Awn, Awn i'r Gad (Mynyddog)

(Canig gan Gwilym Gwent).


Awn, awn i’r gâd,
Awn, awn yn awr;
Awn dros ein gwlad,
Awn, awn yn awr;
Calon y dewr
Gura yn gynt,
Baner a chledd
Sy’n chwyfio yn y gwynt;
Blaenor y llu
Sy’n arwain i glôd,
A geiriau o dân
O’i enau yn dod.


Seren y goncwest sy’n gwenu fry
Dros ein hannwyl wlad;
Cael tynnu’r cledd sydd wledd i ni.