Atolwg, Arglwydd, gwrando
← | Atolwg, Arglwydd, gwrando gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) |
Pechadur wyf, O! Arglwydd → |
523[1] Pwyso ar Drugaredd.
76. 76. D.
1 ATOLWG, Arglwydd, gwrando,
Rwy'n curo wrth dy ddôr
Gan deimlo 'maich yn drymach
Na thywod mân y môr:
Er cymaint yw fy llygredd,
Mwy dy drugaredd Di;
O! crea anian fywiol,
Anfarwol, ynof fi.
- Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 523, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930