Athrylith Ceiriog/Pennod 1
← Amseroni Ceiriog a rhai o'i Gyfoeswyr | Athrylith Ceiriog gan Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Pennod 2 → |
ATHRYLITH CEIRIOG
(TRAETHAWD BEIRNIADOL).
Music and sweet poetry agree,
As they must needs, the sister and the brother.
*****
One god is god of both, as poets feign;
One knight loves both, and both in thee remain.
—Shakspere.
Pennod 1.
YN un o'i lythyrau dyddorus at Edward Richard of Ystradmeurig, sylwa Lewis Morris ar brinder a thlodi awenyddol "caneuon" Cymreig. Sonia am Huw Morus fel tad y dosbarth arbenig hwn o farddoniaeth delynegol. Dywed:-"Ni fu genym erioed gân dda cyn ei amser ef, nac un ar ei ol (a welais i) yn gydradd âg ef; ac wrth ystyried na dderbyniodd addysg haelionus, ychydig o nghoethedd sydd yn ei iaith,—fel pe byddai Natur wedi ei fwriadu i fod iddi yn anwylyd-eos."[1].
Y mae yn syn mai dyma'r ffaith. Pan gofir fod yr elfen delynegol mor rymus ac mor aml-bresenol mewn barddoniaeth Gymreig, naturiol yw holi paham mae y "caneuon" mor brin, ac mor ddiweddar yn ymddangos?
Y mae y gofyniad yn arwain yr efrydydd llenyddol ar unwaith i ganol ystyriaethau dyrys ac anorphen. Y mae hanesiaeth yn dwyn ei thystiolaeth ddiamwys fod yr urdd farddol yn cael ei chydnabod a'i hanrhydeddu yn nghyfundrefn offeiriadol y Derwyddon. Os oedd beirdd Cymreig yn amser Cæsar, pa le mae eu barddoniaeth? Os bu telyn y bardd yn tanio eneidiau dewraf Frythoniaid ar gâd-faesydd yr oesau—amser hir cyn i'r Normaniaid adael cad-faes Senlac yn orchfygwyr—pa beth ddaeth o'u rhyfelgan? Y mae gofyniadau o'r fath, fel llewyrch mellten ar for ystormus, yn lled-awgrymu faint yw llenyddiaeth golledig y Cymry. Adroddwyr, ac nid ysgrifenwyr, oedd ein beirdd boreuol; ac y mae cynyrch eu hawen wedi diflanu fel cân ehedydd ar foreu Mehefin gan' mlynedd yn ol.
Y mae yr hen alawon Cymreig wedi colli y geiriau a roddodd enw iddynt ar y cyntaf. Mor ddifyr—ac mor ofer—yw ceisio dy falu beth allasai fod y geiriau gwreiddiol i "Ymdrech Gwyr Harlech." neu "Serch Hudol," neu "Blygiad y Bedol Fach?" Pa fardd a chwareuodd ei delyn o dan ganghau "Llwyn Onn," neu yn ngoleuni hudolus "Toriad y Dydd?" ac yn mha gymanfa Dderwyddol y clywyd gyntaf nodau nwyfus "Hob y deri dando?" Nid yw hyn eto ond profi mor ychydig a wyddom am lenyddiaeth golledig y Cymry.
Ar lafar gwlad ceir heddyw aml i benill di-berchen, na ŵyr neb ei oedran na'i haniad. Cyfeiria Ceiriog at un ohonynt yn Y Bardd a'r Cerddor, yn ei ddull nodweddiadol ei hun: "Dyma ddarn o hen bill y byddaf yn dotio wrth ben ei ysgafnder soniarus—
Mae genyf ebol me'yn
Yn myn'd yn bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed."
Mewn mwy nag un o Border Ballads yr Alban ceir yr un dychymyg: cydmarer—
For he is golden shod before, And he is golden shod behind.
Creadau llenyddol y Celt yw y baledau hyn. Ai gormod yw meddwl fod y penill Cymreig a'r penill Albanaidd yn tarddu o'r un ffynonell henafol? mai aralleiriad ydynt o ryw benill annghofiedig fu unwaith yn feddiant cyffredin y Celt.
Meddylier eilwaith am y Penillion geir mewn casgliadau hynafiaethol fel Cymru Fu, neu Geinion Llenyddiaeth Gymreig. Y mae rhai ohonynt mewn gwirionedd yn geinion: y mae lliw athrylith arnynt. O ba le y daethant? Pa awdwr annghofiedig a'u canodd ?
Y mae gofyniadau fel hyn yn ein tueddu i ragdybied fod aml i fardd cân wedi bod yn Nghymru, a'i waith wedi goroesi ei enw. Er hyny, nid gwrthddweyd sylw Lewis Morris yr ydym, yn gymaint ag ychwanegu ato, fel na wnaer cam â theulu'r "annghofus dir."
Nodiadau
golygu- ↑ Y Cymmrodor, i. 148; et passim