Awdl i Foredydd ab Llewelyn, o uwch Aeron

gan Deio ab Ieuan Du

Mae M'redydd ddeurudd Aëron, ab Cynfarch
yn canfod Cerddorion;
mae'r Aur Rhudd, mawr a rhoddion.
Melys yw, canmol a Sôn!


Mawr yw Son, Beirddion, am en bûdd a'u Gwin
ag ynnil dadanudd;
mawr ydyw'r dawn Meredudd!
mwy yw'r Gras, ymrïg ei Rudd.


Meredudd deurudd y Cerddorion
arno, Gwyl Iago, mae golygon?
gwirod taladwy, a gae'r Tlodion,
gwïn Osai, a fydd gam ei Weifion;
gwïn, o Gaerfyrddin, i feirddion, a Chlêl
gwedi i'r haedder, gydâ rhoddion.


Gweldd Fyrddin, a'i chwaer gwelodd Feirddion,
seigiau ar ddrysau, heirdd a roeson;
y Llynn Arogl, llyna yr Awron,
i'r Cwmmwd Perfedd, gwledd golyddon:
Drysau, Neuaddau, newyddion ,bob dau,
y Bwydau, a'r Seigiau'n wresogion.


Irlwyn, Ifor Hael, ar lann Afon,
ym Morgannwg.. gynt muriau gwynnion;
Tai Carrig ymrig, Ceredigion,
ynglann Massaleg, ag Anrhegion;
Tir Padarn, a farn, hyd Fon, mam Gymry
a Gwr a ddyry, i Gerddorion.


Pan ballai ereill, o'r cyfeillion,
yno y rhoddai, ynn' Aur rhuddion;
Nid unrhyw, yr Yw, a gwydd yr Onn,
nid ydyw'n debyg Pendefigion;
nid un fydd crynwydd, crinion, heb gynnydd
bennydd ag Irwydd, a ddwg Aëron.


Meredudd, yw Nudd, Awenyddion,
mawr ydyw heddyw, dy Wahoddion!
mab LLewelyn, llynn, y dillynnion,
mae rhif y gwlith, o bur Fendithion;
mae Ced, a gwiwged, Gwgon a'i Gleddrudd.
meredudd, waywrudd, un o'i Wyrion.


Iawn yw ynn' goffa ein hen gyffion,
ach Llowdden, a Gwenn, hyd ar Ganon;
iawnach yw euro, yn Uwch Aëron,
na llawer marchog Ynghaer Llëon;
uchel iawn ydyw ei wychion belydr,
o'i Achau gwelydr, uwch eu galon.


Calon Uwch Aëron, a chiried, bîoedd
hyd Bowys gwlad Ddyfed:
Cnewyllyn Cynfyn, pob Ced,
cawn o'i fodd, cynn Ufudded.


Maredudd, Ufudd, ddefod, hael wellwell
hil Olwyn ab Cadrod;
mae yn rhwym, mewn rhyw Ammod,
morc i'r Glêr, mawr i cae'r glôd!


Af a'i glod, mal ôd, mawr wydd, drwy Battent
Talu Rhent tâl Aur rhudd;
af i'w Blas ef heb o ludd,
af a'r Awdl, i Feredudd.