tumble-down village yesterday. It's a long street with houses on each side of the road. Those near the sea are on the very brink of it, built with their backs to it; mostly small cottages built with mud. The recent storms have ruined a great many of them; the waves rising right above their roofs and dashing over them, running through many, and made them unfit to live in. At the far end an old Captain stood on a rock and saw the waves rising over Borth, and he called out: "There they are, every soul of them drowned"; and wave after wave rising higher; sand and stones filling the street; house after house ruined for ever. And now there the old ruins are; a great many of them uninhabitable and left condemned not fit to live in. I quite enjoy going about in the loneliness of the sea-waves, wind and ruins.

Well, you want my hanes going with Father to bury my grandmother. I have no dates. My brother John and sister Ann had to ride. Each had a pony. They went through Beddgelert and Capel Curig. Father had just come home from South Wales. While he was having his tea, he said to mother, "I dreamt with my mother." "Did you? "Yes, I saw myself standing in the old home by the door. I could not stand upright because it was so low. All at once I heard a noise of a carriage, and it stood opposite the door; and someone came down, passed me, and went straight to my mother, who sat by the fire. He took hold of her hand and helped her to rise up, and helped her, passed me, into the carriage, and closed the door after her, and then went to the driver's seat and took the reins, and drove on to the river, that was close to the house." Mother asked, "What sort was the driver?" And he said, "I looked up at him, and his face was 'yn wyn ac yn wridog, yn rhagori ar ddeng mil.' Gwelais ei law yn gafael yn y reins' a daeth i'm meddwl, Dyna'r llaw a fu dan hoelion, ie, ie," a'i ddagrau yn lleithio ei lygaid bob amser wrth sôn am y breuddwyd hwn.

"Wel," ebe fy mam, "dyna'r achos imi anfon i'ch cyfarfod y mae eich mam wedi marw." "Pa bryd?" Dywedodd hithau yr awr, ac fe ddigwyddodd y munudau yr oedd fy Nhad yn ei gweled yn ei freuddwyd. Ac O! fel y teimlai hiraeth a chwithdod am ei fam. "Wel, rhaid inni fynd yno i'w chladdu; fe gaiff Ann a John fynd ar y poni, a chaiff Fanny ddod yn fy sgîl i." Ac felly y bu. Aethom tua chanol dydd o Dalysarn, ac i'r Llyndu i gysgu y noson gyda'i gyfnither, Mrs. Roberts; yna, oddeutu wyth o'r gloch, ar ôl borefwyd a dyletswydd, cychwynasom rhyngom a Hafod y Prysg ar hyd ffordd fawr Capel Curig. Wedi dyfod at y tŷ ffarm wrth ymyl y. ffordd disgynasom oddi ar y ceffyl i droi i fyny ar hyd llwybr heibio i Hafod y Prysg, ac i fyny drwy'r coed a cherrig a dwfr (yr wyf wedi anghofio ei enw) a'm tad yn tywys y ceffyl. Daethom i ben y mynydd, â Moel Siabod yn ymddangos fel yr Wyddfa o'n blaen. Gofynnodd a oeddwn wedi blino. "Nac wyf," meddwn i. "Wel, mi gerddwn nes dod i le cyfleus i farchogaeth eto . . . nid aeth i ddaear erioed ddynes mwy duwiol na dy nain; ac nid aeth i'r nefoedd erioed Gristion mwy gonest a chywir na hi... O, ei bywyd distaw yn byw'n wastad mewn cymdeithas â Duw." "Yna," meddai, "fe allai y gallwn fyned ar gefn y ceffyl yn awr," ac fe'm cododd i fyny, ac fe ddaeth ef ei hun wedi hynny, ac ebe fe wrthyf, "Nid wyf fi ddim am wneud brys i fyned yno; bydd arnynt eisiau imi bregethu, ac ni allaf fi ddim ar ŵylnos fy mam; fe gaiff Dafydd fy mrawd wneud; y mae'n ieuengach na mi."

Hefyd yr wyf yn cofio wrth ddyfod at yr hen gastell, wedi teithio milltiroedd o fynydd, i mi glywed sŵn canu gyda'r awel o hen dŷ Tanycastell; ac O, fel y teimlai fy nhad wrth eu clywed. Aethom ymlaen, ac yn ddistaw fe aeth i dŷ fy mherthynas i aros dipyn, ac aeth i mewn i'r hen gartref i'r hen simdde fawr—ewyrth David Jones a f'ewyrth Richard ar un ochr, a'm tad ac Elias Owen yr ochr arall. Fe ddechreuodd dadl rhwng y pedwar ar ôl swper, ac yr wyf yn cofio f'ewyrth David Jones yn dweud wrth fy nhad, "Waeth iti dewi, John, y mae Richard wedi dy guro di o ddigon." "O nag yw, ebe yntau dan wenu, "rhaid inni gael myned yn ddyfnach i'r cwestiwn, Dafydd; yr wyt ti'n barnu'n rhy fuan, wel' di." Ac ebe f'ewyrth Dafydd, "Mae o'n meddwl mai fo ydyw'r gorau o ddigon ohonom oll, Richard.” “Fo ydyw, hefyd," ebe Elias Owen. "Wel' di," ebe f'ewyrth Dafydd, "wel' di, mi fydda' i'n barddoni llawer, John, ac yr wy' i'n deall Saesneg hefyd—O, llawer o dalentau bach a wnaiff un fawr-y fi ydi'r mwyaf, wel' di!" Fe chwarddai'r pedwar yn galonnog, ac yna fe'u gadawsom hwy i fyned i'n gwelyau y noson fythgofiadwy honno yn yr hen gartref rhyfedd hwnnw lle cododd tri o bregethwyr a blaenor.

Bûm gyda'm tad dro arall yn Nolwyddelan. Aethom yno gyda dyn o ardal Talysarn a'i ferch. Cysgasom yn y Llyndu y nos gyntaf; ac yna cychwynasom ar droed ar hyd ffordd Capel Curig nes dod at Hafod y Prysg-yna troi i'r coed a'r llwybrau geirwon, caled i'w dringo oherwydd cerrig a dwfr. O! 'r cwyno yr oeddem ni ein dwy! Ond er mwyn ein cymell ymlaen fe ddywedodd Richard Jones, dyna enw'r dyn, "Y mae yna ffyrdd yn Nolwyddelan wedi eu gwneud ag aur." Ac O! fel y prysurem ymlaen er cael eu gweled. Ac wedi cyrraedd top y llwybr nid oedd yn ymddangos ond gwlad ddiderfyn o fynydd-mynydd Moel Siabod â'i godre'n llanw pob man a'i thop yn dyrchafu i'r entrych. Wedi cerdded yn flinedig am beth amser, gofynnodd fy ffrind i'w thad, "Nhad, lle mae'r ffyrdd sydd wedi eu gwneud o aur?" "O," ebe yntau, " rhaid inni fyned at yr hen Gastell yn gyntaf." Yna cerddasom ymlaen yn awyddus nes dyfod at y Castell. "Wel, lle mae nhw'?" ebe hi. "O, ddeudais i ddim eu bod wedi eu goreuro ag aur, ond wedi costio aur i'w gwneud nhw'," oedd yr ateb. A ninnau'n siomedig iawn. Y dydd Sadwrn canlynol fe ddaeth fy nhad yno at y Sulgwyn â'm chwaer hynaf ar geffyl gydag ef. Bore dydd Llun daeth cennad o Gapel Curig i'w ymofyn at ddau o'r gloch ddydd Llun, ond nid oedd yn fodlon myned, a chymerodd esgusawd fod fy chwaer ddim iach a bod yn rhaid iddo ddychwelyd adref. Ond yr oedd y ddau frawd dadlau'n daer dros iddo ddyfod gyda hwynt. "Fe fydd yn siomedigaeth ofnadwy," meddent, ac ni fydd yn llawer pellach ichwi o Gapel Curig na phed aech oddi yma. Dowch, yn wir, John Jones annwyl." Ac fe'i perswadiwyd ef i fyned, a ninnau gydag ef; ond yr oedd fy chwaer yn methu ag eistedd ar y ceffyl gan boen. Yr oedd y capel yn orlawn, a disgwyliad mawr wrtho, a gwên o foddhad wrth ei weld wedi dyfod.. Yr wyf yn meddwl fod yna orfoledd ar y diwedd.

