Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain/Testyn y flwyddyn 1804

Awdl gan Dafydd Owen, y Gaer Wen Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain

gan Cymdeithas y Gwyneddigion

TESTYN Y FLWYDDYN 1804, yw

YNYS PRYDAIN, a'i hamddiffyniad rhag Estron Genedl.

Ymhlith syniadau eraill a weddant i'r Testyn, bydded cof moliannus am ein hen Wrolion Ardderchawg; megis

1. CASWALLAWN, a yrrodd ffo gwradwyddus ar IWL CAISAR a'i Rufeiniaid.

2. CARADAWG AP BRAN, (Caractacus) a ryfelawdd yn llwyddiannus yn erbyn Gwyr Rhufain, gan eu curaw yn dost mewn mwy na thrugain brwydr, yn yspaid naw mlynedd; efe a fradychwyd o'r diwedd gan Ddihires a'i henw AREGWEDD FOEDDEG; ffieiddier ei chóf yn dragywydd.

3. ARTHUR, Rhyfelwr clodfawr yn erbyn y Saeson, efe ai torrai i lawr a'i gledd a elwid Caledfwlch, megis medelwr a'i grymman yn llorio 'r Gwenith ar y maes.

4 OWAIN GLYN DYFRDWY, y mwyaf o'n mawrion, ac ystyried amgylchiadau a chyfyngderau yr amser y bu ef; erchyll ei ymgyrch yn erbyn Gelynion gormesgar y Cymry.

Rhagoriaethau Ynys Prydain yw ffrwythlonder: ei dacar, a'i llawnder o bob cyfreidiau bywyd. iachusder ei hawyr, harddwch ei hwynebpryd. Ei dysgeidiaeth a'i chelfyddydau, a phob Gwybodau a weinyddant gyfreidiau a chysuron i'w thrigolion.

O chymerir pob peth i'r cyfrif, gorau a dedwyddaf o bob cwr o Ynys Prydain yw Gwlad Cymru. Digonedd ynddi at gynnaliaeth bywyd, hynod yw harddwch ei daearlawr. Clodfawr am ei bucheddoldeb, a hynny yn bennaf am nas ceir yn ein hen Iaith odidog y cyfryw anfoesoldeb a phethau drygionus ag a welir mewn Ieithoedd eraill, yn gwenwynaw meddyliau, ac yn llygru cynneddfau a siaradont y cyfryw ieithoedd; gwilied Beirdd Cymru yn ofalus rhag llithro i'r Gymraeg y cyfryw ffieidd-dra; Dyledswydd anhepcor arnynt yw hynn, yn enwedig ar y rhai nad ydynt yn ymfoddi, corph ac enaid, mewn cwrw. Dealled rhyw un, a chofied o ba uchelder y syrthiodd."

Bydded yr awdl ar rai o'r pedwar mesur ar hugain, nid ar y cwbl o honynt, goreuon y bernir Toddaid; Hir a Thoddaid; Byrr a Thoddaid; Gwawdodyn hir, Gwawdodyn byr; Cyrch a Chwtta; mesurad da hefyd yw'r Gyhydedd fer, a'r Gyhydedd naw-ban; a gellir ar bob un o'r rhai hynn,cynnal synwyr cadarn a gloyw, gyda chynghanedd; gellir hefyd, yn ol arfer yr hên Feirdd, rhagarwain yr awdl a gosteg o bump neu chwech englyn. Gobeithiwn fod oes folinebau y coegorchestion wedi myned heibio yn llwyr, a chaned bawb—

Dos yn iach bellach o'r byd,
A chilia heb ddychwelyd.

Barn y Gwyneddigion yw mae Caernarfon yw'r lle mwyaf cyfleus yng Ngwynedd i gynnal yr Eisteddfod, ddydd gwyl Mihangel, 1804.

Y GWYNEDDIGION.

Thomas Roberts, Trysorydd y Gymdeithas, No. 9, Poultry, London.




DIWEDD.

Nodiadau

golygu