gan Dafydd ap Gwilym

Da y rhed ar waered, arw oror, - olwyn,
neu wylan ar ryd fôr;
deuwell y rhed, buddged bôr,
Diwydd wyf, dy wawd Ifor.


Da fydd plethiad mad y môr - a'i hirwlych
i herwlong raff angor;
gwell y plethaf, ddewraf ddôr,
gwawd y tafawd yt, Ifor.


Cyfyd yt hawdd fyd, fadiain bôr, - gennyf,
ac annwyl hawddamor;
cad drachyfarf, ddurarf ddôr,
cedyrn ofn, cadarn Ifor.


Ni thyf caen llen maen llanw môr - rhyferthwy,
rhwyf Arthur neu Ector,
mygr ateb, ddihaereb ddôr,
mal y tyf mawl yt, Ifor.


Nŵr bryd byd wryd bedeiror - giwdawd,
a Naf o logawd nef oleugor,
neirthiad fo Efô ar fôr - a llawrlen,
nen y ffurfafen, i ffyrf Ifor.


Newidiwr, trwsiwr trysor - a moliant,
normant glud goddiant, glod egwyddor;
naddiad arf aergad ar faergor - Einglgawdd,
nawdd, mµr a rwyfawdd, Mair ar Ifor.


Nawd braisg Ercwlff waisg wisg borffor - lathrsiamp
a Nudd oreugamp neddair agor.
neud berth a chyngerth wrth angor - deifrblas,
nid bas rhygafas rhywiog Ifor.


Ni byddai lle bai bell hepgor - arnaw,
ni bwyf fi hebddaw, barawdlaw bôr.
ni bydd anrhegydd un rhagor - nac uwch,
ni bu ogyfuwch neb ag Ifor.


Hardd eisyllydd rhydd rhodd ddidor - meddlyn
helmwyn Lywelyn, wawl gychwior.
heddiw nid ydyw didwyll iôr - gwyndal
hafal, hawl ddyfal, hylwydd Ifor.


Hawdd ddydd ym y rhydd gyngor - ddangos,
hawdd nos hedd agos hoyw eiddigor.
hawdd ymwrdd ym mwrdd, hawddamor - beunydd,
hawdd fyd bryn brawdffydd ufudd Ifor.


Hawdd mawl mal uchdawl Echdor - yn nherfysg,
hawdd ffysg Deifr unddysg, â 'r dew fronddor.
hwyliais a chefais â chyfor - durfyng
hail diogyfyng haeldeg Ifor.


Heirdd digeirdd, i feirdd fawrddor - dariangrwydr,
hoyw frynarwr brwydr Hafren oror.
hir oesog fu Noe, haer aesor - facwy,
hwy, huawdl ofwy, fo hoedl Ifor.