Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd y Cynghorfynt, neu'r Genfigen
← Proest Cadwynodl Bogalog | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd i'r Calan, 1755 → |
CYWYDD Y CYNGHORFYNT,[1] NEU'R GENFIGEN.
[Mewn llythyr at Lewis Morris, dyddiedig "Salop. July 30, 1752," dywed y Bardd:—"I am infected with a contagious distemper, called Scribendi cacoethes; for I make bold to trouble you with one more cywydd—the subject I thought of writing upon ever since Cottyn was pleased to accuse me of plagiar- ism; but I reserved it till I should have some new measure to write in; but, despairing of that, I am resolved to put it together in some sort of cywydd none of the best, I am sensible, for I had no time."]
COFIO wna hoglanc iefanc,
Yn llwyd[2] hyn a glybu'n llanc;
Gelwais i'm côf, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd ;
Ganfod o rai hergod hyll
Du annillyn dân ellyll;[3]
Drychiolaeth ddugaeth ddigorff,
Yngwyll yn dwyn canwyll corff;
Amdo am ben hurthgen hyll,
Gorchudd hen benglog erchyll;
Tylwyth Teg ar lawr cegin
Yn llewa aml westfa win;
Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân;[4]
Canfod braisg widdon baisgoch
A chopa cawr a chap coch;
Bwbach llwyd a marwydos
Wrth fedd yn niwedd y nos.
Rhowch i'm eich nawdd, a hawdd hyn,
Od ydwyf anghredadyn;
Coelied hen wrach, legach lorf[5]
Chwedlau hen wrach ehudlorf;
Coeliaf er hyn o'm calon,
A chred ddihoced yw hon,
Fod gwiddon, anhirionach
Ei phenpryd, yn y byd bach;
Anghenfil gwelw ddielwig,[6]
Pen isel ddelw dduddel ddig,
Draig aeldrom, dera guldrwyn,
Aych gan gas dulas i'w dwyn;
Ac o rhoe wên ddwy-en ddu,
Gwynfyd o ddrwg a ganfu;
Uwch ei gran[7] y mae pannwl,[8]
Dau lygad dali pibddall pwl;
Golwg, a syll erchyll oedd,
A gaid yn fwy nag ydoedd.
Ni wýl o ddrwg un wala;
Ni thrain[9] lle bo damwain da.
Gwynfydu bydd ganfod bai;
Llwyddiant di drwc a'i lladdai.
Gwenai o clyw oganair;
O rhoid clod, gormod y gair.
Rhincan y bydd yn rhonca,
Ai chrasfant, arwddant, ar dda.
Daint rhystyll,[10] hydryll, a hadl,
Genau gwenwynig anadl;
Ffy'n yd a fai ffynadwy
O chwyth ni thŷf fyth yn fwy,
Lle cerddo llesg ei hesgair,
Ni chyfyd nac ŷd na gwair.
Mae'n ei safn, hollgafn, hyllgerth,
Dafod o anorfod nerth
Difyn, a ffugfawr dafod,
Eiddil, a gwae fil ei fod;
A dwyfron ddilon dduledr,
Braen yw o glwyf ei bron gledr;
Dibaid gnofeydd duboen,
A'i nych, a chrych yw ei chroen
Gan wewyr, ni thyr, ni thau,
Eiddo arall oedd orau
Hi ni wna dda, ddera[11] ddall,
Ni erys[12] na wna arall;
Ein hamorth sy'n ei phorthi,
A'n llwydd yw ei haflwydd hi.
Merch ffel, uffernol elyn
Heddwch a dedwyddwch dyn;
A methiant dyn a'i maethodd,
O warth y bu wrth ei bodd.
E ddenwyd Adda unwaith,
O'i blas, a bu gas y gwaith;
A'i holl lwyth, o'u hesmwythyd,
Trwy hon i helbulon byd;
Llamai lle caid llygaid llawn
Dagrau diferlif digrawn.
Aml archoll i friwdoll fron,
Ac wylaw gwaed o galon;
Gwaedd o ofid goddefaint,
Wyneb cul helbul a haint;
Rho'wn ar ball, hyd y gallom,
Ddiche!l y wrach grebach grom.
Ceisiwn, yn niffyg cysur,
Ceisiwn, yn niffyg cysur,
Ddwyn allan y gwan o gur,
A rhoddwn a wir haeddo
I fâd, pwy bynag a fo;
A'r byd, fel y gwynfyd gynt,
Dieifl i annwn diflenynt:
A Chenfigen, a'i gwenwyn,
Diffrwyth, anfad adwyth dyn;
Ddraig ffyrnig, ddrwg uffernol,
A naid i uffern yn ol.
Aed i annwfn,[13] ei dwfn dwll
Gas wiber, i gau sybwll;
A gweled, ddraig, ei gwala,
Mewn llyn heb ddifyn o dda;
Caiff ddau ddigon, a llonaid
Ei chroen, o ddu boen ddi baid.
Nodiadau
golygu- ↑ Malais eiddigedd
- ↑ Yn hen
- ↑ Ignis fatuus
- ↑ Hen goel am y Tylwyth Teg.
- ↑ Benywaidd am lwfr.
- ↑ Anelwig-afluniaidd.
- ↑ Y rudd, neu yn hytrach asgwrn y rudd.
- ↑ Tolc, twll, pant.
- ↑ Lwybra
- ↑ Crib ceffyl, ebe T. Richards,
- ↑ Ellylles.
- ↑ Ni all oddef.
- ↑ Annwfn, ac annwn-Uffern, hades, anhysbys, lle dyeithr, the unknown region.