Yn y Tŷ Capel cawsom de, fy chwaer a minnau a'm tad. Mor fuan ag inni ddiweddu daeth dau flaenor ar eu ceffylau o Fethesda; daethant ato a dywedodd un wrtho, "Yr ydym wedi dyfod yma. i'ch ymofyn i ddod i Fethesda at y nos." "O, alla' i ddim yn siŵr; yr wyf yn myned adref ar f'union oddi yma; 'dydyw'r eneth yma ddim yn iach, ac mae'n methu marchogaeth.' "O," ebe'r dynion, fe geisiwn gerbyd iddi." O na, na, na," ebe fy nhad, "gadewch imi fynd adref y waith hon." "Na'n wir, y mae acw gannoedd yn disgwyl eich clywed heno, John Jones." A meddai un o'r ddau wrthyf fi, "Ewch at eich tad, a pherswadiwch ef i ddod gyda ni, fy ngeneth fach i." Fe godais ac euthum ato; rhoddais fy llaw ar ei ysgwydd a dywedais, "Nhad, ewch gyda nhw', wir." Troes ataf, "Taw di, 'ngeneth i; wyddost ti fawr beth y mae mentro gyda dy chwaer yn ei olygu; ni all farchogaeth; y mae'n wael." "Wel," ebe finnau, "mi af fi ar gefn y gaseg a chaiff hithau ddod yn eich sgîl chi, 'nhad." "Tybed a elli di? O, gallaf yn iawn." Ac felly fu.

Pan oeddem yn nesáu at Fethesda ein pedwar, y ddau ddyn a ninnau ar ein ceffylau, yr oedd y ffordd yn llawn o bobl. Gofynnais i'r dyn a oedd gyda ni, "Beth sydd yn bod? B'le y mae'r holl bobl yma yn myned?" "O, i wrando ar eich tad, fy ngeneth i; chwi wnaethoch help inni i'w gael i ddod, diolch ichwi, 'ngeneth fach i." Wedi cael te aethom i'r capel. Nid anghofiaf y drafferth a gafwyd i gyrraedd y sêt ar ymyl y gallery gyda'r teulu yr oeddwn yn lletya. O! 'r olygfa nad anghofiaf byth oedd ar y gynulleidfa oddeutu diwedd y bregeth! Dyna orfoledd pan ddywedodd fy nhad, "Dyna fi wedi tynnu'r darlun gorau a fedrwn i ohono Fo o'ch blaen chwi, a dweud wrthych chwi beth wnaeth Efe drosoch chwi. Beth feddyliwch chwi ohono Fo, fy mhobl annwyl i? A ddewisech chwi dreulio Tragwyddoldeb yn Ei gwmni, fechgyn? Y mae'r hen famau yma wedi penderfynu'r cwestiwn ers talwm; onid ydych, hen chwiorydd? A'r hen frodyr gyda chwi? Yr ydych yn byw yma cyn mynd yno . . . . 'Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef Iesu Grist.' Onid ydych yn awyddus i fyned ato i fyw byth? Onid ydych, hen chwiorydd?" Dyma lais gwan, "O, ydan wir, am fynd ato fo cyn gynted ag y gwêl yn dda. O! gogoniant am obaith cael mynd!" Gwaeddai fy nhad, "O cewch, ond ichwi ymddiried yn y Gŵr a brynodd eich bywyd:

Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.

"O, diolch; bendigedig fo Duw am drefn i faddau," ebe'r bobl. Boddwyd llais fy nhad yng nghanol y lleisiau a'r gorfoledd mawr. O, noson fythgofiadawy a'm tad wrth ei fodd yn canu ar ôl swper,

"Wel, dyma'r cyfaill gorau ga'd,
Mae'n ganmil gwell na mam na thad,
Mewn pob caledi ffyddlon yw..."

Yr wyf yn ysgrifennu drwy'r dydd heddiw am ei bod yn ystorm ofnadwy—y gwynt, y gław, cenllysg a'r môr a'i donnau yn codi'n ofnadwy o uchel.

Ni wn beth i'w ddweud am y llyfr y mae Griffiths yn ei gyhoeddi—ai yn rhifynnau y mae? Nid oeddwn yn meddwl rhyw lawer o'r un a welais i ganddo. Cyn y rhoddwch chwi fy mhethau iddo, gedwch imi wybod ymhellach yn ei gylch.

ATGOFION AM YSGOL SUL TALYSARN

August 26, 1903. Pwllheli. Y mae pob diwrnod yn meddu ei lond o hanes. Y mae'r wythnos yma yn cyflymu tua'r diwedd. Dydd Llun cerdded oddeutu glan y môr; yna i'r capel i wrando Mr. Hughes . . . campus o bregeth. Dydd Mawrth i Glynyweddw; y drive ar hyd glan y môr yn fwynhad i gorff ac yn ymborth i enaid i fyfyrio ar yr olygfa hardd ac amrywiol. Cerdded i Lanbedrog; dringo i fyny'r rhiwiau; cyrraedd, eistedd yn yr hen aneddau bychain tlawd. . . . yr hen ŵr yn gloff; rhoddi pres iddo i brynu tybaco, yr hyn a'i llawenhâi'n fawr iawn . . . hen weithiwr i Caldicot—cefnder fy nhad, yr hwn a ddywedasai, "Ceisiwch John Jones i bregethu i'r hen Eglwys ac ni fydd yn rhaid ichwi geisio warming apparatus iddi."

Cyfarfod ag un a fagwyd yn hen ardal Talysarn, ym Mhwllheli. "Yr wyf yn cofio'ch tad, Owen Jones; efe oedd yn dysgu'r plant yn y wers gyntaf bob amser." Dyn bychan ydoedd; clocsiau am ei draed. Wedi iddo ddysgu'r wyddor inni, a sillafu'r A, B, ab, anfonid ni at Ddafydd Elis, Coednachdy Ucha'; yno dysgem sillafu. Yno yr oedd Dafydd fy mrawd. Gofynnodd Dafydd Elis iddo, "A oes gennyt ti adnod, Dafydd bach, heddiw? Oes, newydd sbon," oedd yr ateb. "Dywed hi," ebe'r hen ŵr. Safodd yntau'n syth o'i flaen a dechreuodd drwy ddweud:

"Pan godi di y bore, meddwl am Dduw;
Dyro ddŵr ar dy wyneb, fe altrith dy liw;
Dywed dy bader cyn profi dy fwyd,
Rhag ofn i'r hen Satan dy ddal yn ei rwyd."

