Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain (testun cyfansawdd)

Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain (testun cyfansawdd)

gan Cymdeithas y Gwyneddigion

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Goronwy Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gwyneddigion
ar Wicipedia



Chwith

AWDLAU

COFFADWRIAETH

AM Y

PARCHEDIG GORONWY OWAIN:

SEF TESTYN

CYMDEITHAS Y GWYNEDDIGION,

Yn 1803.

Ac am yr Awdl gyntaf, o waith Gruffydd
Williams, y rhodded Bathodyn Arian.




LLUNDAIN:
Argraffwyd gan T. JONES, Heol y Capel, Soho.

AWDL

COFFADWRIAETH AM Y PARCHEDIG

GORONWY OWAIN.

BRIW! braw! brwyn! mawr gwyn gacth!bradwy yn awr
Brydain wen, ysywaeth!
Dros Gymru llen ddu á ddaeth;
Anhuddwyd awenyddiaeth.

Och! och! ys gorthrwm ochainmawr ynof
Am Oronwy Owain,
Per wawdydd, prif fardd Prydain,
Sy wr mud îs âr a main.

Carwr, mawrygwr,Cymreigiaithydoedd,
Awdwr prif orchestwaith,
Wrth wreiddiol reol yr iaith,
Braw farw hwn, brofwr heniaith!


Meddiannydd mwy o ddoniauac awen
Nag un yn ei ddyddiau:
Prydai gerdd (pa'nd prid y gwau?)
Gyson heb ry nag eisiau.
Yn iach awen a chywydd!
Darfu am ganu Gwynedd:
Duw anwyl! rhoed awenydd
A doniau byd yn y bedd!

Ow! dir Môn, wedi rhoi maethi esgud
Wiw osgordd gwybodaeth:
Och! ing a nych! angau wnaeth
I fro dewrion fradwriaeth.

Diwreiddiwyd ei derwyddon,
A'i beirdd sad: mae yn brudd son!
Gwae 'r ynys, aeth Goronwy
Ni bu ei fwy neb o Fôn.

Prif flaenawr mawr yn mhlith myrdd
O awduron hydron heirdd;
Bydd gwastad goffad o'i ffyrdd
Yn oed byd, ynad y beirdd.

Gorawen nef i'r gwr nod:
Uwch Homer cerddber y caid;
A chyson gathl uwch Hesiod,
Goreugerdd feirdd y Groegiaid.

Llyw barddas uwch Horas hen,
A Virgil gynnil ei gan,
Er rhwysg Rhufein-feirdd a'u rhin,
Gwr o enw mwy G'ronwy Mon.

Bu yn hyddysg, arwyddfardd bonheddig.
Coffau hen dreigliadau dirgeledig
Brython, a'u hachau, raddau mawrŷddig.
Chwith, hylaw athraw, a'i chwe iaith lithrig,
Bod yn ei ol! byd anelwig! mwyach—
Yn iach! ni wys bellach hanes bwyllig.

Tlysach na gwawd Taliesinyw ei waith,
Neu araith Aneurin;
Mwy ei urddas na Myrddin,
Ac uwch Dafydd gywydd gwin.

Edrychais, ymdreuliais dro,
Am raddol gymmar iddo,
Trwy fawr gyrch—tra ofer ais:—
Ni welais:—traul anolo.

Ni bu Brydain geinwen heb radau
Yr awen fawrwyrth er yn forau,
A choffa hoenwawd i'w chyffiniau,
Gan dderwyddon; mwynion emynau,
A beirdd uniawn, ewybr ddoniauenwog,
Syw, aurdorchog, godidog deidiau.

Goronwy gwr hynod o'r pendodau,
Ebrwydd lafurwyr yn eu beirddlyfrau:

Odid o'r beirddion, diwydion dadau;
Y bu un awdwr yn ei bennodau,
Mor ddestlus, fedrus fydrau,mor berffaith
Mewn iaith, iesin araith, a synwyrau.

Manwl a digwl y gweinidogodd;
Hud a gorddwy a phob gwyd gwaharddodd;
Rhagfarn, rhagrith, a gaulith ogelodd;
A mawl Iôn i blith dynion á daenodd;
Ac iddynt efe gyhoeddodd yn dwr
Enw y Creawdwr, i'r hwn y credodd.

