Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/I'w dori ar Flwch Tobacco

Cywydd y Cryfion Byd Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Dau Englyn o glod i'r Delyn

EPIGRAM

I'w dori ar gaead Blwch Tobacco. 1755.

CETTYN yw'n hoes, medd Cattwg,[1]
Nid ŷm oll onid y mwg
Gan hyn, ys mwg yw'n heinioes,
Da iawn oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwta
Wnai o un-oes ddwy-oes dda.


Nodiadau

golygu
  1. Cattwg Ddoeth, sant enwog am ei ddysg a'i ddoethineb yn ei flodeu tua dechreu y chweched ganrif. Mae tua phumtheg o Lanau yn Nghymru wedi eu cyflwyno iddo