Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Ellis Roberts y Cowper

Englyn o Gynghor Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Twm Sion Twm

ENGLYNION

I ELIS ROBERTS, y Cowper; sef. Atteb, Annerch, a Chynghor y Bardd Coch o Fon i Elisa Gowper,Pastynfardd, Llanrwst, yn cynnwys athrawiaeth arbennig i ganu'n dincerddawl gymeradwy, yn ol rheol ac arfer y Gofeirdd godidocaf o'r oes; yn nghyd a thaflen o enwau'r holl drec, cér, offer, a pheiriannau angenrheidiol i'r gelfyddyd, na cheir mo'r fath mewn um Grammadeg a argraphwyd erioed; a'r cwbl wedi ei ddychmygu a'i gyfansoddi mewn modd eglur, hawdd ei amgyffred gan y gwanaf ei ddysg a'i ddeall.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 101, 112.]

Y BARDD fry ebrwydd ei froch,—Elisa
Gan na lysaf monoch,
E weddai, er na wyddoch,
Druan nad yw'ch cân ond coch.


Yn fardd os chwi a fyn fod,—o hirddysg
I harddu Eisteddfod,
I hwylio clêr a hel clod,
Ceisiwch yr holl drec isod:

Hyd rhaff rawn o lawn linyn—y seiri,
I fesuro'ch englyn;
A rhasgl a dyr bob rhisglyn,
Llif fras, a chwmpas, a chŷn.

Os hir y gwelir y gân,—y llafur
Fydd llifio darn allan;
Wrth y cwmpas gloywlas, glân,
Cofiwch rhaid rhasglio'r cyfan.

Dylech mewn prifodl ei dilyn—rhagoch,
Megis rhigol corddyn,
Heb wyro lled gwybedyn
A'r twybil wiw, gynil gŷn.

Yn fardd glân buan y b'och,—Elisa;
Hwylusaidd y dysgoch;
Doed a ddêl, bid dda gwneloch
Anhepgor gynghor Huw Goch.[1]

Ond deliwch sylw,


Os rhaid i byliaid gaboli—rhigwm,
Rhag im' ebargofi,
Gorau o'r cêr am beri
Cywreinio cân yw croen ci.[2]

Nodiadau

golygu
  1. Amcanai y bardd ddangos mai Huw Huws (y Bardd Coch) oedd awdwr yr englynion hyn.
  2. Ellis Roberts (Ellis y Cowper).—Brodor o ardal Llanrwst ydoedd Elis, ac yn Llanddoget y claddwyd ef (yn ol Y Dyddanwch Teuluaidd), Rhagfyr 4ydd, 1789. Yr oedd yn gyfaill â Huw Jones, Llangwm; Dafydd Jones, Trefriw; Twm o'r Nant; Jonathan Huws, etc. Cyhoeddodd luaws mawr o garolau, cerddi, a mân lyfrynau, fel y gwelir yn Llyfryddiaeth y Cymry. Prin yr oedd yn deilwng o gerydd awen Goronwy Owen.