Pwy ddysgodd yr adnod yna iti, Dafydd bach? Richard, fy mrawd," oedd yr ateb. Gwyddai Dafydd Elis am ddireidi Richard, a dywedodd yn ddifrifol, "Gofyn i dy fam dy ddysgu di i ddweud gwers newydd; nid ydyw honna ddim yn wers o'r Beibl." Golygfa ddymunol oedd gweled Elis Jones ar y llawr yn dysgu'r A.B.C. i'r plant ar hen lyfr pren â phapur wedi ei bastio arno, a'r llythrennau'n fawr; a chwestiwn yr hen Elis Jones fyddai bob amser, "Tyrd yma, Dafydd neu Thomas bach; dywed wrthyf beth ydyw enw hon "; yna dangosai hi â'i fys ar yr hen lyfr bach. Wedi i'r bychan ei ddweud, dywedai, "Da iawn, 'machgen i; mi ddoi i fedru dweud yr wyddor bob gair yn fuan." Ni fyddai byth yn curo, ond denu. Rhoddai'r plant eu llaw am ei wddf. Dyn bychan ydoedd, tawel, digon o amynedd ganddo. Dysgodd do ar ôl to ar y llawr. Bu'n dysgu'r wyddor am flynyddoedd. Nid oedd yr un Moddion yn cael ei gynnal yn y Capel na byddai Elis Jones ynddo. Yr oedd ganddo lwybr caregog, blin i fyned i'r capel. Pan fyddai'n dywyll gwelid ef yn dyfod â'i lantern yn ei law a'r plant yn ei ddilyn, y cwbl yn eu clocsiau o'i wneuthuriad ei hun. O! 'r amynedd oedd yn ystôr yn ei galon!

Dilynwyd ef gan ŵr bychan o'r enw Richard Williams—"Richard Williams bach" y gelwid ef gennym. Yr oedd hwn yn ddiffygiol o'r peth mawr a oedd yn Elis Jones, sef amynedd. Os byddai iddo ddweud mwy na dwy waith am fod yn ddistaw wrth y plant a oedd o dan ei ofal, fe ddefnyddiai ddalennau rhyw hen lyfr a gosodai hwynt mewn modd effeithiol ar ochr wyneb neu ben y troseddwr fel y byddai sŵn drwy'r holl ysgol, ac y byddai gosteg am foment drwy'r lle; a deallai pawb yn fuan mai Richard Williams oedd yn ceryddu'r anufudd. Ie, gwelid tad neu fam y troseddwr yn edrych yn eithaf bodlon i'r gosb; ac ni feiddient rwgnach, oblegid yr oeddynt yn gwybod fod yr hen ŵr yn eithaf match iddynt mewn moment. Yr oedd ei gywirdeb mor ogoneddus ac amlwg i bawb; felly Elis Jones a Dafydd Elis.

YMWELIAD F'EWYRTH WILLIAM JONES O'R AMERICA A MYNWENT LLANLLYFNI

(Adroddwyd yr hanes wrthyf gan fy nghefnder, Mr. Thomas Jones, Llanllyfni, a fu'n gwmni i'm hewyrth ar yr amgylchiad.)

ADDAWODD f'ewyrth ddyfod i Lanllyfni i roddi pregeth ar noson waith pan ar ei ymweliad â Chymru. Er mwyn iddo gael cyfleustra i ymweled â bedd fy nhad, daeth Thomas Jones i'w ymofyn a gofalu amdano. Aeth y ddau'n hamddenol dros y crawiau, a thros yr hen lwybrau y cerddodd f'ewyrth lawer ar hyd-ddynt pan oedd yn byw gyda'm tad a'm mam yn Nhalysarn. Gwelai fy nghefnder fod prudd-der yn ymdaenu dros ei wyneb pan ddaeth i olwg hen fynwent Llanllyfni, ac yn hytrach na mynd i mewn iddi perswadiodd f'ewyrth ef i ddyfod gydag ef adref i gael cwpaned o de yn gyntaf. Felly a fu; ac yna fe ddaeth y ddau i lawr y pentref yn araf. Yr oedd f'ewyrth yn hen a gwan. Aethant i mewn i'r fynwent. Cerddodd Thomas Jones ar y llwybr hyd nes daeth at y gofgolofn; safodd yno, ac meddai, "Dyma fedd eich brawd, Mr. Jones." "Ai e," meddai, â'i wefus yn crynu a'i ddagrau'n treiglo i lawr ei wyneb, "a dyma fedd John fy mrawd! Safai, fel pe bai wedi synnu, am beth amser yn ddistaw berffaith. Yna ciliodd Thomas Jones ychydig; ac yna fe glywodd sŵn llais f'ewyrth yn dweud mewn llef ddolefus: "Wel, wel, John annwyl, a dyma lle'r wyt ynddo, a minnau wedi dod dros y môr mawr i gael golwg ar dy fedd di, John annwyl. A wnei di ddweud gair wrthyf fi, John bach? Dim ond gair, John? O, y llais hwnnw a oedd yn arfer ysgwyd Cymru gan ei ddylanwadau nerthol gyda'i beroriaeth ddigyffelyb; y llais a fu'n cyhoeddi i bechaduriaid fod modd cadw enaid a gollasid drwy lawn y Groes. O, fe fyddet yn cymell dy Waredwr mor swynol, ac mor effeithiol. O, John annwyl, dywed air wrthyf. . . dim ond un gair."

Erbyn hyn yr oedd ar ei liniau ar y ddaear, ac aeth ei gyfaill ato a dywedodd wrtho, "Fe fyddai'n well inni fyned adref, Mr. Jones." Yr oedd golwg annaturiol a gwelw ar ei wyneb, a rhyw syndod ofnadwy yn ei lygaid. Yr oedd ar y cyfaill arswyd rhag i rywbeth ddigwydd iddo. "A ddowch chwi, Mr. Jones?" ebr ef drachefn. "Wel," meddai, gan godi oddi ar ei liniau, " dyma fi'n myned i ffwrdd heb un gair! O, fy mrawd annwyl, ffarwel hyd ddydd yr Atgyfodiad! Fe gyfarfyddwn â'n gilydd yr un foment ar ganiad yr utgorn—ti o'r fan yma a minnau o gyfandir mawr yr America: yr un funud, John! le, ac fe gawn weld ein Gwaredwr ar yr un amrantiad. O, gresyn na chawswn air gennyt, ie, dim ond un gair, John, fy mrawd."

Tybiodd y cyfaill fod yn rhaid rhoddi ychydig o orfodaeth i'w symud. Gafaelodd yn ei fraich ac arweiniodd ef allan yn ddistaw . . . dim ond ochneidiau dwys a thorcalonnus. Dywedai fy nghefnder mai dyna'r olygfa fwyaf torcalonnus a welodd erioed, ac nac anghofia ef mohoni byth.

Y SEIAT FAWR YN LERPWL

'RWY'N cofio fy chwaer a minnau'n cael mynd i Lerpwl un tro gyda'n tad. Cynhelid cyfarfod neu gynhadledd fawr (sef Seiat Fawr y Methodistiaid) yno y diwrnod hwnnw gan y Methodistiaid, ac yr oedd felly yn amgylchiad pwysig yng ngolwg fy nhad.

Ar y stemar a'n cludai i Lynlleifiad yr oedd hen gydymaith â'm tad-hen ŵr plaen a diymhongar. Wedi inni ddeall pwy ydoedd, nid oedd neb llai na'r hynod William Ellis, Maentwrog; ac yn ei gwmni difyr cyraeddasom ben ein taith heb yn wybod inni.

Disgwyliai dau foneddwr ar y "Pier Head" am i'r stemar ddyfod i mewn, sef Mr. David Roberts, Hope Street, a'n cefnder, William Roberts. Bu cryn ddadl ar y cwestiwn pa le 'r oedd fy nhad i letya y noson honno cydrhwng Mr. David Roberts a'n cefnder, wedi inni adael y llestr. Daliai Mr. David Roberts y dylai fy nhad letya gydag ef, gan mai gydag ef y byddai'n arferol â gwneud bob tro y byddai yn y dref, tra daliai ein cefnder mai yn ei dŷ yr oedd ei le, fel ei ewythr. Ni chymerai fy nhad yr un rhan yn y ddadl, ac wedi iddynt ddweud eu rhan ar bob ochr dywedodd fy nhad, "Wel, pa le bynnag y byddaf fi'n aros, mae'n rhaid imi gael yr hen frawd yma gyda mi," gan gyfeirio at yr hen William Ellis. Fodd bynnag, terfynwyd y ddadl drwy i 'nhad a William Ellis fyned gyda Mr. D. Roberts, a'm chwaer a minnau gyda'n cefnder. Daeth bore'r Seiat Fawr, ac yr oedd adeilad o dan ei sang. Os wyf yn cofio'n iawn, cynhelid y Seiat yn yr "Hengler's Circus." Eisteddai'r hen enwogion annwyl ar yr esgynlawr—enwogion sydd wedi myned i'w Cartref gogoneddus ers blynyddoedd bellach.

Eisteddai William Ellis ar y gadair y tu ôl i'r gadair yr eisteddai fy nhad arni; ac wedi agor y cyfarfod drwy i ddau neu dri ddweud gair, gofynnwyd am air gan William Ellis gan un o'r gweinidogion. Ond gwrthododd; ac er gofyn eilwaith gwrthod a wnaeth. Fodd bynnag, daeth Roger Edwards, 'rwy'n meddwl, at fy nhad, a dywedodd, John Jones, gofynnwch chwi iddo." Ac fe droes fy nhad ei ben yn ôl ac edrychodd yn y fath fodd fel yr ufuddhaodd ar unwaith. "William Ellis, codwch i ddweud gair ar gais y brodyr yma."

Wele'r hen ŵr i fyny, â'i ffon yn ei law, gyda golwg hen-ffasiwn arno. "Dowch ymlaen yma," ebe fy nhad. Daeth, a safodd yn ymyl ei gadair, a dywedodd, "Wn i ddim beth i'w ddweud mewn lle fel hyn." Yna daeth llef oddi ar yr oriel, "Uwch, uwch." Yna dechreuodd yn gliriach. "Wn i ddim. beth i'w ddweud mewn lle fel hyn. Y mae golwg urddasol a boneddigaidd iawn arnoch i gyd yma. Peth gwahanol iawn i'r hyn a welir yn y wlad acw. Y mae yn ymyl fy nghartref i foneddiges urddasol iawn yn trigiannu, ac yr ydym ein dau yn bur gyfeillgar; a phan fyddwn yn cyfarfod ar y ffordd, ymgomiwn yn gyfeillgar iawn. Ond weithiau bydd boneddigesau eraill ar ymweliad â hi, a phan welaf hi y pryd hynny ni fyddaf yn cymryd un sylw ohoni mwy na thynnu fy het iddi a'i phasio. Felly, foneddigion, teimlaf yn anghymwys i'ch annerch chwi yma heddiw. Yr ydych yn edrych yn foneddigaidd iawn, gyda golwg urddasol arnoch."

Teyrnasai distawrwydd, ac ymhen ychydig cododd ei olygon i fyny drachefn gan ddywedyd, "Ie, ie; ond wyddoch chwi, frodyr a chwiorydd annwyl, nid yw hynyna ond gwahaniaeth yn ein hallanolion.' A dyma ddechrau mynd i hwyl wedyn:

Rhaid cael yr un Drefn i gadw pob un ohonom. Nid oes un ffordd mwy respectable i'ch cadw chwi, foneddigion, nag i gadw'r hen William Ellis. Ie, yr un Gwaed raid ei gael i'n golchi, yr un Aberth, yr un lawn. 'Does yr un arall i'w gael, nac angen amdano ychwaith.

Wedi hyn nid oedd yn bosibl clywed yr un gair a ddywedai mwyach, gan y boddid ei lais gan yr Amenau o bob man; a'r gynulleidfa yn ysgwyd fel cae gwenith o flaen y gwynt. Wylai Mr. Rees fel baban, tra mwynhâi ac anwylai fy nhad ei hen gyfaill. Yr oedd yr olygfa yn wir ogoneddus, ac yr oedd y gynulleidfa wedi ei llanw ar yr olwg a gawsai ar ogoniant trefn achub pechadur.

RHOBAT GRUFFYDD Y TROELLWR

YR oedd hen ŵr o'r enw Robert Gruffydd y Troellwr yn byw yn Nhalysarn yn ymyl ein cartref ni. Cymeriad anghyffredin iawn ydoedd. Pan adwaenwn i ef, yr oedd yn ennill ei fywoliaeth drwy gario nwyddau a glo o Gaernarfon mewn waggon ar y rheilffordd. Yr oedd ganddo hen gaseg a alwai Bute. Enw ei wraig oedd Beti Gruffydd. Wel, fe aeth yr hen wraig yn wael iawn, ac i orwedd, ac yr oedd yntau'n hynod o unig heb ei help. Fel arfer, fe âi i Gaernarfon oddeutu deg o'r gloch y bore, ac os byddai rhywun yn dewis, caent eu cario ganddo yn ei waggon. Byddai f'ewyrth, David Jones, Caernarfon, yn defnyddio pob cyfleustra i fyned gyda Robert Gruffydd, ac fe gai ddifyrrwch anghyffredin yn ei gwmni.

Un diwrnod yr oedd Robert Gruffydd yn dyfod adref o'r dref, ac aeth amryw o'r bechgyn i gyfarfod ag ef, a meddent wrtho, "Stopiwch, Robert Gruffydd." "I beth?" ebe yntau. "Stopiwch; y mae Beti Gruffydd wedi marw." "Wyt ti'n deud y gwir?" "Ydym, wir." "Wel, dowch i'r waggon, hogiau. Fel 'na mae hi yn y byd 'ma, rhywun yn marw o hyd. Dos yn dy flaen, Bute bach. Hogia', pryd buo hi farw, deudwch?" Hanner dydd."

Wel, wel; dos yn dy flaen, Bute bach." Ac wedi cyrraedd pen y daith, "Dowch gyda mi, hogia', i roi tamad i Bute." Ac felly bu, ac ar ôl gorffen aeth i'r tŷ. "Wel, y mae Beti wedi marw, meddai'r hogiau," ebe fe wrth y ddynes a oedd yno. "Ydi, Robert Gruffydd," ac fe agorodd ddrws y siamber, ac fe'i gwelodd yn gorff. Wel, ydi'n wir," ebe ef, gan gau y drws arni. "Wel, be' wna' i 'rŵan, deudwch? O ran hynny, 'doedd hi'n gallu gwneud fawr ers talwm bellach." "Well ichwi fwyta."

"Well ichwi fwyta." "Ie, yntê" "gael ichwi fynd i chwilio am le i'w chladdu hi." O, ic'n wir; yr oedd ar Abram eisiau claddu Sara, wedi iddi farw, on'd oedd?"

Felly fe gladdwyd ei farw allan o'i olwg.

Yr oedd ganddo hen lances yn edrych ar ôl ei dŷ, ac yn gwneud popeth yr oedd eisiau ei wneud. Yr oedd yr hen ŵr yn agos i bedwar ugain oed, a Neli'r forwyn yn hanner cant; a meddai wrthi un diwrnod pan oedd hi'n ymofyn am arian i gael bara: "Wel, Neli, i safio iti fy mhoeni i i geisio arian fel hyn, yr wyf yn meddwl mai'r ffordd orau a fyddai iti gymryd y pwrs a minnau i'w ganlyn, iti edrych ar f'ôl i, a'r tipyn arian yma sydd gen' i." "Diar mi, Robert Gruffydd, be' 'dach chi'n feddwl?" "Wel, meddwl yr wyf am iti fy mhriodi fi." "O, diar mi, na wna' i." Gwnei; chei di ddim cynnig gwell, ac fe fydd yn gartref iti."

Y diwedd fu iddynt briodi, ond yr un peth pwysig y dylasai yr hen ŵr ei ystyried oedd, ei fod ef yn aelod yn hen Eglwys Talysarn, a Neli heb fod. Yr oedd yn drosedd a alwai am gerydd a diarddel yn ganlyniad; ac, yn y Seiat, fe alwyd ar Robert Gruffydd i roddi eglurhad, ac fe ofynnodd y blaenor iddo beth oedd ganddo i'w ddweud. "Dweud beth?" ebe yntau.

Wel, yr ydych wedi troseddu'r rheolau drwy briodi dynes o'r byd a heb fod yn aclod eglwysig." "O," ebe yntau. "Ac yn awr," ebe'r blaenor, " y mae'n rhaid gweinyddu cerydd arnoch, neu ichwi edifarhau." "Beth! Edifarhau am briodi Neli... edifarhau am briodi Neli! Na wnaf byth! Ac ni ddeuda' i byth wrthych ei fod yn edifar gennyf." Seiat neu beidio, fe aeth pawb i wenu, ac ni weinyddwyd cerydd arno. "Ac," meddai wrth rywun wrth sôn am yr amgylchiad, " y maen' hw'n deud bod yno, ym mynydd Ebal, ryw gerrig na ddalian' hw' mo'u trin. Well iddyn' hw' adael llonydd imi, yn sicr."

Bu farw yn bedwar ugain oed. Cafodd bob ymgeledd gan Neli, a daeth hithau aelod gydag ef.

SION GRUFFYDD YR ATAL

YR oedd cymeriad hynod yn byw yn Nhalysarn o'r enw Siôn Gruffydd. Dyn tlawd, cyffredin oedd yr hen ŵr, a chanddo wraig dduwiol odiaeth. Bu iddo bump o blant, pedwar mab ac un ferch. Enwau'r meibion oedd Gruffydd, Siôn, Wil a Huw, ac enw bedyddiedig y ferch ydoedd Catrin.

Gelwid ef yn Siôn Gruffydd yr Atal. Priodolid hyn i'r ffaith bod ei lafariad yn afrwydd, neu fod atal-dweud arno. Trigent mewn bwthyn bychan a elwid y Tŷ Newydd, ac adwaenid Catrin Gruffydd, y wraig, fel Catrin Gruffydd, Tŷ Newydd. Treuliodd y teulu ran helaeth o'u bywyd yn fy hen gartref i. Gan fod yr hen ŵr yn anghelfydd iawn gyda'i waith yn y chwarel, ni allai ennill cyflog byw, a chanddo yntau deulu mawr i'w gynnal, ac felly arferai fy nhad roddi gwaith i'r hen ŵr i edrych ar ôl y ceffyl a'r fuwch a oedd ganddo. Daliai fy nhad ychydig o dir hefyd, a chanfyddai'r gwas ryw

waith neu'i gilydd i'r hen Siôn Gruffydd ddiwrnod ar ôl diwrnod. Fe'u cynhaliai'r bechgyn hwy eu hunain. drwy redeg ar negeseuau i'm mam, a'u porthai'n dda am hynny. Yr oedd y tir gryn bellter oddi wrth ein tŷ, a chofiaf yn dda fyned un tro, gyda'm tad, i edrych sut y deuai Siôn Gruffydd ymlaen yn y cae. Hoffai Siôn Gruffydd fygyn yn fwy na dim, ac os byddai'n amddifad o fyglys, wel, nid oedd hwyl arno, ac ni cheid bw na be o'i ben. Pan fyddai yn y cyflwr anobeithiol yma, ni welai ddim, ac yr oedd yn annifyr i ddyn fod yn agos ato. Ond yr oedd fy nhad yn gyfarwydd â holl wendidau Siôn Gruffydd, ac nid oedd wedi bod ar ôl y tro hwn o ddyfod â blewyn o faco ym mhoced ei wasgod. Gwyddai y buasai hynny yn diwallu anghenion yr hen ŵr, ac y deuai ag of i'w hwyl arferol.

Wedi ei oddiweddyd yn y cac gofynnodd fy nhad iddo: "Wel, Siôn Gruffydd, sut mae hi'n dod ymlaen yma?" Gwelid ar unwaith fod Siôn Gruffydd wedi ei gael ei hun o fod yn y cyflwr anobeithiol o fod heb faco, a dywedodd â'i olwg yn sarrug:

"Go lew, Mr. Jones."

Yna aeth fy nhad i weled y fuwch, ac wrth ddychwelyd cyfarchodd Siôn Gruffydd fel hyn:

"Siôn Gruffydd, welwch chi yr awyr lâs, serennog uwchben?"

"Gwelaf siŵr, John Jones," ebe'r hen ŵr yn ddigon difater.

"Edrychwch ar y seren fawr, olau acw," ebe fy nhad drachefn.

Yna cododd Siôn ei ben am funud ac yna ailymaflodd yn ei waith. Gwelodd fy nhad fod golwg anfoddog iawn ar Siôn Gruffydd, ac ebe fe wrtho:

"Fe wyddoch chi, Siôn Gruffydd, mai yng ngolau'r seren yna y mae'r morwyr arwrol yn llywio eu llestrau ar hyd wyneb y môr mawr.'

"O, felly'n wir," meddai Siôn yn ffurfiol. "A welwch chi'r tair seren yna?" ebe fy nhad.

Gwelaf," ebe yntau, ond prin yr edrychai. "Wel," meddai fy nhad, "dyna Dair Llathen Mair, Siôn Gruffydd; y maent ymhell iawn oddi wrth y naill a'r llall."

Ai e, John Jones?" ebe Siôn, â'i law ar ben ei raw, ac erbyn hyn dechreuasai Siôn roi i mewn i'w chwant farus, ac ebe fe:

"Oes gynnoch chi ddim blewyn bach o faco efo chi, John Jones?"

"Wel oes, Siôn Gruffydd," meddai fy nhad, a thynnodd yr hen flwch corn allan o boced ei wasgod, ac agorodd y blwch, a rhoddodd i Siôn Gruffydd y cyfan a feddai.

Heb oedi, dyma'r hen getyn du allan, a'r hen Siôn bron marw o eisiau mygyn yn ei llenwi, ac wedi ei llenwi dyma'r cwestiwn yn codi'n naturiol: "Oes y fath beth â matsen yn digwydd bod yn eich meddiant?'

"Wel, mi edrychaf," ebe fy nhad, a thynnodd un allan o boced ei wasgod. Taniodd hi ar ei flwch baco a rhoddodd dân i'r hen ŵr.

Wel, dyna hen danio wedyn, a'r mwg yn torchi i fyny'n fodrwyau, a llygaid Siôn yn gloywi, ac yn symud fel mellten, a 'nhad yn gwenu ar y mwynhad dedwydd, diniwed a sugnai o'r ysmygyn.

"Felly, yr oeddych heb ddim baco," meddai fy nhad.

"Oeddwn siŵr," ebe yntau, "ni chefais fygyn er canol dydd, a rhyw 'chydig bach iawn o faco ges i yr adeg honno. Yn wir, John Jones, yr oeddwn wedi mynd yn ddall o eisiau mygyn."

Chwarddodd fy nhad yn galonnog. "Ie," ebe'r hen ŵr, â boddhad yn gwenu ar ei wyneb cyn gynted ag y cafodd gegiad o fwg, "ie, siarad yr oeddych am y sêr yna, onid e; y maent yn fawr iawn onid ŷnt? Mi debygaf fod y morwyr yna yn gwneud yn fawr iawn ohonynt, er, mwy na minnau, ni allant ddringo atynt, allan' hw', John Jones? Wn i fawr amdanynt chwaith, na'r lleuad o ran hynny, ond bydd yn dda gennyf gael eu golau i fynd a dwad o gwmpas y lle yma. Ar y seren fawr acw y mae'r llongwyr yn edrych, oeddech chwi yn ei ddweud ynte? Ac am y tair seren arall yna y soniech amdanynt, ni allaf ddirnad pam y geilw pobl hwynt yn Dair Llathen Mair "."

Tra siaradai, ymfodlonai yn ei galon wrth dynnu mwg drwy'r hen getyn du ei liw, ac ar adegau cuddid ei wyneb o'n golwg yn y mwg tew a du. Chwarddai fy nhad yn ei lawes wrth edrych ar yr hen ŵr yn ei foddio ei hun fel hyn, ac ni ddywedai air rhag torri ar ei ddedwyddwch. Rhyfedd yw gweled baco yn dylanwadu cymaint ar fywyd dyn yn y byd yma, onid e? Hebddo diffeithwch ydyw ei fywyd i'r dyn, ond pan gaiff flewyn o fyglys dyna'i holl fywyd yn gweddnewid. Dyma'n ddiau y peth a roddai fwyaf o fwynhad i'r hen gymeriad diddan yma o ddim ar yr hen ddaear y trigai arni.

Soniodd fy nhad lawer gwaith wedi hyn am yr amgylchiad, ac nid dyma'r tro olaf iddo fyned allan i'r maes â baco yn ei boced i ddiwallu'r hen Siôn Gruffydd, ac i'w wneud yn hapus yn ei hen ddyddiau.

Labrwr ydoedd Siôn Gruffydd, ac ni wyddai fawr am waith chwarelwr. Ymfudo i'r ardal a wnaethant, ond teulu tlawd ydoedd y teulu er bod yr ardal yn flodeuog iawn gyda'r fasnach lechi. Arferai fy mam ddilladu'r plant â'r dillad a droesid heibio gan fy mrodyr. Er yn dlawd dyma fechgyn geirwir a gonest, a gwerthfawrogai fy mam hyn yn fawr iawn. Byddai Wiliam, Wil y Siop fel y gelwid ef, yn aros yn ein tŷ ni yn barhaus, a byddai Huw yn swyddog pwysig yn y cyfarfodydd a gynhaliai fy mam yn y tŷ i hyrwyddo dirwest a glendid moes ymysg y to a godai. Gwnaeth y cyfarfodydd fwy o les yn yr ardal na nemor ddim arall i gael enw priodol dyn iddo, a gwreiddiodd bechgyn y chwarelau raddol yn o'u hieuenctid yn naear fras dirwest a llwyrymwrthodiad, fel y tyfasant yn brennau talgryf mewn cymdeithas, a buont yn gysgod a lloches ddiogel i'w plant ar hyd eu hoes. Nid aeth un o bob deg o fechgyn Talysarn ar gyfeiliorn, er crwydro a chrwydro, a phriodolir hyn yn ddiamheuol i gyfarfodydd dirwestol fy mam. Arferai Huw Gruffydd eistedd yn y gadair gongl gyda myffler fawr am ei wddf, â golwg dduwiol iawn arno. Magodd hyn yr enw "Huw y Sant " ymysg plant y pentref, ond yr oedd Huw yn fachgen da, cywir ac onest.

Ond at y fam yr oeddwn am gyfeirio. Un o halen. y ddaear oedd hon, a phereiddiodd fywyd yr ardal y trigai ynddi yn gyfangwbl, a pherchid hi gan bawb, er ei thlodi. Bwytâi fara sych cyn yr elai i ddyled neb, a gwnaeth hynny lawer gwaith i gadw ei chymeriad ac i fyw esiampl i'w phlant a'i chyd-bentrefwyr. Hen arferiad annwyl a ffynnai yr adeg honno oedd galw yn y seiat, enwau'r aelodau eglwysig allan ar goedd, fel yr elai pob un wrth alwad ei enw â'i gyfran i'r casgliad at y weinidogaeth. Rhoddid darn llydan o bren, fel bwrdd, ar ymyl y sêt fawr, a delid ef gan ddau flaenor. Galwai un ohonynt yr enwau allan, a chymerai'r llall yr arian, a chroesai'r enwau oddi ar y gofrestr. Byddai Catrin Gruffydd, yr hen fam dduwiol, yn ofalus dros ben i ddyfod â'r ddwy geiniog i'r casgliad bob mis. Galwai'r ysgrifennydd allan, "Catrin Gruffydd, Tŷ Newydd." Yna codai hithau o'i sedd, â hen het hen ffasiwn am ei phen, gyda mantell fawr amdani, a dwy glocsen ddel am ei thraed, a chyda llais gwylaidd dywedai wrth estyn ei dwy geiniog: Croeswch.'

Eisteddem ni fel teulu ychydig oddi wrthi, a hoeliedig fyddai llygaid pob un ohonom arni pan gludai ei dwy geiniog olaf i wasanaeth ei Gwaredwr ar hyd llawr cerrig yr hen gapel. Hoffem sylwi ar ei dwylo caled, coch, wedi eu hanffurfio dan effaith y gwaith caled a wnâi er ei bywoliaeth, yn estyn y ddwy geiniog i'r trysorydd. Nid unwaith na dwywaith, nage, nid dengwaith chwaith, y cyfeiriodd fy mam ein sylw fel plant at y rhodd fawr a gyfrannai Catrin Gruffydd. Dywedai wrthym yn ddifrifol: "Welwch chi Catrin Gruffydd â'i dwy geiniog? Dywedaf i chwi ei bod yn rhoddi mwy o lawer na ni i gyd." Methem ddyfalu y pryd hwnnw pa fodd yr oedd dwy geiniog Catrin Gruffydd yn fwy na hanner coron fy mam, ond wedi hynny y deellais y dirgelwch.

