Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Calendr y Carwr
← Englynion i Dduw, 1741 | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Englyn i'r Calan, 1746 → |
CALENDR Y CARWR.
CYWYDD SERCH, a gânt y Bardd yn Mhwllheli, ynghylch y flwyddyn 1743; ac a ddiwygiawdd ychydig arno 1753.
[Treuliodd y Bardd flwyddyn neu ddwy fel cynorthwywr yn Ysgol Ramadegol Pwllheli; ac yn y cyfamser syrthiodd tros ei ben i gariad âg un o rianod glandeg Eifionydd. Barna y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, gan gasglu oddiwrth y gân Ladin sydd ar dudalen 114, mai'r Philippæ ydoedd, perthynas agos i Mr. Richard Rathbone o Lanystumdwy].
GWIR yw i mi garu merch,
Trosais hyd holl ffyrdd traserch;
Gwelais, o'r cwr bwygilydd,
Cyni a gresyni sydd.
Nwyfus fu'r galon afiach
Ow! galon sâl, feddal, fach!
Wyd glwyfus, nid â gleifwaith,[1]
Gwnaeth meinwen â gwen y gwaith;
Ow'r dòn anhoywfron hyfriw!
Ow, rudda'i llun, hardd ei lliw!
Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu;
Gwenferch wyt, gwae fi ganfod
Dy rudd! a di fudd dy fod.
Mwynach a fych, fy meinwen,
Archaf i Dduw Naf, ddyn[2] wen;
Mwynach (pe Duw a'i mynnai)
Neu fid it' o lendid lai.
Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd,
Hygar o ffurf, hoywgorph wyd;
Adwyth fod it' ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach anwadalach dyn;
Seithug[3] a gefais wythwaith
Gan fain ei hael—gwael y gwaith;
Siomaist fi'r wythnos yma:—
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da,
Dyw Sul y deuais eilwaith,
Dydd Llun y bu'n dywydd llaith;
Dyw Mawrth da im' ei wrthod,
Dydd Merchur garw gur ac ôd;
Dydd Iau diau a fu deg,
Och, Wener! gwlaw ychwaneg;
Ail Sadwrn a fu swrn sych,
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych;
Rhew ydoedd a rhuadwynt—
O berfedd y gogledd, gwynt.
Trwy gorph nos yr arhosais
(Dwl im') ac ni chlywn dy lais.
Cnithio'n[4] gras ar y glaswydr
A'm bys, gydag ystlys gwydr;
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddôr egor ym'.
Yno gelwais (â llais llwfr,
Rhag cwn a pheri cynhwrf):—
"Mari fwyn, mawr yw f'anwyd,
Oer ydyw, O clyw, o'th clwyd;
Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro, gysgadur diffrwyth."
Galwad ond heb ateb, oedd;
Mudan fy nyn im' ydoedd.
Symudaw'n nes, a madws,
Cyrhaedd dol dryntol[5] y drws:
Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig;
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn[6] o fewn, cilio'n f'ol.
O'r barth yn cyfarth, y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, och! oer nadu
Yn ddidor, wrth y ddôr ddu.
Yno clywn swrth drwmswrth dro
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel, ac ni chelaf,
Erthwch fal yr hwch ar haf,
A beichiaw, a'm bwbachai,
Ac anog ci heriog, "Hai "!
Llemais, â mawr ffull, [7] ymaith
Yn brudd, wedi difudd daith;
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm ol;
Cyrhaedd twyn y clogwyni,
Perthfryn, lle na'm canlyn ci.
Bwriais gyrch hyd Abererch,
(Llan yw hon wrth Afon Erch);
Cerdded rhag ofn gweled gŵyll[8]
Grebach (na bo'nd ei grybwyll! )
Neu gael i 'mafael â mi
Goeg ysbryd, drygiawg aspri.
Tori ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro cyrhaedd adref;
Wrthyf fy hun eiddunaw,[9]
Yn frau, i wellhau rhag llaw;
Cefais o'm serch ddyferchwys,
Oer fraw, ac nid af ar frys
I'w chyfarch, on'd arch, nid af.
Diowryd[10] yw a doraf,
Af unwaith i Eifionydd—
Unwaith? Un dengwaith yn 'dydd.
Oerchwith gaeth gyflwr erchyll!
Ai Af, ai Nag af a gyll?
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorphenaf;[11]
Dodaf fy ffon unionwymp
Ar flaen ei goflaen, hi gwymp;
Aed lle'r êl, ni ddychwelaf—
Ar ol y dderwen yr af.
Nodiadau
golygu- ↑ Archoll erfyn
- ↑ "Dyn" arferid gan yr hen feirdd am y ddau ryw.
- ↑ Siom
- ↑ Cyffyrddiad tyner—"Ni th'rawai gnith â'r ewin, na bai lais gwell na blûs gwin."—TUDUR ALED i Delyniwr,
- ↑ Dryntol.—Gair arferedig ym Mon am handle drws.
- ↑ Cenaw ci.
- ↑ Brys.
- ↑ Enw ar un o ddrychiolaethau yr hen Gymry.
- ↑ Addunedu,
- ↑ Diowryd—Llw, neu gyfamod, a hunangosp yn dilyn ei dori.
- ↑ Hen Goel. Pan ddeuai ymdeithydd i groes- ffordd, a methu penderfynu pa ffordd i'w dilyn, dodai ei ffon ar ei phen, ac i ba gyfeiriad bynag y disgynai, y cyfeiriad hwnw a gymerai yntau.