gan Hywel ab Owain Gwynedd

Pann ucher uchet, pann achupet freinc
pann ffaraon foet,
pann vu yryf am gyryf am galet,
pann vei aryf am varyf a vyryet;


yng goet Gorwynwy yng gordibet Lloegyr
a llygru y threfet,
llaw ar groes, llu a dygrysset;


a llad a lliwet a gwaetlet y levyn
a gwaetliw ar giwet
a gwaetlen am benn a bannet
a gwaetlan a grann yn greulet.