Ban wedy i dynny/Rhagair

Ban wedy i dynny Ban wedy i dynny

gan William Salesbury


golygwyd gan John H. Davies
Testun

RHAGAIR.

Y LLYFR hwn, yn ddiau, oedd y pamffled cyntaf a argraffwyd yng Nghymraeg; a hwn hefyd oedd y traethawd gwleidyddol cyntaf yn yr iaith. Ym mis Tachwedd, 1548, pasiwyd mesur yn y Senedd i gyfreithloni priodasau offeiriaid Eglwys Loegr. Ei enw oedd: An acte to take awaye all posityve Lawes against Marriage of Priestes (2 and 3 Edw. vi. cap. 21).

Bu cryn gyffro yn y byd eglwysig o herwydd hyn, oblegid yr oedd y mesur newydd yn torri ar draws un o reolau caethaf yr Eglwys Babaidd. Dadleuwyd llawer ar y naill ochr a'r llall, ac ysgrifenwyd rhai llyfrau i amddiffyn neu wrthwynebu y gyfraith. Parhai yr Eglwys Babaidd i ddal ei thir yng Nghymru, ac yr oedd y syniadau newydd ynghylch priodas yn sicr o fod yn wrthun i liaws o Gymry yr oes honno. Hyn, fe ddichon, barodd i'r awdwr gyhoeddi ei draethawd. Ar un llaw profodd fod deddfau Hywel Dda yn caniatau i offeiriaid briodi; ar y llaw arall, danghosodd fod "cyfraith Hywel wedy i chonffirmio ae derbin yn gymradwy yn ddeddfol ac yn ddivei trwy auturtot yr escop oedd yr amser hynny yn Ruvein." Sut felly gallasai'r Cymry, yn enwedig y rhai oedd yn Babyddion, wrthwynebu'r gyfraith newydd?

Nid oes sicrwydd parthed awduraeth y traethawd, ond awgryma y ddwy ffaith ganlynol mai William Salesbury oedd yn gyfrifol am dano. Ynghyntaf, gwyddom iddo gyhoeddi traethawd Saesoneg yn erbyn y Babaeth yn yr un flwyddyn, sef: "The Baterie of the Popes Botereulx, commonlye called the high Altare." Yn ail, bu Roberte Crowley, argraffydd y llyfr hwn yn argraffu llyfrau dros Salesbury tua'r un adeg. Efe argraffodd y " Baterie" yn 1550, y "Briefe and playne Introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong," yn 1550, a'r "Kynniver Llith a Ban " yn 1551. Ceir y darnau a godir o gyfraith Hywel Dda ar dud. 340-2 a 444 o'r gyfrol gyntaf o argraffiad Aneurin Owen. Bu copïau o'r llyfr ym meddiant y Doctor Silvan Evans, ym meddiant Mr. Breeze, Porthmadog, ac ym meddiant yr Iarll Macclesfield. Y mae copi Mr. Breeze yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig, a chopi yr Iarll Macclesfield yn llyfrgell Syr John Williams, Barwnig.