Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd i Lewis Morys
← Marwnad Marged Morys | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd y Farn Fawr → |
CYWYDD I LEWIS MORYS, Ysw.
O Allt Fadog, yn Ngheredigon, yn dangos nad oes dim a
geidw goffadwriaeth am Ddyn, wedi angeu, yn well na
gwaith Bardd, ac na ddichon na Cherfiwr na Phaentiwr
roi cystal Portread o Wr ag a rydd Prydydd awenyddol.
Y Cywydd hwn sydd ar ddull HORAS, Lib. IV., Ode VIII.
Donarem pateras grataque, &c.
RHODDWN ariant a rhuddaur,
Rhown yt gawg gemawg ac aur;
I'r cyfeillion mwynion mau
Deuai geinion deganau,
Genyf o b'ai ddigonedd—
(A phwy wna fwy, oni fedd?)
I tithau, y gorau gaid,
Lewis fwyn, lwysaf enaid,
Pe ba'i restr o aur-lestri
O waith cýn Maelgyn i mi,
Ti a gait, da it' y gwedd,
Genyf yr anrheg iawnwedd.
Odid fod o fychodedd[1]
Rhodd dreulfawr; rhai mawr a'i medd
Tithau, nid rhaid it' weithion,
Ni'th ddorodd[2] y rhodd aur hon;
Caryt gywyddau cywrain,
Rhynged dy fodd rhodd o'r rhai'n;
Rhodd yw cyhafal rhuddaur,
A chan gwell; uwch yw nag aur.
Onid ofer iawn dyfais
I fynu clod o faen clais?[3]
Naddu llun eilun i wr
Dewrwych—portreiad arwr;
Llunio'i guch,[4] â llain gochwaed,
A chawr tan ei dreisfawr draed.
Pond[5] gwell llên ac awenydd?
Gwell llun na'r eilun a rydd.
Dug o eryr da'i gariad,
Gwrawl udd[6] a gâr ei wlad,
Llyw yn arwain llon aerweilch,
Teirf yn nhrin[7] fyddin o feilch.
Wrth a gâr yn oen gwaraidd;
Yn nhrin llyw blin, llew a blaidd;
Araf oen i'w wyr iefainc,
Llew erchyll, a ffrewyll Ffrainc.
Pwy âg arfau? pa gerfiad
A rydd wg golwg ei gâd?
Trefi yn troi i ufel
O'i froch, a llwyr och lle'r êl!
Pwy a gai, oni b'ai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith, Taliesin hen,
Parodd goffhau Ap Urien;[8]
Aethai, heb dant a chantawr,
Ar goll hanes Arthur Gawr.
Cân i fad a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd;
Cerdd ddifai i rai a roes
Ynill tragywydd einioes,
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael ior[9], ac Ifor gynt;
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr, hyd ein hamser ni!
Ac odid, mae mor gadarn,
Eu hedwi fyth hyd y farn.
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur,
A llyna rodd well na'r aur,
Rhoid eto (nid raid atal)
I fardd, ponid hardd y tâl?
A ddêl o'i Awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth.