Athrylith Ceiriog/Pennod 3

Pennod 2 Athrylith Ceiriog

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

Pennod 4

Pennod 3.

CYN myned yn mhellach, y mae yn angenrheidiol aros enyd i olrhain y dylanwadau llenyddol fuont yn creu yr awydd a'r dalent yn meirdd yr oes ddiweddaf i ganu Caneuon. Nid oes damwain yn myd llenyddiaeth, fwy nag yn nghylchoedd eraill Rhagluniaeth Ddwyfol. Y mae mantell un cyfnod llenyddol yn disgyn ar gyfnod arall, newydd; ac y mae yn naturiol i orchest gyntaf y cyfnod newydd fod o'r un ansawdd a gorchest olaf yr hen gyfnod. Hollti yr Iorddonen oedd gwaith diweddaf mantell Elias; a gwaith cyntaf y fantell yn llaw Eliseus oedd hollti yr un afon. Arwrgerdd Dante oedd llais olaf crefydd y Canol-oesau, fel cân yr alarch wrth farw: arwrgerdd Milton oedd llais cyntaf duwinyddiaeth y cyfnod newydd.

Tua diwedd y ganrif ddiweddaf bu deffroad egniol yn mhlith llengarwyr Cymreig. Cyn y deffroad, yr oedd ein barddoniaeth foreuol yn drysor annghofiedig; a chwedloniaeth hudolus y Mabinogion mor anhysbys bron a gorphwysfan Arthur Fawr yn ogof Craig-y-Dinas. Ond wedi y deffroad, daeth llenorion ein gwlad i edmygu gwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd; a thryw hyny i gymdeithasu â symlrwydd a morwyndod Anian. Pa ddychymyg diwylliedig all gerdded cadfaes y Gododin yn nghwmni Aneurin, heb ddyfod i hoffi ieithwedd loyw, ddiaddurn y bardd? Pwy all wrando gyda Gwalchmai ar "fawr lafar adar" "chathl foddawg coed" neu wylio

Gwylain yn gware ar wely lliant,
Lleithrion eu pluawr,

—heb ddysgu bod yn gariadus at hyfrydedd a pheroriaeth Anian? Ac yn fyw byth, pwy all rodio meusydd gwanwynol y Mabinogion, neu ddilyn. darfelydd ramantus Dafydd ab Gwilym, heb i'w enaid ymgolli yn swyngyfaredd Anian? Diau mai ein llenyddiaeth foreuol fu un o'r dylanwadau mwyaf grymus i ysbrydoli barddoniaeth delynegol y ganrif bresenol.

Pan ysgrifenodd Lewis Morris ei gân i" Forwynion glân Meirionydd," dechreuodd gyfnod newydd o Ganeuon Cenedlaethol. Ychydig o ddim ond seiniau sychlyd a geir yn ngharolau Dafydd Jones, o Drefriw, a'r frawdoliaeth ddi-awen hono. Y mae y casgliad a gyhoeddwyd dan yr enw coeg-falch, Blodeugerdd Cymru, yn gofadail anfarwol i athrylith crachfeirdd. Gellid tybied mai gwaith yr oes oedd hela cydseiniaid, er mwyn gwneud llinellau doniol fel hyn—

Y liwgar olygus, gais seren gysurur,
Lon heini lân hoenus, a dawnus ar dw'.

Onid ydyw yn seingar?—ac yn feddal?

Y mae yr un trachwant am swn cynghaneddol yn blino Huw Morus a Twm o'r Nant—y maent yn foddlon i aberthu natur a synwyr ond iddynt gael y dinc ogoneddus. Yn hyn y mae Lewis Morris yn dangos dylanwad y cyfnod newydd. Nid yw yn gwrthod ychydig gynghanedd, "os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth." Ond yn ei ganu ef, yr ymgais gyntaf yw bod yn naturiol. Yr oedd ei gydnabyddiaeth â llenyddiaeth henafol ein cenedl wedi ei ddysgu i hoffi y syml, y nwyfns, a'r cryf.

Tra yr oedd Lewis Morris yn y Gogledd yn arwain y gwrthgiliad llenyddol o dir sychlyd y segurwyr cynghaneddol, yr oedd symudiad gyfochrog yn myned yn mlaen yn y Deheudir. Ni allasai caneuon tyner Wil Hopcyn, a bugeilgerddi Edward Richards—gyda'i "chediadau ysgafn a mirain, mor hoyw ag awel y rhosdir "—ni allasent lai nag enyn hoffder newydd at symlrwydd Anian. A phwy all fesur dylanwad yr Emynydd o Bantycelyn yn y cyfeiriad hwn? Siaradai ei emynau aith y werin, a chyrhaeddant galon y werin fel gwlith y nos yn disgyn ar y blodeu.

Fel hyn yr oedd cydgasgliad o ddylanwadau, yn enwedig tua diwedd y ganrif, yn arwain yr awen Gymreig i ddysgu canu ei thelyneg ar fin y nant fynyddig, dan gysgod murmurol y goedwig, ac ar ben y bryniau llonydd.

Ond heblaw y dylanwadau brodorol fuont yn addfedu y gyneddf delynegol yn ein gwlad, rhaid hefyd nodi y dylanwadau tramor—yn enwedig o ddwy ffynonell: Robert Burns yn yr Alban, a Béranger yn Ffrainc. Ganwyd y blaenaf ar lanau'r Doon, yn 1759; a'r olaf yn Paris yn 1780. "Yr oedd y ddau," medd Dr. Charles Mackay,[1] "yn fawr ac yn boblogaidd; a dylanwadodd y ddau yn ddwfn ar feddyliau cu cydwladwyr. * * * Yr oedd y ddau yn wladgarwyr, ac ysbrydolwyd hwynt gan adgof am wrhydri eu gwlad yn y gorphenol. Bron na ellir dweyd fod gorsedd ymherodrol Ffrainc yn gorphwys ar ysgwyddau Béranger, y fath oedd poblogrwydd ei ganeuon yn mhlith y werin a'r miloedd. Er mwyn boddloni y teimlad cenedlaethol pan fu farw, gorfu i'r "unben mwyaf mawreddog a lywiodd Ffrainc erioed" drefnu gos—gordd o gan' mil o wyr arfog i ddilyn ei arch. Nid cedd y bardd wedi codi byddin, nac wedi tynu cledd—dim ond wedi canu!

Am Burns—afraid yw siarad. Caiff Carlyle ei fesur yn ei iaith rymus, dymhestlog: "Pa le bynag y siaredir tafodiaith Seisnig, dechreuir deall, trwy arolygiaeth bersonol hwn a'r llall, mai un o'r Sacsoniaid mwyaf ystyrgar yn y ddeunawfed ganrif oedd gwladwr yn swydd Ayr o'r enw Robert Burns. * * * Darn o graig Harz, a'i syflaen yn nyfnderau y byd;—craig, ond fod ynddi ffynonau o diriondeb byw! Yr oedd rhuthrwynt gwyllt o nwyd a gallu yn cysgu yn dawel yno; a'r fath beroriaeth nefolaidd yn ei chalon. Diffuantrwydd garw pendefigaidd; cartrefol, gwladaidd, gonest; symledd didwyll cryfder; gyda'i fellt—dân, gyda'i dosturi gwlithog-dyner!"[2]

Bu ei awen yn ddeffroad cenedlaethol i'r Alban: ymdaenodd y dòn frwd i Loegr, i Ffrainc, ac i'r Almaen, heb annghofio "Cymru fechan, dlawd."

Wrth ddweyd fod Burns a Béranger wedi dylanwadu ar feirdd a barddoniaeth Gymreig, camsynied fyddai tybied mai yr hyn a feddylir yw fod ein beirdd wedi darllen eu cynyrchion. Y dylanwad a olygir yma yn benodol yw y brwdfrydedd cyfrin sydd yn cael ei drosglwyddo yn y byd llenyddol—mor dawel, mor guddiedig, mor ysbrydol ag adfywiad y gwanwyn. Ni chlywir llaw yn gweithio, na throed yn cerdded, nac aden yn ysgwyd yn y dolydd ac ar y llechwedd: ond yn ddwyfol ddistaw daw meillion Mai yn lle oerni Chwefror. Y mae pob bardd mawr, newydd, yn creu yni o'r fath: cerdda ei ysbryd yn mhellach na'i waith.

Ond yn y pwnc dan sylw, bu Béranger, ac yn enwedig Burns, yn adnabyddus i'n Beirdd yn uniongyrchol trwy eu gweithiau. Dywed Llyfrbryf fod Talhaiarn yn hollol gydnabyddus â chaneuon Béranger. Ac yn "Nyddiaduron Eben Fardd," o dan Tachwedd 28, 1858, ceir y cofnodiad canlynol:

ANFON barddoniaeth Ffrengig Béranger i fy anwyl James (sef i'w fab).[3]

Dengys hyn oll fod darllen ar Béranger wedi bod unwaith yn Nghymru.

Yr ydym yn awr mewn safle i dynu ein casgliadau fod y gyneddf a'r awydd i ysgrifenu caneuon Cymreig wedi eu hysbrydoli gan gydnab—yddiaeth â llenyddiaeth hynafol ein gwlad, a thrwy hyny â symledd Anian; ac fod y symudiad hwn wedi ei adgyfnerthu gan ddylanwadau tramor i ryw raddau. Un o blant, ac hefyd un o arweinwyr, y symudiad hwn oedd Ceiriog. Y mae hwn yn wirionedd ac yn egwyddor gyffredinol—fod plentyn athrylithgar pob symudiad mawr yn dyfod yn y diwedd i reoli y symudiad.

Ychydig o fudd sydd mewn prisiadau llenyddol. Y mae dweyd fod un athrylith yn fwy nag athrylith arall, yn dangos mwy o fympwy nag o farn. Pa le y saif Ceiriog, o'i gydmaru â Burns a Béranger, ni'm dawr. Nid oedd mor wreiddiol a Burns, act nid oedd mor danllyd a Béranger. Ond nid yw ei lyfnder a'i lendid yntau gan un o'r ddau. Dyfyrwch i Bérangor oedd goganu diweirdeb, a gwneud duw o serch halogedig. Nid yw Burns mor wynebgaled; ond, a dweyd y lleiaf, gwyddai yntau'r gofid o gysegru pechod. Ar y tir hwn, beth bynag, y mae Ceiriog yn "anrhydeddusach na'i frodyr." Nid yn fostfawr drahaus y dywedir hyn,. ond mewn diolchgarwch gwylaidd.

Nodiadau

golygu
  1. The Nineteenth Century, vii., 484: "Burns and Béranger."
  2. Heroes and Hero-Worship, chap. v. 175.
  3. Gwel Y Traethodydd, am Ion. 1888, 58. Pan ystyriom grefyddolder Eben Fardd ac anweddaidd-dra difloesgni llawer o ganeuon Béranger, yr oedd hon yn rodd anmwys.