Er trallodion gofalon filoedd
Bu lawen dirion mewn blinderoedd,
Gan wir gofiaw llaw a galluoedd
Duw Ior i'w weision hyd yr oesoedd:
Ei awen ber o'r dyfnderoeddisel
Ehedai 'n ufel hyd y nefoedd.

Bu trachyweithas bob tro chwithig
Yn hynt ei fywyd, fyd tarfedig.
Uthrol dro nodol dirwynedig
Troi o'r blaenawr mawr i Amerig:
Truenus beirddion, tra unig o'i ol:—
Tra niweidiol fu'r tro enwedig.

Yma poenwyd am y penial;
Yntau wrda hwnt o'i ardal
Yn bwrw einioes mewn bro anial:—
Trwm o'r ddwyochr, tramawr ddial!


Trymaf trethiad, breuddwyd irad, briddo dewrwas
Yn Virginia, llin hen Droia, 'n Llan Andreas.

Budd na chyfoeth na bedd ni chafodd
O'r eiddo Môn, er à ddymunodd:
A Duw er hynny da y rhanodd;
A f'ai oreu iddo ef rhoddodd:
Duw eilwaith a'i didoloddo'r byd trwch;—
Ei Nafi degwch nef a'i dygodd.

Yn iach! anwyl wych ynad,oedd ddichlyn
I'w ddwy uchel alwad;
Ffuraf fardd ac offeiriad;—
A throm och am athraw mâd!

Pregeth ryfedd o'i ethryb
I'n ochlyd ein uchel dyb.
Daiarwyd ei orwedd,
Lle yr awn oll yr un wedd.
Pa fodd in? pwy á fydd iach,
A'i dyfiad o waed afiach?
Un dawn rhag angau nid oes;—
Ei ran yw dwyn yr einioes.
Daiar i ddaiar ydd â;—
Ond awen; hi flodeua.

Er rhoi yn isel wir hanesydd,
Dewin dwnad, tyf dawn dywenydd
Yn egin o'i weryd gain irwydd;
Blodau'r iaith yw ei waith, wiw ieithydd;

Eirioes gan bob oes byddei ganiadau
I'w geneuau fal y gwin newydd.
Tra rhedo haul yn nen ysblennydd
Y rhed ei fawl, wr dihefelydd;
O dad i fab, dweud á fydd—moladwy
Am Oronwy, mawr ei awenydd!

Ofer o'i herwydd fawr hiraeth: pwyllwn;V
Na wylwn o'i alaeth:
Llawer iawn gwell y lle'r aeth,—
Fro dirion ddifradwriaeth.

Gwlad nef ei haddef heddyw,—
Trefad awen fâd nef yw.
Anwylfardd yn ei elfen
Ni thau â mawrhâu y Rhên.
Mae'n ysbryd tanllyd, unllef,
Un llawen hoen â llu nef,
Yn gwau mawl i'r bythawl Ben,
Duw duwiau Dad awen.

—Y CYW:

Sef Gruffydd Williams, Braich Talog, plwyf Llan Degai, yn Arfon.

AWDL

AR YR UN TESTYN GAN ELIWLOD:


GWNA WEN yn egnïawl,loew wisgi
Felysgerdd hiraethawl,
I ORONWY ŵr unawl,
Gynt o Fôn à gant wiw fawl.

Awdurol goffadwriaetho urddas
I arddwr Barddoniaeth;
Addurn ei Areithyddiaeth,
Oedd ffrwd o gynghanedd ffraeth.

Diwyd ydoedd yn deawr,o'i fynwes,
Wiw feini tra gwerthfawr ;
O'i law wen yn loew ei wawr,
Mewn munud daeth maen mynawr.

Ei genedl á ddigonoddalmariau,
Amêr-wawd á huliodd;
Mêl a Gwin llawn rhîn yn rhodd
O'i fronau á gyfranodd.

Ffynon o werthfawr hoff enainteilwaith
Ni welwyd ei chymaint;
Tarddodd o hon (bron er braint)
Loew foroedd o lifeiriaint.

Pum mwy addysg pe meddwn,gwiw rinwedd,
Goronwy mynegwn;
Ei fawl haeddawl cyhoeddwn,
Ar hyd yr holl-fyd mawr hwn.

Drwy'r ddoniawl dra hardd Ynysgwiw arddel
Ei gerddi yr ydys;
Coelbrenau (lampau di lys)
I dori dadlau dyrys.

