gan Hywel ab Owain Gwynedd

Uyn dewisy riein uirein ueindec,
hirwenn yny llen lliw ehoec.
Am dewis synhwyr synhyaw ar wreicteit
ban dweid o ureit weteit wouec.
Am dewis gydrann gyhydrec a bun
a bod yn gyurin am rin am rec.
Dewis yw gennyfy hartliw gwanec
y doeth yth gyuoeth dy goeth Gymraec.
Dewis gennyfy di. Beth yw gennytty ui?
Beth a dewi di, dec y gostec?
Dewisseisy vun ual nad atrec gennyf:
Yawn yn dewissaw dewistyn tec.