gan Hywel ab Owain Gwynedd
- Karafy amsser haf amassthyr gorwt;
- gorawenus gly rac glew arglwyt.
- Gorewynawc tonn tynhegyl ebrwyt;
- gorwisgwys auall arall arwyt.
- Gorwenn uy ysgwyd ar uy ysgwyt; y dries
- kereis ny gefeis gefei awyt.
- Keciden hirwenn hwyrwan ogwyt,
- kyfeiliw gwenn wawr yn awr echwyt,
- klaer wanllun wenlletyf wynlliw kywyt.
- Wrth gamu brwynen breit na dygwyt
- bechanigen wenn wann y gogwyt.
- Bychan y mae hyn no dyn degmlwyt,
- mabineit lunyeit lawn gweteitrwyt.
- Mabdysc oet idi roti yn rwyt;
- mabwreic mwy yd feic fenedicrwyt ar wenn
- no pharabyl or phen agymhenrwyt.
- Petestric iolyt am byt y eilwyt?
- Pa hyd yth yolaf? Saf rac dy sswit.
- Adwyfy yn aneudret o ynuydrwyt caru;
- nym keryt Iessu y kyfarwyt.