Cofiaf un tro i Siôn Gruffydd ddyfod i'n tŷ ni i chwilio am damaid o fwyd. Dywedodd fy mam wrtho fod ganddi ryw waith neu'i gilydd iddo i'w wneud; ac yna y caffai ddigon o fwyd. Felly y bu, ac wedi ei ddigoni â bwyd iachus, meddai wrth fy mam: "Oes yna ddim blewyn o faco'r pregethwr yma? 'Rwyf heb flewyn ers oriau bellach." "Diar mi, Siôn Gruffydd," ebe fy mam, dylsech fod yn eitha' bodlon wedi cael eich digonedd o fwyd da, a pheidio â meddwl, heb sôn am ofyn, am faco." "O, na, yn wir, Ffanni Jones," ebe Siôn, " yr ydw' i bron methu gweld ers meitin o eisiau mygyn-ches i ddim heddiw, a 'doedd acw yr un ddimai yn y tŷ, ond dwy geiniog casgliad misol Cadi, sydd yn y jwg ar y cwpwrdd.'

Peth rhyfedd, ynte," ebe fy mam, er mwyn ei dynnu allan," gan fod y fath flys arnoch, na fuasech yn prynu baco â'r pres oedd yn y llestr?"

"O na, yn wir," ebe Siôn, "ni chymerwn y rheini er y byd. Cymerais hwynt unwaith, pan oeddwn bron marw o eisiau mygyn, ac euthum i'r llestr a chymerais y ceiniogau a phrynais faco efo nhw, gan Ann Williams Gorlan Lwyd; ac ni wnaf eu cymryd eto pe bawn farw." "Wel, 'roedd Catrin Gruffydd yn siwr o fod yn dwrdio'n arw pan welodd golli'r arian, Siôn Gruffydd," ebe mam.

"Wel," meddai Siôn, "dywedaf yr hanes wrthych. Nid anghofiaf yr amgylchiad byth. Gwelwn hi yn iro ei chlocsiau, ac yn ymolchi ei hwyneb a'i dwylo ac yn paratoi i fynd i'r Seiat. Crynwn gan ofn iddi fynd i'r jwg, ond ni ddywedais air o'm pen. Dyma hi yn rhoddi ei het am ei phen a'r hen fantell amdani. Yna goleuodd y lantar, ac yna trodd at y cwpwrdd, a gafaelodd yn y jwg. Rhoddodd ei llaw i mewn, ac er ei braw nid oeddynt yno. Dododd

y llestr yn ei ôl a rhoddodd y lantar ar y bwrdd, ac eisteddodd ar yr hen stôl bach, ac wedi peth distawrwydd dywedodd mewn llais toredig: "O! Iesu annwyl, mae dy arian Di wedi mynd! O! beth a wnaf? Yn awr, nid oes ddimai yn fy meddiant i'w rhoddi i Ti, Iesu mawr. Gwyddost, annwyl Iesu, fy mod wedi eu cadw i Ti. Beth a wnaf, Waredwr annwyl? 'Does gen' i mo'r help. Ti wyddostgwyddost Ti y cwbl.".

O," ebe'r hen ŵr, "aeth yn rhy boeth imi aros yno, ac edrych arni'n wylo. Buasai'n well gennyf fyw heb fygyn byth na chymryd arian casgliad Cadi eto, basa'n wir, coeliwch fi. 'Roedd yr arian hynny wedi eu cadw i Iesu Grist ganddi. Pan gai dipyn o geiniogau, i'r jwg y byddai'r rhai cyntaf yn mynd yn ddieithriad."


"Wel," ebe fy mam, "mae wedi mynd i fyw ato Ef erbyn hyn, Siôn Gruffydd." "Ydy'n wir," meddai Siôn. "Os oes rhywun wedi mynd ato, mae Cadi wedi mynd. Byddai'n siarad ag Ef, yn canu iddo Ef, ac yn byw iddo Ef, a hynny pe buasai heb damaid o fwyd yn y tŷ."

Cadi," meddai wedyn ymhen ennyd, "y mae Cadi yno cyn wired â bod nefoedd."

LLYTHYR AT EI NAI (G. M. LL. DAVIES)

ANNWYL GEORGE,

Pwllheli.
20 Awst, 1903.

Heb air o ragymadrodd wele fi yn anfon fy hanes i chwi: rhyw grynhodeb o'm hymweliad â Dolwyddelan.

Cyrhaeddais yno ddydd Iau, y trydydd ar ddeg o Awst. Wedi mwynhau cwpanaid o de yn y Las Ynys, euthum allan i gyfeiriad yr hen chwarel ac ar hyd ei llwybrau, lle y cefais olwg ardderchog o Foel Siabod ac o ben pinacl yr Wyddfa. Hefyd gwelais yr hen lwybr y cerddasai Nanws ar hyd-ddo i fyned a dyfod i'r hen gapel. Ymddolennai'r afon i lawr y dyffryn ac ymddolennai'r llwybr gyda'r glannau. Tybiwn weled fy ewythr, David Jones, yn dilyn ei chamau ar hyd-ddo, a Nanws yn gweddio'n daer ar ei Thad nefol, ac yntau'n gofyn iddi (yn gweiddi am fod sŵn уг afon yn boddi eu lleisiau): "Am ba beth yr ydych yn gweddïo mor daer, Modryb Nanws?'

O, Dafydd bach, gofyn yr oeddwn i i'r Arglwydd gymryd gofal o'm hen gorff i; chreodd Efe 'rioed yr un hyllach, ond hen gorff Nanws fydd o, Dafydd bach."

Yna fe aeth fy meddwl i'w dilyn i'w bwthyn bach tlawd yn y Cae Du. Yno digwyddodd pethau rhyfedd, fel y dywed ei hanes, ond fe ddywedwyd wrthyf mai yn y tŷ nesaf y bu hi farw, ac iddi, ychydig cyn ymadael, ofyn am ychydig ddwfr i'w yfed, a phan ddygwyd ef iddi, dywedodd: "O diolch byth nad yn uffern yr oeddwn yn gofyn amdano." Teimlwn, wrth feddwl amdani: "Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt."

Euthum i edrych yr hen gapel y cariodd Nanws y trawstiau i'w adeiladu, ac O! y fath gysegredigrwydd ar y llecyn o'r ddaear y bu presenoldeb yr Arglwydd yn eu plith. Yr hen lawr wedi ei orchuddio â brwyn am fod y llawr pridd mor wlyb. Yr hen ffenestri bychain yn aros fel cynt. Yr hen gwpwrdd derw lle y cedwid y gwpan ddi-addurn i'w defnyddio i gofio angau ein Gwaredwr. O! y wledd i mi oedd cofio a myfyrio amdanynt. Nanws yn ei lludded â'i dwy glocsen yn cerdded oddeutu dwy filltir i'r hen gapel bach diaddurn. Ie, ond dyna a osodai ogoniant ar y gwasanaeth, fod Duw yno gyda'i bobl. Yn wir, George, teimlwn yn y lle fel pe buaswn yn y Santeiddiolaf, fod y presenoldeb Dwyfol yno. Dyna, mewn gwirionedd, sydd yn rhoddi bri ar addoldai, nid eu gwychder, nid maint cyfoeth y swyddogion, na sain beraidd eu musical instruments. Beth a gyfansodda addoliad ac addoldai cymeradwy gan Dduw? Trueiniaid tlodion yn gwir addoli, mewn symledd a pharchedig ofn.

Bob parch i Nanws yn ei chlocsiau a'i becwn stwff. Mi ddywedaf fel fy nhad, "O! am feddiannu'r un fath stamp o grefydd â mam a Nanws."

