Awdur:Richard Thomas, Bontnewydd

Roedd Richard Thomas (1871 - 1950) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei eni yn Llangefni, Sir Fôn. Wedi cyfnod yng Ngholeg y Bala a Phrifysgol Bangor fe'i penodwyd yn weinidog Bont Newydd ger Caernarfon. Yn ogystal â gwasanaethu fel gweinidog fe wasanaethodd fel ysgrifennydd Bwrdd Rheolwyr Cartref Bontnewydd. Ysgrifennodd lyfr am hanes y cartref, a gyhoeddwyd ychydig ar ôl ei farwolaeth.