Telyn oedd yn ein talaith,a'i mesur,
A'i musig yn berffaith:
Ei gerddi gleiniawg urddwaith,
Blawd aur ynt, blodau yr iaith.

Pybyr abl iawn eryr bri blaenoriaeth,
Un dewri gyrhaedd hynod ragorwaith
Disglair, a dewis gadair dysgeidiaeth,
Campau a rhinweddau 'r awenyddiaeth.

Traethai Goronwy, trwy waith gwyrenig,
Am newidiadau mwya' nodedig:
Gwyddai gylchoedd y bydoedd gwibiedig,
A llewych y rhodau llacharedig.


A thynged daiar galed, a'i dirgeloedd,
Y naturiaethau hynota' a'r ieithoedd,
Rheolau 'r lleuad; yr haul a'r holl luoedd,
Creaduriaid gloewon crwydredig leoedd.

Tra hanesiol fu am y teyrnasoedd,
A'u treigliadau, eu tir, a'u goludoedd;
Mewn gwin odlau per am hen genedloedd,
D'wedai eu gwychion odidog achoedd.

Mwyn gain wawdydd, mynegai 'n odiaeth.
Am y derwyddon a eu medryddiaeth,
A'u haddas godiad i wiw ddysgeidiaeth,
Gan hoew nofio uwch eigion hynafiaeth.

Hanesydd a phrydydd ffraeth,
Gloew ddifeinydd celfydd coeth,
Gwiw a myg weinidog maeth,
Y dwyfol air disglair doeth.

A gwiw gain addurn gogoneddus,
F' eiliai lawenaf fawl haelionus.
O ei ddwys galon ddiesgeulus,
I Dduw nefolaidd yn ofalus.

Ei ganiadau gwiw a hynodol,
Enwawg o synwyr yn gysonol,
Ynt gyflawn o feriawn anfarwol,
A dewr hediadau awdurdodol.


Eiliai GORONWY liwgar enwawg,
Odlau digoll diwael hedegawg,
Yn ail i ARTHUR ddonio! wyrthiaw
Neu'n ail LLYWARCH Hén alluawg.

Celfydd dafodrydd fydrwawd,lais anwyl,
A seiniodd a'i dafawd;
Yn ddifai eiliai folawd
Oddwyfol sylweddol wawd.

Ffrwyth rhywiog osglog á gesglir,odiaeth
Dda oruchafiaeth á ddyrchefir;
Gwin melys á ganmolir—G'ronwy ffraeth
A'i wir ofyddiaeth á ryfeddir.

Iaith Gomer a'i theg emau,o bob iaith
Tra bu byw yn orau,
Hon á garodd, enwog eiriau,
A'i godidog wiw gydiadau,
A'i choronog iach hoew rnau,
Ei theg ruddyn coeth a'i gwreiddian,
Ei phrif oludoedd a'i pher flodau—cain
Wir gywrain ragorau.

Elfen ei awen loew fenywaidd,
Lon eres oleu wen risialaidd,
Oedd gwau sain foddog iesin feddaidd,
Bêr a dewisol baradwysaidd.

Ei gywir wresawg awenloew emog
Dychlamai drwy'r wybren,

Seiniai, chwibanai uwch ben,
Fel ëos nefol lawen.

Asgenawl ydd esgynaiyn ffrochwyllt,
Hoff wreichion gwasgarai,
Heb len drwy'r wybren yr ai,
Ar Gerub hi ragorai.

Yn ei gân deg o'r lana'
Cair bryn goruwch dyffryn da,
A maenol gerllaw mynydd,
Weithiau 'n fôr maith iawn hi fydd.

O gu lem wiw golomen,gem aur dêg,
Cymmer daith trwy'r wybren,
Manol chwilia, fy meinwen,
Am ail y Bardd hardd a hên.

Trwy ddyffryn tiredd Affrig—heb arddel
Ond beirddion dysgedig,
Gwaelawd Asia dda heb ddig,
Cwm Ewrop ac Amerig.

Ydwyf wedi dewr ymholi 'n daer am haeledd,
Ond er teithio, neu er chwilio 'n hir, a choledd.

Ni chair cydmar i'r bardd llafar,
Ar y ddaiar i'w orddiwes:
Nid oes elfydd i'r awenydd,
O ymenydd hoew a mynwes.

Bro Gwalia odidog bêr glodadwy
Trwy ei hardaloedd tra rhed Elwy,
Tra llef dwfr—dwfn, tra llifo Dyfrdwy
Trwy oesawg genedl, tra sio Conwy,
Ni chair, ofnir meddir mwyysblennydd,
Wiw liwgar awenydd, ail GORONWY.

Rhagorol seren olau huan mawr,
Yn mysg y planedau;
Cedrwydden aeg wen yn gwau,
Y' nghanol y canghenau.—

O! lân wen gân yn gwenu,
Yn canlyn mae dychryn du,
Clwyf saeth? och clywaf ei si,
A chyllaeth yn archolli.

Pôr da hynod geirwir, Prydeiniaid á garodd,
Ond trwy naws ymadaw o'n teyrnas symudodd,
Tros Atlantic i Dir Americ draw moriodd;
Goruwch eigion Neifion ewyngroch, gwiw nofiodd,
I wlâd y Gorllewin loew dêg ŵr y llywiodd,
Trwy odiaeth Ragluniaeth ar y tir dieithr glaniodd.

Cymru flin ar fin mawr for,
Galarus ei gwael oror.
Ei Haul hoff araul à ffodd,
O'r golwg draw e giliodd,
Machludodd a rhodd aur hîn,
Iarll hoewaidd i'r Gorllewin.

O! Gronwy dêg o ran dysg,
Gwel dir dy Dad yn wlad lesg,
Cymru flin acw mor floesg
A'i Barddoniaeth mewn gwaeth gwisg.

Tir Môn glau mewn trwm iawn glwyf;
Duoer nych o'th fyn'd ar nawf;
Yn gaeth hi wnaeth yn ei nwyf,
Wyneb prudd am ei maen prawf.

Diammeu o'i fyn'd ymaith,hynt wallus,
Tywyllwyd ein talaith;
O ddiffyg ei dda effaith,
Gwywo, marweiddio mae'r iaith

Pan giliodd huan golaue ddrysodd
Yr iesin blanedau;
Yr wybren eglurwen glau
Wnai ollwng ei chanwyllau.

I'r urddedig dorf ddysgedig, loew Wyneddig,
Lawen addas,

Ei brif odlau fyddent flodau eu da gyrddau,
Wiwdeg urddas.

Ond er gofwy du safadwy dwys ofidiant,
Yn deimladwy am Oronwy y merwinant.

O'i wir abl nodded rai blynyddau,
Enrhyg á yrodd yn rhagorau,
O wresog oludog eiliadau
Bywiol, adref o'i wiw belydrau.

Ond er's dyddiau a ni'n dristeiddiol,
Mud yw'r hyddysg ŵr ymadroddol;
Ei eirioes hanes, mae 'n resynol,
Yma ni feddwn, y'm anfoddol.

A'i gwyll du sy'n gallu dal,
Y gwresog loew-lamp grisial?.

A'i tymest o wynt damwainadeiniawg,
Fu'n dwyn GRONWY OWAIN,
Tra'r ym ni heb si ei sain,
Mor wywedig yn Mhrydain?

O Fardd! am dano gwae fi
Fy nygiad i fynegi.

Am Oronwy Owain trwm yw'r newydd,
Sy gredadwy, goeliadwy drwy'r gwledydd;
Y gair du 'n benaf á gredwn beunydd,
Heddyw marwol ydyw'r mawr wyliedydd.

Weithion fy nharo wnaethost,"
O glywed hyn ceis glwy' tost.

Y fynwes gan riddfanauoer iawn yw,
A'r wyneb yn ddagrau,
Trwy iâs dost yr wy'n tristhâu,
Merwino mae fy mronau.

Am farw Gronwy, wr myfyrgar union,
Mawr o goddiant ir holl Gymreigyddion;
Y mae eu cenhedl yn drom eu cwynion,
A duoer yw alaeth daiarolion,
Gwlyb o'u dagrau yw 'r Glob dew-gron—gan gaeth
Gûr hir, a chyllaeth, a geirw archollion.

Wedi huno'n hynodawl,a darfod
Ei yrfa ddaiarawl,
O fro'r gwg aeth fry i'r gwawl,
O rhoddes grêd gyrhaeddawl.

I noddfa Awenyddfawrei thannau,
Aeth enaid y cantawr;
Rhoed harddwch ei lwch i lawr,
Tir Americ, trom orawr.