Daeth eich mam ddydd Gwener. Aethom heb ymdroi i fyny i Gwm Penamnen, ar hyd yr un llwybr ag y cerddodd ein hen gares Angharad James ar hyd-ddo flynyddoedd yn ôl. Daethom hyd at Glwt y Dawns ar y llaw chwith inni. Yr oedd talp anferth o graig, tua chwe llath o'r ffordd, â'i hwyneb yn wastad. Yno yr eisteddai'r feistres tra fyddai'r morynion yn godro yn y cae bychan gerllaw, lle y gwelir sydd wedi ei amgylchu â gwal isel. Yno deuent â'r cunogau ar eu pennau yn cynnwys y llaeth, a dodent hwy i lawr mewn lle cyfleus, ac yna dechreuai eu meistres ganu'r delyn a dechreuent hwythau ddawnsio bob dydd ar eu ffordd adref o'r fuches.

Aethom ymlaen nes dyfod at hen Blas Angharad James.[2] Yr wyf yn cofio darnau helaeth ohono, pan euthum yno flynyddoedd yn ôl, ond heddiw wedi diflannu, ag eithrio ôl yr hen simdde fawr. Yn y tŷ sydd agosaf ato y bu cyfnither imi'n byw. Cefais de ganddi. Y mae wedi myned i America ers blynyddoedd.

Dydd Sadwrn disgynnai'r glaw fel pe buasai cwmwl wedi torri, a chan ein bod ar derfyn dwy afon, fe chwyddai'r dwfr ynddynt yn ofnadwy. Llanwai nid yn unig wely'r afon ond y caeau a'r dolydd fel môr. O! yr oedd rhyw fawredd ofnadwy yn yr olwg arnynt.

Y dydd Saboth gwyddoch ein hanes.

Y dydd Llun aethom i Berth Eos[3]—gyda'r trên i Roman Bridge, gyda'r afon, a ymdroellai ôl a blaen ar hyd ein ffordd. Daethom i'r Berth Eos. Tŷ newydd sydd yno'n awr; ni adawyd ond yr hen simdde o'r aneddle y magwyd y pum merch harddaf yn y plwyf. Y mae yno y lle mwyaf anghyfannedd a welais erioed, ac i ychwanegu at hynny y mae'r hen adfeilion adeiladau blith-draflith yno: hen ysguboriau, hen dai annedd, hen feudái, hen gytiau moch; ie, y fath aflerwch yn ymyl y tŷ hardd, lle y preswylia yn awr Ellis Williams a'i chwaer.

Daethom adref heibio i'r hen Dan y Castell, ac mor ddigalon oeddym wrth edrych ar yr olwg adfeiliedig, fel yr oeddym am fyned heibio ar hyd y ffordd heb fyned ato, ond fel y nesaem, gwelem ŵr dieithr a'i wraig yn sefyll yn agos i'r gof-golofn ac yn ysgrifennu'r argraff a oedd arni yn ei lyfr.

"Wel," meddwn wrtho, "yr ydych wedi dod yma, y mae'n debyg, i'r un neges â minnau, sef i weled hen gartref John Jones, Talysarn." Wedi peth ymddiddan fe ddywedodd ei fod yn adnabyddus â'm tad. Yr oedd am ysgrifennu'r hanes i'r Faner—y Faner Fawr ydyw. Fe ddymunwn ei chael, os gallwn, ddydd Sadwrn: y mae'n olygydd iddi. Yr oedd ei barch at fy nhad yn ddiderfyn.

Yna aethom i'r Las Ynys i gael te, ac aethom i weled hen wraig dlawd yn byw ar y llwybr sy'n myned i Gapel Curig, heibio i'r Singrig, tai bychain, llwydaidd ddigon. Cwynai rhyw wraig wrthym fod rhywbeth ar y tatws eleni. Poor thing! Dyna ei "stâd" hi—yr ardd. Yna dringasom i fyny. Daethom i gyfarfod â lluaws o visitors yn drachtio dwfr y ffynnon fach loyw, lân, ar ochr y ffordd gul, cwpan garu ganddynt.

Yna daethom i olwg rhes o dai bychain tlodion, a elwir y Barracks, yng nghesail y mynydd, o'r golwg ac o gyrraedd y ddrycin yng nghysgod y graig; aethom i ofyn am dŷ Mari Jones. Dyma hi'n dyfod. Tebyg iawn i Siân Jones, y Garnedd, ei gwisg yr un fath, ac yn ysgafndroed fel hithau. Yr oedd merch iddi'n byw gyda hi, geneth gloff iawn. Wel, pe gwelsech chwi i gyn lleied o le y gall amgylchiadau gyfyngu ar greadur dynol. Un ystafell fechan, y gwely yn y gongl, y bwrdd bach wrth y tân, y cwpwrdd ac ychydig lestri ar ryw silffydd, ffenestr bach ac ychydig o hen lyfrau hen, hen. Fe ddywedodd wrthym fod y Person wedi ei pherswadio i werthu hen Feiblau tri chant oed iddo fo. Yr oedd yn ddrwg gennym iddi wneud, oblegid hen Fethodist ydyw hi a'i theulu erioed.

Wel, fe gawsom sgwrs â hi. Cofiai bopeth, a chefais lawer iawn o eglurhad ar hen hanes mewn perthynas â Than y Castell, oblegid bu'n byw flynyddoedd yn ymyl y tŷ, mewn bwthyn sydd yn awr wedi myned yn adfeilion, yn y lle y mae fy mrawd wedi plannu coed.

Yr oedd fy nain yn byw yn y tŷ nesaf i'r afon, a'r ty croes yn un tŷ, a modryb Margiad yn y tŷ canol. Wedi hynny aeth fy nain i'r tŷ croes, a rhoes y tŷ nesaf i'r afon i Modryb Mary. Pan oedd fy nhaid yn fyw, yr oedd y teulu'n byw yn yr holl dŷ. Hen blasty ydoedd, ond pan briododd y merched a marw fy nhaid fe'i rhannwyd yn dri thŷ.

Fe anwyd tri o blant i'r hen wraig, a'm nain oedd y doctor, ac yn ddoctor i'r holl wlad y pryd hwnnw. Dywedai am fam Cadwaladr Owen, a oedd yn byw yn Nhalaldrach, ei bod yn myned i le bach yn agos

i'r afon-hen gwt bach-ac yn cymryd bara gyda hi ac ychydig ddwfr, ac yna yn cymryd yr ordinhad i gofio am farwolaeth y Gwaredwr. Ni allai fyned i'r capel gan henaint.

Gwelais y Garnedd, y Coetmor a'r Gorddiner wrth ddyfod o Ddolwyddelan yn y trên cyn entro'r twnel. Cwm tebyg i Ben Amnen ydyw, yn cau pob thoroughfare i fyny. O! mor berffaith dlws a rhamantus ydyw.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
George Maitland Lloyd Davies
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Jones, Tal-y-sarn
ar Wicipedia

Nodiadau golygu

  1. Darn o lythyr yw'r bennod hon, ac fe'i hargraffwyd fel yr ysgrifennwyd
  2. Gweler ei hanes yng Nghofiant David Jones Treborth. Trigai yn "Y Parlwr," Cwmpenamnen, yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae peth o'i barddoniaeth gywrain ar gael. Yr ydoedd yn nain i fam John Jones.
      Mae erthygl am y pwnc:
    Angharad James
    ar Wicipedia
  3. Cartref Elinor ach Rhisiart, mam John Jones.
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.