Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd i Arglwydd Llwydlo
← Tri Englyn Milwr | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cyfieithiad o Psalm cvii → |
CYWYDD
AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD LLWYDLO,
Cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.[1]
[Am y gwreiddiol (Lladin) gweler tudal. 115; gweler hefyd LLYTHYRAU, tudal. 123, 126.]
MOES erddigan[2] a chanu;
Dwg in' gerdd dêg, awen gu;
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.
Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd:
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;
Prydyddwch, wŷr pêr diddan,
Anfarwol, ragorol gân,
Fel y cânt Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau;[3]
Hawdd fodd i'w ddyhuddo[4] fu
O waith beirdd a thabyrddu.
Ganed i ninau gynnawr,[5]
Un a haedd gân, maban mawr!
Ein tynged pan ddywedynt
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf, o ddyfnder calon,
Am yr oes aur eu mawr son.
Cynydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion, ŵyr gwychion, gwiw!
Cynydd, fachgen! gwên gunod,
I mi'n dâl am awen dôd.
Croesaw'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;
Gwrda fych, fel eich gwirdad,
A gwych y delych chwi'n dad!
A phoed i'w taid goflaidiaw
Eich meibion llon ym mhob llaw:
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal a gofal âg ef.
Dengys, yn oed ieuangwr,
Tra fych a wnelych yn wr.
Ac ym mysg pob dysg y daw
Gweithred odidog athraw.
Os o hedd melys a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir,
Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion,
Gwelwch, yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;
O deg irdwf had gwyrda,
A gnawd[6] oedd, o egin da!
Nid oes gêl o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.
Drwy ba orfod y codi—
Dylid aer[7] gan dy law di—
Pa esgar[8] pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd[9] rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw:
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.
Diau na ladd rhydain[10] lew,
Adwyth[11] i dylwyth dilew;
Anog bygylog[12] elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.
Ai arwylion, oer alaeth
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf[13][14]
Pa les a wna'u diles dorf ?
Torf yn ffwyr[15] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.
Os Sior,[16] oreubor, o rym
Rhyfelwyr, ac eirf Wilym,[17]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffraine i'ch dwylaw;
A deled, Duw a iolaf,![18]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch[19]
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen!
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau,
Fardd dwyiaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen[20]
Hyfryd, tra rheto Hafren
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.
Nodiadau
golygu- ↑ Canghen o deulu clodfawr yr Herbertiaid ydyw Ieirll Powys.
- ↑ Cynghanedd gerddorol.
- ↑ Jupiter.
- ↑ Heddychu.
- ↑ Penaeth.
- ↑ Arfer.
- ↑ Aer, aerawg—yn perthyn i ryfel
- ↑ Gelyn.
- ↑ Tylwyth.
- ↑ Carwieuanc.
- ↑ Drwg.
- ↑ Dilwfr.
- ↑ Dilwfr.
- ↑ Bygythiol.
- ↑ Niweidiol.
- ↑ Sior II. oedd hwn.
- ↑ Duc Cumberland.
- ↑ Gweddiaf.
- ↑ Ger y Trallwng, ac a elwir yn awr Powis Castle.
- ↑ Rhenid Cymru gynt yn dair talaith-Gwynedd, Powys, a Deheubarth.