Mewn cauedig gell gloedig,lle egredig,yn llygradwy
Yn mhriddellawg waelod beidiawg bedd graianawg—bydd Goronwy

Nes dêl yr awr (naws dawel wyrenig)
I nôl ei ddyweddi anwyl ddiddig,
A'i air i'w chyfodi 'n dderchafedig:
Yn Sion eglwyslon glau,
Yn anwyl caffer ninnau,
Yn gyflawn o'r ddawn bêr ddoeth,
Adeiniawg a di annoeth,
Newydd felyslon AWEN,
I wau emynau: AMEN.
—ELIWLOD:

Sef Dafydd Owen, y Gaer Wen, plwyf Llan Ystumdwy.

TESTYN Y FLWYDDYN 1804, yw

YNYS PRYDAIN, a'i hamddiffyniad rhag Estron Genedl.

Ymhlith syniadau eraill a weddant i'r Testyn, bydded cof moliannus am ein hen Wrolion Ardderchawg; megis

1. CASWALLAWN, a yrrodd ffo gwradwyddus ar IWL CAISAR a'i Rufeiniaid.

2. CARADAWG AP BRAN, (Caractacus) a ryfelawdd yn llwyddiannus yn erbyn Gwyr Rhufain, gan eu curaw yn dost mewn mwy na thrugain brwydr, yn yspaid naw mlynedd; efe a fradychwyd o'r diwedd gan Ddihires a'i henw AREGWEDD FOEDDEG; ffieiddier ei chóf yn dragywydd.

3. ARTHUR, Rhyfelwr clodfawr yn erbyn y Saeson, efe ai torrai i lawr a'i gledd a elwid Caledfwlch, megis medelwr a'i grymman yn llorio 'r Gwenith ar y maes.

4 OWAIN GLYN DYFRDWY, y mwyaf o'n mawrion, ac ystyried amgylchiadau a chyfyngderau yr amser y bu ef; erchyll ei ymgyrch yn erbyn Gelynion gormesgar y Cymry.

Rhagoriaethau Ynys Prydain yw ffrwythlonder: ei dacar, a'i llawnder o bob cyfreidiau bywyd. iachusder ei hawyr, harddwch ei hwynebpryd. Ei dysgeidiaeth a'i chelfyddydau, a phob Gwybodau a weinyddant gyfreidiau a chysuron i'w thrigolion.

O chymerir pob peth i'r cyfrif, gorau a dedwyddaf o bob cwr o Ynys Prydain yw Gwlad Cymru. Digonedd ynddi at gynnaliaeth bywyd, hynod yw harddwch ei daearlawr. Clodfawr am ei bucheddoldeb, a hynny yn bennaf am nas ceir yn ein hen Iaith odidog y cyfryw anfoesoldeb a phethau drygionus ag a welir mewn Ieithoedd eraill, yn gwenwynaw meddyliau, ac yn llygru cynneddfau a siaradont y cyfryw ieithoedd; gwilied Beirdd Cymru yn ofalus rhag llithro i'r Gymraeg y cyfryw ffieidd-dra; Dyledswydd anhepcor arnynt yw hynn, yn enwedig ar y rhai nad ydynt yn ymfoddi, corph ac enaid, mewn cwrw. Dealled rhyw un, a chofied o ba uchelder y syrthiodd."

Bydded yr awdl ar rai o'r pedwar mesur ar hugain, nid ar y cwbl o honynt, goreuon y bernir Toddaid; Hir a Thoddaid; Byrr a Thoddaid; Gwawdodyn hir, Gwawdodyn byr; Cyrch a Chwtta; mesurad da hefyd yw'r Gyhydedd fer, a'r Gyhydedd naw-ban; a gellir ar bob un o'r rhai hynn,cynnal synwyr cadarn a gloyw, gyda chynghanedd; gellir hefyd, yn ol arfer yr hên Feirdd, rhagarwain yr awdl a gosteg o bump neu chwech englyn. Gobeithiwn fod oes folinebau y coegorchestion wedi myned heibio yn llwyr, a chaned bawb—

Dos yn iach bellach o'r byd,
A chilia heb ddychwelyd.

Barn y Gwyneddigion yw mae Caernarfon yw'r lle mwyaf cyfleus yng Ngwynedd i gynnal yr Eisteddfod, ddydd gwyl Mihangel, 1804.

Y GWYNEDDIGION.

Thomas Roberts, Trysorydd y Gymdeithas, No. 9, Poultry, London.




DIWEDD.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.